{"id":2018,"date":"2021-04-22T09:29:00","date_gmt":"2021-04-22T08:29:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=2018"},"modified":"2021-04-27T09:50:58","modified_gmt":"2021-04-27T08:50:58","slug":"a-all-prifysgol-aberystwyth-ddod-yn-brifysgol-gadarnhaol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2021\/04\/22\/a-all-prifysgol-aberystwyth-ddod-yn-brifysgol-gadarnhaol\/","title":{"rendered":"A all Prifysgol Aberystwyth ddod yn Brifysgol Gadarnhaol?"},"content":{"rendered":"\n<p>Gwnaeth Frederika Roberts, ein siaradwr gwadd yn y gynhadledd fer ar Ymgorffori Lles yn y Cwricwlwm orffen ei chyflwyniad drwy ofyn \u2018A all Prifysgol Aberystwyth ddod yn Brifysgol Gadarnhaol?\u2019 (i wylio cyflwyniad Frederika gweler <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/is\/it-services\/elearning\/networks-and-events\/academy-mini-conference\/-2021\/\">gwefan y gynhadledd fer<\/a>).<\/p>\n\n\n\n<p>Y syniad o brifysgol gadarnhaol yw un sy\u2019n canolbwyntio ar \u2018ddatblygu amgylcheddau addysgol sy\u2019n galluogi\u2019r dysgwr i ymgysylltu \u00e2\u2019r cwricwlwm sefydledig yn ogystal \u00e2 gwybodaeth a sgiliau i ddatblygu eu lles eu hunain ac eraill\u2019 (Oades, Robinson, Green, a Spence, 2011). Mae\u2019r diffiniad hwn wedi cael ei gynnig gan awduron erthygl <em>Towards a positive university<\/em> a gyhoeddwyd yn 2011 sy\u2019n cynnwys fframwaith defnyddiol i adeiladu Prifysgolion Cadarnhaol yn seiliedig ar <a href=\"https:\/\/positivepsychology.com\/perma-model\/\">fodel PERMA<\/a> (Seligman, 2011). Mae PERMA gan Seligman ymhlith y theor\u00efau lles mwyaf adnabyddus sy\u2019n amlygu pump agwedd allweddol i les:<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"451\" height=\"195\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/04\/perma.png\" alt=\"PERMA model: P - positive emotions, E- engagement, R - Relationships, M- meaning, A- accomplishment\" class=\"wp-image-1992\"\/><\/figure>\n\n\n\n<p>Ffynhonnell: <a href=\"https:\/\/www.authentichappiness.sas.upenn.edu\/learn\">https:\/\/www.authentichappiness.sas.upenn.edu\/learn<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Er bod cynnydd mawr wedi cael ei wneud o ran ymgorffori lles yn y cwricwlwm, nid oes llawer o sefydliadau, yn arbennig yn y sector addysg uwch, yn ymgorffori dull sefydliad-cyfan o ymdrin \u00e2 lles (Oades et al., 2011). Y Brifysgol Gadarnhaol gyntaf yn y byd oedd <a href=\"https:\/\/tecmilenio.mx\/en\">Prifysgol Tecmilenio<\/a>, sefydliad preifat ym Mecsico, a sefydlwyd yn 2002. Gan ddilyn o\u2019u hesiampl, yn 2017, daeth Prifysgol <a href=\"https:\/\/www.buckingham.ac.uk\/news\/university-of-buckingham-to-become-europes-first-positive-university\/\">Buckingham yn Brifysgol Gadarnhaol gyntaf Ewrop<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Beth fyddai angen newid er mwyn i Brifysgol Aberystwyth fod yn Brifysgol Gadarnhaol?<\/p>\n\n\n\n<p>Cyflawnir statws Prifysgol Gadarnhaol drwy ymgorffori lles mewn polis\u00efau a gweithdrefnau sefydliadol, ond hefyd drwy ymroddiad unigol i werthoedd addysg gadarnhaol. Er bod Oades a\u2019i gydweithwyr (2011) yn crybwyll pwysigrwydd arweinyddiaeth uwch, maent hefyd yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau syml sy\u2019n gyson ag ethos addysg gadarnhaol ac y gellid eu hymgorffori gan staff addysgu a phroffesiynol yn ogystal \u00e2 myfyrwyr (gweler Tabl 1. t. 434). Yn dilyn y gynhadledd fer ddiweddar, hoffem alw ar yr holl staff i gymryd safiad gweithredol yngl\u0177n \u00e2\u2019u lles a lles eu myfyrwyr a\u2019u cydweithwyr.<\/p>\n\n\n\n<p>I ddod o hyd i enghreifftiau o sut y gallwch ymgorffori lles yn eich addysgu cyfeiriwch at yr erthygl <em>Towards a positive university<\/em>, recordiadau o\u2019r gynhadledd ynghyd \u00e2\u2019r daflen Ymgorffori <a href=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/04\/Lles-yn-y-cwricwlwm.pdf\">Lles yn y cwricwlwm<\/a> a gr\u00ebwyd gan Samantha Glennie, Rheolwr y Gwasanaethau Cymorth. Hoffem hefyd eich annog i rannu\u2019r adnoddau canlynol \u00e2\u2019ch myfyrwyr:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><a href=\"https:\/\/create.piktochart.com\/output\/51591015-canllawiau-cyflym-ar-lwyddiant-myfyrwyr\">Canllaw Cyflym i Lwyddiant Myfyrwyr<\/a><\/li><li><a href=\"https:\/\/www.coursera.org\/learn\/the-science-of-well-being?utm_source=gg&amp;utm_medium=sem&amp;utm_content=09-ScienceofWellBeing-ROW&amp;campaignid=9722859275&amp;adgroupid=100391762620&amp;device=c&amp;keyword=yale%20happiness%20course&amp;matchtype=b&amp;network=g&amp;devicemodel=&amp;adpostion=&amp;creativeid=428330721290&amp;hide_mobile_promo&amp;gclid=Cj0KCQjw59n8BRD2ARIsAAmgPmLfhtWScIDTvJWagNz3regfIJrOnBkow9aA-Od4brpbdpEjHfb_1_QaAjG8EALw_wcB#syllabus\">The Science of Well-being (cwrs ar-lein rhad ac am ddim a drefnwyd gan Brifysgol Yale)<\/a><\/li><\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gwnaeth Frederika Roberts, ein siaradwr gwadd yn y gynhadledd fer ar Ymgorffori Lles yn y Cwricwlwm orffen ei chyflwyniad drwy ofyn \u2018A all Prifysgol Aberystwyth ddod yn Brifysgol Gadarnhaol?\u2019 (i wylio cyflwyniad Frederika gweler gwefan y gynhadledd fer). Y syniad o brifysgol gadarnhaol yw un sy\u2019n canolbwyntio ar \u2018ddatblygu amgylcheddau addysgol sy\u2019n galluogi\u2019r dysgwr i [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":50455,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[400],"tags":[],"class_list":["post-2018","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-mini-conference-2021-well-being-2"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-wy","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2018","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/50455"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2018"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2018\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2019,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2018\/revisions\/2019"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2018"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2018"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2018"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}