{"id":2080,"date":"2021-03-22T10:36:00","date_gmt":"2021-03-22T10:36:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=2080"},"modified":"2021-04-27T10:38:27","modified_gmt":"2021-04-27T09:38:27","slug":"beth-arall-y-gallem-ei-wneud-i-gefnogi-myfyrwyr-wrth-iddynt-ddysgu-yn-ol-y-myfyrwyr-eu-hunain","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2021\/03\/22\/beth-arall-y-gallem-ei-wneud-i-gefnogi-myfyrwyr-wrth-iddynt-ddysgu-yn-ol-y-myfyrwyr-eu-hunain\/","title":{"rendered":"Beth arall y gallem ei wneud i gefnogi myfyrwyr wrth iddynt ddysgu? (yn \u00f4l y myfyrwyr eu hunain!)"},"content":{"rendered":"\n<p>Cawsom gyfle yn ddiweddar i gyflwyno sesiynau \u2018Gwnewch y gorau o&#8217;ch dysgu ar-lein\u2019 i Gynorthwywr Adrannol i Gymheiriaid, Cynrychiolwyr Myfyrwyr yn ogystal \u00e2 Chynorthwywyr Preswyl. Roedd y sesiynau hyn yn canolbwyntio&#8217;n bennaf ar gyflwyno myfyrwyr i&#8217;r adnoddau sydd ar gael iddynt: y modiwl Cefnogi eich dysgu ar Blackboard (a fydd yn cael ei gyflwyno i&#8217;r holl fyfyrwyr yn fuan); a&#8217;r <a href=\"https:\/\/create.piktochart.com\/output\/51591015-canllawiau-cyflym-ar-lwyddiant-myfyrwyr\">Canllawiau Cyflym ar Lwyddiant Myfyrwyr<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym hefyd wedi manteisio ar y cyfleoedd hyn i ofyn i fyfyrwyr: &#8216;Beth arall y gallwn ei wneud i&#8217;ch cefnogi wrth ichi ddysgu?&#8217;. Hoffem rannu \u00e2 chi rywfaint o&#8217;r adborth a gawsom, ynghyd ag awgrymiadau ynghylch sut y gellid ymdrin \u00e2&#8217;r rhain:<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\"><strong>Estyniadau i aseiniadau&nbsp;<\/strong><\/h1>\n\n\n\n<p>Er nad yw hyn yn rhywbeth y gall y staff dysgu ei ddatrys, gallai fod yn fuddiol cynnwys dolen i&#8217;r <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/academic-registry\/handbook\/taught-schemes\/name-193261-cy.html\">wybodaeth am Estyniadau i Waith<\/a> Cwrs ynghyd \u00e2&#8217;r wybodaeth arall am asesiadau.<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\"><strong>Strwythur clir&nbsp;<\/strong><\/h1>\n\n\n\n<p>Crybwyllodd rhai myfyrwyr y ffaith eu bod wedi cael anhawster wrth lywio&#8217;u ffordd drwy eu llwyth gwaith o safbwynt dysgu ar-lein, a&#8217;r angen am strwythur cliriach o ran sut a phryd y bydd y cynnwys yn cael ei ryddhau iddynt. Felly, hoffem annog staff i gynnwys tabl byr ac ynddo ddyddiadau rhyddhau cynnwys (gellir ei gynnwys yng Ngwybodaeth y Modiwl), a chadw at ddyddiadau ac amseroedd y seminarau a&#8217;r sesiynau byw a amserlennwyd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"437\" height=\"278\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/03\/Psychology-timetable.png\" alt=\"A table showing dates on each content being released on Blackboard\" class=\"wp-image-1875\"\/><\/figure>\n\n\n\n<!--more-->\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\"><strong>Y modd y mae gweithgareddau ystafelloedd trafod yn cael eu dylunio&nbsp;<\/strong><\/h1>\n\n\n\n<p>Rydym yn falch gweld cynifer o aelodau o staff yn gwneud defnydd da o nodwedd newydd yr ystafelloedd trafod yn MS Teams. Mae rhai myfyrwyr wedi awgrymu y gallai dyluniad rhai gweithgareddau ystafell drafod fod yn fwy clir. Mynnwch gip ar ein blog ar <a href=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/2021\/01\/18\/tips-for-teaching-with-breakout-rooms\/\">Awgrymiadau ar gyfer addysgu gydag Ystafelloedd Trafod<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\"><strong>Canolbwyntio&nbsp;<\/strong><\/h1>\n\n\n\n<p>Dywedodd y myfyrwyr eu bod yn ei chael hi&#8217;n anoddach canolbwyntio wrth ddysgu ar-lein. Un ffordd o oresgyn hyn fyddai annog eich myfyrwyr i wneud nodiadau trwy gydol y sesiwn (<a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=lSskLVy2EH8&amp;feature=youtu.be\">Sut gallaf wneud nodiadau yn y dosbarth?)<\/a> a chynnwys mwy o weithgareddau sy&#8217;n gofyn iddynt gymryd rhan yn weithredol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Casgliadau o dechnegau a gweithgareddau asesu yn yr ystafell ddosbarth:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Prifysgol George Washington, <a href=\"https:\/\/library.gwu.edu\/utlc\/teaching\/classroom-assessment-techniques-cats\">Classroom Assessment Techniques<\/a><\/li><li>Jess Gifkins, <a href=\"https:\/\/www.e-ir.info\/2015\/10\/17\/strategies-for-making-large-lectures-more-interactive\/\">Strategies for Making Large Lectures More Interactive<\/a><\/li><li>Sefydliad Dysgu Caerl\u0177r, <a href=\"https:\/\/www2.le.ac.uk\/offices\/lli\/developing-learning-and-teaching\/enhance\/strategies\/active-learning\">Active Learning<\/a><\/li><li>Canolfan Dysgu ac Addysgu UC Berkeley, <a href=\"https:\/\/teaching.berkeley.edu\/active-learning-strategies\">Active Learning Strategies<\/a><\/li><li>Prifysgol Connecticut, <a href=\"https:\/\/cetl.uconn.edu\/active-learning-strategies\/\">Active Learning Strategies<\/a><\/li><\/ul>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\"><strong>Cydbwyso astudiaethau a bywyd&nbsp;<\/strong><\/h1>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n anodd inni gyd geisio cael y cydbwysedd hwn dan yr amgylchiadau presennol, ond gallai fod yn fuddiol annog y myfyrwyr i edrych ar y <a href=\"https:\/\/create.piktochart.com\/output\/51591015-canllawiau-cyflym-ar-lwyddiant-myfyrwyr\">canllaw hwn<\/a> sy&#8217;n cynnwys cyngor ar sut i barhau i fod yn drefnus ac yn llawn ysgogiad.<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\"><strong>Cyfleoedd i siarad \u00e2&#8217;u tiwtor&nbsp;<\/strong><\/h1>\n\n\n\n<p>Mae myfyrwyr wir yn gwerthfawrogi&#8217;r oriau cyswllt gyda&#8217;u tiwtoriaid. Os oes modd, efallai y byddai&#8217;n werth trefnu sesiwn &#8216;cadw cyswllt&#8217; ar ryw adeg yn ystod eich modiwl, neu ailadrodd sut y gall myfyrwyr drefnu apwyntiad \u00e2 chi.<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\"><strong>Bod ar wah\u00e2n<\/strong>&nbsp;<\/h1>\n\n\n\n<p>Nid yw&#8217;n syndod bod y myfyrwyr wedi dweud eu bod yn teimlo&#8217;n fwy unig a heb gyfle i gymdeithasu. Gallai fod yn syniad da annog eich myfyrwyr i greu gr\u0175p astudio a bwrdd trafod ar gyfer y dosbarth er mwyn rhoi mwy o gyfle iddynt gefnogi ei gilydd wrth iddynt ddysgu. Gallai fod yn fuddiol hefyd annog myfyrwyr i ymweld \u00e2 gwefan <a href=\"https:\/\/www.abersu.co.uk\/\">Undeb y Myfyrwyr<\/a> i weld pa gefnogaeth sydd ar gael ganddynt ac i weld y gweithgareddau cymdeithasol y maent yn eu cynnal.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cawsom gyfle yn ddiweddar i gyflwyno sesiynau \u2018Gwnewch y gorau o&#8217;ch dysgu ar-lein\u2019 i Gynorthwywr Adrannol i Gymheiriaid, Cynrychiolwyr Myfyrwyr yn ogystal \u00e2 Chynorthwywyr Preswyl. Roedd y sesiynau hyn yn canolbwyntio&#8217;n bennaf ar gyflwyno myfyrwyr i&#8217;r adnoddau sydd ar gael iddynt: y modiwl Cefnogi eich dysgu ar Blackboard (a fydd yn cael ei gyflwyno i&#8217;r [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":50455,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[229],"tags":[],"class_list":["post-2080","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-xy","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2080","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/50455"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2080"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2080\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2082,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2080\/revisions\/2082"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2080"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2080"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2080"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}