Blackboard Ally

Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn falch o gyhoeddi bod y Wasanaethau Gwybodaeth wedi caffael Blackboard Ally fel rhan o’r symud i Blackboard Learn Ultra.

Mae Blackboard Ally yn integreiddio i’n hamgylchedd Blackboard Learn Ultra ac yn canolbwyntio ar wneud cynnwys digidol yn fwy hygyrch.

Ar gyfer cydweithwyr sy’n creu cynnwys, bydd modd i chi newid hygyrchedd eich cynnwys. Mae hyn yn golygu y bydd eich cynnwys yn fwy hygyrch i dechnolegau cynorthwyol, megis darllenwyr sgrin.

Mantais arall Blackboard Ally yw y gellir lawrlwytho cynnwys mewn sawl fformat. Mae hyn yn golygu y gellir trosi eich nodiadau darlith, PowerPoint a dogfennau eraill i lawer o fformatau gwahanol, gan gynnwys:

  • Darllenwyr ymgolli
  • Ffeiliau sain
  • Braille electronig

Nid oes angen gwneud unrhyw beth i alluogi Ally ar eich cwrs. Bydd yn cael ei alluogi’n awtomatig ddydd Llun 11 Medi ar Gyrsiau 2023-24 ymlaen a Mudiadau.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am greu deunyddiau dysgu hygyrch, edrychwch ar ein hadnoddau.

Am fwy o wybodaeth am ddefnyddio Blackboard Ally, edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin i staff neu fyfyrwyr.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*