{"id":491,"date":"2022-10-20T12:53:12","date_gmt":"2022-10-20T11:53:12","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/?p=491"},"modified":"2022-11-02T09:51:58","modified_gmt":"2022-11-02T09:51:58","slug":"awgrymiadau-da-a-thechnoleg-i-gefnogi-myfyrwyr-syn-bywn-annibynnol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/cy\/2022\/10\/20\/awgrymiadau-da-a-thechnoleg-i-gefnogi-myfyrwyr-syn-bywn-annibynnol\/","title":{"rendered":"Awgrymiadau Da a Thechnoleg i Gefnogi Myfyrwyr sy\u2019n Byw&#8217;n Annibynnol"},"content":{"rendered":"\n<p><strong><em>Post Blog gan Urvashi Verma (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"241\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/ddt-training-ba_59737571-1024x241.png\" alt=\"Banner with Student Digital Champion\" class=\"wp-image-436\" srcset=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/ddt-training-ba_59737571-1024x241.png 1024w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/ddt-training-ba_59737571-300x71.png 300w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/ddt-training-ba_59737571-768x181.png 768w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/ddt-training-ba_59737571-1536x362.png 1536w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/ddt-training-ba_59737571-2048x482.png 2048w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/ddt-training-ba_59737571-712x168.png 712w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Wrth i\u2019r Wythnos Groeso ddod i ben yn ddiweddar, gobeithio bod pawb wedi ymgyfarwyddo \u00e2\u2019u hamserlenni newydd. Mae hyn yn golygu newid arferion a ffordd o fyw i gyd-fynd ag amserlen y brifysgol. I fyfyriwr sy&#8217;n byw yn annibynnol am y tro cyntaf, gall y newidiadau hyn fod yn anoddach fyth. O reoli arian i fyw gyda phobl newydd, nid yw bob amser yn chwarae plant. Er enghraifft, pan ddechreuais i fyw yn annibynnol am y tro cyntaf, fe wnes i droi fy holl ddillad gwyn yn binc llachar!<\/p>\n\n\n\n<p>Drwy\u2019r post blog hwn, rydw i\u2019n mynd i rannu gyda chi awgrymiadau defnyddiol o fy mhrofiadau fy hun, ac yn enwedig yr apiau a thechnolegau gwahanol sydd wedi fy helpu i deimlo\u2019n fwy cyfforddus yn byw\u2019n annibynnol.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cael digon o gwsg<\/h2>\n\n\n\n<p>Gall sicrhau eich bod chi\u2019n cael digon o gwsg tra hefyd yn jyglo eich bywyd rhwng dosbarthiadau, aseiniadau a gwaith beri straen mawr ar y dechrau a gall gymryd rhywfaint o amser i ddod i arfer \u00e2 hyn. Ceisiwch gynnal cylch cysgu gyson drwy fynd i gysgu ar yr un amser bob nos.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Technoleg: <\/strong>Byddwn yn argymell ap am ddim o&#8217;r enw <a href=\"https:\/\/play.google.com\/store\/apps\/details?id=com.northcube.sleepcycle&amp;hl=en_GB&amp;gl=US\"><strong>Sleep Cycle: Sleep Recorded<\/strong><\/a>. Bydd yr ap hwn yn eich helpu i gofnodi eich patrwm cysgu, a gallwch ei ddefnyddio i&#8217;ch deffro ar yr adeg gywir yn unig drwy ddefnyddio cloc larwm deallus.<\/p>\n\n\n\n<!--more Darllen mwy-->\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Olrhain eich gwariant<\/h2>\n\n\n\n<p>Gwnewch restr gyllideb ar gyfer yr holl gostau ac yna eu categoreiddio i bethau hanfodol a phethau nad ydynt yn hanfodol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Technoleg: <\/strong>Rhowch gynnig ar <a href=\"https:\/\/play.google.com\/store\/apps\/details?id=com.lumio.app.uk&amp;hl=en_GB&amp;gl=US\"><strong>Lumio<\/strong><\/a>, ap a fydd yn eich helpu i ychwanegu eich holl gyfrifon ariannol a bydd hefyd yn eich helpu i gadw golwg ar eich gwariant.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cynlluniwch eich dyddiau<\/h2>\n\n\n\n<p>Bydd gwella eich sgiliau rheolaeth amser o gymorth mawr i chi yn eich bywydau yn gyffredinol, ac nid yn unig drwy gydol eich amser yn y brifysgol. Mae\u2019n bwysig eich bod chi\u2019n blaenoriaethu eich gwaith, gan sicrhau hefyd eich bod yn caniat\u00e1u digon o amser i gwblhau tasgau gwahanol. Pan mae\u2019n dod i wneud y tasgau mwy diflas fel golchi\u2019r llestri, mynd \u00e2\u2019r sbwriel allan, ceisiwch beidio ag oedi, a chadwch yr ymadrodd &#8220;nawr nid wedyn&#8221; ar flaen eich meddwl!<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Technoleg: <\/strong>Gall ap am ddim o&#8217;r enw <a href=\"https:\/\/play.google.com\/store\/apps\/details?id=me.clockify.android&amp;hl=en_GB&amp;gl=US\"><strong>Clockify<\/strong><\/a> eich helpu i gadw golwg ar faint o amser rydych chi&#8217;n ei wario ar wahanol dasgau drwy gydol y dydd. Neu gallech hefyd ddefnyddio&#8217;ch Calendr yn eich <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/en\/is\/it-services\/teams\/\">app Microsoft Teams<\/a> (y bydd gennych fynediad ato drwy eich e-bost a chyfrinair PA) i&#8217;ch helpu i gynllunio&#8217;ch diwrnod yn well.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/Calendr.png\" alt=\"Screenshot of MS Teams calendar showing how it can be used to plan your days\" class=\"wp-image-488\" width=\"342\" height=\"559\" srcset=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/Calendr.png 500w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/Calendr-183x300.png 183w\" sizes=\"auto, (max-width: 342px) 100vw, 342px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cael digon o Ymarfer Corff<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n hanfodol eich bod chi\u2019n gofalu am eich lles meddyliol a chorfforol tra eich bod yn y brifysgol. Gall fynd am dro byr hyd yn oed eich helpu i gael ymarfer corff a hefyd i glirio\u2019ch pen. Gallwch chi hefyd wneud defnydd o\u2019r cyfleusterau gwych sydd gan <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/sportscentre\/\">Ganolfan Chwaraeon<\/a> y Brifysgol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Technoleg: <\/strong>Gall yr ap <a href=\"https:\/\/play.google.com\/store\/apps\/details?id=com.trainerize.fitnet&amp;hl=en_GB&amp;gl=US\"><strong>Fitnet<\/strong><\/a><strong> <\/strong>helpu i&#8217;ch ysgogi i wneud ymarfer corff drwy ddarparu dros 200 o fideos ymarfer corff am ddim i chi.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cadw llygaid ar eich defnydd o ynni<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae diffodd goleuadau nid yn unig yn dda i&#8217;r amgylchedd, ond mae hefyd yn helpu i gwtogi&#8217;r biliau. Fel myfyriwr annibynnol sy&#8217;n talu eich biliau eich hun, dylai lleihau ynni fod yn un o\u2019ch prif flaenoriaethau.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Technoleg: <\/strong>Mae\u2019n werth gweld os oes gan eich darparwr ynni ap ar gyfer eu defnyddwyr, e.e. <a href=\"https:\/\/play.google.com\/store\/apps\/details?id=com.edf.mobile&amp;hl=en_GB&amp;gl=US\"><strong>Ap EDF Energy<\/strong><\/a>, <a href=\"https:\/\/play.google.com\/store\/apps\/details?id=energy.octopus.octopusenergy.android&amp;hl=en_GB&amp;gl=GB\"><strong>Ap Octopus Energy<\/strong><\/a><strong>. <\/strong>Bydd yr apiau hyn yn aml yn gadael i chi weld eich hanes bilio a byddwch yn gallu gweld darlleniadau plot ar gyfer eich defnydd o ynni.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Dysgu sut i goginio<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae coginio yn sgil gwerthfawr a bydd dysgu ei wneud nawr yn bendant o gymorth mawr i chi yn y tymor hir. Fel myfyriwr, gallech arbed arian a bwyta bwyd maethlon drwy goginio eich hun.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Technoleg: <\/strong>Mae sawl fideo ar <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/\">YouTube<\/a> neu <a href=\"https:\/\/linkedinlearning.aber.ac.uk\/\">LinkedIn Learning<\/a> a fydd yn eich helpu i wella eisiau sgiliau coginio, a byddant hefyd yn darparu amryw awgrymiadau fel sut i gymryd llai o amser i gynhyrchu gwahanol brydau.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Gosod rota gyda&#8217;ch cyd-letywyr<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae byw gyda nifer o bobl yn gallu bod yn hectig a gall arwain at anghytuno o ran tasgau yn eich llety. Fel myfyriwr yn Aberystwyth, roedd fy nghyd-letywyr a minnau\u2019n dilyn rota a oedd yn helpu i gadw&#8217;r fflat yn l\u00e2n. Er efallai nad oes gan bawb yr un safonau glanhau, mae rota yn rhoi cyfrifoldeb i bawb.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Technoleg: <\/strong>Ap yr oedd fy nghyd-letywyr a minnau&#8217;n defnyddio llawer ohono oedd <a href=\"https:\/\/play.google.com\/store\/apps\/details?id=notion.id&amp;hl=en_GB&amp;gl=US\"><strong>Notion<\/strong><\/a>. Mae\u2019n cylchdroi tasgau yn y cartref pob wythnos, a gallwch nodi yn yr ap unwaith fydd tasgau wedi cael eu cwblhau.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Rwy&#8217;n gobeithio y bydd yr awgrymiadau hyn yn eich helpu i deimlo&#8217;n fwy hyderus yn byw&#8217;n annibynnol drwy gydol y flwyddyn. Gallwch hefyd edrych ar fy <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/learning-login\/share?account=107524890&amp;forceAccount=true&amp;redirect=https%3A%2F%2Fwww%2Elinkedin%2Ecom%2Flearning%2Fcollections%2Fenterprise%2F1%7EAAAAAAZosxo%3D1370011%3FshareId=45ad6f73-98e8-47e4-9593-aaf2261de381\">nghasgliad LinkedIn Learning newydd<\/a> a fydd yn rhoi fideos a chyrsiau byr i chi sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2&#8217;r nifer o\u2019r awgrymiadau uchod.<\/strong><\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full is-resized\"><a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/learning\/collections\/enterprise\/1~AAAAAAZosxo=1370011?u=107524890\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/006.png\" alt=\"Screenshot of LinkedIn Learning collection cover\" class=\"wp-image-495\" width=\"400\" height=\"225\" srcset=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/006.png 1024w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/006-300x169.png 300w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/006-768x432.png 768w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/006-712x401.png 712w\" sizes=\"auto, (max-width: 400px) 100vw, 400px\" \/><\/a><\/figure>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Post Blog gan Urvashi Verma (Pencampwr Digidol Myfyrwyr) Wrth i\u2019r Wythnos Groeso ddod i ben yn ddiweddar, gobeithio bod pawb wedi ymgyfarwyddo \u00e2\u2019u hamserlenni newydd. Mae hyn yn golygu newid arferion a ffordd o fyw i gyd-fynd ag amserlen y brifysgol. I fyfyriwr sy&#8217;n byw yn annibynnol am y tro cyntaf, gall y newidiadau hyn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":74253,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[37,24,107],"tags":[],"class_list":["post-491","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-hunaniaeth-lles-digidol","category-linkedin-learning-2","category-pencampwyr-digidol-myfyrwyr"],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_likes_enabled":true,"jetpack_sharing_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/491","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/users\/74253"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=491"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/491\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":566,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/491\/revisions\/566"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=491"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=491"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=491"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}