{"id":2154,"date":"2021-02-12T09:27:00","date_gmt":"2021-02-12T09:27:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=2154"},"modified":"2021-04-28T09:29:33","modified_gmt":"2021-04-28T08:29:33","slug":"siaradwyr-allanol-cynhadledd-fer-ymgorffori-lles-yn-y-cwricwlwm","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2021\/02\/12\/siaradwyr-allanol-cynhadledd-fer-ymgorffori-lles-yn-y-cwricwlwm\/","title":{"rendered":"Siaradwyr Allanol: Cynhadledd Fer: Ymgorffori Lles yn y Cwricwlwm"},"content":{"rendered":"\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1440\" height=\"200\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/02\/002-1.png\" alt=\"' Ymgorffori Lles yn y Cwricwlwm\u2019\"><\/p>\n\n\n\n<p>Fel y <a href=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/2021\/02\/04\/mini-conference-embedding-well-being-in-the-curriculum-call-for-proposals\/\">cyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf<\/a>, <strong>ddydd Iau 25th Mawrth<\/strong>, bydd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal ail Gynhadledd Fer y flwyddyn academaidd. Y thema fydd <strong>&#8216;<\/strong> <strong>Ymgorffori Lles yn y Cwricwlwm\u2019<\/strong>, fydd yn ymchwilio i\u2019r cysylltiadau rhwng lles a dysgu a sut y gall hyn helpu i gynyddu llwyddiant myfyrwyr a staff.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><a href=\"https:\/\/staffinsights2019.onlinesurveys.ac.uk\/mini-conference-embedding-wellbeing-in-the-curriculum\">Cyflwyno Cynnig<\/a> (dyddiad cau dydd Gwener 26 Chwefror)<\/li><li><a href=\"https:\/\/staffinsights2019.onlinesurveys.ac.uk\/booking-form-mini-conference-embedding-wellbeing-in-the\">Archebu lle yn y gynhadledd<\/a><\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Rydym ni\u2019n falch i gyhoeddi bod dau siaradwr allanol rhagorol wedi derbyn ein gwahoddiadau i gyflwyno yn ystod y gynhadledd:<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ffynnu yn Aberystwyth \u2013 Rhoi Addysg Gadarnhaol ar Waith<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Addysg Gadarnhaol yw plethu addysgu ar gyfer canlyniadau academaidd ac ar gyfer lles a datblygu cymeriad er mwyn galluogi\u2019r dysgwr i ffynnu. Mae dechrau ar gwrs astudio academaidd, boed ar lefel israddedig neu uwchraddedig, llawn amser neu ran amser, yn ddigwyddiad bywyd pwysig a all effeithio ar iechyd meddwl a lles. Mae\u2019r flwyddyn academaidd hon wedi bod yn wahanol i unrhyw un arall ac mae ffocws pendant ar les myfyrwyr a staff \u2013 y rhai sydd yn addysgu a\u2019r rhai nad ydynt yn addysgu \u2013 yn bwysicach nag erioed.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn y sesiwn hynod ryngweithiol hon, bydd cyfranogwyr yn dysgu am elfennau allweddol seicoleg gadarnhaol yng nghyd-destun addysg uwch, gan gynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Pwysigrwydd perthnasoedd cadarnhaol<\/li><li>Defnyddio cryfderau cymeriad wrth addysgu, adborth a datblygu staff<\/li><li>Sut gall persbectifau amser ddylanwadu ar gymhelliant<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Bydd staff Prifysgol Aberystwyth yn y sesiwn hon yn cael cyfle i archwilio sut y gall eu harferion dyddiol gefnogi lles eu myfyrwyr, eu cydweithwyr a nhw eu hunain. Bydd y sesiwn yn cynnwys elfennau o adfyfyrio, trafod ac ymarfer gweithgareddau sy\u2019n cefnogi lles. Er y bydd y ffocws yn bennaf ar gefnogi lles myfyrwyr, mae hyn ar ei orau pan fydd staff hefyd yn iach.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y sesiwn felly hefyd yn cynnig cyfle i\u2019r cyfranogwyr ddatblygu eu strategaethau lles eu hunain ac ystyried sut y gall systemau a gweithdrefnau\u2019r Brifysgol fod yn sail i ddiwylliant o les.<\/p>\n\n\n\n<!--more-->\n\n\n\n<p><strong>Y siaradwr:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"173\" height=\"259\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/02\/Fred.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1748\"\/><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae<strong> Frederika Roberts<\/strong> yn siaradwr bywiog, egn\u00efol sy\u2019n arbenigo mewn Seicoleg Gadarnhaol, Addysg Gadarnhaol ac Addysg Cymeriad.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae wedi defnyddio ei phrofiad o fod yn fam i ddwy ferch sydd \u00e2 chyflyrau difrifol ar y galon ac sydd, rhyngddyn nhw, wedi cael dau ataliad a thair llawdriniaeth ar y galon, ac wedi\u2019i gefnogi gyda sail o dystiolaeth fel y gall ei chynulleidfaoedd ddod yn fwy gwydn, hapus a llwyddiannus. Mae gan Frederika MSc mewn Seicoleg Gadarnhaol Gymhwysol ac mae\u2019n gweithio at Ddoethuriaeth mewn Addysg. Mae\u2019n sicrhau bod ei sesiynau\u2019n gwneud y wyddoniaeth yn hygyrch i bob cynulleidfa, o blant o bob oed i athrawon a chynrychiolwyr mewn cynadleddau corfforaethol.<\/p>\n\n\n\n<p>Frederika yw awdur \u2018Recipe for Happiness\u2019 (2013), \u2018For Flourishing\u2019s Sake\u2019 (i\u2019w gyhoeddi yn 2020), cydawdur \u2018Character Toolkit for Teachers\u2019 (2018) a chr\u00ebwr podlediad \u2018For Flourishing\u2019s Sake\u2019.<\/p>\n\n\n\n<p>Hi hefyd yw Cynrychiolydd Ewropeaidd IPPAed (Adran Addysg y Gymdeithas Seicoleg Gadarnhaol Ryngwladol) a chaiff ei chyfweld yn aml ar y radio a\u2019r teledu ar bynciau\u2019n ymwneud \u00e2\u2019i harbenigedd, fel hapusrwydd, lles a gwydnwch.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator\"\/>\n\n\n\n<p><strong>Cymunedau Ar-lein a Lles Myfyrwyr<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae ymdeimlad o gymuned yn rhan hanfodol o les a bywyd prifysgol. Yn y sesiwn hon, rydym ni\u2019n archwilio sut i greu cymunedau digidol effeithiol a all gefnogi ymdeimlad myfyrwyr o berthyn a diben, hwyluso cysylltiadau ystyrlon, a darparu cymorth heb ddibynnu ar amgylchedd campws.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Y siaradwr:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"217\" height=\"224\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/02\/Kate.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-1749\"\/><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae <strong>Kate Lister<\/strong> yn ddarlithydd addysg gynhwysol yn y Brifysgol Agored, ac yn gydymaith gydag Advance HE. Mae ei diddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar greu addysgeg gynhwysol, cwricwla, asesiadau a phrofiadau astudio sy\u2019n cefnogi lles meddyliol myfyrwyr a llwyddiant myfyrwyr anabl.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Caiff y rhaglen lawn ei chyhoeddi\u2019n fuan.<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Fel y cyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf, ddydd Iau 25th Mawrth, bydd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal ail Gynhadledd Fer y flwyddyn academaidd. Y thema fydd &#8216; Ymgorffori Lles yn y Cwricwlwm\u2019, fydd yn ymchwilio i\u2019r cysylltiadau rhwng lles a dysgu a sut y gall hyn helpu i gynyddu llwyddiant myfyrwyr a staff. [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":50455,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[229],"tags":[],"class_list":["post-2154","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-yK","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2154","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/50455"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2154"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2154\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2157,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2154\/revisions\/2157"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2154"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2154"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2154"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}