{"id":2201,"date":"2021-01-14T09:54:00","date_gmt":"2021-01-14T09:54:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=2201"},"modified":"2021-04-28T09:55:35","modified_gmt":"2021-04-28T08:55:35","slug":"sut-i-sicrhau-bod-recordiadau-anghydamserol-yn-ennyn-brwdfrydedd-ac-yn-rhyngweithiol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2021\/01\/14\/sut-i-sicrhau-bod-recordiadau-anghydamserol-yn-ennyn-brwdfrydedd-ac-yn-rhyngweithiol\/","title":{"rendered":"Sut i sicrhau bod recordiadau anghydamserol yn ennyn brwdfrydedd ac yn rhyngweithiol"},"content":{"rendered":"\n
Mae cynnwys anghydamserol a recordiwyd o flaen llaw wedi dod yn ffactor allweddol wrth gyflwyno cyrsiau a galluogi\u2019r profiad dysgu gorau i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae sawl strategaeth y gall darlithwyr eu defnyddio i sicrhau bod y recordiadau hyn yn ennyn brwdfrydedd ac yn rhyngweithiol.<\/p>\n\n\n\n
Mae sawl mantais i ddarlithoedd anghydamserol a recordiwyd o flaen llaw, ac mae\u2019r rhan fwyaf o fyfyrwyr \u2013 y genhedlaeth YouTube \u2013 yn adnabod y dull hwn o ddysgu yn dda iawn (Scagnoli, Choo a Tian, 2019). Rhai manteision yw y gall myfyrwyr reoli eu hymgysylltiad \u00e2\u2019r cynnwys a\u2019u bod yn gwerthfawrogi\u2019r cyfleustra a\u2019r hyblygrwydd y mae recordiadau anghydamserol yn ei roi iddynt, yn arbennig o ran cyflymdra\u2019r dysgu a bod modd iddynt wylio drosodd a throsodd (Dale a Pymm, 2009; Ramlogan et al., 2014; Scagnoli, Choo a Tian, 2019).<\/p>\n\n\n\n
Mae hi\u2019n hanfodol felly bod staff yn amlinellu beth maent yn ei ddisgwyl gan y myfyrwyr o ran ymgysylltu \u00e2\u2019r deunyddiau dysgu, a hynny yn y fideos a recordiwyd yn ogystal \u00e2\u2019r sesiynau wyneb yn wyneb.<\/p>\n\n\n\n
Darganfu Scagnoli, Choo a Tian (2019) bod dros hanner myfyrwyr israddedig yn llai tebygol o ymgysylltu \u00e2 chynnwys anghydamserol a recordiwyd o flaen llaw os oeddent yn teimlo nad oedd yn cysylltu\u2019n uniongyrchol \u00e2\u2019r gweithgareddau yn y sesiynau neu ag aseiniadau. Mae gwneud cyswllt eglur rhwng elfennau gwahanol o fodiwl, yn y cynnwys a recordiwyd eisoes a\u2019r sesiynau wyneb yn wyneb, felly yn eithriadol o bwysig.<\/p>\n\n\n\n
Mae myfyrwyr yn gwerthfawrogi cymdeithas a phresenoldeb wrth addysgu, ac yn fwy tebygol o fod yn wybyddol bresennol eu hunain (h.y. gwneud penderfyniad ymwybodol i ymgysylltu \u00e2\u2019r ddarlith sydd wedi\u2019i recordio yn unig, yn hytrach na cheisio amldasgio), os ydynt yn teimlo\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019r gymuned ddysgu. Yn syml: mae eich presenoldeb yn y deunyddiau wedi\u2019u recordio yn hanfodol. Os yw\u2019n bosibl, dangoswch eich wyneb, edrychwch ar y camera, a byddwch yn bresennol yn y recordiad . Yn enwedig gan fod y myfyrwyr, o bosibl, ond yn adnabod hanner uchaf eich wyneb, os o gwbl, mae gallu ymgysylltu \u00e2 darlithwyr fel pobl yn ffordd allweddol o sicrhau bod eich cynnwys a recordiwyd yn ennyn mwy o frwdfrydedd.<\/p>\n\n\n\n
Ystyriwch fod y myfyrwyr yn debygol iawn o ymgysylltu \u00e2 darlithoedd a recordiwyd ar eu pennau eu hunain. Mae\u2019r fideos felly\u2019n sgwrs uniongyrchol, un i un. Addaswch eich cyflwyniad i fod yn fwy uniongyrchol, yn hytrach na\u2019r modd y byddech chi\u2019n traddodi darlith i ddarlithfa gyda 100 o fyfyrwyr.<\/p>\n\n\n\n
Wrth ymgysylltu \u00e2\u2019r fideos, mae talpio yn hanfodol. Nid yw\u2019n ddigon recordio darlith a\u2019i rhannu\u2019n ddwy. Mae cynnwys tasg bob 5 i 10 munud yn torri\u2019r ddarlith i fyny, yn gosod cyfrifoldeb am y dysgu ar y myfyrwyr, ac yn cynyddu\u2019r rhyngweithio. Gallai hyn gynnwys<\/p>\n\n\n\n
\u2022 Ysgrifennu sydyn (rhoi 2-3 munud i\u2019r myfyrwyr ysgrifennu unrhyw wybodaeth bresennol sydd ganddynt neu grynhoi eu dealltwriaeth o bwnc hyd yma)
\u2022 Polau rhyngweithiol (gall y canlyniadau ffurfio sail i drafodaeth wyneb yn wyneb wedyn)<\/p>\n\n\n\n
Yn yr un modd, mae gweithgareddau cyfochrog y gallech eu cynnwys ar gyfer eich myfyrwyr, megis cwestiynau am y pwnc, wedi\u2019u darparu fel copi digidol o flaen llaw, y gall y myfyrwyr eu hateb wrth iddynt ymgysylltu \u00e2\u2019r ddarlith (neu gallant ddewis eu defnyddio fel strwythur ar gyfer tasg Ysgrifennu Sydyn). Mae herio\u2019r myfyrwyr i ddod \u00e2 chwestiynau sydd wedi codi yn ystod darlith anghydamserol i sesiwn wyneb yn wyneb yn ffordd arall o annog ymgysylltiad \u00e2 chynnwys a recordiwyd.<\/p>\n\n\n\n
Dyma rai strategaethau eraill ar gyfer annog ymgysylltiad<\/p>\n\n\n\n
\u2022 Egluro\u2019n gwbl glir beth fydd y myfyrwyr yn ei elwa o\u2019r sesiwn
\u2022 Defnyddio sleidiau clir, syml a graffig (cofiwch hygyrchedd)
\u2022 Cr\u00ebwch fwrdd stori neu sgript ar gyfer eich cynnwys, os oes angen, i gynnal strwythur eglur o\u2019r dechrau i\u2019r diwedd
\u2022 Gorffennwch drwy atgoffa\u2019r myfyrwyr o\u2019r prif bwyntiau a beth yw\u2019ch disgwyliadau o ran y gweithgareddau annibynnol cyn y sesiwn nesaf<\/p>\n\n\n\n
Mae cynnwys anghydamserol a recordiwyd o flaen llaw wedi dod yn ffactor allweddol wrth gyflwyno cyrsiau a galluogi\u2019r profiad dysgu gorau i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae sawl strategaeth y gall darlithwyr eu defnyddio i sicrhau bod y recordiadau hyn yn ennyn brwdfrydedd ac yn rhyngweithiol. Mae sawl mantais i ddarlithoedd anghydamserol a recordiwyd o […]<\/p>\n","protected":false},"author":58742,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[229],"tags":[],"class_list":["post-2201","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-zv","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2201","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/58742"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2201"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2201\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2204,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2201\/revisions\/2204"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2201"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2201"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2201"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}