{"id":2030,"date":"2021-04-13T09:33:00","date_gmt":"2021-04-13T08:33:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=2030"},"modified":"2021-04-27T10:06:23","modified_gmt":"2021-04-27T09:06:23","slug":"gwyl-fach-asesu-17-mai-21-mai","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2021\/04\/13\/gwyl-fach-asesu-17-mai-21-mai\/","title":{"rendered":"G\u0175yl Fach: Asesu  &#8211; 17 Mai &#8211; 21 Mai"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"743\" height=\"141\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2019\/10\/Capture.png\" alt=\"Distance Learner Banner\" class=\"wp-image-675\"\/><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi ei g\u0175yl fach gyntaf. Nod yr \u0175yl yw dod \u00e2 sesiynau hyfforddi a gweithdai a gynigir gan yr Uned ar bwnc penodol ynghyd gyda siaradwr allanol. Ar gyfer yr \u0175yl gyntaf, byddwn yn edrych yn benodol ar asesu. Cynhelir yr \u0175yl fach rhwng dydd Llun 17 Mai a dydd Gwener 21 Mai ar-lein ar Teams. Gallwch archebu\u2019r sesiynau yr hoffech ddod iddynt ar ein&nbsp; <a href=\"https:\/\/stafftraining.aber.ac.uk\/sd\/list_courses.php\">system archebu ar-lein<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd yr Athro Sally Brown a\u2019r Athro Kay Sambell yn ymuno \u00e2 ni i siarad am gynllunio asesu ar \u00f4l covid ddydd Llun 17 Mai mewn gweithdy dwy awr am 10.30am. Mae eu papur <a href=\"https:\/\/sally-brown.net\/download\/3179\/\">Writing Better Assignments in the post Covid19 Era<\/a> wedi\u2019i drafod yn helaeth ar draws y sector ers haf y llynedd.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal \u00e2 gweithdy Sally a Kay, bydd yr Uned yn cynnig sesiynau a gweithdai yn ystod yr wythnos.<\/p>\n\n\n\n<!--more-->\n\n\n\n<p><strong>Defnyddio Profion Blackboard:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae ymchwil yn dangos bod profion a chwisiau\u2019n gwella dysgu myfyrwyr yn ddramatig. Maent hefyd yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer canfod amgyffred a dealltwriaeth myfyrwyr o\u2019u deunydd addysgu.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn y sesiwn ymarferol hon, byddwn yn cyflwyno\u2019r camau ar gyfer creu prawf neu gwis yn eich modiwl, gan egluro sut i gynllunio\u2019r asesiad a\u2019r cwestiwn, yn ogystal \u00e2 chynnig arweiniad ar y cwestiynau priodol i\u2019w holi.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cynllunio i Waredu Ll\u00ean-ladrad<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae ll\u00ean-ladrad ac ymarfer academaidd annerbyniol yn feysydd pryder i staff a myfyrwyr addysg uwch. Mae sylw diweddar yn y cyfryngau i bynciau fel melinau traethodau wedi codi\u2019r mater yn ehangach.<\/p>\n\n\n\n<p>Ceir cyfle yn y sesiwn hon i gyfranogwyr drafod sut i ddatblygu asesiadau sy\u2019n \u2018cynllunio i waredu ll\u00ean-ladrad\u2019. Byddwn yn edrych ar wahanol fathau o asesiad sy\u2019n anoddach i fyfyrwyr \u2018dorri a gludo\u2019 gwybodaeth o ffynonellau eraill.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Strategaethau ar gyfer ymgysylltu \u00e2 myfyrwyr gydag adborth a chynllunio adborth:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae sicrhau bod myfyrwyr yn ymgysylltu \u00e2\u2019u hadborth yn allweddol i\u2019w cynnydd a\u2019u datblygiad. Yn y gweithdy hwn, byddwn yn edrych ar strategaethau ar gyfer adborth yn gysylltiedig \u00e2 chynllunio asesiadau. I Winstone, \u201cni chaiff hyd yn oed y safon uchaf o adborth ar waith myfyrwyr effaith ar eu datblygiad oni bai bod myfyrwyr yn ymgysylltu\u2019n weithredol ac yn rhoi\u2019r cyngor ar waith\u201d (2020). &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Ceir 3 rhan i\u2019r gweithdy:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\"><li>Rhan 1: bydd cyfranogwyr yn adfyfyrio ar y pynciau yng nghyflwyniad Naomi<\/li><li>Rhan 2: cyfle i\u2019r cyfranogwyr werthuso enghreifftiau o adborth<\/li><li>Rhan 3: bydd cyfranogwyr yn ystyried eu harferion adborth eu hunain ac yn sefydlu cynllun gweithredu<\/li><\/ol>\n\n\n\n<p><strong>Graddio Effeithlonrwydd a Dibynadwyedd \u2013 Cynllunio Cyfeirebau Blackboard a Turnitin:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae wedi\u2019i ddangos bod cyfeirebau yn gallu gwella dibynadwyedd graddio (Oakleaf, 2009; Thaler, Kazemi, &amp; Huscher, 2009, Timmerman, Strickland, Johnson, &amp; Payne, 2011) yn ogystal \u00e2\u2019i gwneud yn haws i fyfyrwyr ddeall eu perfformiad a datblygu sgiliau hunanasesu (Reddy &amp; Andrade, 2010).<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r sesiwn hon yn cyflwyno sail resymegol dros ddefnyddio cyfeirebau graddio ac yn cyflwyno offer cyfeirebau Blackboard y gellir eu defnyddio ar gyfer marcio aseiniadau, wikis, byrddau trafod, profion ac offer arall ar Blackboard. Mae hefyd yn cynnwys amser \u2018gweithdy cyfeireb\u2019 sy\u2019n gadael i staff gynllunio neu ailedrych ar eu cyfeirebau ar sail yr egwyddorion arfer da a gyflwynir.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cynllunio Addysgu ac Asesu Ymochrol:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae addysgu ymochrol yn uchel ar agenda addysg uwch y DU, fel y nodwyd yn <a href=\"https:\/\/www.qaa.ac.uk\/quality-code\/advice-and-guidance\/assessment\"><strong>UK Quality Code, Advice and Guidance: Assessment<\/strong><\/a> (2018) yr ASA. Mae ein gweithdy rhyngweithiol yn adeiladu ar yr egwyddorion hyn a ddatblygwyd gan Brown a Sambell ac yn cynnig cyfle i chi eu cymhwyso i\u2019ch modiwlau eich hun. Er mwyn cael y gorau o\u2019r sesiwn, bydd angen i chi gyflawni tasg baratoadol fer.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Dewiswch un neu ddau ddeilliant dysgu o\u2019ch modiwlau chi a\u2019u e-bostio i <a href=\"mailto:mhj@aber.ac.uk\"><strong>mhj@aber.ac.uk<\/strong><\/a> <strong>erbyn 13 Mai fan bellaf<\/strong>.<\/li><li>Os oes gennych amser, darllenwch erthygl <a href=\"https:\/\/sally-brown.net\/download\/3179\/\"><strong>Brown and Sambell<\/strong><\/a> ymlaen llaw.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Byddwn yn crynhoi eich deiliannau dysgu, eu diwygio fel bo angen a\u2019u defnyddio fel sail ar gyfer gweithgaredd cydweithredol byw. Yn ystod y sesiwn, bydd yr holl gr\u0175p yn dewis o restr o ddeilliannau ac yn cynllunio asesiadau ymochrol gyda syniadau am feini prawf marcio.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cynllunio Asesiadau Di-bryder<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae pryder am asesiadau\u2019n gysylltiedig \u00e2 pherfformiad is ac yn bwysicach gall niweidio iechyd meddwl myfyrwyr. Nododd adolygiad diweddar o\u2019r llenyddiaeth ar bryder am asesiadau addysg fod nodweddion o\u2019r asesiad ei hun yn gallu effeithio ar faint o bryder mae myfyrwyr yn ei brofi (Howard, 2020).<\/p>\n\n\n\n<p>Yn y sesiwn hon, byddwn yn edrych ar achosion pryder am asesiadau a ffyrdd y gellir eu trin wrth gynllunio a gweithredu asesiadau. Erbyn diwedd y sesiwn, bydd pob cyfranogwr yn gallu gwneud newidiadau bach i\u2019w hasesiadau cyfredol ac yn y dyfodol i leddfu pryder myfyrwyr.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Defnyddio Panopto ar gyfer Aseiniadau:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Yn y sesiwn hon byddwn yn trafod proses gosod aseiniadau yn Panopto a\u2019u defnydd a rheolaeth effeithiol yn Blackboard. Byddwn hefyd yn edrych ar ystyriaethau cynllunio aseiniadau.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi ei g\u0175yl fach gyntaf. Nod yr \u0175yl yw dod \u00e2 sesiynau hyfforddi a gweithdai a gynigir gan yr Uned ar bwnc penodol ynghyd gyda siaradwr allanol. Ar gyfer yr \u0175yl gyntaf, byddwn yn edrych yn benodol ar asesu. Cynhelir yr \u0175yl fach rhwng dydd Llun [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6741,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[407,408,409,410,411,412],"tags":[],"class_list":["post-2030","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-blackboard-tests-2","category-feedback-2","category-marking-2","category-rubrics-2","category-tests-2","category-turnitin-2"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-wK","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2030","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6741"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2030"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2030\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2031,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2030\/revisions\/2031"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2030"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2030"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2030"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}