{"id":2197,"date":"2021-01-15T09:50:00","date_gmt":"2021-01-15T09:50:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=2197"},"modified":"2021-04-28T09:53:42","modified_gmt":"2021-04-28T08:53:42","slug":"arfer-da-ar-gyfer-gwaith-grwp-ar-lein-7-awgrym-ymarferol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2021\/01\/15\/arfer-da-ar-gyfer-gwaith-grwp-ar-lein-7-awgrym-ymarferol\/","title":{"rendered":"Arfer da ar gyfer gwaith gr\u0175p ar-lein: 7 awgrym ymarferol"},"content":{"rendered":"\n
Mae gwaith gr\u0175p yn rhoi cyfle gwerthfawr i fyfyrwyr feithrin sgiliau trosglwyddadwy pwysig mewn cyfathrebu, arweinyddiaeth a deinameg gr\u0175p yn ogystal ag atgyfnerthu dysgu a dealltwriaeth. Gyda rhyngweithio wyneb yn wyneb yn gyfyngedig, gall gwaith gr\u0175p ar-lein roi cyfle i fyfyrwyr ddysgu a ffurfio perthynas \u00e2’u cyfoedion.<\/p>\n\n\n\n
Er y gall myfyrwyr elwa llawer o waith gr\u0175p, gall rhai deimlo’n bryderus o ganlyniad i nifer o broblemau posibl a all godi, megis anghydbwysedd cyfraniadau gan wahanol aelodau\u2019r gr\u0175p, deinameg gr\u0175p anodd a materion amserlennu (Smith et al., 2011). Fodd bynnag, mae camau y gallech eu cymryd i leddfu’r materion hyn a dyma 7 awgrym ymarferol ar sut y gallech wneud gwaith gr\u0175p ar-lein yn brofiad mwy pleserus ac ystyrlon i’ch myfyrwyr:<\/p>\n\n\n\n
1. Dechrau ar yr un dudalen.<\/strong>
Sicrhau, cyn i’r gwaith gr\u0175p ddechrau, bod pob myfyriwr yn cael cyfarwyddiadau clir yn ymwneud \u00e2 sut rydych yn disgwyl i’r prosiect neu\u2019r aseiniad gael ei gwblhau. Er enghraifft, sut ydych chi’n disgwyl i dasgau gael eu rhannu?
Mae’n hanfodol eich bod yn gosod deilliannau dysgu clir. Pa wybodaeth a sgiliau y disgwylir i’r myfyrwyr eu caffael drwy ymgymryd \u00e2’r gwaith gr\u0175p? Gall hyn fod yn ddefnyddiol er mwyn dangos i fyfyrwyr y manteision sydd i\u2019w cael o ymgymryd \u00e2 gwaith gr\u0175p.
Os yw’r gwaith gr\u0175p wedi’i raddio, rhowch criteria marcio manwl i\u2019r fyfyrwyr.<\/p>\n\n\n\n
2. Cadwch niferoedd grwpiau yn fach.<\/strong>
Gall trefnu amser i gyfarfod fel gr\u0175p fod yn heriol, yn enwedig os oes rhaid cynnal cyfarfodydd ar-lein. Gall grwpiau mawr wneud trefnu cyfarfodydd yn anodd iawn felly ceisiwch gadw niferoedd grwpiau’n fechan.
3. Rhoi arweiniad ar sut i gynnal cyfarfodydd ar-lein.<\/strong>
4. Creu gweithle rhithwir.<\/strong>
Rhowch le rhithwir i fyfyrwyr weithio o fewn eu grwpiau, i gysylltu \u00e2’i gilydd ac i rannu syniadau.
5. Rhannu cyfrifoldebau arwain.<\/strong>
Yn hytrach na chael un myfyriwr i arwain y gr\u0175p, beth am ofyn i’r myfyrwyr gymryd eu tro i hwyluso ac arwain y drafodaeth ym mhob cyfarfod? Gall hyn helpu i sicrhau bod pob aelod o’r gr\u0175p yn cymryd cyfrifoldeb cyfartal wrth arwain y gr\u0175p ac yn rhoi cyfle i bawb ddatblygu sgiliau arwain pwysig.<\/p>\n\n\n\n
6. Graddio.<\/strong>
Sicrhewch bod eich myfyrwyr yn deall sut bydd y gwaith gr\u0175p yn cael ei asesu. Gellir marcio gwaith gr\u0175p naill ai yn ei gyfanrwydd, yn unigol neu\u2019n gyfuniad o’r ddau (e.e. marcio’r gwaith yn ei gyfanrwydd ond gan ystyried cyfraniadau unigol drwy hunanwerthusiadau a gwerthusiadau gan gymheiriaid).<\/p>\n\n\n\n
7. Bod ar gael i roi cymorth.<\/strong>
Efallai y bydd gwaith gr\u0175p yn heriol i rai myfyrwyr. Mae’n bwysig felly bod myfyrwyr yn gwybod beth i’w wneud os oes angen iddynt drafod unrhyw faterion gyda chi’n gyfrinachol neu os oes ganddynt unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud \u00e2\u2019r gwaith gr\u0175p yn gyffredinol.
Rhowch fanylion i fyfyrwyr ar sut a phryd y gallant gysylltu \u00e2 chi. Efallai y byddwch hefyd am sefydlu sesiynau galw heibio dewisol yn MS Teams ar gyfer y myfyrwyr lle gallant ymuno \u00e2 chi os oes ganddynt unrhyw gwestiynau.<\/p>\n\n\n\n
Smith, et al. (2011) \u2018Overcoming student resistance to group work: Online versus face-to-face’, The Internet and Higher Education, 14, pp. 121\u2013128.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"
Mae gwaith gr\u0175p yn rhoi cyfle gwerthfawr i fyfyrwyr feithrin sgiliau trosglwyddadwy pwysig mewn cyfathrebu, arweinyddiaeth a deinameg gr\u0175p yn ogystal ag atgyfnerthu dysgu a dealltwriaeth. Gyda rhyngweithio wyneb yn wyneb yn gyfyngedig, gall gwaith gr\u0175p ar-lein roi cyfle i fyfyrwyr ddysgu a ffurfio perthynas \u00e2’u cyfoedion. Er y gall myfyrwyr elwa llawer o waith […]<\/p>\n","protected":false},"author":15501,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[229],"tags":[116,122],"class_list":["post-2197","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized-cy","tag-group-work","tag-gwaith-grwp"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-zr","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2197","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/15501"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2197"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2197\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2199,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2197\/revisions\/2199"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2197"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2197"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2197"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}