{"id":2062,"date":"2021-04-01T10:22:00","date_gmt":"2021-04-01T09:22:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=2062"},"modified":"2021-04-27T10:24:15","modified_gmt":"2021-04-27T09:24:15","slug":"rhwydfoesau-cyfleu-eich-disgwyliadau-ar-gyfer-cyfranogi-ar-lein","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2021\/04\/01\/rhwydfoesau-cyfleu-eich-disgwyliadau-ar-gyfer-cyfranogi-ar-lein\/","title":{"rendered":"Rhwydfoesau \u2013 Cyfleu eich disgwyliadau ar gyfer cyfranogi ar-lein"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"743\" height=\"141\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2019\/10\/Capture.png\" alt=\"Distance Learner Banner\" class=\"wp-image-675\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Mary Jacob, Darlithydd Dysgu ac Addysgu, UDDA<\/h3>\n\n\n\n<p>Ystyr y gair \u2018Rhwydfoesau\u2019 yw\u2019r moesau sy\u2019n addas ar gyfer rhyngweithio ar y rhyngrwyd. Yn yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu, mae staff yn aml yn holi am ganllawiau priodol i fyfyrwyr wrth ryngweithio ar-lein.<\/p>\n\n\n\n<p>Does dim un agwedd benodol at rwydfoesau sy\u2019n addas i bawb. Gan fod senarios addysgu gwahanol yn galw am ganllawiau gwahanol, bydd angen i chi benderfynu ar y rheolau mwyaf priodol i\u2019ch myfyrwyr chi. Rydym wedi llunio\u2019r ddogfen hon i\u2019ch helpu i wneud y penderfyniadau hynny wrth addysgu\u2019n gydamserol (e.e. drwy Teams) ac yn anghydamserol (e.e. byrddau trafod) yn defnyddio rhyngweithio llafar a\/neu ysgrifenedig.<\/p>\n\n\n\n<p>Os gallwch egluro eich disgwyliadau i\u2019ch myfyrwyr, bydd hynny\u2019n rhoi hyder iddynt ac yn lleddfu unrhyw broblemau posibl. Dyma ein hawgrymiadau allweddol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><strong>Awgrym 1: Eglurwch eich disgwyliadau o\u2019r dechrau ac atgyfnerthwch nhw fel bo angen. <\/strong>Efallai nad yw\u2019r hyn sy\u2019n amlwg i ni mor amlwg i\u2019n myfyrwyr. Mae dweud wrthyn nhw beth rydym ni\u2019n ei ddisgwyl yn helpu myfyrwyr i ymddwyn yn briodol a dysgu\u2019n well.<\/li><li><strong>Awgrym 2: Peidiwch \u00e2 newid y rheolau ar \u00f4l dechrau.<\/strong> Gallai newid y rheolau ar \u00f4l i\u2019r modiwl ddechrau beri dryswch. Gall rhagweld problemau posibl ymlaen llaw ein helpu i\u2019w hosgoi.<\/li><li><strong>Awgrym 3: Byddwch yn deg ac yn gynhwysol.<\/strong> Efallai nad yw\u2019r rhagdybiaethau a wnawn yn delio \u00e2\u2019r holl heriau mae ein myfyrwyr yn eu hwynebu. Mae ystyried eu cefndiroedd ac anghenion amrywiol yn ein helpu i gynnwys pawb.<\/li><li><strong>Awgrym 4:<\/strong> <strong>Modelwch ymddygiad ar-lein da<\/strong>. Gallwn ni fod yn fodel r\u00f4l pwerus drwy ymarfer yr un pethau ag ydym ni am i\u2019n myfyrwyr eu gwneud.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<!--more-->\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Egwyddorion rhwydfoesau cyffredin<\/h1>\n\n\n\n<p>Mae rhai egwyddorion yn gyffredin ar draws pob senario, fel trin eich gilydd \u00e2 pharch. Mae <a href=\"https:\/\/www.ucl.ac.uk\/teaching-learning\/education-planning-2020-21\/online-teaching-guidance-tips-and-platforms\/netiquette-good-online\"><strong>Nettiquette: good online behaviour at UCL<\/strong><\/a> yn trafod y pwnc hwn yn drylwyr, gan gynnig arweiniad i staff a myfyrwyr gydag enghreifftiau y gallwch chi eu haddasu. Mae gan <a href=\"https:\/\/onlinestudyaustralia.com\/netiquette-rules-guidelines-students\/\"><strong>14 Great Tips for Student Nettiquett<\/strong><\/a><strong>e<\/strong> gan Online Study Australia fideo 10 munud defnyddiol wedi\u2019i anelu at fyfyrwyr.<\/p>\n\n\n\n<p>Rwyf i wedi drafftio\u2019r geiriad isod ar sail them\u00e2u cyffredin yn y llenyddiaeth ar rwydfoesau. Mae croeso i chi ei ddefnyddio fel man cychwyn a\u2019i addasu wrth ysgrifennu canllawiau i\u2019ch myfyrwyr chi:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\"><li><strong>Trin pobl eraill \u00e2 pharch<\/strong>. Rydym ni am i\u2019n sesiynau ar-lein fod yn lle diogel a pharchus i bawb. Ystyriwch eich t\u00f4n a\u2019ch geiriau wrth wneud cyfraniadau ar-lein.<\/li><li><strong>Cyfathrebu\u2019n glir<\/strong>. Mae\u2019n hawdd camddeall cyfathrebu ar-lein. Gwnewch yn si\u0175r eich bod wedi deall pobl eraill yn iawn cyn i chi ymateb, a bod eich geiriau chi\u2019n ddigon clir fel na fydd pobl eraill yn eu camddeall.<\/li><li><strong>Cydnabod cyfraniadau pobl eraill<\/strong>. Rydym ni\u2019n gobeithio meithrin cymuned ddysgu lle rydym ni\u2019n dilysu ein cyfraniadau ein gilydd ac yn eu datblygu\u2019n adeiladol. Wrth ryngweithio ar-lein, gallwch gyfrannu drwy ddiolch yn benodol i eraill, mynegi eich cytundeb ac ati.<\/li><li><strong>Gofyn caniat\u00e2d<\/strong>. Os ydych chi\u2019n dymuno defnyddio neu ddyfynnu rhywbeth mae rhywun arall wedi\u2019i ddweud, gofynnwch am ganiat\u00e2d yn gyntaf gan gydnabod y ffynhonnell fel y byddech yn ei wneud gyda llyfrau ac erthyglau.<\/li><\/ol>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Penderfyniadau ar rwydfoesau mewn senarios penodol<\/h1>\n\n\n\n<p>Bydd rhai elfennau o rwydfoesau yn amrywio, gan ddibynnu ar eich senario addysgu. Pa broblemau posibl y gallech chi a\u2019ch myfyrwyr eu hwynebu? Bydd gwneud y penderfyniadau hyn ymlaen llaw yn helpu i osgoi problemau yn y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<table id=\"tablepress-21\" class=\"tablepress tablepress-id-21\">\n<thead>\n<tr class=\"row-1\">\n\t<th class=\"column-1\">Penderfyniad<\/th><th class=\"column-2\">Rhesymau dros ddewis NA<\/th><th class=\"column-3\">Rhesymau dros ddewis IE<\/th>\n<\/tr>\n<\/thead>\n<tbody class=\"row-striping row-hover\">\n<tr class=\"row-2\">\n\t<td class=\"column-1\"><B>Rhaid<\/b> i fyfyrwyr godi llaw cyn siarad<\/td><td class=\"column-2\"><B>Na<\/b> \u2013 Mewn grwpiau llai, gall peidio \u00e2 gofyn iddyn nhw godi llaw helpu i greu awyrgylch anffurfiol, agored.<\/td><td class=\"column-3\"><B>Ie<\/B> \u2013 Mae\u2019n cadw\u2019r sgwrs yn drefnus, yn enwedig mewn grwpiau mwy o faint. Mae\u2019n helpu i osgoi sefyllfaoedd lle mae un neu ddau fyfyriwr yn tra-arglwyddiaethu\u2019r sgwrs.<\/td>\n<\/tr>\n<tr class=\"row-3\">\n\t<td class=\"column-1\"><B>Rhaid<\/b> i fyfyrwyr ddefnyddio gwe gamer\u00e2u <\/td><td class=\"column-2\"><B>Na<\/b> - Efallai fod gan fyfyrwyr resymau dilys dros beidio \u00e2 defnyddio gwe gamera. Er enghraifft, gallen nhw deimlo\u2019n fwy cyfforddus yn cyfrannu heb we gamera os ydyn nhw ar y sbectrwm awtistig, yn profi gorbryder, neu ag anableddau eraill. Efallai nad ydyn nhw am ddangos eu hamgylchedd ddysgu. Gall diffodd eu gwe gamera helpu myfyrwyr sydd \u00e2 chyswllt gwe cyfyngedig.<\/td><td class=\"column-3\"><B>Ie<\/b> \u2013 Fel athro, gallwch ddarllen iaith eu corff yn haws. Gallwch weld faint o ddiddordeb maen nhw\u2019n ei ddangos. Gall helpu myfyrwyr i gysylltu \u00e2\u2019u cymheiriaid yn haws. <\/td>\n<\/tr>\n<tr class=\"row-4\">\n\t<td class=\"column-1\"><B>Annog<\/b> myfyrwyr <B>yn benodol (ond nid eu gorfodi)<\/b> i ddefnyddio eu gwe gamer\u00e2u<\/td><td class=\"column-2\"><B>Amherthnasol<\/B> \u2013 Does dim rheswm da i beidio \u00e2\u2019u hannog, os nad yw\u2019n orfodol.  <\/td><td class=\"column-3\"><B>Ie<\/b> \u2013 Mae mwy o fyfyrwyr yn debygol o ddefnyddio eu gwe gamera os ydych chi\u2019n annog hynny\u2019n benodol. Mae peidio \u00e2 gwneud hyn yn orfodol yn rhoi grym iddyn nhw ac yn gadael iddyn nhw ddewis heb orfod egluro eu rhesymau.   <br \/>\n<B>Strategaethau defnyddiol:<\/b> <br \/>\nEglurwch sut rydych chi\u2019n disgwyl iddyn nhw ddefnyddio\u2019r teclyn sgwrsio. Cydnabyddwch y sylwadau yn y sgwrs ar lafar yn y brif drafodaeth. Mae hyn yn dilysu eu cyfraniadau, yn meithrin hyder, ac yn cyfuno\u2019r sgwrs gyda\u2019r drafodaeth lafar.  <br \/>\n<\/td>\n<\/tr>\n<tr class=\"row-5\">\n\t<td class=\"column-1\">Annog myfyrwyr i ddefnyddio\u2019r teclyn sgwrsio yn ystod sesiynau byw <\/td><td class=\"column-2\"><B>Na<\/b> - Gan ddibynnu ar faint a dynameg y gr\u0175p, gall hyn arwain at sgwrs ymylol gyfochrog sy\u2019n tynnu sylw myfyrwyr oddi ar y brif drafodaeth. Os ydyn nhw\u2019n rhy brysur yn y sgwrs, gallen nhw golli pwyntiau allweddol a gaiff eu trafod ar lafar.<\/td><td class=\"column-3\"><B>Ie<\/B> \u2013 Mae\u2019n helpu myfyrwyr mwy tawel i gyfrannu mwy. Mae\u2019n gadael i fyfyrwyr ail iaith a dyslecsig baratoi eu cyfraniadau heb bwysau amser. Gall helpu myfyrwyr sydd \u00e2 chyswllt gwe cyfyngedig.<br \/>\n<br \/>\n<B>Strategaethau defnyddiol:<\/b> <br \/>\nEglurwch sut rydych chi\u2019n disgwyl iddyn nhw ddefnyddio\u2019r teclyn sgwrsio. Cydnabyddwch y sylwadau yn y sgwrs ar lafar yn y brif drafodaeth. Mae hyn yn dilysu eu cyfraniadau, yn meithrin hyder, ac yn cyfuno\u2019r sgwrs gyda\u2019r drafodaeth lafar.  <br \/>\n<\/td>\n<\/tr>\n<tr class=\"row-6\">\n\t<td class=\"column-1\">Recordio\u2019r sesiwn fyw<\/td><td class=\"column-2\"><B>Na<\/b> \u2013 Gall recordio sesiwn drafod greu pryder a llesteirio cyfranogiad myfyrwyr. Gan ddibynnu ar y cynnwys, gallai fod yn amhriodol recordio cyfraniadau llafar myfyrwyr. Efallai y bydd rhai myfyrwyr yn dibynnu ar wylio\u2019r recordiad yn hytrach na dod i\u2019r sesiwn ac felly ymgysylltu\u2019n llai.<\/td><td class=\"column-3\"><B>Ni argymhellir hyn<\/b> \u2013 Nid ydym yn argymell recordio sesiynau trafod. <br \/>\n<br \/>\nGweler <B>Canllawiau ar recordio seminarau a gweithgareddau Teams a Diogelu a Chyflwyno Gwasanaeth o Bell<\/B> ar dudalen  <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/is\/it-services\/elearning\/continuity\/\">Cefnogi eich Addysgu<\/a> yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu. <br \/>\n<\/td>\n<\/tr>\n<tr class=\"row-7\">\n\t<td class=\"column-1\">Rhaid defnyddio iaith academaidd ffurfiol mewn cyfraniadau ysgrifenedig <\/td><td class=\"column-2\"><B>Na<\/b> \u2013 Os ydych chi\u2019n caniat\u00e1u pethau fel iaith anffurfiol, defnyddio emojis, a goddefgarwch uchel i typos a m\u00e2n wallau iaith, gall greu amgylchedd anffurfiol cadarnhaol a helpu i feithrin cydlyniad y gr\u0175p ac ymdeimlad o berthyn.<\/td><td class=\"column-3\"><B>Ie<\/b> \u2013 Mae\u2019n gyfle i chi ddarparu adborth ffurfiannol ar waith sydd heb ei asesu i helpu myfyrwyr i wella perfformiad yn yr asesiad crynodol. Gall helpu myfyrwyr i ddatblygu arferion da mewn ysgrifennu academaidd.<br \/>\n<br \/>\n<B>Wrth benderfynu, ystyriwch:<\/b> Pa un sydd bwysicaf i\u2019ch gweithgaredd penodol - iaith ffurfiol gywir neu gael myfyrwyr sy\u2019n ymgysylltu \u00e2\u2019r syniadau a\u2019r cynnwys?<\/td>\n<\/tr>\n<\/tbody>\n<\/table>\n\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mary Jacob, Darlithydd Dysgu ac Addysgu, UDDA Ystyr y gair \u2018Rhwydfoesau\u2019 yw\u2019r moesau sy\u2019n addas ar gyfer rhyngweithio ar y rhyngrwyd. Yn yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu, mae staff yn aml yn holi am ganllawiau priodol i fyfyrwyr wrth ryngweithio ar-lein. Does dim un agwedd benodol at rwydfoesau sy\u2019n addas i bawb. Gan fod [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6741,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[229],"tags":[],"class_list":["post-2062","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-xg","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2062","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6741"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2062"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2062\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2064,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2062\/revisions\/2064"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2062"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2062"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2062"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}