{"id":10592,"date":"2026-09-24T12:47:29","date_gmt":"2026-09-24T11:47:29","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=10592"},"modified":"2026-09-24T12:47:30","modified_gmt":"2026-09-24T11:47:30","slug":"croeso-luke-butler-swyddog-addysg-ddigdol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2026\/09\/24\/croeso-luke-butler-swyddog-addysg-ddigdol\/","title":{"rendered":"Croeso,\u00a0Luke Butler &#8211; Swyddog Addysg Ddigdol"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Helo!&nbsp; Fy enw i yw Luke ac yn ddiweddar rwyf wedi ymuno \u00e2&#8217;r T\u00eem Addysg Ddigidol fel Swyddog Addysg Ddigidol. Rwy&#8217;n edrych ymlaen at gynorthwyo staff a myfyrwyr gydag ymholiadau addysg ddigidol, sicrhau bod gwybodaeth yn glir, a chyfrannu at y t\u00eem ehangach!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I roi ychydig o fy nghefndir &#8211; deuthum i Aberystwyth yn 2022 i astudio BA mewn Gwneud Ffilmiau yn y brifysgol, lle roeddwn i&#8217;n arbenigo mewn sgiliau ymarferol a damcaniaethol ym maes sinematograffeg a golygu gyda ffocws ar greu darnau cyfnod. Rwyf bob amser wedi bod \u00e2 diddordeb yn y gwaith a&#8217;r ymdrech sydd ynghlwm \u00e2 dod \u00e2 ffilm a theledu yn fyw. Fy mhrosiect diwedd blwyddyn oedd ffilm wedi&#8217;i gosod yn y 1960au ac a oedd yn canolbwyntio ar &#8216;frwydr y bandiau&#8217; rhwng label recordio a gollodd eu safle rhif un i fand newydd enwog! Mae gen i gefndir mewn dylunio graffeg hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ddiweddar, rwyf wedi cwblhau gradd meistr mewn Gwyddor Ymddygiad yma ym Mhrifysgol Aberystwyth lle roedd llawer o&#8217;m prosiectau yn canolbwyntio ar ddatblygu ymyriadau ar gyfer ymddygiadau cadarnhaol sy&#8217;n gysylltiedig ag iechyd a gwella ymgysylltiad o fewn lleoliadau heddlu, hamdden ac addysgu. Roedd fy nhraethawd hir meistr yn canolbwyntio ar ddiddordeb ac agweddau cyfredol tuag at ddulliau iechyd atal cenhedlu newydd sy&#8217;n dod i&#8217;r amlwg a gynlluniwyd ar gyfer dynion, a oedd yn cynnwys gweithio gyda darpar ddefnyddwyr i ymchwilio i ba negeseuon gwybodus am newid ymddygiad oedd fwyaf priodol ar gyfer hysbysebion ac ymyriadau yn y dyfodol i gefnogi cyfrifoldeb a rennir.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cyn fy r\u00f4l yn y T\u00eem Addysg Ddigidol, gweithiais fel achubwr bywyd ac athro nofio am 8 mlynedd yn y ganolfan chwaraeon yma ym Mhrifysgol Aberystwyth a\u2019r ganolfan hamdden lle cefais fy magu. Dysgais blant o dair i un ar bymtheg oed yn ogystal ag oedolion a gwirfoddolais fel hyfforddwr cynorthwyol clwb nofio cystadleuol. Roedd hwn yn glwb yr oeddwn yn rhan ohono ers yn 6 oed ac yn ddiweddarach ail-ymunais fel nofiwr meistr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gen i ddiddordeb brwd mewn nofio ac yn fwy diweddar rwyf wedi symud i nofio d\u0175r agored gyda&#8217;r gobaith o gymryd rhan mewn rasys nofio d\u0175r agored a gobeithio rhoi cynnig ar dreiathlon cyn bo hir! Y tu allan i&#8217;r gwaith rwy&#8217;n mwynhau chwaraeon modur a ffotograffiaeth natur, dod o hyd i deithiau cerdded braf gyda fy mhartner, gwersylla, ac unrhyw beth yn yr awyr agored.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Diolch yn fawr i bawb yr wyf wedi cwrdd \u00e2 nhw hyd yma am y croeso cynnes! Rwy&#8217;n edrych ymlaen at gwrdd a gweithio gydag aelodau o staff a myfyrwyr dros y misoedd nesaf.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Helo!&nbsp; Fy enw i yw Luke ac yn ddiweddar rwyf wedi ymuno \u00e2&#8217;r T\u00eem Addysg Ddigidol fel Swyddog Addysg Ddigidol. Rwy&#8217;n edrych ymlaen at gynorthwyo staff a myfyrwyr gydag ymholiadau addysg ddigidol, sicrhau bod gwybodaeth yn glir, a chyfrannu at y t\u00eem ehangach! I roi ychydig o fy nghefndir &#8211; deuthum i Aberystwyth yn 2022 [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":108533,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":true,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[229],"tags":[],"class_list":["post-10592","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-2KQ","jetpack_featured_media_url":"","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10592","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/108533"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10592"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10592\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10593,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10592\/revisions\/10593"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10592"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10592"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10592"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}