{"id":2379,"date":"2020-10-14T11:31:00","date_gmt":"2020-10-14T10:31:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=2379"},"modified":"2021-04-28T11:33:04","modified_gmt":"2021-04-28T10:33:04","slug":"cyngor-ynghylch-monitror-blwch-sgwrs-mewn-sesiynau-ar-lein-ac-wyneb-yn-wyneb","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2020\/10\/14\/cyngor-ynghylch-monitror-blwch-sgwrs-mewn-sesiynau-ar-lein-ac-wyneb-yn-wyneb\/","title":{"rendered":"Cyngor ynghylch monitro\u2019r blwch sgwrs mewn sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb"},"content":{"rendered":"\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"743\" height=\"141\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2019\/10\/Capture.png\" alt=\"Distance Learner Banner\">Yn y blogbost hwn, byddwn yn edrych ar rai awgrymiadau ar gyfer monitro blwch sgwrs Teams pan fo pobl yn bresennol yn yr ystafell yn ogystal ag ar-lein.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd swyddogaeth y blwch sgwrs yn cael ei sefydlu yn sgil y gwaith o gynllunio gweithgaredd y bydd pawb yn ei wneud ar yr un pryd, a&#8217;r hyn yr hoffech chi i&#8217;ch myfyrwyr allu ei wneud ar \u00f4l cymryd rhan. Gofynnwch i chi\u2019ch hun: beth fydd swyddogaeth y blwch sgwrs yn eich sesiwn ddysgu?<\/p>\n\n\n\n<p>Er enghraifft, ydych chi eisiau defnyddio&#8217;r blwch sgwrs fel ffordd i&#8217;r myfyrwyr sy&#8217;n ymuno ar-lein fynegi eu syniadau? Ydych chi eisiau ei ddefnyddio fel cyfle iddynt sgwrsio gyda&#8217;i gilydd? Ydych chi eisiau i&#8217;r cyfraniadau a wneir yn y blwch sgwrs gael eu rhannu gyda&#8217;r rhai sy&#8217;n bresennol yn yr ystafell?<\/p>\n\n\n\n<!--more-->\n\n\n\n<p>Yn ogystal \u00e2 hynny, dylech feddwl am sut rydych chi&#8217;n gofyn i&#8217;r myfyrwyr sydd ar-lein gymryd rhan yn y sesiwn. Ydych chi eisiau iddynt, er enghraifft, ddefnyddio&#8217;r botwm codi llaw er mwyn tynnu eich sylw? Neu, ydych chi eisiau iddynt ddefnyddio&#8217;r blwch sgwrs yn unig.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l i chi benderfynu ar swyddogaeth y blwch sgwrs yn y sesiwn, a&#8217;r ffordd yr hoffech i&#8217;r rhai sy&#8217;n mynychu ei ddefnyddio, efallai yr hoffech chi ddilyn y cyngor gan Eric Gonzales ac Amber Heck (2020):<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\"><li>Sefydlwch rywfaint o reolau sylfaenol<\/li><li>Pennwch gymedrolwr i fonitro&#8217;r blwch sgwrs<\/li><li>Neilltuwch amser ar gyfer cwestiynau yn ystod eich cyflwyniad<\/li><li>Peidiwch \u00e2 phoeni os nad oes modd i chi roi sylw i\u2019r holl gwestiynau<\/li><\/ol>\n\n\n\n<p>Bydd rheolau sylfaenol a osodir ar gyfer y blwch sgwrs yn ddibynnol ar swyddogaeth y sgwrs yn eich sesiwn. Gwnewch yn si\u0175r eich bod yn rhoi gwybod i&#8217;ch myfyrwyr sut i ymgymryd \u00e2&#8217;r gweithgareddau.<\/p>\n\n\n\n<p>Os oes modd, bydd pennu cymedrolwr yn help mawr er mwyn delio \u00e2 chwestiynau gan y rhai sy&#8217;n ymuno ar-lein. Hyd yn oed gyda chymedrolwr, gwnewch yn si\u0175r eich bod yn rhoi sylw iddynt bob hyn a hyn. Gallech ofyn i fyfyriwr arall gymedroli&#8217;r blwch sgwrs.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd neilltuo amser i roi sylw i\u2019r blwch sgwrs ac i edrych ar y sylwadau wrth gynllunio eich sesiwn yn help mawr i sicrhau bod modd i&#8217;r rhai sy&#8217;n mynychu o bell gymryd rhan yn y drafodaeth a thrafod y deunydd. Mae&#8217;n bosib na fydd modd i&#8217;r rhai sy&#8217;n bresennol yn yr ystafell weld sylwadau&#8217;r rhai sy&#8217;n cymryd rhan o bell.<\/p>\n\n\n\n<p>Peidiwch \u00e2 phoeni os na fydd modd i chi roi sylw i&#8217;r holl gwestiynau yn y blwch sgwrs &#8211; ar \u00f4l y sesiwn, bydd modd i chi weld y cwestiynau neu&#8217;r sylwadau sydd ar \u00f4l yn y blwch. Bydd modd i&#8217;r rhai a fynychodd weld unrhyw sylwadau a gyfrannir i&#8217;r blwch ar \u00f4l y sesiwn. Mae modd i&#8217;r rhai a fynychodd ddal i gyfrannu i&#8217;r sgwrs ar \u00f4l y sesiwn hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Cyfeiriadau<\/p>\n\n\n\n<p>Gonzales, E. B., &amp; A. J. Heck. 2020. \u2018Managing the Chat in Online Teaching: What we can learn from live streamers\u2019. <em>Faculty Focus: Online Education<\/em>. Ar-lein: <a href=\"https:\/\/www.facultyfocus.com\/articles\/online-education\/managing-the-chat-in-online-teaching-what-we-can-learn-from-live-streamers\/\">https:\/\/www.facultyfocus.com\/articles\/online-education\/managing-the-chat-in-online-teaching-what-we-can-learn-from-live-streamers\/.<\/a> 7fed Hydref. Dyddiad cyrchu diwethaf: 12.10.2020.\u00a0<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn y blogbost hwn, byddwn yn edrych ar rai awgrymiadau ar gyfer monitro blwch sgwrs Teams pan fo pobl yn bresennol yn yr ystafell yn ogystal ag ar-lein. Bydd swyddogaeth y blwch sgwrs yn cael ei sefydlu yn sgil y gwaith o gynllunio gweithgaredd y bydd pawb yn ei wneud ar yr un pryd, a&#8217;r [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6741,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[229],"tags":[],"class_list":["post-2379","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-Cn","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2379","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6741"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2379"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2379\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2381,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2379\/revisions\/2381"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2379"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2379"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2379"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}