{"id":11082,"date":"2026-11-23T13:37:50","date_gmt":"2026-11-23T13:37:50","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=11082"},"modified":"2026-11-23T13:37:51","modified_gmt":"2026-11-23T13:37:51","slug":"defnyddio-vevox-ar-gyfer-gweithgareddau-diwedd-y-flwyddyn","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2026\/11\/23\/defnyddio-vevox-ar-gyfer-gweithgareddau-diwedd-y-flwyddyn\/","title":{"rendered":"Defnyddio Vevox ar gyfer Gweithgareddau Diwedd y Flwyddyn"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"238\" height=\"73\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2021\/08\/Vevox-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3595\" role=\"none\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Allwch chi gredu bod 2026 bron ar ben?! Mae diwedd y flwyddyn hefyd yn golygu diwedd y tymor cyntaf, ac wrth i chi orffen addysgu roeddem am rannu rhai syniadau am sut y gallwch ddefnyddio Vevox i greu rhai gweithgareddau diwedd y flwyddyn i&#8217;ch myfyrwyr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">A hoffech chi grynhoi&#8217;r semester hwn o addysgu, cydgrynhoi gwybodaeth, profi gwybodaeth myfyrwyr, cael adborth, neu greu cwis diwedd y flwyddyn hwyliog i fyfyrwyr? Gall Vevox helpu gyda hynny!&nbsp;Gadewch i ni edrych ar rai o&#8217;r ffyrdd y gellir ei ddefnyddio i wneud gweithgareddau dysgu ac addysgu diwedd y flwyddyn yn ddefnyddiol <em>ac<\/em> yn hwyl \u2013 oherwydd dyma dymor llawenydd, wedi&#8217;r cyfan.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cwestiynau Pleidleisio<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gellir defnyddio cwestiynau pleidleisio i grynhoi&#8217;r tymor hwn o addysgu ac i grynhoi&#8217;r hyn y mae&#8217;r myfyrwyr wedi&#8217;i ddysgu dros y 12 wythnos diwethaf, yn enwedig os oes ganddynt aseiniadau neu arholiadau ar y gweill, drwy greu cwestiynau cyflym ar gyfer gwirio gwybodaeth, casglu adborth, ac asesu pa mor hyderus y maent yn teimlo am yr hyn y maent wedi&#8217;i ddysgu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dyma rai syniadau o ran sut y gallwch ddefnyddio polau Vevox:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cwmwl Geiriau Myfyrio ar Fodiwl\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Defnyddiwch Gwmwl Geiriau i ganiat\u00e1u i fyfyrwyr anfon geiriau neu ymadroddion mewn ymateb i gwestiwn neu ysgogiad am y modiwl a chreu crynodeb gweledol o&#8217;r canlyniadau. Gallai hyn fod yn &#8216;Pa dri gair sy&#8217;n disgrifio&#8217;r modiwl hwn orau?&#8217; &#8216;Pa sgiliau rydych chi wedi&#8217;u datblygu fwyaf eleni?&#8217;, neu &#8216;Beth fyddwch chi&#8217;n ei gofio am y cwrs hwn mewn pum mlynedd?&#8217;. Mae hyn yn asesu&#8217;r hyn y mae&#8217;r myfyrwyr wedi&#8217;i ddysgu ac mae hefyd yn rhoi adborth i chi ar y modiwl.<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n\n\n\n<li>Uchafbwyntiau\u2019r Cwrs \u2013 Amlddewis\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Defnyddiwch y cwestiynau Amlddewis i ofyn i&#8217;r myfyrwyr beth oedd eu hoff weithgaredd dysgu, yn enwedig os ydych wedi defnyddio gwahanol ddulliau addysgu drwy gydol y tymor. Mae hyn yn asesu&#8217;r hyn y gwnaeth y myfyrwyr ei fwynhau fwyaf, yr hyn a oedd fwyaf effeithiol, ac yn rhoi adborth i chi ar gyfer cyflwyno&#8217;r cwrs yn y dyfodol.<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n\n\n\n<li>Pleidlais Sgoriau Gwirio Hyder\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Defnyddiwch y nodwedd Pleidlais Sgoriau i fesur hyder myfyriwr ar wahanol bynciau, gan ddefnyddio graddfa raddio o 1-10 i weld lle mae myfyrwyr yn teimlo fwyaf hyderus a lle y mae arnynt angen mwy o arweiniad.<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n\n\n\n<li>Cywir neu Anghywir\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cyflwynwch gysyniadau allweddol neu gamsyniadau cyffredin o&#8217;r pynciau yr ymdriniwyd \u00e2 nhw a gofynnwch i fyfyrwyr ateb &#8216;Cywir neu Anghywir&#8217; fel ffordd gyflym o brofi gwybodaeth a mynd dros bynciau.<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n\n\n\n<li>Troelli&#8217;r olwyn\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Defnyddiwch y nodwedd Troelli\u2019r Olwyn i ddewis myfyrwyr, pynciau neu ymatebion ar hap. Gallech ddefnyddio hyn i ddewis myfyriwr i ateb cwestiwn cyflym fel ffordd o wirio eu gwybodaeth am bwnc, dewis pwnc ar hap i&#8217;w drafod, neu fewnbynnu ymatebion myfyrwyr i gwestiwn p\u00f4l blaenorol a&#8217;i ddefnyddio i ddewis ymateb neu gwestiwn myfyriwr ar hap i&#8217;w drafod ymhellach. Os hoffech chi wneud pethau\u2019n fwy cyffrous, gallwch gynnig gwobrau a defnyddio&#8217;r olwyn i ddewis enillydd ar hap.<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cwestiwn ac Ateb<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gellir troi\u2019r Bwrdd Cwestiwn ac Ateb ymlaen drwy gydol sesiwn fyw a&#8217;i ddefnyddio i gasglu sylwadau neu gwestiynau gan fyfyrwyr, gyda&#8217;r opsiwn o gyfrannu\u2019n ddienw i ganiat\u00e1u iddynt gyflwyno sylwadau neu gwestiynau gyda llai o bwysau. Gall fod yn adnodd gwerthfawr i weld pa bynciau y gallai myfyrwyr fod yn cael trafferth \u00e2 nhw neu unrhyw gwestiynau sydd ganddynt am gynnwys y cwrs, yn enwedig os oes ganddynt aseiniadau neu brofion ar y gweill.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Wrth eich pwysau: Cwisiau ac Arolygon<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gellir defnyddio nodweddion Wrth eich pwysau Vevox i wirio gwybodaeth ac i gasglu adborth ar y modiwl. Caiff cwisiau ac arolygon eu creu a&#8217;u rhyddhau i fyfyrwyr eu cwblhau&#8217;n anghydamserol ar \u00f4l sesiwn fyw.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cwis Crynhoi Modiwl\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ystyriwch greu cwis sy&#8217;n ymdrin \u00e2 phynciau drwy gydol y tymor fel gwiriad gwybodaeth isel ei risg ac i adnabod meysydd i ailymweld \u00e2 nhw o bosibl. Ystyriwch ei ryddhau ychydig wythnosau cyn diwedd y tymor \u2013 yn enwedig os oes gan eich myfyrwyr aseiniadau neu brofion ar y gweill \u2013 fel bod gennych amser i fynd dros y canlyniadau yn y dosbarth gyda&#8217;r myfyrwyr ac ailystyried unrhyw feysydd y gallent fod yn cael trafferth \u00e2 hwy.<\/li>\n\n\n\n<li>Noder: Cr\u00ebwch y cwestiynau hyn drwy gydol y tymor, er enghraifft ar \u00f4l pob darlith neu ar ddiwedd yr wythnos, tra bo&#8217;r cynnwys yn dal yn ffres yn eich meddwl. Mae&#8217;n llawer haws na cheisio eu hysgrifennu i gyd ar yr un pryd!<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n\n\n\n<li>Arolwg Adborth\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae arolwg yn ffordd wych o gasglu adborth o&#8217;r modiwl i weld sut mae myfyrwyr wedi bod yn ymgysylltu \u00e2&#8217;r cynnwys a&#8217;r gweithgareddau addysgu ac i gynhyrchu rhai dirnadaethau defnyddiol ar gyfer adolygu&#8217;r modiwl.<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dim rai syniadau\u2019n unig ar sut y gallwch ymgorffori Vevox yn eich gweithgareddau diwedd y flwyddyn. Gallwch ddefnyddio pob un ohonynt neu rai ohonynt, neu gallwch greu eich rhai eich hun \u2013 mae gan Vevox lawer o nodweddion gwahanol ar gael y gellir eu defnyddio i greu gweithgareddau deniadol i&#8217;ch myfyrwyr a gwneud eich addysgu&#8217;n fwy rhyngweithiol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio Vevox <a href=\"https:\/\/help.vevox.com\/hc\/en-us\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">drwy edrych ar wefan gymorth Vevox yma<\/a> ac\u00a0<a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/media\/departmental\/informationservices\/e-learning\/Defnyddio-Vevox-i-Addysgu-2026-27.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">edrych ar ein Canllaw Defnyddio Vevox ar gyfer Addysgu yma<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Wrth inni agos\u00e1u at ddiwedd y flwyddyn a chwblhau&#8217;r tymor cyntaf o addysgu, mae gennym rai syniadau i&#8217;w rhannu gyda chi am sut y gallwch ddefnyddio Vevox i greu gweithgareddau diwedd y flwyddyn deniadol a rhyngweithiol i&#8217;ch myfyrwyr.<\/p>\n","protected":false},"author":160533,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_hide_featured_image":false,"_jetpack_featured_image_duplicate_dismissed":0,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1737,616,628],"tags":[1394,1740,1657,1746,1651,1654],"class_list":["post-11082","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-active-learning-cy","category-meddalwedd-pleidleisio-cy","category-vevox-cy","tag-gweithgaredd-myfyrwyr","tag-interactive-teaching-cy","tag-polling-software-cy","tag-polling-tool-cy","tag-student-engagement-cy","tag-vevox-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-2SK","jetpack_featured_media_url":"","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11082","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/160533"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11082"}],"version-history":[{"count":14,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11082\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11101,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11082\/revisions\/11101"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11082"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11082"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11082"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}