{"id":10736,"date":"2026-10-16T09:36:37","date_gmt":"2026-10-16T08:36:37","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=10736"},"modified":"2026-10-16T09:36:39","modified_gmt":"2026-10-16T08:36:39","slug":"beth-syn-newydd-yn-blackboard-hydref-2026","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2026\/10\/16\/beth-syn-newydd-yn-blackboard-hydref-2026\/","title":{"rendered":"Beth sy&#8217;n Newydd yn Blackboard Hydref 2026\u00a0\u00a0\u00a0"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn y diweddariad ym mis Hydref, hoffem dynnu eich sylw at y gwelliannau canlynol i Blackboard:&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gwelliannau i&#8217;r Golygydd Cynnwys beta yn Nogfennau Blackboard&nbsp;&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Dechreuwch Sgyrsiau DA mewn profiad ymdrwythol newydd&nbsp;&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cloi Sgwrs DA i iaith benodol&nbsp;&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Rheoli cyfarwyddiadau o dudalen cyfarwyddiadau cwrs pwrpasol&nbsp;&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Allforio a mewnforio cyfarwyddiadau&nbsp;&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Dangos enw defnyddiwr a dyddiad defnyddio olaf yng ngwedd grid y llyfr graddau&nbsp;&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Dangos pwyntiau posib yng ngwedd restr y llyfr graddau&nbsp;&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Datgelu hunaniaeth myfyrwyr ar gyfer asesiadau dienw&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Gwelliannau i&#8217;r Golygydd Cynnwys beta yn Nogfennau Blackboard&nbsp;<\/h1>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r Golygydd Cynnwys beta wedi cael cyfres eang o ddiweddariadau gyda&#8217;r nod o sicrhau bod golygu yn fwy esmwyth, yn fwy hygyrch ac yn fwy dibynadwy. Mae\u2019r gwelliannau yn canolbwyntio ar lywio, rheolaethau fformatio, trin ffeiliau a chefnogaeth ar gyfer cynnwys mathemategol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Llywio bysellfwrdd a hygyrchedd<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall hyfforddwyr nawr symud o amgylch dewislenni a bariau offer yn fwy greddfol gan ddefnyddio rheolaethau bysellfwrdd. Mae ymddygiad y ddewislen yn fwy rhagweladwy, mae\u2019r llwybrau byr yn haws i&#8217;w darllen, a gellir lleihau mewnoli paragraff gan ddefnyddio Dileu neu\u2019r fysell Backspace.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Diweddariadau bar offer a dewislen<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae diweddariadau&#8217;r bar offer yn ei gwneud hi&#8217;n gliriach pa opsiynau fformatio sydd ar waith ar hyn o bryd.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Delwedd 1:&nbsp;&nbsp; Mae&#8217;r ddewislen Rhestr yn cynnwys .y penawdau Bulleted a Numbered.<\/em>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"864\" height=\"429\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-71.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10737\" style=\"aspect-ratio:2.013986013986014;width:576px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-71.png 864w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-71-300x149.png 300w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-71-767x381.png 767w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-71-712x354.png 712w\" sizes=\"auto, (max-width: 864px) 100vw, 864px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Delwedd 2:&nbsp; Y lliw rhagosodedig yw Llwyd Tywyll (Rhagosodedig).<\/em>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"864\" height=\"336\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-72.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10739\" style=\"aspect-ratio:2.5714285714285716;width:576px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-72.png 864w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-72-300x117.png 300w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-72-766x298.png 766w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-72-712x277.png 712w\" sizes=\"auto, (max-width: 864px) 100vw, 864px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Ymddygiad rhestrau<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae rheolaethau rhestr yn haws i&#8217;w deall, ac mae golygu rhestr bellach yn ymddwyn yn fwy cyson pan fydd eitemau yn cael eu dileu.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Trin delweddau a ffeiliau<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae trin delweddau a ffeiliau hefyd wedi gwella. Mae delweddau sydd wedi newid eu maint yn cadw eu dimensiynau ar \u00f4l trosi, gellir adolygu gosodiadau ffeiliau cyn eu mewnosod, ac mae atodiadau&#8217;n cael eu cadw pan fydd y cynnwys yn cael ei fudo i&#8217;r golygydd newydd. Mae cop\u00efo a gludo ffeiliau\u2019n uniongyrchol rhwng golygyddion wedi&#8217;i rwystro ar hyn o bryd er mwyn osgoi problemau caniat\u00e2d.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Delwedd 3:&nbsp; Mae&#8217;r ffenestr Edit File Options yn ymddangos pan fo ffeil ynghlwm.<\/em>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"864\" height=\"426\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-70.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10738\" style=\"aspect-ratio:2.028169014084507;width:576px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-70.png 864w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-70-767x378.png 767w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-70-712x351.png 712w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-70-300x148.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 864px) 100vw, 864px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Fformatio cod<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae fformatio cod yn lanach, gyda llinellau dethol lluosog bellach yn ffurfio un bloc cod.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Awduro mathemateg<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Y diweddariad olaf, ond defnyddiol iawn, y mae Blackboard wedi ei gyflwyno i\u2019r golygydd cynnwys newydd yw&#8217;r cam cyntaf o gymorth mathemateg uwch. Bydd hyn yn caniat\u00e1u i hafaliadau LaTeX a MathJax arddangos yn awtomatig o fewn dogfennau, heb orfod mynd i mewn i&#8217;r golygydd mathemateg.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Dechreuwch Sgyrsiau DA mewn profiad ymdrwythol newydd&nbsp;<\/h1>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Sgyrsiau DA bellach yn lansio mewn gweithle pwrpasol sydd wedi&#8217;i gynllunio sicrhau bod myfyrwyr yn canolbwyntio ar y drafodaeth. Yn hytrach nag agor ar unwaith, mae sgyrsiau&#8217;n dechrau pan fydd myfyrwyr yn dewis Start conversation.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r cynllun newydd yn dileu manylion ffurfweddiad a gwybodaeth asesu a all dynnu sylw oddi wrth y gweithgaredd. Mae gan fyfyrwyr fwy o le i ryngweithio \u00e2&#8217;r DA gan barhau i weld y rhybudd cynnwys safonol a gynhyrchir gan DA&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r profiad wedi&#8217;i ddiweddaru yn gweithio ar draws gweithgareddau Socratic, Roleplay ac AVA Pulse Quiz. Mae&#8217;r broses sefydlu hyfforddwr yn parhau heb ei newid.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Delwedd 1:&nbsp;&nbsp; Mae&#8217;r profiad ymdrwytho Sgyrsiau DA newydd yn llenwi ardal fwy i helpu myfyrwyr i ganolbwyntio ar eu sgwrs.<\/em>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"864\" height=\"408\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-73.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10740\" style=\"aspect-ratio:2.1176470588235294;width:576px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-73.png 864w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-73-300x142.png 300w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-73-767x362.png 767w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-73-712x336.png 712w\" sizes=\"auto, (max-width: 864px) 100vw, 864px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Delwedd 2:&nbsp; Roedd profiad blaenorol y myfyriwr o sgwrs DA yn cynnwys gwedd ar fanylion aseiniad a oedd yn amherthnasol i gyfranogiad gweithredol myfyriwr mewn sgwrs.<\/em>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"864\" height=\"417\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-74.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10741\" style=\"aspect-ratio:2.0719424460431655;width:576px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-74.png 864w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-74-300x145.png 300w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-74-767x370.png 767w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-74-712x344.png 712w\" sizes=\"auto, (max-width: 864px) 100vw, 864px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Cloi Sgwrs DA i iaith benodol&nbsp;<\/h1>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall hyfforddwyr nawr gloi Sgwrs DA i iaith ddewisol. Ar \u00f4l ei alluogi, bydd y DA yn cyfathrebu yn yr iaith honno yn unig trwy gydol y gweithgaredd.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer gweithgareddau dysgu iaith lle mae angen i fyfyrwyr barhau wedi\u2019u hymdrwytho mewn iaith darged. Hyd yn oed os yw myfyriwr yn gofyn am iaith wahanol, mae&#8217;r DA yn parhau i ddefnyddio&#8217;r iaith a ddewiswyd gan yr hyfforddwr.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r gosodiad ar gael trwy Advanced Options ac mae&#8217;n berthnasol i bob math o Sgwrs DA a gefnogir.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall y diweddariad hwn fod yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer cyrsiau a addysgir yn Gymraeg, neu gyrsiau ieithoedd tramor yn y brifysgol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Delwedd 1:&nbsp;&nbsp; Gall hyfforddwyr nawr ddewis yr opsiwn i orfodi iaith sgwrs mewn Sgwrs DA.<\/em>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"864\" height=\"510\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-75.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10742\" style=\"aspect-ratio:1.6941176470588235;width:576px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-75.png 864w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-75-300x177.png 300w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-75-767x453.png 767w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-75-712x420.png 712w\" sizes=\"auto, (max-width: 864px) 100vw, 864px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Rheoli cyfarwyddiadau o dudalen cyfarwyddiadau cwrs pwrpasol&nbsp;<\/h1>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gan Gyfarwyddiadau eu tudalen reoli bwrpasol eu hunain. Mae&#8217;r ardal newydd yn darparu gwedd chwiliadwy a didoli o&#8217;r holl gyfarwyddiadau o fewn cwrs.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">O&#8217;r dudalen hon, gall hyfforddwyr greu, cynhyrchu, mewnforio, allforio a rheoli cyfarwyddiadau yn fwy effeithlon. Gellir cysylltu cyfarwyddiadau hefyd yn uniongyrchol ag aseiniadau trwy lif gwaith symlach.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nodyn: y cyfarwyddiadau hyn yw&#8217;r rhai a ddefnyddir ar gyfer profion ac aseiniadau Blackboard, nid y rhai a ddefnyddir yn Turnitin.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Delwedd 1:&nbsp;&nbsp; Mae&#8217;r dudalen Course Rubrics yn dangos yr holl gyfarwyddiadau mewn tabl y gellir ei drefnu a\u2019i chwilio.<\/em>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"864\" height=\"441\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-76.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10743\" style=\"aspect-ratio:1.9591836734693877;width:576px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-76.png 864w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-76-300x153.png 300w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-76-768x392.png 768w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-76-712x363.png 712w\" sizes=\"auto, (max-width: 864px) 100vw, 864px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Delwedd 2:&nbsp; Mae hyfforddwyr yn dewis Add Rubric in Assignment Settings i<\/em> agor y dudalen Course Rubrics.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"529\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-77-529x1024.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10745\" style=\"aspect-ratio:0.5169712793733682;width:396px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-77-529x1024.png 529w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-77-155x300.png 155w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-77.png 594w\" sizes=\"auto, (max-width: 529px) 100vw, 529px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Allforio a mewnforio cyfarwyddiadau&nbsp;<\/h1>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Blackboard bellach yn caniat\u00e1u i gyfarwyddiadau gael eu hallforio a&#8217;u mewnforio rhwng cyrsiau, gan ei gwneud hi&#8217;n haws ailddefnyddio meini prawf asesu ar draws modiwlau.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae cyfarwyddiadau wedi&#8217;u hallforio yn cael eu lawrlwytho fel ffeiliau ZIP a gellir eu mewnforio i gwrs Blackboard arall yn ddiweddarach. Mae mewnforion dyblyg yn cael eu hatal yn awtomatig i helpu i gadw cyrsiau yn drefnus.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nodyn: y cyfarwyddiadau hyn yw&#8217;r rhai a ddefnyddir ar gyfer profion ac aseiniadau Blackboard, nid y rhai a ddefnyddir yn Turnitin.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Delwedd 1:&nbsp;&nbsp; Mae&#8217;r ddewislen tri dot ar gyfarwyddyd yn dangos yr opsiwn Export.<\/em>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"864\" height=\"444\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-78.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10744\" style=\"aspect-ratio:1.945945945945946;width:576px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-78.png 864w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-78-300x154.png 300w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-78-712x366.png 712w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-78-767x394.png 767w\" sizes=\"auto, (max-width: 864px) 100vw, 864px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Delwedd 2:&nbsp; Yr eicon Export ar y dudalen Course Rubrics.<\/em>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"864\" height=\"441\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-79.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10746\" style=\"aspect-ratio:1.9591836734693877;width:576px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-79.png 864w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-79-712x363.png 712w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-79-768x392.png 768w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-79-300x153.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 864px) 100vw, 864px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Dangos enw defnyddiwr a dyddiad defnyddio olaf yng ngwedd grid y llyfr graddau&nbsp;<\/h1>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae dwy golofn ddewisol newydd ar gael yn y wedd grid yn y Llyfr Graddau: Enw Defnyddiwr a Mynediad Olaf. Mae&#8217;r ddau wedi&#8217;u hanalluogi yn ddiofyn a gellir eu galluogi drwy osodiadau\u2019r Llyfr Graddau.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar \u00f4l eu hysgogi, mae&#8217;r colofnau\u2019n ymddangos ochr yn ochr ag enwau myfyrwyr a gellir eu didoli, gan helpu hyfforddwyr i adnabod defnyddwyr a monitro ymgysylltiad yn haws.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Delwedd 1:&nbsp;&nbsp; Mae&#8217;r adran dewisiadau Myfyriwr yng ngosodiadau;r Llyfr Graddau yn dangos toglau ar gyfer Cyfeirnod Myfyriwr, Enw Defnyddiwr, a Mynediad Olaf.<\/em>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"570\" height=\"675\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-80.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10747\" style=\"aspect-ratio:0.8444444444444444;width:380px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-80.png 570w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-80-253x300.png 253w\" sizes=\"auto, (max-width: 570px) 100vw, 570px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Delwedd 2:&nbsp; Y wedd grid llyfr graddau, gan gynnwys y colofnau Enw Defnyddiwr a Mynediad Olaf.<\/em>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"864\" height=\"441\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-82.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10748\" style=\"aspect-ratio:1.9591836734693877;width:576px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-82.png 864w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-82-712x363.png 712w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-82-300x153.png 300w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-82-768x392.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 864px) 100vw, 864px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Dangos pwyntiau posib yng ngwedd restr y llyfr graddau&nbsp;<\/h1>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r wedd rhestr yn y Llyfr Graddau bellach yn cynnwys colofn Pwyntiau Posibl y gellir ei didoli. Mae hyn yn rhoi trosolwg cyflym i hyfforddwyr o&#8217;r gwerth a roddir i bob eitem raddadwy.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r golofn yn cael ei phoblogi&#8217;n awtomatig o osodiadau asesu presennol, tra bod eitemau heb werth pwyntiau yn aros yn wag.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Delwedd 1:&nbsp;&nbsp; Mae&#8217;r wedd rhestr yn dangos colofn Pwyntiau Posibl y gellir ei didoli.<\/em>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"864\" height=\"402\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-81.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10749\" style=\"aspect-ratio:2.1492537313432836;width:576px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-81.png 864w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-81-300x140.png 300w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-81-712x331.png 712w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-81-767x357.png 767w\" sizes=\"auto, (max-width: 864px) 100vw, 864px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Datgelu hunaniaeth myfyrwyr ar gyfer asesiadau dienw&nbsp;<\/h1>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall staff sydd \u00e2&#8217;r caniat\u00e2d cywir nawr ddatgelu hunaniaeth myfyriwr dros dro ar gyfer cyflwyniad dienw unigol pan fo angen. Mae marcio dienw yn parhau i fod yn ei le i bawb arall, ac mae&#8217;r holl weithredoedd yn cael eu cofnodi fel bod trywydd archwilio clir.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mewn Graddio Hyblyg, bydd defnyddwyr awdurdodedig yn gweld dewisiadau <strong>Reveal student name<\/strong> a <strong>Hide student name<\/strong> newydd ar gyfer asesiadau dienw. Pan fydd enw yn cael ei ddatgelu, mae cerdyn proffil y myfyriwr, gan gynnwys eu henw, eu Cyfeirnod a&#8217;u avatar, yn cael ei arddangos yn y wedd Myfyriwr a Chwestiynau.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Delwedd 1:&nbsp;&nbsp; Mae&#8217;r ddewislen tri dot yn Graddio Hyblyg yn dangos yr opsiwn Reveal student identity.<\/em>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"864\" height=\"486\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-83.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10750\" style=\"aspect-ratio:1.7777777777777777;width:576px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-83.png 864w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-83-768x432.png 768w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-83-712x401.png 712w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/10\/image-83-300x169.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 864px) 100vw, 864px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r datgeliad yn berthnasol i&#8217;r defnyddiwr a&#8217;r sesiwn hwnnw yn unig. Mae manylion y myfyriwr yn cael eu cuddio eto yn awtomatig os yw&#8217;r defnyddiwr yn allgofnodi, yn adnewyddu&#8217;r dudalen, yn cau&#8217;r porwr, neu os yw\u2019r sesiwn yn dod i ben. Os yw graddiwr yn gweld hunaniaeth myfyriwr wrth farcio unrhyw ran o gyflwyniad, mae Blackboard yn cofnodi&#8217;r cyflwyniad hwnnw fel un sydd wedi&#8217;i raddio yn ddienw.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nodyn: mae&#8217;r nodwedd hon yn ymwneud \u00e2 phrofion ac aseiniadau Blackboard, nid Turnitin.&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn y diweddariad ym mis Hydref, hoffem dynnu eich sylw at y gwelliannau canlynol i Blackboard:&nbsp;&nbsp; Gwelliannau i&#8217;r Golygydd Cynnwys beta yn Nogfennau Blackboard&nbsp; Mae&#8217;r Golygydd Cynnwys beta wedi cael cyfres eang o ddiweddariadau gyda&#8217;r nod o sicrhau bod golygu yn fwy esmwyth, yn fwy hygyrch ac yn fwy dibynadwy. Mae\u2019r gwelliannau yn canolbwyntio ar [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":108665,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[544,1200],"tags":[1277,1350,1592,1578,1354,1594],"class_list":["post-10736","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-blackboard-cy","category-diweddariadau-misol","tag-aseiniadau-cy","tag-cyfarwyddyd-ansoddol","tag-da","tag-golygydd-cynnwys","tag-llyfr-graddau","tag-sgyrsiau"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-2Na","jetpack_featured_media_url":"","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10736","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/108665"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10736"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10736\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10752,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10736\/revisions\/10752"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10736"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10736"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10736"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}