{"id":2186,"date":"2021-01-18T09:43:00","date_gmt":"2021-01-18T09:43:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=2186"},"modified":"2021-04-28T09:45:15","modified_gmt":"2021-04-28T08:45:15","slug":"awgrymiadau-ar-gyfer-addysgu-gydag-ystafelloedd-trafod","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2021\/01\/18\/awgrymiadau-ar-gyfer-addysgu-gydag-ystafelloedd-trafod\/","title":{"rendered":"Awgrymiadau ar gyfer addysgu gydag Ystafelloedd Trafod"},"content":{"rendered":"\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"743\" height=\"141\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2019\/10\/Capture.png\" alt=\"Distance Learner Banner\"><\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Awgrymiadau ar gyfer addysgu gydag Ystafelloedd Trafod<\/h1>\n\n\n\n<p>Rhag ofn na welsoch ein <a href=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/2020\/12\/11\/new-feature-breakout-rooms-in-ms-teams\/\">blog blaenorol,<\/a> mae ystafelloedd trafod nawr ar gael yn Microsoft Teams. I baratoi ar gyfer addysgu yn semester 2, a chynnydd yn yr addysgu ar-lein, rydym am roi rhai awgrymiadau i chi ar sut i wneud y defnydd gorau o\u2019r Ystafelloedd Trafod. Gellir eu defnyddio\u2019n effeithiol iawn i gynorthwyo a hybu dysgu\u2019r myfyrwyr, yn ogystal \u00e2 rhoi\u2019r dewis i chi rannu grwpiau mawr o fyfyrwyr i grwpiau trafod haws eu trin.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn yr un modd \u00e2\u2019n holl gyngor ynghylch dysgu ar-lein, meddyliwch beth yr hoffech i\u2019ch myfyrwyr ei wneud cyn, yn ystod, ac ar \u00f4l y gweithgaredd.<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Cyn dechrau\u2019r Ystafelloedd Trafod:<\/h1>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\"><li>Ymgyfarwyddwch \u00e2 sut mae\u2019r ystafelloedd trafod yn gweithio. Gellir ond cychwyn ystafelloedd trafod ar \u00f4l i\u2019r cyfarfod ddechrau. <strong>I greu ystafelloedd trafod, mae\u2019n rhaid i chi fod wedi trefnu\u2019r cyfarfod.<\/strong><\/li><li>Cynlluniwch y dasg ar gyfer y myfyrwyr a rhowch wybod iddynt beth ydyw o flaen llaw. Holwch eich hun beth yr hoffech i\u2019r myfyrwyr allu ei wneud ar \u00f4l cymryd rhan yn y gweithgaredd? A hoffech iddynt gynhyrchu unrhyw beth yn ystod yr ystafell drafod? A ydych eisiau iddynt gyflwyno unrhyw beth pan dd\u00f4nt yn \u00f4l i\u2019r brif ystafell?<\/li><li>Sicrhewch fod eich myfyrwyr yn deall beth sydd angen iddynt ei wneud cyn iddynt fynd i\u2019r ystafelloedd trafod. Hefyd, rhowch strategaeth iddynt ar gyfer cysylltu \u00e2 chi os oes ganddynt unrhyw gwestiynau. Gellir gwneud hyn drwy ddefnyddio\u2019r nodwedd sgwrsio yn y brif ystafell. Neu gall myfyriwr ailymuno \u00e2\u2019r prif gyfarfod eto.<\/li><li>Rhowch wybod i\u2019r myfyrwyr faint o amser sydd ganddynt yn yr ystafell drafod cyn y bydd yn rhaid iddynt ddod yn \u00f4l i\u2019r brif ystafell.<\/li><\/ol>\n\n\n\n<!--more-->\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Yn ystod y Gweithgaredd:<\/h1>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\"><li>Os oes unrhyw un o\u2019r myfyrwyr yn cael trafferth ymuno ag ystafell drafod \u2013 er enghraifft, maent wedi ymuno fel gwestai neu nad yw eu cyfrifiaduron yn cydweddu ag ystafelloedd trafod, gofynnwch iddynt aros yn y prif gyfarfod.<\/li><li>Gofynnwch i\u2019r myfyrwyr ddefnyddio <a href=\"https:\/\/support.microsoft.com\/en-us\/office\/collaborate-on-files-in-microsoft-teams-9b200289-dbac-4823-85bd-628a5c7bb0ae?ui=en-us&amp;rs=en-us&amp;ad=us\">dogfen gyfrannol<\/a> yn eu hystafell drafod i gadw cofnod o\u2019u trafodaeth. Gallant ddod \u00e2\u2019r ddogfen yn \u00f4l i\u2019r brif ystafell. Gall myfyrwyr hefyd weithio ar <a href=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/2020\/06\/22\/using-the-whiteboard-feature-in-microsoft-teams\/\">fwrdd gwyn cyfrannol<\/a> yn eu hystafelloedd trafod.<\/li><li>Mae croeso i chi bicio i mewn i\u2019r ystafelloedd ar unrhyw adeg os oes angen, i roi cyfle i\u2019r myfyrwyr ofyn cwestiynau.<\/li><li>Defnyddiwch y nodwedd sgwrsio ym mhob ystafell i fwydo gwybodaeth ychwanegol i mewn ar unrhyw adeg neu i ofyn i\u2019ch myfyrwyr ystyried rhywbeth arall.<\/li><\/ol>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Ar \u00f4l y Gweithgaredd<\/h1>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\"><li>Casglwch ynghyd yr holl adnoddau y mae\u2019ch myfyrwyr wedi\u2019u cynhyrchu yn ystod eu gweithgaredd \u2013 gofynnwch iddynt eu hatodi i sgwrs y cyfarfod a rhannwch hyn gyda gweddill y gr\u0175p neu drwy Blackboard.<\/li><li>Gofynnwch i\u2019r myfyrwyr wneud tasg anghydamserol y tu allan i\u2019r sesiwn Teams i atgyfnerthu eu trafodaeth neu gweithgaredd. Gall hyn gynnwys ysgrifennu dyddlyfr myfyriol neu flog neu gyfrannu at fwrdd trafod ar Blackboard. Bydd hyn o gymorth i\u2019r rhai nad oedd yn bresennol allu ymgysylltu \u00e2\u2019r gweithgareddau.<\/li><\/ol>\n\n\n\n<p>Rydym yn awyddus iawn i glywed sut yr ydych wedi bod yn defnyddio\u2019r ystafelloedd trafod wrth addysgu. Cysylltwch \u00e2 ni ar <a href=\"mailto:lteu@aber.ac.uk\">lteu@aber.ac.uk<\/a> i roi gwybod i ni beth rydych wedi bod yn ei wneud.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym yn cynnal sesiynau hyfforddi ar gyfer defnyddio Ystafelloedd Trafod. Gallwch archebu lle ar ein cyrsiau<a href=\"https:\/\/stafftraining.aber.ac.uk\/sd\/list_courses.php\"> ar-lein.<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Awgrymiadau ar gyfer addysgu gydag Ystafelloedd Trafod Rhag ofn na welsoch ein blog blaenorol, mae ystafelloedd trafod nawr ar gael yn Microsoft Teams. I baratoi ar gyfer addysgu yn semester 2, a chynnydd yn yr addysgu ar-lein, rydym am roi rhai awgrymiadau i chi ar sut i wneud y defnydd gorau o\u2019r Ystafelloedd Trafod. Gellir [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6741,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[229],"tags":[],"class_list":["post-2186","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-zg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2186","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6741"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2186"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2186\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2188,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2186\/revisions\/2188"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2186"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2186"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2186"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}