{"id":10224,"date":"2026-04-10T09:56:08","date_gmt":"2026-04-10T08:56:08","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/?p=10224"},"modified":"2026-04-10T09:56:10","modified_gmt":"2026-04-10T08:56:10","slug":"croeso-daniel-bryant-cydlynydd-addysg-ddigidol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/cy\/2026\/04\/10\/croeso-daniel-bryant-cydlynydd-addysg-ddigidol\/","title":{"rendered":"Croeso, Daniel Bryant \u2013 Cydlynydd Addysg Ddigidol"},"content":{"rendered":"\n<p>Helo! Mae\u2019n braf cael cyflwyno fy hun yn fy nghyhoeddiad blog cyntaf yn fy r\u00f4l newydd. Dan ydw i, ac ymunais \u00e2\u2019r T\u00eem Addysg Ddigidol ar \u00f4l y Pasg fel Cydlynydd Addysg Ddigidol ran-amser. Rwy\u2019n gwneud y r\u00f4l ochr yn ochr \u00e2 fy ngradd PhD gyda\u2019r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.<\/p>\n\n\n\n<p>Symudais i Aberystwyth yn 2022 i ddechrau fy nghwrs ymchwil 1+3 yn y brifysgol. Ar \u00f4l gorffen y rhan hyfforddiant ymchwil o\u2019r cwrs, dechreuais fy PhD yn 2023 ar y pwnc \u2018llywodraethiant aml-lefel y maes polisi ail gartrefi\u2019. Yn fy nghyfnod fel myfyriwr ymchwil yma, rydw i hefyd wedi cael profiad defnyddiol iawn fel tiwtor seminar yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ac fel Tiwtor Sgiliau Astudio gyda Gwasanaethau Myfyrwyr.<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth i mi nes\u00e1u at ran olaf fy PhD, rwy\u2019n edrych ymlaen yn fawr at y r\u00f4l newydd gyffrous hon. Rwy\u2019n ddiolchgar iawn am yr holl gyfleoedd mae\u2019r brifysgol wedi\u2019u rhoi imi hyd yn hyn, ac rwy\u2019n frwdfrydig i gael cyfrannu at waith gwych y T\u00eem Addysg Ddigidol.<\/p>\n\n\n\n<p>Cyn symud i Aberystwyth, astudiais fy ngraddau blaenorol ym Mhrifysgol Caerdydd, cyn gweithio mewn ambell i rol yn y sector gwleidyddiaeth ym Mae Caerdydd. Rydw i o hyd yn talu sylw at wleidyddiaeth, felly byddaf yn cadw llygad barcud ar ymgyrch etholiad Senedd Cymru dros y mis nesaf!<\/p>\n\n\n\n<p>Y tu allan i wleidyddiaeth, mae gen i ddiddordeb mawr yn chwaraeon. Yn wreiddiol o Borth Tywyn yn Sir Gaerfyrddin, rwy\u2019n gefnogwr brwd o\u2019r Scarlets a chlwb p\u00eal-droed Abertawe. Rydw i hefyd yn mwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon fy hun, a dros yr haf byddaf yn defnyddio tirwedd hyfryd Ceredigion i helpu fi hyfforddi ar gyfer y nifer o driathlons rydw i wedi cofrestru amdano fel rhan o&#8217;r Gyfres Triathlon Cymru. Y llynedd, gwnes i hefyd penderfynu dychwelyd o ymddeoliad fy ngyrfa rygbi i ymuno \u00e2 chlwb rygbi Tregaron, lle rwy\u2019n chwarae fel cefnwr.<\/p>\n\n\n\n<p>Pan fydda i eisiau cymryd hoe fwy hamddenol o\u2019r gwaith, rydw i\u2019n mwynhau mynd am dro gyda fy mhartner i weld yr anifeiliaid fferm ger ein fflat yng Ngelli Angharad, neu fynd am dro ar hyd y prom yn Aberystwyth i fwyta hufen i\u00e2.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydw i\u2019n edrych ymlaen yn fawr at ddod i nabod mwy o staff a myfyrwyr ar draws y brifysgol dros yr wythnosau a\u2019r misoedd nesaf!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Helo! Mae\u2019n braf cael cyflwyno fy hun yn fy nghyhoeddiad blog cyntaf yn fy r\u00f4l newydd. Dan ydw i, ac ymunais \u00e2\u2019r T\u00eem Addysg Ddigidol ar \u00f4l y Pasg fel Cydlynydd Addysg Ddigidol ran-amser. Rwy\u2019n gwneud y r\u00f4l ochr yn ochr \u00e2 fy ngradd PhD gyda\u2019r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Symudais i Aberystwyth yn 2022 i [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":108665,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2}},"categories":[229],"tags":[],"class_list":["post-10224","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized-cy"],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p9XLJV-2EU","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10224","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/users\/108665"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10224"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10224\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10228,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10224\/revisions\/10228"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10224"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10224"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/e-learning\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10224"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}