{"id":2305,"date":"2020-11-19T10:54:00","date_gmt":"2020-11-19T10:54:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=2305"},"modified":"2021-04-28T10:58:13","modified_gmt":"2021-04-28T09:58:13","slug":"gweithgareddau-amgen-i-addysgu-wyneb-yn-wyneb","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2020\/11\/19\/gweithgareddau-amgen-i-addysgu-wyneb-yn-wyneb\/","title":{"rendered":"Gweithgareddau amgen i addysgu wyneb yn wyneb"},"content":{"rendered":"\n<p>Efallai y bydd adegau lle nad yw&#8217;n ymarferol bosibl i chi ddarparu sesiynau (e.e. seminarau, gweithdai, ayyb) ar yr un pryd wyneb yn wyneb i fyfyrwyr yn yr ystafell ddysgu ac i\u2019r rheini sy\u2019n ymuno drwy MS Teams.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn y blog hwn, byddwn yn archwilio rhai opsiynau ar gyfer darparu gweithgareddau amgen i&#8217;r myfyrwyr hynny na allant ymuno \u00e2 sesiynau wyneb yn wyneb. Cyn i chi ddechrau creu gweithgaredd amgen, ystyriwch y pwyntiau canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\"><li>Pa weithgaredd arall a fyddai\u2019n efelychu orau y profiad y mae myfyrwyr yn y sesiwn wyneb yn wyneb yn ei gael?<\/li><li>Beth yw fy nghanlyniadau dysgu arfaethedig a pha weithgareddau fyddai\u2019n cyflawni&#8217;r rhain orau?<\/li><li>Faint o amser fydd hi\u2019n cymryd i mi gynllunio gweithgaredd ac a oes gen i ddigon o amser?<\/li><li>Meddyliwch yn ofalus am eich meini prawf asesu \u2013 a fydd y gweithgaredd amgen a ddarperwch yn caniat\u00e1u i&#8217;r myfyrwyr gynnal asesiadau&#8217;r modiwl yn llwyddiannus?<\/li><li>Mae eglurder a ffocws wrth wraidd unrhyw weithgaredd ar-lein sydd wedi&#8217;i gynllunio&#8217;n dda. Sicrhewch fod myfyrwyr sy&#8217;n defnyddio eich gweithgaredd amgen yn gwybod yn union beth maen nhw&#8217;n ei wneud a pham maen nhw&#8217;n ei wneud. Os ydych yn gofyn i\u2019ch myfyrwyr ddefnyddio unrhyw dechnoleg, rhaid i chi roi arweiniad clir a chryno iddynt ar sut i\u2019w defnyddio.<\/li><\/ol>\n\n\n\n<!--more-->\n\n\n\n<p>Bydd gwahanol bynciau&#8217;n cynnig heriau a chyfleoedd penodol wrth i chi geisio cynllunio gweithgareddau amgen addas i fyfyrwyr nad ydynt yn gallu ymuno \u00e2\u2019ch sesiynau wyneb yn wyneb. Y nod cyffredinol yw sicrhau bod y myfyrwyr i gyd yn teimlo eu bod wedi\u2019u cynnwys a bod y rhai nad ydynt yn gallu ymuno \u00e2\u2019r sesiwn wyneb yn wyneb ddim yn teimlo eu bod yn colli allan mewn unrhyw ffordd.<\/p>\n\n\n\n<p>Dyma rai enghreifftiau o weithgareddau amgen y gallech eu darparu ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn gallu ymuno \u00e2 sesiynau wyneb yn wyneb:<\/p>\n\n\n\n<table id=\"tablepress-2\" class=\"tablepress tablepress-id-2\">\n<thead>\n<tr class=\"row-1\">\n\t<th class=\"column-1\"><strong>Gweithgareddau wyneb yn wyneb<\/strong><\/th><th class=\"column-2\"><strong>Gweithgareddau amgen<\/strong><\/th>\n<\/tr>\n<\/thead>\n<tbody class=\"row-striping row-hover\">\n<tr class=\"row-2\">\n\t<td class=\"column-1\"><strong>Trafodaethau seminar<\/strong><\/td><td class=\"column-2\"><strong>Sesiynau seminar ar-lein:<\/strong> Os oes amser gennych chi, gallech gynnig i\u2019r myfyrwyr na allai fynychu\u2019r seminar wyneb yn wyneb i ymuno \u00e2 seminar ar-lein i drafod yr un pynciau.<\/td>\n<\/tr>\n<tr class=\"row-3\">\n\t<td class=\"column-1\"><strong>Trafodaethau cyffredinol<\/strong><\/td><td class=\"column-2\"><strong>Byrddau trafod Blackboard: <\/strong>Gallech ofyn i fyfyrwyr drafod cwestiwn\/cysyniad\/problem drwy <a href=\"https:\/\/faqs.aber.ac.uk\/index.php?id=577\">fyrddau trafod Blackboard.<\/a> Gallwch fonitro'r byrddau trafod hyn, <a href=\"https:\/\/faqs.aber.ac.uk\/index.php?id=101\">eu graddio<\/a> a gallech eu sefydlu ar gyfer <a href=\"https:\/\/faqs.aber.ac.uk\/index.php?id=534\">grwpiau <\/a> penodol o fyfyrwyr o fewn modiwl yn Blackboard.<\/td>\n<\/tr>\n<tr class=\"row-4\">\n\t<td class=\"column-1\"><strong>Teithiau maes<\/strong><\/td><td class=\"column-2\"><strong>Teithiau Maes Rhithwir: <\/strong>Gallech ddylunio taith maes rithwir lle byddech wedi recordio eich hun neu gyd-weithiwr yn ymweld \u00e2 safleoedd allweddol ar gyfer y daith maes corfforol ac yna adrodd dros y clipiau fideo ac <a href=\"https:\/\/faqs.aber.ac.uk\/index.php?id=2769\">ychwanegu capsiynau<\/a>. Gellir llwytho'r clipiau fideo hyn i Panopto fel eu bod ar gael drwy ffolder y modiwl yn Blackboard. Opsiwn arall, os oes gennych yr offer perthnasol, fyddai creu taith delweddau 360 gradd o amgylch safle\u2019r daith maes a chynnwys gwybodaeth am y gwahanol bwyntiau o ddiddordeb.<br \/>\n<strong><br \/>\nHelfa Sborion Rhithwir: <\/strong>Opsiwn arall yw paratoi helfa sborion rhithwir i fyfyrwyr. Er enghraifft, mae apiau fel <a href=\"https:\/\/geotourist.com\/landing\">Geotourist <\/a> yn rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr am leoliad penodol wrth iddynt ei gyrraedd. I fyfyrwyr sydd ddim yn gallu gadael eu llety gallent deithio drwy\u2019r helfa sborion drwy eu porwr gwe. <br \/>\n<br \/>\n<strong>Profiadau Rhithwir: <\/strong>Mae hefyd sawl meddalwedd rithwir ar-lein y gallai myfyrwyr eu defnyddio i ymgymryd \u00e2 phrofiadau gwahanol neu i ymweld ag amrywiaeth o leoliadau. Er enghraifft, gallai myfyrwyr ddefnyddio <a href=\"https:\/\/earth.google.com\/web\/\">Google Earth<\/a> i archwilio tirffurf penodol, neu gallent fynd ar daith rithwir o amgylch yr <a href=\"https:\/\/www.nationalgallery.org.uk\/visiting\/virtual-tours\/google-virtual-tour\">Oriel Genedlaethol<\/a>. <br \/>\n<\/td>\n<\/tr>\n<tr class=\"row-5\">\n\t<td class=\"column-1\"><strong>Arbrofion labordy<\/strong><\/td><td class=\"column-2\"><strong>Arbrofion Labordy Rhithwir: <\/strong>Gallech ffilmio eich hun neu gyd-weithiwr yn cynnal yr un arbrofion labordy \u00e2'r rhai a gynhaliwyd yn y sesiwn wyneb yn wyneb. Gallech hefyd adrodd dros y clipiau fideo ac ychwanegu <a href=\"https:\/\/faqs.aber.ac.uk\/index.php?id=2769\">capsiynau <\/a>yn esbonio'r broses yr ydych yn mynd drwyddi ac i dynnu sylw at unrhyw bwyntiau y dylent fod yn ymwybodol ohonynt pe baent yn ymgymryd \u00e2'r arbrawf eu hunain. Gellir llwytho'r clipiau fideo <a href=\"https:\/\/faqs.aber.ac.uk\/index.php?id=2627\">hyn i Panopto a'u darparu drwy'r ffolder modiwl yn Blackboard.<\/a><\/td>\n<\/tr>\n<tr class=\"row-6\">\n\t<td class=\"column-1\"><strong>Dadansoddi testunau neu ddelweddau<\/strong> <strong>(e.e. llawysgrifau, barddoniaeth, lluniadau, paentiadau)<\/strong><\/td><td class=\"column-2\"><strong>Darparu fersiwn digidol o destunau gydag anodiadau: <\/strong>Os yw'r polisi hawlfraint yn caniat\u00e1u (<a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/is\/library-services\/copyright\/copyright\/\">gweler canllawiau Prifysgol Aberystwyth<\/a>) gallwch gynhyrchu cop\u00efau digidol o destunau neu ddelweddau yr ydych wedi eu dadansoddi gyda myfyrwyr yn y dosbarth wyneb yn wyneb. Gellid cynnwys anodiadau hefyd ar y testunau\/delweddau er mwyn tynnu sylw\u2019r myfyrwyr at adrannau\/nodweddion allweddol.<\/td>\n<\/tr>\n<tr class=\"row-7\">\n\t<td class=\"column-1\"><strong>Prosiect gr\u0175p bach<\/strong><\/td><td class=\"column-2\"><strong>Prosiectau gr\u0175p bach ar-lein: <\/strong>Gellid rhannu myfyrwyr i grwpiau a gofyn iddynt weithio ar brosiect dros un o\u2019r cyfryngau digidol, e.e. cyfarfod dros MS Teams; defnyddio fforymau ar-lein (e.e. <a href=\"https:\/\/discord.com\/\">Discord<\/a>); defnyddio <a href=\"https:\/\/faqs.aber.ac.uk\/index.php?id=959\">Wikis yn Blackboard<\/a>; gweithio ar ddogfen gydweithredol o fewn MS Teams. Gallwch hefyd ddyrannu myfyrwyr i <a href=\"https:\/\/faqs.aber.ac.uk\/index.php?id=534\">wahanol grwpiau o fewn modiwl<\/a> yn Blackboard fel bod gan bob gr\u0175p le pwrpasol i weithio o fewn y modiwl.<\/td>\n<\/tr>\n<tr class=\"row-8\">\n\t<td class=\"column-1\"><strong>Cwisiau yn y dosbarth<\/strong><\/td><td class=\"column-2\"><strong>Cwisiau ar-lein: <\/strong>Gellir defnyddio meddalwedd cwisio, fel <a href=\"https:\/\/www.mentimeter.com\/\">Mentimeter<\/a>,  <a href=\"https:\/\/www.socrative.com\/\">Socrative <\/a>a <a href=\"https:\/\/www.polleverywhere.com\/\">PollEverywhere <\/a>(<a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/media\/departmental\/informationservices\/e-learning\/USING-POLLING-SOFTWARE-FOR-TEACHING-cymraeg.pdf\">canllawiau ar ddefnyddio meddalwedd pleidleisio ar gyfer addysgu<\/a>) i fesur dealltwriaeth myfyrwyr a darparu dulliau iddynt ailedrych ar bynciau a'u hadolygu. Gallech hefyd sefydlu <a href=\"https:\/\/faqs.aber.ac.uk\/index.php?id=650\">profion cyfunol neu ffurfiannol yn Blackboard<\/a> i fyfyrwyr eu cymryd.  <\/td>\n<\/tr>\n<\/tbody>\n<\/table>\n\n\n\n\n<p>Gall fod yn anodd casglu tystiolaeth am ddealltwriaeth myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau amgen. Felly, mae rhoi\u2019r cyfle i fyfyrwyr na allai ymuno \u00e2\u2019r sesiynau wyneb yn wyneb i ofyn cwestiynau i chi yn hanfodol. Beth am drefnu sesiynau galw heibio i\u2019r myfyrwyr? Neu beth am greu byrddau trafod yn Blackboard lle gall myfyrwyr ofyn cwestiynau i chi a&#8217;u cyd-fyfyrwyr? Fel y soniwyd uchod, mae cwisiau hefyd yn ffordd effeithiol o brofi am ddealltwriaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Os na allwch feddwl am unrhyw weithgareddau amgen priodol ar \u00f4l darllen y blog hwn, neu os hoffech gael cymorth i weithredu eich syniadau, cysylltwch ag <a href=\"mailto:udda@aber.ac.uk\">udda@aber.ac.uk<\/a>, a byddem yn hapus i drefnu ymgynghoriad gyda chi dros MS Teams i drafod ymhellach.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Efallai y bydd adegau lle nad yw&#8217;n ymarferol bosibl i chi ddarparu sesiynau (e.e. seminarau, gweithdai, ayyb) ar yr un pryd wyneb yn wyneb i fyfyrwyr yn yr ystafell ddysgu ac i\u2019r rheini sy\u2019n ymuno drwy MS Teams. Yn y blog hwn, byddwn yn archwilio rhai opsiynau ar gyfer darparu gweithgareddau amgen i&#8217;r myfyrwyr hynny [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":15501,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[229],"tags":[],"class_list":["post-2305","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-Bb","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2305","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/15501"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2305"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2305\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2309,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2305\/revisions\/2309"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2305"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2305"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2305"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}