{"id":2120,"date":"2021-03-11T09:12:00","date_gmt":"2021-03-11T09:12:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=2120"},"modified":"2021-04-28T09:13:50","modified_gmt":"2021-04-28T08:13:50","slug":"myfyrdodau-or-fforwm-academi-sut-y-gallaf-wneud-fy-nysgun-fwy-cynhwysol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2021\/03\/11\/myfyrdodau-or-fforwm-academi-sut-y-gallaf-wneud-fy-nysgun-fwy-cynhwysol\/","title":{"rendered":"Myfyrdodau o&#8217;r Fforwm Academi:  Sut y gallaf wneud fy nysgu&#8217;n fwy cynhwysol?"},"content":{"rendered":"\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"602\" height=\"280\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/03\/inclusivity.jpg\" alt=\"What does insivity mean to you wordcloud\"><\/p>\n\n\n\n<p>Sesiwn y Fforwm Academi ar gynwysoldeb yr wythnos diwethaf oedd un o&#8217;r sesiynau \u00e2&#8217;r presenoldeb uchaf eleni. Roedd hi&#8217;n wych gweld cymaint o ddiddordeb mewn datblygu dysgu sy&#8217;n fwy cynhwysol, a chymaint o ymroddiad i wneud hynny hefyd. Cyflwynwyd y sesiwn hon mewn partneriaeth \u00e2&#8217;r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr. Bu&#8217;r Cynghorydd Hygyrchedd Nicky Cashman yn rhoi gwybodaeth i staff am ddemograffeg yn PA, yn ogystal \u00e2&#8217;r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Dechreuodd y sesiwn \u00e2&#8217;r cwestiwn eang &#8216;Beth mae cynwysoldeb yn ei olygu i chi?&#8217; (gweler uchod y cwmwl geiriau a gr\u00ebwyd gennym). Wedi cyflwyniad Nicky, aethom ymlaen i gynnal gweithgaredd yn seiliedig ar sefyllfaoedd. Cafodd pob gr\u0175p un sefyllfa i weithio \u00e2 hi. Bob ychydig o funudau, roedd pob gr\u0175p yn cael darn ychwanegol o wybodaeth er mwyn rhoi safbwynt ehangach iddynt ar y sefyllfa.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Mae&#8217;r sefyllfaoedd i&#8217;w gweld ar waelod y postiad hwn.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Wedi&#8217;r gweithgaredd cafwyd trafodaeth ar gyfer y gr\u0175p cyfan. Bu aelodau o staff yn siarad am &#8216;ddyletswydd gofal&#8217; tuag at eu myfyrwyr ac i ba raddau y disgwylir iddynt fonitro eu myfyrwyr ac y dylent fod yn gwneud hynny. Buom yn trafod hefyd y cydbwysedd rhwng gofalu am fyfyrwyr unigol ac anghenion y garfan gyfan o fyfyrwyr. Roedd y gr\u0175p a fu\u2019n ystyried Sefyllfa Un yn berffaith gywir wrth dynnu sylw at y ffaith y byddai sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu haseinio i grwpiau ymlaen llaw yn ffordd fwy cynhwysol o weithio, er mwyn osgoi sefyllfaoedd lle mae rhywun yn cael ei eithrio. Cafwyd trafodaeth ynghylch pryd mae asesiadau amgen yn briodol a phryd y byddai cymorth ychwanegol i gwblhau&#8217;r asesiadau sy\u2019n bod eisoes yn fwy addas. Yn olaf, trafodwyd pwysigrwydd sefydlu ymddiriedaeth \u00e2 myfyrwyr, yn ogystal \u00e2 chysylltu \u00e2 myfyrwyr a allai fod yn dangos arwyddion cynnar eu bod yn cael anhawster.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym ni&#8217;n ddiolchgar iawn i Nicky ac i&#8217;r holl staff a ddaeth i&#8217;r sesiwn hon a chyfrannu ati.<\/p>\n\n\n\n<!--more-->\n\n\n\n<p><strong>Archebu eich lle ar sesiynau sydd i ddod gan y Fforwm Academi:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/stafftraining.aber.ac.uk\/sd\/list_courses.php\">Fforwm Academi: Addysgu grwpiau bychain<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/stafftraining.aber.ac.uk\/sd\/course_details.php\">Fforwm Academi 7: How can I embed wellbeing into the curriculum?<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/stafftraining.aber.ac.uk\/sd\/course_details.php\">Fforwm Academi 8: Preparing<\/a> Students for Assessments<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/stafftraining.aber.ac.uk\/sd\/course_details.php\">Fforwm Academi 9: Reflections<\/a> on this year\u2019s Academy Forum<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Sefyllfaoedd:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Sefyllfa 1:<\/strong> Nid yw John, sy&#8217;n fyfyriwr ar fodiwl blwyddyn gyntaf yr ydych yn gyfrifol amdano, wedi bod yn bresennol yn unrhyw un o&#8217;r seminarau. Cawsant farc gweddol dda am yr aseiniad cyntaf ac roeddent yn bresennol ym mwyafrif y darlithoedd, ond rydych wastad yn eu gweld yn dod i mewn ychydig yn hwyr, ac yn gadael yn syth wedi i&#8217;r ddarlith orffen.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>GWYBODAETH NEWYDD:<\/strong> Gwaith gr\u0175p yw ail aseiniad y modiwl hwn. Rydych chi wedi gofyn i&#8217;r myfyrwyr roi rhestr ichi o&#8217;r grwpiau y byddant yn gweithio ynddynt, ond nid yw John wedi cael ei aseinio i unrhyw un o&#8217;r grwpiau ac ni chysylltodd \u00e2 chi i egluro pam.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>GWYBODAETH NEWYDD:<\/strong> Mae&#8217;r gr\u0175p yr ydych wedi aseinio John iddo wedi cysylltu \u00e2 chi yn dweud na allant gael gafael arno ac na fu&#8217;n bresennol yn unrhyw un o&#8217;r cyfarfodydd y gwnaethant eu trefnu.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>GWYBODAETH NEWYDD:<\/strong> Mae John wedi cysylltu \u00e2 chi o&#8217;r diwedd ac wedi datgelu ei fod yn cael anhawster \u00e2 gorbryder cymdeithasol. Mae&#8217;n dweud nad yw&#8217;n gallu cymryd rhan yn y gwaith gr\u0175p ac mae&#8217;n poeni y bydd yn methu&#8217;r modiwl o ganlyniad.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator\"\/>\n\n\n\n<p><strong>Sefyllfa 2:<\/strong> Mae Catrin yn fyfyrwraig ar ei thrydedd flwyddyn ac nid ydych wedi ei dysgu hi o\u2019r blaen. Mae&#8217;n bedwaredd wythnos y dysgu yn ystod Semester 2 a&#8217;r unig sesiwn y bu Catrin yn bresennol ynddi yw sesiwn gyntaf y modiwl yn wythnos 1. Nid yw hi wedi bod yn bresennol yn unrhyw un o&#8217;r sesiynau byw ond gallwch weld o Panopto ei bod wedi gwylio tua 50% o&#8217;r darlithoedd a recordiwyd ymlaen llaw. Ei marc cyfartalog ar gyfer ei gradd o&#8217;r semester cyntaf yw 47%.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>GWYBODAETH NEWYDD:<\/strong> Rydych chi wedi anfon sawl e-bost at Catrin i weld sut mae hi ac i drefnu cyfarfod ond nid ydych wedi cael ateb ganddi.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>GWYBODAETH NEWYDD:<\/strong> Gallwch weld o&#8217;i chofnod myfyriwr ei bod wedi cael marc cyfartalog o 69% yn ei blwyddyn gyntaf a 74% yn ei hail flwyddyn.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>GWYBODAETH NEWYDD: <\/strong>Wedi ichi ebostio Catrin sawl gwaith eto, cawsoch ateb ganddi yn y diwedd ac fe gytunodd i gwrdd \u00e2 chi. Yn ystod eich cyfarfod, datgelodd Catrin mai hi yw prif ofalwraig ei mam, a gafodd ddiagnosis o ganser angheuol 3 mis yn \u00f4l.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator\"\/>\n\n\n\n<p><strong>Sefyllfa 3:<\/strong> Rydych chi wedi bod yn dysgu Lisa am yr eildro. Fel gyda&#8217;r modiwl diwethaf, oedd \u00e2 rhai sesiynau yn cychwyn am 9 y bore, rydych chi wedi sylwi bod Lisa&#8217;n methu&#8217;r holl ddarlithoedd sy&#8217;n cael eu cynnal yn y bore. Bu&#8217;n dair wythnos ac nid yw Lisa wedi bod yn bresennol yn unrhyw rai o&#8217;r sesiynau a gynhelir yn y bore.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>GWYBODAETH NEWYDD:<\/strong> Rydych chi wedi edrych ar yr ystadegau ar Panopto ac ymddengys fod Lisa wedi gwylio&#8217;r holl sesiynau y bu iddi eu methu. Mae ganddi hefyd lawer o gwestiynau ac mae&#8217;n anfon llawer o negeseuon e-bost atoch, pob un ohonynt yng nghanol y nos.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>GWYBODAETH NEWYDD:<\/strong> Er ei bod yn methu&#8217;r darlithoedd a gynhelir yn gynnar yn y bore, mae Lisa wastad yn bresennol yn y seminarau, ac yn cyfrannu&#8217;n helaeth atynt. Hi yn aml yw&#8217;r un amlycaf yn y trafodaethau, ac mae\u2019n torri ar draws eraill ac yn ymateb yn flin weithiau pan fydd rhywun yn anghytuno \u00e2&#8217;i phwyntiau.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p><strong>GWYBODAETH NEWYDD: <\/strong>Cafodd Lisa farc isel yn ei haseiniad diwethaf ac mae hi&#8217;n drist iawn ynghylch hynny. Daeth i siarad \u00e2 chi yn ei gylch, ac yn ystod y sgwrs dywedodd wrthych ei bod wedi cael diagnosis o ADHD cyn hyn, ond na ddatgelodd hynny wrth y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Sesiwn y Fforwm Academi ar gynwysoldeb yr wythnos diwethaf oedd un o&#8217;r sesiynau \u00e2&#8217;r presenoldeb uchaf eleni. Roedd hi&#8217;n wych gweld cymaint o ddiddordeb mewn datblygu dysgu sy&#8217;n fwy cynhwysol, a chymaint o ymroddiad i wneud hynny hefyd. Cyflwynwyd y sesiwn hon mewn partneriaeth \u00e2&#8217;r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr. Bu&#8217;r Cynghorydd Hygyrchedd Nicky Cashman yn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":50455,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[229],"tags":[],"class_list":["post-2120","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-yc","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2120","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/50455"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2120"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2120\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2123,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2120\/revisions\/2123"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2120"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2120"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2120"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}