{"id":2425,"date":"2020-09-30T12:01:00","date_gmt":"2020-09-30T11:01:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=2425"},"modified":"2021-04-28T12:03:10","modified_gmt":"2021-04-28T11:03:10","slug":"newidiadau-i-ystafelloedd-dysgu","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2020\/09\/30\/newidiadau-i-ystafelloedd-dysgu\/","title":{"rendered":"Newidiadau i Ystafelloedd Dysgu"},"content":{"rendered":"\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1440\" height=\"200\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2020\/02\/Practice-Modules.png\" alt=\"Practice Modules\"><\/p>\n\n\n\n<p>Diben y canllaw hwn yw eich cyflwyno i\u2019r amrywiol sefyllfaoedd yr hoffech eu rhoi ar waith, o bosibl, mewn Ystafelloedd Dysgu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ebostiwch <a href=\"mailto:gg@aber.ac.uk\">gg@aber.ac.uk<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Dyma\u2019r newidiadau a wnaed i\u2019r ystafelloedd dysgu:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Ceir bellach ddwy sgrin yn yr ystafell ddysgu. Sgrin 1 (yr un \u00e2\u2019r gwe-gamera arni) yw\u2019r brif sgrin. Mae Sgrin 2 wedi\u2019i chysylltu\u2019n uniongyrchol \u00e2\u2019r taflunydd. Defnyddiwch Sgrin 2 i arddangos deunyddiau i\u2019ch dosbarth ac i\u2019w rhannu \u00e2\u2019r rhai sy\u2019n cymryd rhan trwy gyfrwng Teams.<\/li><li>Mae Microsoft Teams wedi\u2019i osod a cheir llwybr byr iddo ar bob bwrdd gwaith.<\/li><li>Mae microffonau newydd wedi\u2019u gosod ar y ddesg, a chafwyd gwared ar y microffonau llabed.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Os ydych mewn ystafell ddysgu a bod angen cymorth technegol arnoch, codwch y ff\u00f4n ac aros. Bydd yn deialu\u2019r t\u00eem Cymorth Technegol yn awtomatig. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Dyma\u2019r hyn y cynghorwn eich bod yn ei wneud cyn bob sesiwn:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\"><li>Creu cyfarfod Teams ar gyfer yr unigolion hynny na allant ymuno \u00e2\u2019r sesiwn wyneb yn wyneb (<a href=\"https:\/\/faqs.aber.ac.uk\/index.php?id=2973\">Sut mae gwneud hynny?)<\/a><\/li><li>Bod \u00e2\u2019r deunyddiau dysgu wrth law yn rhwydd \u2013 rydym yn argymell eich bod yn defnyddio OneDrive ac yn cop\u00efo eich deunyddiau i\u2019r bwrdd gwaith cyn dechrau\u2019r sesiwn. Dylech osgoi dod \u00e2 chof bach\/USB ac ati i\u2019r ystafell ddysgu. (<a href=\"https:\/\/faqs.aber.ac.uk\/index.php?id=1198\">Sut mae defnyddio OneDrive?)<\/a><\/li><li>Rhoi gwybod i unrhyw fyfyrwyr sy\u2019n ymuno trwy Teams sut y byddant yn rhan o\u2019r sesiwn a sut y byddwch yn ymdrin \u00e2 chwestiynau ganddynt.<\/li><\/ol>\n\n\n\n<!--more-->\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Sut mae\u2019r offer yn yr Ystafell Ddysgu yn edrych?<\/h1>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"669\" height=\"389\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2020\/09\/Teaching-Room-Set-Up-Cymraeg.png\" alt=\"Teaching Room Set Up Cymraeg\" class=\"wp-image-1153\"\/><\/figure>\n\n\n\n<p>I gael taith o amgylch offer arferol ystafell ddysgu, <a href=\"https:\/\/aberystwyth.cloud.panopto.eu\/Panopto\/Pages\/Viewer.aspx?id=42220010-f369-466b-ae56-ac4600a300b8&amp;edit=true\">gweler y recordiad hwn.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Sut gallaf recordio fy sesiwn ddysgu (neb yn cymryd rhan yn rhithwir trwy Teams)?<\/h1>\n\n\n\n<p>Panopto yw meddalwedd Cipio Darlithoedd y Brifysgol, ac mae ar gael ar yr holl beiriannau yn yr ystafelloedd dysgu. Gwnewch yn si\u0175r, os na wnaethoch hynny eisoes, eich bod yn darllen <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/regulations\/lecture-capture-policy\/\">Polisi Cipio Darlithoedd<\/a> y Brifysgol.<\/p>\n\n\n\n<p>Pan fyddwch yn mewngofnodi i\u2019r peiriant yn yr Ystafell Ddysgu, bydd Panopto yn agor yn awtomatig a gofynnir ichi nodi eich enw defnyddiwr a\u2019ch cyfrinair.<\/p>\n\n\n\n<p>I wneud recordiad, dilynwch y canllawiau yn ein <a href=\"https:\/\/faqs.aber.ac.uk\/index.php?id=681\">Cwestiwn a Holir yn Aml ar sut i wneud recordiad gan ddefnyddio Panopto.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Sut gallaf ddefnyddio Panopto i recordio\u2019r ddwy sgrin?<\/h1>\n\n\n\n<p>Os ydych yn defnyddio deunyddiau dysgu nad ydynt yn rhai PowerPoint, dewiswch Capture Main Screen a Capture Second Screen. Second Screen yw&#8217;r sgrin sy\u2019n cael ei harddangos ar y taflunydd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"283\" height=\"155\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2020\/09\/Panopto-two-screens.png\" alt=\"Screen grab from Panopto with the secondary sources selected for recording two screens. Includes: Capture PowerPoint Capture Main Screen Capture Second Screen All checked.\" class=\"wp-image-1125\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Sut gallaf gynnal cyfarfod Teams mewn ystafell ddysgu? &nbsp;<\/h1>\n\n\n\n<p>Gallwch gynnal cyfarfod Teams ar yr un pryd \u00e2\u2019ch sesiynau wyneb yn wyneb.<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\"><li>Trefnwch eich cyfarfod Teams cyn y sesiwn (<a href=\"https:\/\/faqs.aber.ac.uk\/index.php?id=2973\">Sut gallaf wneud hynny?)<\/a><\/li><li>Agorwch y llwybr byr Teams ar y bwrdd gwaith yn yr ystafell ddysgu:<\/li><\/ol>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"89\" height=\"118\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2020\/09\/MS-Teams-Icon.png\" alt=\"MS Teams icon on desktop\" class=\"wp-image-1126\"\/><\/figure>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\"><li>Yn Teams, ewch i\u2019ch calendr<\/li><li>Ewch i\u2019r cyfarfod Teams ar gyfer y sesiwn<\/li><li>Dewiswch <strong>Ymuno <\/strong>\u00e2\u2019r cyfarfod<\/li><li>Bydd y cyfarfod Teams yn dechrau, a bydd eich myfyrwyr yn gallu ymuno yn rhithiol<\/li><\/ol>\n\n\n\n<p>Gweler y recordiad hwn ar sut i <a href=\"https:\/\/aberystwyth.cloud.panopto.eu\/Panopto\/Pages\/Viewer.aspx?id=ec6a1651-1c42-4b7c-acc8-ac3800f3180a\">ddechrau cyfarfod Teams ar y bwrdd gwaith.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Sut gallaf rannu cyflwyniad PowerPoint yn yr ystafell ddysgu a chyda cyfarfod Teams ar yr un pryd?<\/h1>\n\n\n\n<p>Cyflwynwch eich PowerPoint ar y sgrin sydd wedi\u2019i chysylltu \u00e2\u2019r taflunydd (Sgrin #2) fel y gall y myfyrwyr yn yr ystafell ddysgu weld y cyflwyniad &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Ewch i\u2019r cyfarfod Teams ar Sgrin #1:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\"><li>Symudwch eich llygoden fel bod y bar offer yn ymddangos a dewiswch y Bwrdd Rhannu (Share Tray):<\/li><\/ol>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"500\" height=\"54\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2020\/09\/Tool-bar-icon.png\" alt=\"Tool bar icon\" class=\"wp-image-1128\"\/><\/figure>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\"><li>Rhannwch y <strong>Desktop \u2013 Screen #2<\/strong> (dyma\u2019r sgrin sydd wedi\u2019i chysylltu \u00e2\u2019r taflunydd)<ol><li>Os ydych yn rhannu unrhyw beth a chanddo sain, gwnewch yn si\u0175r eich bod yn dewis rhannu sain y cyfrifiadur:<\/li><\/ol><\/li><\/ol>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"146\" height=\"209\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2020\/09\/Include-computer-sound.png\" alt=\"Include computer sound\" class=\"wp-image-1130\"\/><\/figure>\n\n\n\n<p>Gweler y recordiad hwn ar <a href=\"https:\/\/aberystwyth.cloud.panopto.eu\/Panopto\/Pages\/Viewer.aspx?id=eb3dd344-c607-4562-86eb-ac3800f3dad7\">sut i rannu\u2019r PowerPoint \u00e2\u2019r sawl sy\u2019n ymuno\u2019n rhithiol a\u2019r rhai yn yr ystafell ddysgu.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Sut gallaf recordio cyflwyniad yn Microsoft Teams?<\/h1>\n\n\n\n<p>Os oes gennych fyfyrwyr o bell ac wyneb yn wyneb, rydym yn argymell defnyddio\u2019r gallu i recordio yn &nbsp;Microsoft Teams yn hytrach na Panopto. Cyn gwneud hynny, bydd angen ichi ymgyfarwyddo \u00e2\u2019n <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/media\/departmental\/informationservices\/e-learning\/Recording_seminar_and_student_activities_blogpost-CY.docx\">Canllawiau ar recordio seminarau a gweithgareddau Teams.<\/a><\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\"><li>Symudwch eich llygoden fel bod y bar offer yn ymddangos yn Teams a dewiswch yr eicon <strong>\u2026<\/strong>:<\/li><\/ol>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"500\" height=\"54\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2020\/09\/Tool-bar-icon.png\" alt=\"Tool bar icon\" class=\"wp-image-1128\"\/><\/figure>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\"><li>Dewiswch <strong>Dechrau recordio<\/strong>.<\/li><li>Wedi ichi orffen y sesiwn, symudwch eich llygoden fel bod y bar offer yn ymddangos yn Teams a chliciwch ar yr eicon <strong>\u2026<\/strong>. Cliciwch <strong>Gorffen recordio.<\/strong><\/li><li>Wedi\u2019r sesiwn, llwythwch y recordiad i Panopto <a href=\"https:\/\/faqs.aber.ac.uk\/index.php?id=2979\">(Sut gallaf wneud hynny?)<\/a><\/li><\/ol>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Sut gallaf lywio fy ffordd yn \u00f4l i MS Teams os na allaf ei weld ar y sgriniau mwyach?<\/h1>\n\n\n\n<p>Os ydych yn cyflwyno eich PowerPoint ac na allwch weld Teams mwyach<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\"><li>Gwasgwch y botwm <strong>Windows <\/strong>ar y bysellfwrdd:<\/li><\/ol>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"293\" height=\"78\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2020\/09\/Windows-Key.png\" alt=\"Windows Key\" class=\"wp-image-1131\"\/><\/figure>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\"><li>Cliciwch ar yr eicon Teams yn y bar tasgau<\/li><li>Cliciwch ar y cyfarfod<\/li><\/ol>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"461\" height=\"271\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2020\/09\/Teams-Meeting.png\" alt=\"Teams Meeting click on the Teams meeting\" class=\"wp-image-1132\"\/><\/figure>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\"><li>Neu fel arall defnyddiwch Alt-Tab i symud rhwng ffenestri\u2019r rhaglenni sydd ar agor gennych.<\/li><\/ol>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Sut gallaf rannu\u2019r rhai sy\u2019n cymryd rhan o bell \u00e2\u2019r rhai wyneb yn wyneb? &nbsp;<\/h1>\n\n\n\n<p>Os oes arnoch eisiau i\u2019r rhai sy\u2019n cymryd rhan o bell a\u2019r rhai sydd yn yr ystafell ddysgu gael trafodaeth, llusgwch y ffenestr Teams i <strong>Sgrin 2<\/strong> fel ei bod yn cael ei chyflwyno i\u2019r dosbarth ar y taflunydd. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Ystyriwch sut yr hoffech i\u2019ch myfyrwyr ymwneud \u00e2\u2019i gilydd, yn enwedig y rhai sy\u2019n ymuno o bell. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Rydw i\u2019n defnyddio bwrdd gwyn fel arfer wrth ddysgu wyneb yn wyneb. Sut gallaf gyflwyno fy mwrdd gwyn i fyfyrwyr trwy Teams ac i\u2019r rheini yn yr ystafell ddysgu?<\/h1>\n\n\n\n<p>Ceir dwy ffordd o wneud hyn:<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Creston Airboard<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae Creston Airboard yn ddarn o dechnoleg sydd ar gael mewn rhai ystafelloedd dysgu. Gweler ein <a href=\"https:\/\/faqs.aber.ac.uk\/index.php?id=2889\">Cwestiwn a Holir yn Aml ar sut i ddefnyddio Creston Airboard (cipio\u2019r bwrdd gwyn)<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Cychwynnwch y Creston Airboard a llusgo\u2019r dangosydd i Sgrin #2.<\/p>\n\n\n\n<p>Os oes gennych fyfyrwyr sy\u2019n ymuno o bell, dewiswch y <strong>Bwrdd Rhannu <\/strong>a <strong>Sgrin #2:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"500\" height=\"54\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2020\/09\/Tool-bar-icon.png\" alt=\"Tool bar icon\" class=\"wp-image-1128\"\/><\/figure>\n\n\n\n<p>Rhannwch <strong>Desktop &#8211; Screen #2<\/strong> (dyma\u2019r sgrin sydd wedi\u2019i chysylltu \u00e2\u2019r taflunydd)<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Camera Dogfennau<\/h2>\n\n\n\n<p>Os nad yw\u2019r Creston Airboard ar gael yn eich ystafell ddysgu defnyddiwch y Camera Dogfennau:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\"><li>Agorwch yr ap Camera:Gweler y recordiad hwn ar <a href=\"https:\/\/aberystwyth.cloud.panopto.eu\/Panopto\/Pages\/Viewer.aspx?id=250a99ff-3ccb-46c3-a8d8-ac3801004bea\">sut i rannu eich Camera Dogfennau \u00e2\u2019r sawl sydd yn yr ystafell a\u2019r rhai sy\u2019n ymuno o bell.<\/a><br>Sut gallaf reoli\u2019r cyfleuster sgwrsio yn Teams yn y sesiwn fyw? &nbsp;<ol><li>Penderfynwch sut y bydd myfyrwyr sy\u2019n ymuno o bell trwy Teams yn gallu gofyn cwestiynau gan ddefnyddio\u2019r cyfleuster sgwrsio.<\/li><li>Eglurwch iddynt sut y disgwyliwch iddynt gyfrannu at y sesiwn.<br>Er enghraifft: A ydych chi\u2019n disgwyl i\u2019r myfyrwyr ofyn cwestiynau trwy gydol y sesiwn neu a fyddai\u2019n well gennych nodi cyfnodau penodol pan fyddwch yn ymateb i gwestiynau o\u2019r cyfleuster sgwrsio?<\/li><\/ol>Sut gallaf newid y gosodiadau sain mewn cyfarfod Teams fel bod y sain yn cael ei chwarae yn yr ystafell ddysgu? Diben hyn yw er mwyn i fyfyrwyr sy\u2019n ymuno o bell trwy Teams allu gofyn eu cwestiynau gan ddefnyddio eu microffon a chael eu clywed yn yr ystafell ddysgu.<ol><li>Cliciwch ar y \u2026 o\u2019r bar offer<\/li><li>Cliciwch ar <strong>Dangos Gosodiadau Dyfais<\/strong><\/li><li>Newidiwch yr uchelseinydd i <strong>EXTRON D (NVIDIA High Definition Audio) <\/strong>a chau\u2019r tab gosodiadau<\/li><\/ol>Gweler y recordiad hwn ar sut i <a href=\"https:\/\/aberystwyth.cloud.panopto.eu\/Panopto\/Pages\/Viewer.aspx?id=b4ae6c7d-dd67-4121-a76e-ac3800fefeab\">newid y gosodiadau sain mewn cyfarfod Teams<\/a> Sut gallaf ddarlledu\u2019n fyw ar y we gan ddefnyddio Panopto? Mae Panopto yn cynnig y gallu i ddarlledu\u2019n fyw ar y we, ond mae\u2019r hyn y gellir ei wneud yn gyfyngedig o\u2019i gymharu \u00e2 Teams. I gael arweiniad manylach gweler y <a href=\"https:\/\/support.panopto.com\/s\/article\/Create-a-Webcast-URL-in-Advance-and-Waiting-Rooms\">Canllawiau Panopto<\/a>. Efallai mai\u2019r unig adeg y bydd arnoch eisiau defnyddio hyn yw os mai dim ond darlledu gwybodaeth yr ydych, ac nad ydych yn defnyddio\u2019r nodweddion rhyngweithio sydd ar gael yn Microsoft Teams. Os hoffech ddefnyddio hyn, bydd angen ichi ei wneud cyn y sesiwn: &nbsp; Sut gallaf drefnu sesiwn we-ddarlledu fyw gyda Panopto?<ul><li>Ewch i <a href=\"https:\/\/aberystwyth.cloud.panopto.eu\/Panopto\/Pages\/Home.aspx\">aber.ac.uk<\/a><\/li><li>Chwiliwch am y modiwl trwy ddewis <strong>Browse<\/strong> a <strong>Search all folders<\/strong>:<\/li><\/ul><ol><li>Gwasgwch y botwm Windows a theipio <strong>Camera<\/strong><\/li><li>Agorwch yr ap Camera<\/li><\/ol><\/li><\/ol>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Symudwch yr ap Camera i Sgrin #2<\/li><\/ul>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\" start=\"2\"><li>Bydd yr ap Camera yn cysylltu\u2019n ddiofyn \u00e2\u2019r Camera Dogfennau a gallwch wneud eich nodiadau ar ddarn o bapur o dan y Camera Dogfennau.<\/li><li>Os oes gennych fyfyrwyr yn ymuno o bell hefyd, ewch i\u2019r cyfarfod Teams, a dewis y<strong> Bwrdd Rhannu<\/strong> a <strong>Screen #2:<\/strong><\/li><\/ol>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"500\" height=\"54\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2020\/09\/Tool-bar-icon.png\" alt=\"Tool bar icon\" class=\"wp-image-1128\"\/><\/figure>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\"><li>Pan fyddwch wedi cyrraedd y ffolder, dewiswch <strong>Create <\/strong>a <strong>Webcast.<\/strong><\/li><li>Rhowch deitl a disgrifiad byr i\u2019ch sesiwn (mae\u2019n ddefnyddiol nodi hefyd pryd y bydd y sesiwn yn mynd yn fyw).<\/li><li>Cop\u00efwch ddolen gwylwyr (Viewer Link) y sesiwn a\u2019i rhannu \u00e2\u2019ch myfyrwyr trwy gyfrwng gwahoddiad calendr yn Outlook<\/li><li>Mae\u2019r sesiwn wag yn barod bellach, a gallwch recordio ynddi.<\/li><\/ol>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Sut gallaf rannu\u2019r ddolen i\u2019r gweddarllediad byw Panopto \u00e2 myfyrwyr?<\/h2>\n\n\n\n<p>Rydym yn argymell eich bod yn anfon gwahoddiad calendr at fyfyrwyr trwy Outlook ar gyfer yr adeg pan ydych yn bwriadu recordio\u2019r sesiwn fyw, gan gynnwys copi o\u2019r ddolen i wylwyr (Viewer Link). <a href=\"https:\/\/faqs.aber.ac.uk\/270\">https:\/\/faqs.aber.ac.uk\/270<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Gallech hefyd roi\u2019r ddolen i wylwyr ar Blackboard.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd angen ichi egluro i\u2019r myfyrwyr na fydd y ddolen i wylwyr yn gweithio hyd nes bod y sesiwn fyw wedi cychwyn. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Sut gallaf ddarlledu i ystafell ddysgu arall?<\/h1>\n\n\n\n<p>Os oes arnoch eisiau darlledu i sawl ystafell, trefnwch gyfarfod Teams ar gyfer y sesiwn ymlaen llaw &nbsp;(<a href=\"https:\/\/faqs.aber.ac.uk\/index.php?id=2973\">Sut gallaf wneud hynny?)<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Penderfynwch pwy fydd yn gweithredu\u2019r offer yn yr ystafelloedd dysgu eraill. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd angen ichi ymdrin \u00e2\u2019r ystafell ddysgu nad ydych ynddi fel un sy\u2019n ymuno\u2019n rhithiol, a dilyn y canllaw uchod. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Gofynnwch i\u2019r person sy\u2019n gweithredu\u2019r offer yn yr ystafell ddysgu arall i hwyluso gofyn cwestiynau.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Diben y canllaw hwn yw eich cyflwyno i\u2019r amrywiol sefyllfaoedd yr hoffech eu rhoi ar waith, o bosibl, mewn Ystafelloedd Dysgu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ebostiwch gg@aber.ac.uk. Dyma\u2019r newidiadau a wnaed i\u2019r ystafelloedd dysgu: Ceir bellach ddwy sgrin yn yr ystafell ddysgu. Sgrin 1 (yr un \u00e2\u2019r gwe-gamera arni) yw\u2019r brif sgrin. Mae Sgrin [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6741,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[229],"tags":[],"class_list":["post-2425","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-D7","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2425","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6741"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2425"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2425\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2428,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2425\/revisions\/2428"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2425"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2425"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2425"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}