{"id":10578,"date":"2026-09-23T11:48:46","date_gmt":"2026-09-23T10:48:46","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=10578"},"modified":"2026-09-23T12:01:29","modified_gmt":"2026-09-23T11:01:29","slug":"gweithgareddau-cynefino-vevox","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2026\/09\/23\/gweithgareddau-cynefino-vevox\/","title":{"rendered":"Gweithgareddau Cynefino Vevox"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"264\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/08\/Blog-Banners-1-1024x264.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10510\" srcset=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/08\/Blog-Banners-1-1024x264.png 1024w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/08\/Blog-Banners-1-300x77.png 300w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/08\/Blog-Banners-1-765x197.png 765w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/08\/Blog-Banners-1-1536x396.png 1536w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/08\/Blog-Banners-1-712x183.png 712w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/08\/Blog-Banners-1.png 1925w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Vevox yw adnodd pleidleisio Prifysgol Aberystwyth. Yn ogystal \u00e2 hwyluso dysgu ac addysgu rhyngweithiol, gellir defnyddio Vevox i greu gweithgareddau cynefino diddorol i fyfyrwyr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dyma rai syniadau ar sut y gallwch chi ymgorffori Vevox yn eich gweithgareddau cynefino i groesawu myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy&#8217;n dychwelyd yn \u00f4l i&#8217;r campws.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">1. Cwmwl Geiriau<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Cymylau Geiriau yn rhyngweithiol ac yn ddienw \u2013 felly gall myfyrwyr gymryd rhan heb deimlo fel eu bod yn gorfod ateb \u2018yn y fan a&#8217;r lle\u2019. Po fwyaf o gyfranogwyr sy&#8217;n dewis gair mewn ymateb i&#8217;r cwestiwn neu&#8217;r ysgogiad, y mwyaf y bydd y gair yn ymddangos ar y sgrin.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gellir defnyddio Cymylau Geiriau ar gyfer cwestiynau &#8216;Dod i Adnabod eich Gilydd&#8217;, megis o ble mae&#8217;r myfyrwyr yn dod, hoff ddiddordebau, pa gwrs maen nhw&#8217;n ei astudio, neu hyd yn oed i gael syniad cyffredinol yn unig o sut mae myfyrwyr yn teimlo. Nerfus? Ofnus? Cyffrous? Gall dechrau yn y brifysgol sbarduno pob un o&#8217;r teimladau hyn, a mwy. Mae cwmwl geiriau yn gadael i&#8217;r myfyrwyr gyflwyno gair yn ddienw a gweld sut mae eraill yn eu carfan yn teimlo hefyd.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">2. Pinio Delwedd<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r nodwedd hon yn caniat\u00e1u i gyfranogwyr bwyntio at rannau penodol o ddelwedd. Un syniad fyddai defnyddio delwedd o fap a gofyn i fyfyrwyr binio eu tref neu wlad enedigol ar y map. Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol yn enwedig, mae hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddod i adnabod eraill o leoedd tebyg a chwrdd \u00e2 phobl newydd o bob cwr o&#8217;r byd \u2013 yn ogystal \u00e2 dangos cyrhaeddiad byd-eang y brifysgol.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">3. Pleidlais Amlddewis neu Gyfatebol<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I fyfyrwyr newydd, gall hyn fod yn ffordd dda o fesur eu dealltwriaeth o\u2019r cymorth a\u2019r gwasanaethau sydd ar gael iddynt yn y brifysgol. Mae hefyd yn nodi bylchau mewn gwybodaeth ac yn helpu staff i ddeall beth sy&#8217;n cael ei gyfleu&#8217;n glir i fyfyrwyr newydd a\u2019r hyn nad yw&#8217;n cael ei gyfleu&#8217;n glir, os ydyn nhw&#8217;n cymryd y cyfan i mewn, neu os ydynt wedi&#8217;u llethu&#8217;n llwyr! Mae pleidlais Amlddewis neu Gyfatebol yn gadael i&#8217;r myfyrwyr ddewis o gyfres o opsiynau (gan wneud pethau ychydig yn haws iddynt).<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gellid defnyddio&#8217;r nodwedd hon hefyd i greu cwis am Aberystwyth \u2013 Dewch i Adnabod y Dref! Ffordd ryngweithiol o ddysgu ychydig mwy i fyfyrwyr am yr hyn sydd gan Aberystwyth a&#8217;r ardaloedd cyfagos i&#8217;w cynnig \u2013 siopau coffi poblogaidd, ble i fynd am dro neu deithiau cerdded (digon o opsiynau), y mannau gorau i wylio\u2019r machlud ar y prom (DIGON o opsiynau). Awgrym: Gofynnwch i&#8217;r myfyrwyr weithio mewn timau i helpu i annog sgwrs.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">4. Holi ac Ateb Dienw<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gan Vevox hefyd nodweddion nad ydynt yn ymwneud \u00e2 phleidleisio, gan gynnwys bwrdd holi ac ateb dienw sy&#8217;n caniat\u00e1u i gyfranogwyr anfon cwestiynau a &#8216;hoffi&#8217;, neu &#8216;uwchbleidleisio&#8217;, y cwestiynau gan eraill y maent am eu hateb fwyaf. Mae hon yn ffordd effeithiol o dderbyn ac ateb cwestiynau gan fyfyrwyr a allai fod ychydig yn rhy swil i&#8217;w lleisio&#8217;n uchel, ac i weld pa bynciau sy&#8217;n cael eu codi\u2019n aml gan y myfyrwyr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gallwch ddidoli&#8217;r cwestiynau yn \u00f4l hoff bethau i arddangos y cwestiynau mwyaf poblogaidd yn gyntaf a gwneud yr holi ac ateb yn fwy effeithiol a diddorol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u2014\u2014\u2014\u2014\u2014\u2014<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dyma rai syniadau ar sut y gallwch chi ymgorffori Vevox yn eich gweithgareddau cynefino i fyfyrwyr, ond mae cymaint mwy i\u2019w archwilio yn Vevox. I gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio Vevox a&#8217;r nodweddion sydd ar gael, ewch i&#8217;n <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/library\/digital-education\/offerpleidleisio\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">tudalen we<\/a> ac edrychwch ar ein <a href=\"https:\/\/view.officeapps.live.com\/op\/view.aspx?src=https%3A%2F%2Fwww.aber.ac.uk%2Fen%2Fmedia%2Fdepartmental%2Finformationservices%2Fe-learning%2FDefnyddio-Vevox-i-Addysgu-2026-27.docx&amp;wdOrigin=BROWSELINK\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Canllaw Defnyddio Vevox i Addysgu<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I ddysgu mwy am ddefnyddio Vevox i addysgu, mae&#8217;r T\u00eem Addysg Ddigidol yn cynnig sesiynau hyfforddi. Am fwy o wybodaeth ac i archebu lle, edrychwch ar ein <a href=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2026\/09\/04\/croeso-i-aelodau-newydd-o-staff-syn-ymuno-a-phrifysgol-aberystwyth-2026-27\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">post blog croeso i aelodau newydd o staff<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Vevox hefyd yn cynnig sesiynau hyfforddi am ddim i&#8217;ch helpu i feithrin gwybodaeth am y llwyfan a dealltwriaeth o arferion da. Gallwch ddod o hyd i&#8217;r <a href=\"https:\/\/www.vevox.com\/institutional-training-webinar-sessions\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Hyfforddiant Vevox yma.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Wrth i ni ddechrau blwyddyn academaidd arall, hoffem dynnu sylw at nodweddion Vevox, adnodd pleidleisio&#8217;r brifysgol, a sut y gellir eu defnyddio mewn gweithgareddau cynefino i fyfyrwyr. <\/p>\n","protected":false},"author":160533,"featured_media":10515,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[616,628],"tags":[1657,1651,1660,1654],"class_list":["post-10578","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-meddalwedd-pleidleisio-cy","category-vevox-cy","tag-polling-software-cy","tag-student-engagement-cy","tag-student-induction-cy","tag-vevox-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-2KC","jetpack_featured_media_url":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/08\/Blog-Banners-1-1.png","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10578","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/160533"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10578"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10578\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10590,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10578\/revisions\/10590"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10515"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10578"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10578"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10578"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}