{"id":2219,"date":"2021-01-11T10:02:00","date_gmt":"2021-01-11T10:02:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=2219"},"modified":"2021-04-28T10:04:02","modified_gmt":"2021-04-28T09:04:02","slug":"canllawiau-cyflym-ar-lwyddiant-myfyrwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2021\/01\/11\/canllawiau-cyflym-ar-lwyddiant-myfyrwyr\/","title":{"rendered":"Canllawiau Cyflym ar Lwyddiant Myfyrwyr"},"content":{"rendered":"\n<p>Er mwyn cefnogi myfyrwyr yn y flwyddyn arbennig o heriol hon, fe wnaethon ni greu <strong>Canllaw Cyflym i Lwyddiant Myfyrwyr<\/strong> gydag awgrymiadau ar reoli amser, yr arferion astudio mwyaf effeithiol, a sut i\u2019ch ysbrydoli\u2019ch hun i ddal ati. Gofynnwn i <a href=\"https:\/\/create.piktochart.com\/output\/51591015-canllawiau-cyflym-ar-lwyddiant-myfyrwyr\"><strong>chi rannu\u2019r fersiwn ryngweithiol<\/strong> <\/a>hon o&#8217;r canllawiau \u00e2&#8217;ch myfyrwyr (sydd hefyd yn gydnaws \u00e2 darllenwyr sgrin).<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"922\" height=\"128\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/01\/saasa.png\" alt=\"Canllawiau Cyflym ar Lwyddiant Myfyrwyr\" class=\"wp-image-1586\"\/><\/figure>\n\n\n\n<!--more-->\n\n\n\n<p><strong>Hunandrefniant Effeithiol<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n bosib eich bod chi wedi clywed y cyngor hwn droeon &#8211; mae&#8217;n hanfodol eich bod chi&#8217;n trefnu eich amser yn y brifysgol. Bydd yn golygu bod modd i chi fwynhau eich addysg a chadw cydbwysedd rhwng eich astudiaethau a&#8217;ch bywyd cymdeithasol.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<span class=\"embed-youtube\" style=\"text-align:center; display: block;\"><iframe loading=\"lazy\" class=\"youtube-player\" width=\"640\" height=\"360\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/iDbdXTMnOmE?version=3&#038;rel=1&#038;showsearch=0&#038;showinfo=1&#038;iv_load_policy=1&#038;fs=1&#038;hl=en-GB&#038;autohide=2&#038;wmode=transparent\" allowfullscreen=\"true\" style=\"border:0;\" sandbox=\"allow-scripts allow-same-origin allow-popups allow-presentation allow-popups-to-escape-sandbox\"><\/iframe><\/span>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>1. Amserlen, nid rhestr o bethau i&#8217;w gwneud<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Gwnewch amserlen wythnosol fanwl ar gyfer:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>mynychu eich holl sesiynau byw gan gynnwys amser paratoi<\/li><li>gwylio recordiadau Panopto a mynd drwy&#8217;r holl weithgareddau ar Blackboard<\/li><li>gweithio ar eich aseiniadau<\/li><li>gweld eich ffrindiau, gwneud ymarfer corff a gorffwys!<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>2. Twyllresymeg Cynllunio<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Byddwch yn ymwybodol o Dwyllresymeg Cynllunio &#8211; mae&#8217;n debyg bydd angen mwy o amser nag ydych chi&#8217;n ei feddwl!<\/p>\n\n\n\n<p>Cofiwch fod yr amserlen yno i&#8217;ch helpu chi, nid i&#8217;ch rhoi dan bwysau. Gall ei dilyn fod yn anodd, felly meddyliwch am ei phwrpas a&#8217;r hyn y bydd yn eich helpu i&#8217;w gyflawni. Os nad yw&#8217;n gweithio, newidiwch hi!<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>3. Dod o hyd i&#8217;ch dull<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae amrywiol ddulliau cynllunio posib, felly dewiswch yr un sy&#8217;n gweithio i chi.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Gallai calendr papur traddodiadol weithio orau i&#8217;r rhai sy&#8217;n gweld ysgrifennu&#8217;n fuddiol.<\/li><li>Os mai rhywbeth gweledol sy&#8217;n debygol o weithio orau i chi, gallai fod yn syniad da cael cynllunydd ar y wal.<\/li><li>Yn olaf, mae gan bob un o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth galendr Outlook sy&#8217;n ei gwneud yn bosib i chi gategoreiddio tasgau ac mae wedi ei gydamseru \u00e2&#8217;ch amserlen chi!<\/li><\/ul>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator\"\/>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\"><strong>Strategaethau Astudio Effeithlon<\/strong><\/h1>\n\n\n\n<p>Mae ymchwil gwybyddol wedi canfod amrywiol ffyrdd o ddysgu&#8217;n fwy effeithiol. Er y gallai dim ond ail-ddarllen eich nodiadau fod yn haws, profwyd bod y strategaethau hyn yn gweithio&#8217;n well ac yn arbed llawer o amser i chi!<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<span class=\"embed-youtube\" style=\"text-align:center; display: block;\"><iframe loading=\"lazy\" class=\"youtube-player\" width=\"640\" height=\"360\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/CPxSzxylRCI?version=3&#038;rel=1&#038;showsearch=0&#038;showinfo=1&#038;iv_load_policy=1&#038;fs=1&#038;hl=en-GB&#038;autohide=2&#038;wmode=transparent\" allowfullscreen=\"true\" style=\"border:0;\" sandbox=\"allow-scripts allow-same-origin allow-popups allow-presentation allow-popups-to-escape-sandbox\"><\/iframe><\/span>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>1. Gwneud nodiadau effeithiol<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae sawl dull allai eich helpu i wneud nodiadau sy&#8217;n fwy defnyddiol i chi. Un o&#8217;r dulliau mwyaf poblogaidd yw <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=lSskLVy2EH8&amp;feature=youtu.be\">system nodiadau Cornell<\/a>.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>2. Gwnewch y deunydd yn gofiadwy<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Bydd yn haws i chi gofio&#8217;r deunydd os byddwch yn ystyried y canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Ymhelaethu ar y wybodaeth drwy ofyn cwestiynau i chi eich hun, megis &#8216;sut?&#8217; a &#8216;pham?&#8217;, a&#8217;i chysylltu \u00e2 phethau rydych yn eu gwybod yn barod.<\/li><li>Rhowch enghreifftiau o&#8217;ch profiadau eich hun.<\/li><li>Defnyddiwch godio deuol &#8211; darllenwch ac yna dadansoddwch ddarluniau eglurhaol ac yna\u2019r ffordd arall (dadansoddi cyn darllen)!<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>3. Strategaethau ymarfer<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae yna dair strategaeth ymarfer a fydd yn eich helpu i weithio&#8217;n fwy effeithiol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Ymarfer adalw: galw i gof, e.e. defnyddio cardiau fflach!<\/li><li>Ymarfer rhyngddalennog: neidio o bwnc i bwnc a newid trefn y pynciau a astudir.<\/li><li>Ymarfer gwasgarog: gadael ychydig ddyddiau rhwng cyfnodau o adolygu deunydd.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator\"\/>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\"><strong>Dod o hyd i ysgogiad<\/strong><\/h1>\n\n\n\n<p>Mae teimlo diffyg ysgogiad yn beth cyffredin, yn enwedig ar hyn o bryd, ond mae llawer o bethau penodol y gallwch eu gwneud er mwyn ysgogi eich hun.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<span class=\"embed-youtube\" style=\"text-align:center; display: block;\"><iframe loading=\"lazy\" class=\"youtube-player\" width=\"640\" height=\"360\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/hiiEeMN7vbQ?version=3&#038;rel=1&#038;showsearch=0&#038;showinfo=1&#038;iv_load_policy=1&#038;fs=1&#038;hl=en-GB&#038;autohide=2&#038;wmode=transparent\" allowfullscreen=\"true\" style=\"border:0;\" sandbox=\"allow-scripts allow-same-origin allow-popups allow-presentation allow-popups-to-escape-sandbox\"><\/iframe><\/span>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">1. Eich meddyliau<\/h2>\n\n\n\n<p>Cynnal meddylfryd twf: gallwch ddatblygu eich deallusrwydd, eich sgiliau a&#8217;ch gallu trwy waith caled a strategaethau da.<\/p>\n\n\n\n<p>Ceisiwch ofyn i chi eich hun pam eich bod chi yn y brifysgol. Penderfynwch pa nod rydych chi&#8217;n ceisio ei gyflawni a chadwch y pwrpas yn eich cof. Cr\u00ebwch &#8216;fwrdd breuddwydion&#8217;, a&#8217;i ystyried a&#8217;i ddiweddaru&#8217;n rheolaidd er mwyn canolbwyntio ar eich targedau!<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>2. Eich amgylchedd<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Pa amgylchedd sy&#8217;n eich ysgogi?<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Mae&#8217;n well gan rai pobl weithio mewn grwpiau, os yw hynny&#8217;n wir i chi ceisiwch drefnu sesiwn astudio rithiol gyda&#8217;ch cyd-fyfyrwyr.<\/li><li>Os yw&#8217;n well gennych chi dawelwch, ewch i lyfrgell.<\/li><li>Os mai arogl coffi a s\u0175n cefndirol sy&#8217;n gweithio i chi, efallai mai&#8217;r caffi lleol fyddai&#8217;r dewis gorau!<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>3. Eich gweithredoedd<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae yna gamau penodol y gallwch chi eu cymryd hefyd er mwyn cael mwy o ysgogiad:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Mae&#8217;r ffordd rydych chi\u2019n dechrau ar eich diwrnod yn bwysig, gwnewch yn si\u0175r eich bod yn cadw at drefn iach a rheolaidd yn y boreau.<\/li><li>Bydd bwyta siwgr, patrymau cysgu anghyson a diffyg ymarfer corff yn amharu ar eich gallu i ganolbwyntio.<\/li><li>Rhannwch y tasgau&#8217;n rhai llai: gall mynd i&#8217;r afael \u00e2 thasgau mawr fod yn llethol. Ceisiwch ganolbwyntio ar un rhan o&#8217;r dasg ar y tro. <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=VFW3Ld7JO0w\">Efallai y byddai techneg Pomodoro yn un fuddiol i chi!<\/a><\/li><\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Er mwyn cefnogi myfyrwyr yn y flwyddyn arbennig o heriol hon, fe wnaethon ni greu Canllaw Cyflym i Lwyddiant Myfyrwyr gydag awgrymiadau ar reoli amser, yr arferion astudio mwyaf effeithiol, a sut i\u2019ch ysbrydoli\u2019ch hun i ddal ati. Gofynnwn i chi rannu\u2019r fersiwn ryngweithiol hon o&#8217;r canllawiau \u00e2&#8217;ch myfyrwyr (sydd hefyd yn gydnaws \u00e2 darllenwyr [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":50455,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[229],"tags":[],"class_list":["post-2219","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-zN","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2219","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/50455"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2219"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2219\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2221,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2219\/revisions\/2221"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2219"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2219"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2219"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}