{"id":10368,"date":"2026-07-03T10:15:19","date_gmt":"2026-07-03T09:15:19","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=10368"},"modified":"2026-07-03T10:15:20","modified_gmt":"2026-07-03T09:15:20","slug":"beth-syn-newydd-yn-blackboard-mis-gorffennaf-2026","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2026\/07\/03\/beth-syn-newydd-yn-blackboard-mis-gorffennaf-2026\/","title":{"rendered":"Beth sy&#8217;n Newydd yn\u00a0Blackboard\u00a0mis Gorffennaf 2026\u00a0\u00a0\u00a0"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn y diweddariad ym mis Gorffennaf, hoffem dynnu eich sylw at y gwelliannau&nbsp;Blackboard&nbsp;canlynol:&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ychwanegu cynnwys atodol at ffolderi a modiwlau dysgu yn y Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu\u00a0\u00a0<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ychwanegu disgrifiadau at Drafodaethau a Chyfnodolion\u00a0\u00a0<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Rhedeg Adroddiad Gwerthuso Cyfarwyddyd ar gyfer gweithgareddau wedi&#8217;u graddio\u00a0\u00a0<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Rheoli hyd Sgwrs DA gyda therfynau amser\u00a0\u00a0<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Dod o hyd i&#8217;ch hoff gyrsiau yn gyflymach gyda Newidydd Cwrs\u00a0\u00a0<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Ychwanegu cynnwys atodol at ffolderi a modiwlau dysgu yn y Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu&nbsp;<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall hyfforddwyr nawr ychwanegu eu cynnwys eu hunain at ffolderi a modiwlau dysgu a dynnwyd o&#8217;r Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu.&nbsp;O&#8217;r blaen, roedd y rhain wedi&#8217;u cloi &#8211; gallech eu gweld ond ni allech ychwanegu unrhyw beth.&nbsp;Nawr, gallwch ychwanegu eich deunyddiau cwrs penodol eich hun tra bod y cynnwys Cadwrfa Gwrthrychau Dysgu gwreiddiol yn aros dan glo ac yn dal i ddiweddaru ar draws cyrsiau.&nbsp;Mae eich ychwanegiadau yn gweithio fel cynnwys cwrs arferol, felly gallwch eu golygu, eu diweddaru neu eu dileu unrhyw bryd heb effeithio ar gyrsiau eraill.&nbsp;Bydd cynnwys y Gadwrfa bob amser yn aros ar y brig, ac mae unrhyw beth rydych chi&#8217;n ei ychwanegu yn ymddangos oddi tano &#8211; ni ellir ei symud o gwmpas o fewn y deunyddiau Cadwrfa gwreiddiol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Delwedd 1:&nbsp;Bydd y dudalen Cynnwys y Cwrs yn dangos modiwl dysgu a ychwanegwyd o&#8217;r Gadwrfa, gyda dogfen hyfforddwr ar y gwaelod.&nbsp;Mae gan eitemau sy&#8217;n eiddo i\u2019r Gadwrfa y label &#8220;Mae&#8217;r eitem hon yn cael ei rheoli gan eich sefydliad.&#8221;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"624\" height=\"422\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/07\/Image-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10362\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Ychwanegu disgrifiadau at Drafodaethau a Chyfnodolion&nbsp;<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gan Trafodaethau a Chyfnodolion faes Disgrifiad nawr, yn union fel cynnwys cwrs arall, sy&#8217;n gwneud popeth ar dudalen Cynnwys y Cwrs yn fwy cyson ac yn haws i&#8217;w sganio.&nbsp;Gall hyfforddwyr ddefnyddio&#8217;r maes dewisol hwn i roi cyd-destun cyflym neu osod disgwyliadau cyn i fyfyrwyr ddechrau gweithgaredd, tra&#8217;n sicrhau bod yr ysgogiad gwirioneddol yn canolbwyntio ar y dasg neu&#8217;r cwestiwn.&nbsp;Nid yw&#8217;r ysgogiad ei hun bellach yn ymddangos ar y brif dudalen cynnwys.&nbsp;I fyfyrwyr, mae hyn yn golygu y byddant yn gweld trosolwg clir, syml o beth yw pob Trafodaeth neu Gyfnodolyn cyn eu hagor, gan ei gwneud hi&#8217;n haws deall beth sy&#8217;n dod nesaf.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Llun 2:&nbsp;Gall hyfforddwyr ychwanegu disgrifiad yn y maes Disgrifiad ar gyfer Trafodaeth.<\/em>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1430\" height=\"714\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/07\/Image-2.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10363\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Rhedeg Adroddiad Gwerthuso Cyfarwyddyd ar gyfer gweithgareddau wedi&#8217;u graddio&nbsp;<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall hyfforddwyr nawr redeg Adroddiad Gwerthuso Cyfarwyddyd yn syth o&#8217;r llyfr graddau ar gyfer unrhyw weithgaredd graddedig sy&#8217;n defnyddio cyfarwyddyd.&nbsp;Mae&#8217;n tynnu data at ei gilydd o holl gyflwyniadau\u2019r myfyrwyr, gan roi golwg gyflym, glir ar gynnydd y myfyrwyr yn erbyn pob maen prawf.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I&#8217;w ddefnyddio, agorwch y llyfr graddau, dewch o hyd i golofn gyda chyfarwyddyd, a lansiwch yr adroddiad o&#8217;r ddewislen yn y wedd Grid neu Eitemau&nbsp;Graddadwy.&nbsp;Gallwch ei lawrlwytho fel PDF neu CSV.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae angen postio\u2019r marciau eisoes er mwyn gweld yr adroddiad.&nbsp;Os nad oes digon o ddata graddio wedi&#8217;i bostio eto, fe welwch neges yn rhoi gwybod i chi.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r adroddiad yn cynnwys trosolwg o&#8217;r aseiniad, sgoriau cyfartalog cyffredinol, dadansoddiad gweledol sy&#8217;n cymharu\u2019r pwyntiau posibl \u00e2\u2019r pwyntiau a gyflawnwyd, a thabl manwl sy&#8217;n dangos sut y perfformiodd myfyrwyr ar draws meini prawf, gan gynnwys ystadegau megis cyfartaledd, canolrif a gwyriad safonol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Rheoli hyd Sgwrs DA gyda therfynau amser&nbsp;&nbsp;<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall hyfforddwyr nawr reoli pa mor hir mae Sgyrsiau DA yn para trwy ychwanegu terfynau amser, gan wneud pethau ychydig yn fwy strwythuredig ac yn haws i&#8217;w rheoli.&nbsp;Mae dwy ffordd wahanol o wneud hyn, gan ddibynnu ar yr hyn rydych chi am ei amseru &#8211; y gweithgaredd cyfan neu dim ond yr elfen sgwrsio.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gan Sgwrs DA ddwy ran: y sgwrs ei hun a chwestiwn myfyrio sy&#8217;n dilyn.&nbsp;Gallwch naill ai osod terfyn amser ar gyfer yr asesiad cyfan (sy&#8217;n cynnwys y ddwy ran) neu dim ond ar gyfer y sgwrs.&nbsp;Mae&#8217;r amserydd asesiad llawn eisoes yn bodoli &#8211; os bydd yr amser yn rhedeg allan, mae naill ai&#8217;n cyflwyno&#8217;n awtomatig neu&#8217;n rhoi amser ychwanegol i fyfyrwyr, gan ddibynnu ar eich gosodiadau.&nbsp;Yr opsiwn newydd yw amserydd sgwrs yn unig, sy&#8217;n stopio&#8217;r sgwrs ar \u00f4l amser penodol ond nid yw&#8217;n cyfyngu ar amser myfyrwyr ar y cwestiwn myfyrio ar \u00f4l hynny.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ni allwch ddefnyddio&#8217;r ddau amserydd ar unwaith &#8211; mae&#8217;n rhaid defnyddio\u2019r naill neu&#8217;r llall.&nbsp;Os ydych chi&#8217;n troi un ymlaen, mae&#8217;r llall yn cael ei analluogi&#8217;n awtomatig.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">O fewn y cyfyngiadau sgwrsio, byddwch hefyd yn gweld dau reolaeth: terfyn neges (faint o atebion y gall myfyrwyr eu hanfon) a&#8217;r terfyn amser newydd.&nbsp;Gallwch ddefnyddio\u2019r naill neu\u2019r llall, y ddau, neu ddim un ohonynt.&nbsp;Noder: unwaith y bydd myfyriwr yn dechrau, mae&#8217;r terfyn amser wedi&#8217;i gloi i mewn.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Delwedd 3:&nbsp;Gallwch nawr osod terfyn amser ar gyfer naill ai sgwrs DA myfyriwr, neu eu myfyrdod ysgrifenedig ar \u00f4l y sgwrs.<\/em>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1430\" height=\"1223\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/07\/Image-3.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10364\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I fyfyrwyr, mae amserydd gweladwy yn eu helpu i gadw golwg ar amser.&nbsp;Mae lle mae&#8217;n ymddangos yn dibynnu ar yr amserydd a ddewisoch chi &#8211; naill ai y tu mewn i&#8217;r sgwrs neu ar frig yr asesiad cyfan.&nbsp;Os mai dim ond y sgwrs sy\u2019n cael ei amseru,&nbsp;gallant&nbsp;gwblhau&#8217;r cwestiwn myfyrio heb bwysau amser.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Delwedd 4:&nbsp;Gan ddibynnu ar osodiadau&#8217;r hyfforddwr, dangosir yr amserydd pan fydd myfyrwyr yn cwblhau eu sgwrs neu yn ystod eu myfyrdod.<\/em>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1430\" height=\"1191\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/07\/Image-4.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10365\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar y cyfan, mae hyn yn gwneud disgwyliadau&#8217;n gliriach, yn cefnogi anghenion hygyrchedd, ac yn rhoi mwy o hyblygrwydd i hyfforddwyr wrth ddylunio gweithgareddau sy&#8217;n seiliedig ar DA.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Dod o hyd i&#8217;ch hoff gyrsiau yn gyflymach gyda Newidydd Cwrs&nbsp;&nbsp;<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae dod o hyd i&#8217;ch hoff gyrsiau\u2019n haws nawr gyda\u2019r Newidydd Cwrs diweddaraf.&nbsp;Gallwch nawr weld eich holl hoff gyrsiau yno, felly does dim angen parhau i neidio yn \u00f4l i&#8217;r dudalen Cyrsiau.&nbsp;Mae hyn yn adeiladu ar ddiweddariadau diweddar megis chwilio a chyrsiau diweddar, gan ei gwneud hi&#8217;n gyflymach symud o gwmpas.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae tab Ffefrynnau newydd sy&#8217;n dangos yn awtomatig pa gyrsiau rydych chi wedi&#8217;u dewis fel eich ffefrynnau ar y brif dudalen Cyrsiau.&nbsp;Mae&#8217;n eistedd ochr yn ochr \u00e2 Diweddar a Chwilio, felly mae popeth mewn un lle.&nbsp;Ar y cyfan, mae&#8217;n ffordd symlach, gyflymach o neidio rhwng cyrsiau a gallwch ganolbwyntio heb y cliciau ychwanegol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Delwedd 5:&nbsp;Mae gan y Newidydd Cwrs bellach dab Ffefrynnau, sy&#8217;n eich galluogi i ychwanegu rhestr bersonol o gyrsiau a ddefnyddir yn aml.<\/em>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1040\" height=\"1109\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/files\/2026\/07\/Image-5.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10366\" \/><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn y diweddariad ym mis Gorffennaf, hoffem dynnu eich sylw at y gwelliannau&nbsp;Blackboard&nbsp;canlynol:&nbsp; Ychwanegu cynnwys atodol at ffolderi a modiwlau dysgu yn y Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu&nbsp; Gall hyfforddwyr nawr ychwanegu eu cynnwys eu hunain at ffolderi a modiwlau dysgu a dynnwyd o&#8217;r Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu.&nbsp;O&#8217;r blaen, roedd y rhain wedi&#8217;u cloi &#8211; gallech eu gweld [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":108665,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[544,1200],"tags":[1337,1350,1269,1442,1594,1464],"class_list":["post-10368","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-blackboard-cy","category-diweddariadau-misol","tag-cadwrfa-gwrthrychau-dysgu","tag-cyfarwyddyd-ansoddol","tag-graddau","tag-modiwlau-dysgu","tag-sgyrsiau","tag-terfynau-amser"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-2He","jetpack_featured_media_url":"","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10368","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/108665"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10368"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10368\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10369,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10368\/revisions\/10369"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10368"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10368"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10368"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}