{"id":750,"date":"2022-12-12T11:30:00","date_gmt":"2022-12-12T11:30:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/?p=750"},"modified":"2022-12-12T09:48:27","modified_gmt":"2022-12-12T09:48:27","slug":"adolygiad-myfyriwr-o-linkedin-learning","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/cy\/2022\/12\/12\/adolygiad-myfyriwr-o-linkedin-learning\/","title":{"rendered":"Fy adolygiad o LinkedIn Learning"},"content":{"rendered":"\n<p><em><strong>Yn y blogpost hyn, mae Jeffrey Clark, un o Bencampwr Digidol Myfyrwyr ein t\u00eem, yn darparu ei adolygiad o LinkedIn Learning<\/strong><\/em><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"241\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/ddt-training-ba_59737571-1024x241.png\" alt=\"Banner with Student Digital Champion\" class=\"wp-image-436\" srcset=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/ddt-training-ba_59737571-1024x241.png 1024w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/ddt-training-ba_59737571-300x71.png 300w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/ddt-training-ba_59737571-768x181.png 768w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/ddt-training-ba_59737571-1536x362.png 1536w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/ddt-training-ba_59737571-2048x482.png 2048w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/ddt-training-ba_59737571-712x168.png 712w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">LinkedIn Learning: Cyflwyniad<\/h2>\n\n\n\n<p>Ym Mhrifysgol Aberystwyth mae digonedd o lyfrau a deunyddiau dysgu i gael eich dannedd ynddyn nhw. Ond beth am pan fyddwch chi yn rhywle arall? Neu os ydych chi am archwilio pynciau eraill sy\u2019n denu eich sylw ond dydych chi ddim yn gwybod ble i ddechrau? \u00a0Sefydlwyd <strong><a href=\"https:\/\/linkedinlearning.aber.ac.uk\/\">LinkedIn Learning<\/a> <\/strong>yn 1995 fel Lynda.com, ac mae\u2019n llwyfan dysgu ar-lein gyda miloedd o gyrsiau i ddewis o\u2019u plith. Mae\u2019r cyrsiau wedi\u2019u cynllunio gan weithwyr diwydiant proffesiynol ac arbenigwyr credadwy mewn meysydd yn amrywio o astudiaethau busnes i lesiant personol. Er bod angen talu am danysgrifiad ar gyfer defnyddio\u2019r gwasanaeth fel arfer, mae myfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth yn gallu mwynhau<strong> LinkedIn Learning am ddim<\/strong> ar unrhyw ddyfais!<\/p>\n\n\n\n<!--more-->\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Fy mhrofiad i gyda LinkedIn Learning<\/h2>\n\n\n\n<p>Cyn i mi ddod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, doeddwn i ddim wedi clywed am LinkedIn Learning. Fel myfyriwr Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, roeddwn i\u2019n cael trafferth gyda fy aseiniadau blwyddyn gyntaf. Roedd llawer o\u2019r aseiniadau\u2019n colli marciau oherwydd gwallau gramadeg, cyfeirnodi gwael a strwythur anwastad i ddadleuon fy nhraethawd. Ambell waith doedd gen i ddim ffordd o gysylltu \u00e2 fy narlithwyr am gymorth, a dydyn nhw ddim ar gael 24\/7, felly edrychais yn rhywle arall. Dyna pryd y des i ar draws LinkedIn Learning ac mae wedi bod yn ased amhrisiadwy i fy astudiaethau dros y flwyddyn ddiwethaf. Ar LinkedIn Learning des i ar draws sawl cwrs yn cwmpasu <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/learning\/grammar-girl-s-quick-and-dirty-tips-for-better-writing\/quick-and-dirty-tips-for-better-writing?autoplay=true&amp;u=107524890\"><strong>gramadeg<\/strong><\/a>, <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/learning\/editing-mastery-how-to-edit-writing-to-perfection\/what-is-deep-editing-2?autoplay=true&amp;u=107524890\"><strong>golygu<\/strong><\/a>, a <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/learning\/a-crash-course-in-writing-well-learn-to-write-with-more-style-flair-and-impact\/how-to-quickly-become-an-exceptional-writer?autoplay=true&amp;u=107524890\"><strong>sut i ysgrifennu gyda mwy o effaith<\/strong><\/a>. Mae\u2019r cyrsiau hyn wedi bod o fudd enfawr i mi gan fy mod wedi gweld fy ngraddau\u2019n cynyddu\u2019n raddol, ond mae hefyd wedi dileu straen wrth olygu aseiniadau.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal \u00e2\u2019r cyrsiau hyn sydd wedi fy helpu\u2019n benodol gyda fy ngwaith academaidd, rwyf i hefyd wedi defnyddio\u2019r ystod o gyrsiau anacademaidd o LinkedIn Learning. Enghraifft o un cwrs sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn yw cwrs Dr Srini Pillay ar <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/learning-login\/share?account=107524890&amp;forceAccount=false&amp;redirect=https%3A%2F%2Fwww.linkedin.com%2Flearning%2Fmanaging-depression-in-the-workplace%3Ftrk%3Dshare_ent_url%26shareId%3DN7gHWU7FTT%252B37yseqmi2ag%253D%253D\"><strong>Reoli Iselder yn y Gweithle<\/strong><\/a><strong><u>. <\/u><\/strong>Mae\u2019r cwrs hwn wedi fy helpu i gael llawer mwy o ddyddiau cynhyrchiol wrth weithio yn fy swyddi rhan amser ac yn ystod fy seminarau. Edrychwch ar y casgliad hwn o <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/learning-login\/share?account=107524890&amp;forceAccount=true&amp;redirect=https%3A%2F%2Fwww%2Elinkedin%2Ecom%2Flearning%2Fcollections%2Fenterprise%2F1%7EAAAAAAZosxo%3D1360104%3FshareId=9750d894-265a-4766-be2b-3ac67ecc59e0\"><strong>Weithgareddau allgyrsiol i fyfyrwyr<\/strong><\/a><strong><u> <\/u><\/strong>a gynhyrchwyd gan Laurie, fy nghyd Bencampwr Digidol Myfyrwyr, i weld yr amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Sut mae\u2019n gweithio?<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae LinkedIn Learning yn debyg i YouTube yn y ffordd mae wedi\u2019i osod. Chwiliwch am bwnc a bydd LinkedIn Learning yn darparu cyrsiau, fideos unigol a llwybrau dysgu ar eich dewis bwnc.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae <strong>cwrs<\/strong> ar LinkedIn Learning yn gasgliad o fideos yn seiliedig ar bwnc penodol dan arweiniad gweithiwr diwydiant proffesiynol neu arbenigwr pwnc. Er enghraifft caiff y cwrs <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/learning\/grammar-foundations\/welcome?autoplay=true&amp;resume=false&amp;u=107524890\"><strong>Grammar Foundations<\/strong><\/a> ei redeg gan Judy Steiner-Williams sy\u2019n Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Fusnes Kelley. Rhennir y cyrsiau\u2019n benodau ac fel arfer ceir cwis penodau ar y diwedd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/12\/Jeffrey-lil-blog.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-746\" width=\"732\" height=\"434\" srcset=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/12\/Jeffrey-lil-blog.png 602w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/12\/Jeffrey-lil-blog-300x178.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 732px) 100vw, 732px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\"><strong><em>Dyma beth mae cwrs yn edrych fel yn y platfform<\/em><\/strong><\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Caiff eich cynnydd ei gadw wrth i chi fynd drwy\u2019r cwrs, sy\u2019n gadael i chi ailafael yn y lle y gorffennoch chi. Mae llawer o gyrsiau hefyd yn gadael i chi ennill tystysgrif cyflawni ar \u00f4l i chi eu gorffen. Gellir arddangos y tystysgrifau hyn ar eich proffil LinkedIn personol, sy\u2019n golygu y gall unrhyw ddarpar gyflogwyr eu gweld wrth edrych ar eich proffil!<\/p>\n\n\n\n<p>Mae <strong>llwybrau dysgu<\/strong> fel cyrsiau ond yn cynnwys mwy o ddyfnder ar bwnc penodol gyda fideos a chyrsiau niferus gan wahanol arbenigwyr. Cewch eich annog hefyd i wylio cynnwys unrhyw lwybr dysgu mewn trefn benodol. Fel cyrsiau, gallwch hefyd gael tystysgrif am gwblhau llwybrau dysgu.<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych chi\u2019n dymuno cadw cynnwys oedd yn arbennig o ddefnyddiol, neu yr hoffech ei wylio ar adeg arall, gallwch greu <strong>casgliadau<\/strong> fydd ddim ond yn weladwy i chi, yn debyg i wneud rhestr chwarae ar YouTube. Gall casgliadau gynnwys cyrsiau, llwybrau dysgu a fideos unigol ac maen nhw\u2019n ffordd wych i drefnu deunyddiau am bwnc.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"688\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/12\/Jeffrey-lil-blog-2-1024x688.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-747\" srcset=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/12\/Jeffrey-lil-blog-2-1024x688.png 1024w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/12\/Jeffrey-lil-blog-2-300x202.png 300w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/12\/Jeffrey-lil-blog-2-768x516.png 768w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/12\/Jeffrey-lil-blog-2-712x478.png 712w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/12\/Jeffrey-lil-blog-2.png 1344w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\"><strong><em>Casgliad yn LinkedIn Learning<\/em><\/strong><\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Hefyd gallwch osod nod wythnosol i chi eich hun i helpu i sicrhau eich bod ar y llwybr cywir gyda\u2019ch dysgu. Drwy osod nodau, bydd LinkedIn Learning yn anfon hysbysiadau personol i\u2019ch atgoffa.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"491\" height=\"171\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/12\/Jeffrey-lil-blog-3.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-748\" srcset=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/12\/Jeffrey-lil-blog-3.png 491w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/12\/Jeffrey-lil-blog-3-300x104.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 491px) 100vw, 491px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Y da a\u2019r drwg<\/h2>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group\"><div class=\"wp-block-group__inner-container is-layout-constrained wp-block-group-is-layout-constrained\">\n<p><strong>Y da:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae gan LinkedIn Learning LAWER o gynnwys. Yn bwysicach, mae\u2019n gynnwys sy\u2019n cael ei greu\u2019n broffesiynol felly fyddwch chi ddim yn gwastraffu eich amser.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae natur ar-alw\u2019r cyrsiau yn eich annog i ddysgu\u2019r hyn rydych chi\u2019n dymuno ar adeg o\u2019ch dewis chi.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019n hawdd ei ddefnyddio gyda rhyngwyneb greddfol sy\u2019n gadael i chi drefnu cynnwys, er enghraifft greu eich casgliadau eich hun.<\/li>\n\n\n\n<li>Ceir pwyslais ar ddysgu pwrpasol sy\u2019n anhygoel o ddefnyddiol gan ei fod yn rhoi llif cyson o gynnwys perthnasol i ddefnyddwyr.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019n llwyfan gwych i ddysgu sgiliau newydd!<\/li>\n<\/ul>\n<\/div><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group\"><div class=\"wp-block-group__inner-container is-layout-constrained wp-block-group-is-layout-constrained\">\n<p><strong>Ond dyw LinkedIn Learning ddim yn gwbl ddi-fai.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gall fod yn anodd dod o hyd i gyrsiau ar bynciau academaidd penodol. Fel y byddech yn disgwyl, dyw cyrsiau LinkedIn Learning ddim yn cynnwys yr un manylder o wybodaeth \u00e2 modiwl prifysgol nodweddiadol. Fodd bynnag bydd y llwyfan yn eich helpu i ddatblygu sgiliau i gefnogi eich gwaith yn y brifysgol, ac yn datblygu sgiliau defnyddiol newydd.<\/li>\n\n\n\n<li>Does dim un o gyrsiau LinkedIn Learning ar gael yn Gymraeg. Fodd bynnag mae cynnwys gan lyfrgell <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/learning\/browse\/urn:li:enterpriseAccount:107524890?u=107524890\"><strong>Prifysgol Aberystwyth<\/strong><\/a> sydd wedi\u2019i guradu gan staff a myfyrwyr yn y brifysgol, a gall y rhain gynnwys fideos dwyieithog.<\/li>\n<\/ul>\n<\/div><\/div>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Gwnewch ddefnydd o\u2019ch cyfrif heddiw!<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae LinkedIn Learning <strong>ar gael am ddim<\/strong> i holl fyfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth. Fel arfer byddai\u2019r gwasanaeth hwn yn golygu bod rhaid i chi gael tanysgrifiad a thalu ffi fisol. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ewch i\u2019n tudalen gwe ar <strong><a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/is\/library-services\/digital-capabilities\/linkedin-learning\/\">LinkedIn Learning<\/a> <\/strong>am wybodaeth am fanteisio ar gannoedd o gyrsiau proffesiynol i gyfoethogi eich dysgu!<\/p>\n\n\n\n<p>Ac yn olaf os byddwch chi\u2019n <strong><a href=\"https:\/\/linkedinlearning.aber.ac.uk\/\">rhoi eich cyfrif<\/a> <\/strong>ar waith\u202fcyn <strong>6 Ionawr 2023,<\/strong> cewch eich gosod yn awtomatig mewn raffl lle bydd cyfle i chi ennill un o dair taleb \u00a320!\u202f<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn y blogpost hyn, mae Jeffrey Clark, un o Bencampwr Digidol Myfyrwyr ein t\u00eem, yn darparu ei adolygiad o LinkedIn Learning LinkedIn Learning: Cyflwyniad Ym Mhrifysgol Aberystwyth mae digonedd o lyfrau a deunyddiau dysgu i gael eich dannedd ynddyn nhw. Ond beth am pan fyddwch chi yn rhywle arall? Neu os ydych chi am archwilio [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":76425,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[24,107],"tags":[],"class_list":["post-750","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-linkedin-learning-2","category-pencampwyr-digidol-myfyrwyr"],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_likes_enabled":true,"jetpack_sharing_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/750","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/users\/76425"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=750"}],"version-history":[{"count":12,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/750\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":793,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/750\/revisions\/793"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=750"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=750"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=750"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}