{"id":10476,"date":"2026-08-14T10:31:12","date_gmt":"2026-08-14T09:31:12","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=10476"},"modified":"2026-08-14T10:31:14","modified_gmt":"2026-08-14T09:31:14","slug":"beth-syn-newydd-yn-blackboard-mis-awst-2026","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2026\/08\/14\/beth-syn-newydd-yn-blackboard-mis-awst-2026\/","title":{"rendered":"Beth sy&#8217;n Newydd yn Blackboard mis Awst 2026\u00a0\u00a0\u00a0"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn y diweddariad ym mis Awst, hoffem dynnu eich sylw at y gwelliannau Blackboard canlynol: \u202f&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Rheoli aelodaeth gr\u0175p drwy lusgo a gollwng&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Creu mwy nag un gr\u0175p ar yr un pryd&nbsp;&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gwneud hysbysiadau yn fwy cywir a dibynadwy&nbsp;&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ychwanegu rheolyddion didoli ar gyfer defnyddwyr Trafodaethau&nbsp;&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gwedd grid Llyfr Graddau wedi&#8217;i ailstrwythuro (Hyfforddwyr)&nbsp;&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Allforio banciau cwestiynau (Hyfforddwyr)&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Dangos adborth lefel ateb ar gyfer opsiynau a ddewisir yn unig (Hyfforddwyr a Myfyrwyr)&nbsp;&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Llywio trwy gyrsiau&#8217;n gyflymach gyda rhyngwyneb defnyddiwr gwell&nbsp;&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gosod amodau rhyddhau yn seiliedig ar gyflwyniadau dyddlyfr&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Rheoli aelodaeth gr\u0175p drwy lusgo a gollwng&nbsp;&nbsp;<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae rheoli grwpiau bellach yn gyflymach diolch i nodweddion llusgo a gollwng newydd.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Hyfforddwyr<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">O&#8217;r ardal rheoli Grwpiau, gall hyfforddwyr nawr wneud y canlynol:&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Llusgo myfyrwyr yn uniongyrchol i gr\u0175p o&#8217;r rhestr \u2018heb eu clustnodi\u2019.&nbsp;&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Tynnu myfyrwyr unigol o gr\u0175p heb orfod clirio pob aelod.&nbsp;&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Parhau i ddefnyddio\u2019r dulliau sy\u2019n bodoli eisoes ar gyfer aseiniadau ochr yn ochr \u00e2 llusgo a gollwng.&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae hyn yn ei gwneud hi&#8217;n llawer haws creu ac addasu grwpiau, yn enwedig wrth wneud newidiadau bach i aelodaeth neu gydbwyso myfyrwyr ar draws sawl gr\u0175p.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Delwedd 1:&nbsp; Gall hyfforddwyr lusgo a gollwng myfyrwyr i&#8217;w clustnodi i gr\u0175p.<\/em>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1379\" height=\"431\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/08\/Picture1-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10465\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Delwedd 2:&nbsp; Gall hyfforddwyr dynnu myfyrwyr unigol o gr\u0175p yn hytrach na&#8217;u tynnu i gyd ar unwaith.<\/em>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"602\" height=\"342\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/08\/Picture2.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10466\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Creu mwy nag un gr\u0175p ar yr un pryd&nbsp;<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae sefydlu grwpiau hefyd wedi dod yn llawer mwy effeithlon.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Hyfforddwyr<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn hytrach na chreu grwpiau fesul un, gall hyfforddwyr nawr greu sawl gr\u0175p mewn un weithred.&nbsp; Gellir cynhyrchu unrhyw nifer rhwng dau a 5,000 o grwpiau ar y tro, gan wneud y broses sefydlu yn llawer cyflymach ar gyfer modiwlau mawr.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar \u00f4l creu grwpiau, gellir ychwanegu aelodau \u00e2 llaw, eu mewnforio, neu eu clustnodi\u2019n awtomatig.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dyma rai pethau i&#8217;w nodi:&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Wrth ddefnyddio <strong>Clustnodi yn awtomatig<\/strong>, mae Blackboard yn creu&#8217;r nifer angenrheidiol o grwpiau yn seiliedig ar faint y gr\u0175p a ddewiswyd gennych chi.&nbsp;&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Wrth ddefnyddio <strong>Hunan-gofrestru<\/strong>, mae tri gr\u0175p yn cael eu creu&#8217;n awtomatig.&nbsp; Mae unrhyw grwpiau ychwanegol a gr\u00ebwyd trwy&#8217;r opsiwn creu swmp yn cael eu hychwanegu at y grwpiau hynny sy\u2019n bodoli eisoes.&nbsp;&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r diweddariad hwn yn lleihau&#8217;n sylweddol ar faint o ailadrodd sydd ei angen yn y broses sefydlu wrth baratoi gweithgareddau cydweithredol.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Delwedd 1:&nbsp; Gall hyfforddwyr nawr greu sawl gr\u0175p ar yr un pryd yn hytrach na&#8217;u hychwanegu fesul un.&nbsp;&nbsp;<\/em>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"602\" height=\"277\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/08\/Picture3.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10467\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Delwedd 2:&nbsp; Gall hyfforddwyr nodi faint o grwpiau i&#8217;w creu ar y tro, gan greu o leiaf 2 a hyd at uchafswm o 5,000.<\/em>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"602\" height=\"325\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/08\/Picture4.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10468\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Gwneud hysbysiadau yn fwy cywir a dibynadwy&nbsp;<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Blackboard wedi gwella dibynadwyedd ei system hysbysu trwy drwsio sawl peth a oedd o\u2019r blaen yn achosi hysbysiadau coll, rhai wedi\u2019u dyblygu neu wedi\u2019u camamseru.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Hyfforddwyr a myfyrwyr\u202f<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r gwelliannau yn cynnwys y canlynol:&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Dim ond ar gyfer y grwpiau y maent yn aelodau ohonynt mewn gwirionedd y mae myfyrwyr yn cael hysbysiadau yn rhybuddio am ddyddiadau cau sydd i ddod neu\u2019n hwyr.&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae hysbysiadau dyblyg wedi\u2019u dileu ar gyfer Trafodaethau Gr\u0175p sydd wedi\u2019u cop\u00efo.&nbsp;&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae hysbysiadau ar gyfer trafodaethau, blogiau, dyddlyfrau, a wikis bellach yn gweithio&#8217;n gywir ar \u00f4l cop\u00efo cynnwys y cwrs.&nbsp;&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae\u2019r e-byst sy\u2019n crynhoi negeseuon bellach yn cynnwys gwybodaeth am ddiweddariadau graddau a graddau wedi&#8217;u clirio.&nbsp;&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Nid yw\u2019r e-byst crynhoi sydd heb gyrraedd pen eu taith bellach yn dangos, yn anghywir, eu bod wedi cyrraedd.&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Dim ond ar \u00f4l y dyddiad dechrau a bennir y mae e-byst Cyhoeddiadau yn cael eu hanfon gan sicrhau nad yw myfyrwyr yn cael y negeseuon cyn i&#8217;r cynnwys fod ar gael.&nbsp;&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dylai&#8217;r newidiadau hyn leihau\u2019r llif o hysbysiadau diangen gan roi sicrwydd bod y rhybuddion a geir yn adlewyrchu&#8217;r hyn sy&#8217;n digwydd mewn cwrs.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Ychwanegu rheolyddion didoli ar gyfer defnyddwyr Trafodaethau&nbsp;&nbsp;<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r meysydd trafod bellach yn cynnwys rheolyddion didoli i helpu defnyddwyr i ymdrin \u00e2 sgyrsiau hir yn haws.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Hyfforddwyr a myfyrwyr\u202f<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall defnyddwyr nawr wneud y canlynol:&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Trefnu postiadau yn \u00f4l <strong>Y mwyaf newydd yn gyntaf<\/strong> neu <strong>Yr hynaf yn gyntaf<\/strong>.&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Dychwelyd at drafodaethau a\u2019u gweld yn yr un drefn a ddewiswyd o&#8217;r blaen.&nbsp;&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae didoli yn \u00f4l trefn yn berthnasol ym mhob rhan o\u2019r trafodaethau, gan gynnwys trywydd yr atebion, ac mae&#8217;n gweithio&#8217;n gyson ar ddyfeisiau symudol.&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae hyn yn ei gwneud hi&#8217;n haws dilyn trafodaethau gweithredol, adolygu cyfraniadau, a dod o hyd i weithgarwch diweddar.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Gwedd grid Llyfr Graddau wedi&#8217;i ailstrwythuro (Hyfforddwyr)&nbsp;<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Gwedd Grid y Llyfr Graddau wedi&#8217;i ailwampio i fod yn symlach i hyfforddwyr o ran graddio.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a href=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2026\/07\/30\/diweddariad-i-lyfr-graddau-blackboard-awst-2026\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Ceir erthygl ar wah\u00e2n gan Blackboard yn rhoi diweddariad mwy manwl ar y newidiadau hyn <\/a>, ond y nod cyffredinol yw gwneud tasgau graddio yn haws i&#8217;w rheoli trwy gynllun a llif gwaith cliriach.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Allforio banciau cwestiynau&nbsp;&nbsp;<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gellir allforio banciau cwestiynau yn uniongyrchol o Blackboard.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Hyfforddwyr<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">O&#8217;r dudalen rheoli banciau cwestiynau, gall hyfforddwyr allforio banc cwestiynau fel ffeil a&#8217;i gadw&#8217;n lleol.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae hyn yn galluogi staff i wneud y canlynol:&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Creu cop\u00efau wrth gefn o gynnwys asesiadau.&nbsp;&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Rhannu banciau cwestiynau gyda chydweithwyr.&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ailddefnyddio cynnwys ar draws sawl cwrs.&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r broses allforio yn rhoi mwy o hyblygrwydd i hyfforddwyr wrth reoli a chadw deunyddiau asesu.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"602\" height=\"239\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/08\/Picture5.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10469\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Dangos adborth ar lefel ateb ar gyfer opsiynau a ddewisir yn unig&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Blackboard wedi newid sut mae adborth yn cael ei arddangos ar gyfer cwestiynau amlddewis.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Hyfforddwyr<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid oes unrhyw newidiadau i&#8217;r ffordd y mae adborth yn cael ei greu.&nbsp; Gall staff barhau i ychwanegu adborth ar gyfer opsiynau ateb unigol gan ddefnyddio&#8217;r llif gwaith sy\u2019n bodoli eisoes.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>\u2060Myfyrwyr<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar \u00f4l cyflwyno ymgais ar asesiad, dim ond yr adborth ar gyfer yr opsiynau ateb a ddewiswyd ganddynt mae myfyrwyr bellach yn eu gweld.&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn flaenorol, gallai myfyrwyr weld adborth ar gyfer pob opsiwn.&nbsp; Mae&#8217;r dull newydd yn rhoi cyfarwyddyd mwy penodol ac yn atal myfyrwyr rhag gweld adborth sy&#8217;n gysylltiedig ag atebion nad oeddent wedi&#8217;u dewis.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae hyn yn sicrhau bod adborth yn parhau i gael ei dargedu a\u2019i fod yn berthnasol i ymatebion unigol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Llywio trwy gyrsiau&#8217;n gyflymach gyda rhyngwyneb defnyddiwr gwell&nbsp;<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Blackboard wedi parhau \u00e2&#8217;i waith i wella\u2019r llywio a phrofiad cyffredinol y defnyddiwr.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bwriad y newidiadau hyn yw:&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ei gwneud hi&#8217;n haws i ddeall lle rydych chi o fewn cwrs.&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Lleihau camgymeriadau llywio damweiniol.&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gwella cysondeb a pherfformiad.&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Helpu myfyrwyr i ganolbwyntio yn ystod asesiadau.&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019n bwysig nodi bod strwythurau a chynnwys y cwrs yn aros yr un peth, felly nid oes angen i hyfforddwyr ail-ddylunio unrhyw beth.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Llywio cynnwys tudalen lawn<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae modiwlau dysgu, ffolderi, dogfennau, asesiadau, cyfryngau, ac eitemau cynnwys eraill bellach yn agor fel tudalennau llawn yn hytrach nag mewn paneli troshaen.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae agor cynnwys mewn tudalen bwrpasol yn creu profiad mwy cyson ac yn ei gwneud hi&#8217;n haws i symud yn \u00f4l trwy ddeunyddiau\u2019r cwrs heb golli eich lle.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Delwedd 1:&nbsp;&nbsp; Mae&#8217;r cynnwys bellach yn agor fel tudalen lawn gyda phenawdau a llywio cyson, yn hytrach na phaneli troshaen wedi\u2019u pentyrru.&nbsp;<\/em>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1379\" height=\"718\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/08\/Picture6.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10470\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Briwsion bara i ddangos y cyd-destun<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae tudalennau cynnwys bellach yn cynnwys llywio gan ddefnyddio briwsion bara.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae briwsion bara yn dangos lle mae eitem wedi\u2019i osod o fewn strwythur y cwrs ac yn darparu mynediad cyflym yn \u00f4l i\u2019r ffolderi a\u2019r modiwlau gwreiddiol.&nbsp; Maent yn cael eu cynhyrchu&#8217;n awtomatig ac nid oes angen i hyfforddwyr gymryd camau i\u2019w sefydlu.&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r cyd-destun ychwanegol hwn yn helpu defnyddwyr i gadw golwg ar eu lleoliad o fewn y cwrs ac i symud o gwmpas yn fwy effeithlon.&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Delwedd 2:&nbsp; Dyma friwsion bara ar dudalen cynnwys sy\u2019n dangos lleoliad y defnyddiwr ac yn galluogi\u2019r defnyddiwr i&nbsp; symud yn \u00f4l yn gyflym trwy fodiwlau a ffolderi.<\/em>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1379\" height=\"234\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/08\/Picture7.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10471\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Ffordd gliriach, bwriadol i ddod allan o&#8217;r cynnwys<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r &#8220;X&#8221; porffor a ddefnyddiwyd o\u2019r blaen i adael y cynnwys wedi&#8217;i ddisodli gan opsiwn ymadael wedi&#8217;i labelu&#8217;n glir yn yr ardal llywio.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae sicrhau bod y dull rheoli ymadael yn fwy gweladwy a bwriadol yn helpu i leihau achosion o gau tudalennau yn ddamweiniol gan wneud llywio yn fwy rhagweladwy.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Delwedd 3:&nbsp; Mae&#8217;r opsiwn ymadael bellach yn rhan o\u2019r faner lywio, gan leihau achosion o adael ar ddamwain.&nbsp;<\/em>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"602\" height=\"177\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/08\/Picture8.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10472\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Cyflwr Ffocws ar gyfer profion ac aseiniadau (Myfyrwyr)<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Pan fydd myfyrwyr yn agor prawf neu aseiniad, mae Blackboard yn newid i gyflwr ffocws yn awtomatig.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r olwg hon yn lleihau ymyriadau gweledol trwy leihau\u2019r elfennau llywio nad ydynt yn hanfodol a chyflwyno sgrin asesu lanach.&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r nodwedd yn:&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Helpu myfyrwyr i ganolbwyntio ar asesiadau.&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Nid yw&#8217;n effeithio ar raddio nac ymarferoldeb.&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae\u2019n dal i adael i fyfyrwyr lywio i rywle arall os oes angen.&nbsp;&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Nid oes angen unrhyw weithredu gan hyfforddwyr.&nbsp;&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r cyflwr ffocws wedi ei alluogi&#8217;n awtomatig ac ni ellir ei ddiffodd.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Delwedd 4:&nbsp; Yn y cyflwr ffocws, mae llywio nad yw&#8217;n hanfodol yn cael ei leihau fel y gall myfyrwyr ganolbwyntio ar gwblhau\u2019r asesiad.&nbsp;<\/em>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1379\" height=\"731\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/08\/Picture9.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10473\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Gosod amodau rhyddhau yn seiliedig ar gyflwyniadau dyddlyfr&nbsp;<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gellir cysylltu amodau rhyddhau nawr \u00e2 chyflwyniadau dyddlyfr.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Hyfforddwyr<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wrth bennu amodau rhyddhau, gall hyfforddwyr ddewis gwneud statws cyflwyno dyddlyfr yn ofyniad.&nbsp;&nbsp; Unwaith y bydd myfyriwr yn cyflwyno\u2019r cofnod dyddlyfr gofynnol, mae&#8217;r cynnwys cysylltiedig ar gael yn awtomatig.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019n bwysig nodi, nid oes angen i hyfforddwyr raddio&#8217;r dyddlyfr cyn i\u2019r cynnwys gael ei ryddhau.&nbsp;&nbsp; Mae Blackboard yn cofnodi&#8217;r cyflwyniad fel un sydd wedi&#8217;i gwblhau gan ddefnyddio\u2019r broses olrhain cynnydd ac mae\u2019n defnyddio&#8217;r statws hwnnw i beri i\u2019r cynnwys gael ei ryddhau.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd wrth ddylunio llwybrau dysgu strwythuredig a gweithgareddau rhagofynnol.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Delwedd 1:&nbsp;&nbsp; Mae hyfforddwyr yn dewis Cyfrannu (Engagement) fel y gweithgaredd sy\u2019n ofynnol ar gyfer dyddlyfr.&nbsp;<\/em>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"602\" height=\"405\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/08\/Picture10.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10474\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>\u2060Myfyrwyr<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r myfyrwyr yn cael mynediad awtomatig at gynnwys newydd unwaith y byddant yn cyflwyno&#8217;r cofnod dyddlyfr sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2\u2019r amod rhyddhau.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid oes angen aros i\u2019r gwaith gael ei farcio neu am gymeradwyaeth yr hyfforddwr cyn symud ymlaen, gan greu profiad dysgu llyfnach a lleihau\u2019r oedi rhwng gweithgareddau.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn y diweddariad ym mis Awst, hoffem dynnu eich sylw at y gwelliannau Blackboard canlynol: \u202f&nbsp;&nbsp; Rheoli aelodaeth gr\u0175p drwy lusgo a gollwng&nbsp;&nbsp; Mae rheoli grwpiau bellach yn gyflymach diolch i nodweddion llusgo a gollwng newydd.&nbsp;&nbsp; Hyfforddwyr&nbsp; O&#8217;r ardal rheoli Grwpiau, gall hyfforddwyr nawr wneud y canlynol:&nbsp;&nbsp;&nbsp; Mae hyn yn ei gwneud hi&#8217;n llawer haws [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":108665,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[544,1200,1607],"tags":[1468,1306,1389,1237,1354],"class_list":["post-10476","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-blackboard-cy","category-diweddariadau-misol","category-ultra-en-cy","tag-adborth","tag-amodau-rhyddhau","tag-cwestiynau","tag-dogfennau","tag-llyfr-graddau"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-2IY","jetpack_featured_media_url":"","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10476","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/108665"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10476"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10476\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10480,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10476\/revisions\/10480"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10476"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10476"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10476"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}