{"id":459,"date":"2022-10-05T13:39:39","date_gmt":"2022-10-05T12:39:39","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/?p=459"},"modified":"2022-12-14T08:55:56","modified_gmt":"2022-12-14T08:55:56","slug":"cadwn-ddiogel-ar-lein-gwybodaeth-sylfaenol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/cy\/2022\/10\/05\/cadwn-ddiogel-ar-lein-gwybodaeth-sylfaenol\/","title":{"rendered":"Cadw&#8217;n Ddiogel Ar-lein:\u00a0Gwybodaeth Sylfaenol"},"content":{"rendered":"\n<p><strong><em>Post Blog gan Jeffrey Clark (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"241\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/ddt-training-ba_59737571-1024x241.png\" alt=\"Banner with Student Digital Champion\" class=\"wp-image-436\" srcset=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/ddt-training-ba_59737571-1024x241.png 1024w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/ddt-training-ba_59737571-300x71.png 300w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/ddt-training-ba_59737571-768x181.png 768w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/ddt-training-ba_59737571-1536x362.png 1536w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/ddt-training-ba_59737571-2048x482.png 2048w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/ddt-training-ba_59737571-712x168.png 712w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\"><strong>Peryglon y Rhyngrwyd<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p style=\"font-size:16px\">Does dim dwywaith nad yw&#8217;r Rhyngrwyd yn rhan o&#8217;n bywydau bob dydd. O&#8217;n swyddi i&#8217;r cyfryngau cymdeithasol, mae llawer ohonom wedi ein cysylltu \u00e2\u2019r we mewn rhyw ffurf neu&#8217;i gilydd. Am ei fod mor gyffredin, mae&#8217;n hawdd ei ddefnyddio mewn ffordd hamddenol a diofal. Gall fod yn hawdd anghofio y gall ein cyswllt \u00e2&#8217;r Rhyngrwyd fod yn gwneud niwed i&#8217;n diogelwch ar-lein ac oddi ar-lein. Wrth i dechnoleg a defnydd o&#8217;r rhyngrwyd ddatblygu i&#8217;r fath raddau, daw&#8217;r peryglon i\u2019ch diogelwch hefyd yn fwy soffistigedig. Bydd y blog-bost hwn yn edrych ar rai ffyrdd o gadw&#8217;n ddiogel ar-lein gartref neu ym Mhrifysgol Aberystwyth.<\/p>\n\n\n\n<!--more DARLLEN MWY-->\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\"><strong>Eich \u00d4l Troed Digidol<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p style=\"font-size:16px\">Mae defnyddio&#8217;r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd wych o gysylltu \u00e2&#8217;ch ffrindiau a&#8217;ch teulu. Fodd bynnag, mae&#8217;n bwysig cofio hefyd bod y cyfryngau cymdeithasol yn rhan allweddol o ffurfio eich \u00f4l troed digidol. Mae eich \u00f4l troed digidol yn cyfeirio at weithgareddau ar y rhyngrwyd sy&#8217;n ei gwneud yn bosib i&#8217;ch adnabod. Mae dau brif fath o \u00f4l troed digidol, y cyntaf yw eich \u00f4l troed gweithredol, sy&#8217;n adnabod y data rydych yn <strong><u>ei adael ar-lein yn fwriadol<\/u>.<\/strong> Mae gweithredoedd fel uwch-lwytho hunlun a phostio rhywbeth gan ddefnyddio eich enw go iawn yn cyfrannu at eich \u00f4l troed digidol gweithredol. Mae&#8217;n bwysig cofio, hyd yn oed os byddwch chi&#8217;n dileu rhywbeth rydych chi wedi&#8217;i bostio ar y cyfryngau cymdeithasol, nid yw byth yn diflannu\u2019n gyfan gwbl. Un o&#8217;r ffyrdd gorau o gadw&#8217;n ddiogel ar-lein yw osgoi &#8216;rhannu gormod&#8217;. Meddyliwch fel hyn, a fyddech chi&#8217;n rhannu rhif eich cerdyn debyd \u00e2 dieithryn? Eich cyfeiriad? Na fyddech yn bendant! Ffordd effeithiol o gofio peidio \u00e2 rhannu gormod yw gofyn &#8216;a fyddwn i&#8217;n gyfforddus yn rhoi&#8217;r wybodaeth hon i ddieithryn?&#8217;<\/p>\n\n\n\n<p style=\"font-size:16px\">Ar y llaw arall, mae gennych chi \u00f4l troed digidol goddefol, sef data rydych chi&#8217;n \u00a0<strong>ei adael ar \u00f4l yn anfwriadol<\/strong>. Y ffurf fwyaf cyffredin ar y data hwn yw cwcis, sef blociau bach o ddata sy&#8217;n adnabod eich arferion pori. Mae&#8217;r blociau data hyn yn golygu bod modd i gwmn\u00efau osod hysbysebion sydd wedi&#8217;u teilwra ar eich cyfer chi ar y gwefannau rydych chi&#8217;n ymweld \u00e2 nhw. Er bod y data hwn fel arfer yn ddiniwed, gall ddatgelu gwybodaeth breifat amdanoch chi os ydych chi&#8217;n rhannu&#8217;ch cyfrifiadur ag unrhyw un arall. Mae llawer o wefannau bellach yn gofyn a ydych am alluogi cwcis. Argymhellir eich bod yn eu hanalluogi os ydych yn rhannu cyfrifiadur neu&#8217;n darlledu cynnwys eich porwr i gynulleidfa (fel mewn cyfarfod Microsoft Teams neu ffrwd fyw.)<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\"><strong>Safonau Ymddygiad Ar-lein<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p style=\"font-size:16px\">Mae&#8217;r Rhyngrwyd yn lle cyhoeddus, bron fel dinas enfawr. Ac fel pob dinas, mae yna amrywiaeth eang o bobl yn byw yno. O&#8217;r herwydd, mae&#8217;n bwysig trin <strong>PAWB <\/strong>ar-lein gyda pharch. Nid yw Prifysgol Aberystwyth yn goddef iaith sarhaus na bwlio ar-lein nac oddi ar-lein o gwbl. Os ydych chi neu gydweithiwr yn teimlo eich bod yn cael eich bwlio, siaradwch ag aelod o staff. Fel arall mae gennym <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/sscs\/wellbeing\/access\/\">ffurflen gymorth ar-lein<\/a> trwy adnodd Adrodd + Chymorth. Pan fyddwch yn cyfathrebu ag unrhyw un ar-lein, mae&#8217;n bwysig cofio bod &#8216;na berson ar yr ochr arall i sgr\u00een eich cyfrifiadur. Byddwch yn gwrtais os byddwch yn cael anghytundeb, osgowch ddefnyddio iaith sarhaus, a dangoswch barch tuag at hawliau preifatrwydd eich cymheiriaid. Cyn postio llun ohonoch chi gyda gr\u0175p o ffrindiau, gwnewch yn si\u0175r eich bod yn gofyn caniat\u00e2d pawb i&#8217;w rannu. Peidiwch byth ag uwch-lwytho llun o rywun arall heb eu caniat\u00e2d gan ei fod yn niweidio preifatrwydd y person hwnnw. Yn syml, pan fyddwch ar-lein, dylech drin eraill fel yr hoffech chi gael eich trin.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\"><strong>Cyfrineiriau Cryf a Diogelwch Cyfrifon<\/strong><\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/log-in-1203603-1024x576.png\" alt=\"Image with username and password details.\" class=\"wp-image-463\" width=\"432\" height=\"243\" srcset=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/log-in-1203603-1024x576.png 1024w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/log-in-1203603-300x169.png 300w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/log-in-1203603-768x432.png 768w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/log-in-1203603-1536x864.png 1536w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/log-in-1203603-712x401.png 712w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/log-in-1203603.png 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 432px) 100vw, 432px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<div class=\"wp-block-group\" style=\"font-size:16px\"><div class=\"wp-block-group__inner-container is-layout-constrained wp-block-group-is-layout-constrained\">\n<p>I&#8217;r rhai ohonom sy&#8217;n defnyddio&#8217;r Rhyngrwyd bob dydd, gall fod yn drafferthus cofio cyfrineiriau ac enwau defnyddwyr. Mae&#8217;n demtasiwn gwneud eich cyfrinair yn rhywbeth syml, fel &#8216;myfyriwraber22&#8217;, a defnyddio&#8217;r cyfrinair hwnnw ar gyfer eich holl gyfrifon ar-lein. Fodd bynnag, argymhellir nad ydych chi&#8217;n defnyddio&#8217;r un cyfrinair ddwywaith. Mae llawer o hacwyr maleisus yn defnyddio rhaglenni sydd wedi&#8217;u cynllunio i ddyfalu cyfrineiriau pobl eraill a chael mynediad i&#8217;w cyfrif. Mae&#8217;r rhaglenni hyn yn dod yn fwyfwy soffistigedig, gellir cracio cyfrinair fel &#8216;cyfrinair&#8217; mewn eiliadau. I ddiogelu eich cyfrif, rydym yn argymell gwneud eich cyfrinair yn rhywbeth mai <strong>DIM OND CHI <\/strong>sy&#8217;n ei wybod (fel enw hoff fwyd eich cefnder er enghraifft.) Wrth greu cyfrif ar gyfer gwefan neu gais ar wah\u00e2n, dewiswch gyfrinair sy\u2019n <strong>GWBL WAHANOL <\/strong>i gyfrinair a ddefnyddiwyd yn flaenorol. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n bwysig peidio \u00e2 defnyddio&#8217;r un cyfrinair ddwywaith oherwydd os yw rhywun yn cael mynediad i&#8217;ch cyfrif gyda chyfrinair rydych chi wedi&#8217;i ddefnyddio ar gyfer cyfrif gwahanol yna bydd ganddyn nhw fynediad i&#8217;r cyfrif hwnnw hefyd. Efallai eich bod chi&#8217;n meddwl &#8216;sut mae cofio&#8217;r holl gyfrineiriau hyn?&#8217; Gyda nifer y cyfrifon ar-lein yr ydym yn eu defnyddio&#8217;n ddyddiol mae bron yn amhosib cofio cyfrineiriau unigryw ar gyfer <strong>POB UN <\/strong>ohonyn nhw, ac nid oes disgwyl i chi wneud hynny chwaith. Yn hytrach, rydym yn argymell eich bod yn gadael i reolwr cyfrineiriau wneud y gwaith drosoch. Mae&#8217;r cymwysiadau defnyddiol hyn yn storio eich holl gyfrineiriau yn ddiogel a gall eu llenwi\u2019n awtomatig ar eich cyfer y tro nesaf y byddwch yn mewngofnodi. Mae gan lawer o borwyr megis Google Chrome a Mozilla Firefox adnoddau rheoli cyfrineiriau, ond rydym yn argymell defnyddio rheolwyr cyfrineiriau pwrpasol megis LastPass, BitWarden, 1Password, a RoboForm. Mae llawer o&#8217;r rheolwyr cyfrineiriau hyn yn dod \u00e2 nodweddion ychwanegol i&#8217;ch cadw chi a&#8217;ch cyfrifon yn ddiogel ar-lein. Er enghraifft, mae gan BitWarden adnodd creu cyfrinair ar hap ac offer cryfhau cyfrinair sy&#8217;n dweud wrthych pa mor ddiogel yw eich cyfrinair cyn i chi ei osod. <\/p>\n\n\n\n<p>Rydym yn argymell hefyd eich bod yn cynnwys o leiaf un o&#8217;r canlynol yn eich cyfrinair: un llythyren fawr, un llythyren fach, un neu fwy o rifau, ac un neu fwy o nodau arbennig fel \u2018!\u2019 neu \u2018*\u2019. Wrth wneud cyfrif newydd bydd llawer o wefannau yn rhoi gwybod i chi a yw&#8217;r cyfrinair yn gryf ai peidio, felly gwnewch yn si\u0175r bod eich cyfrineiriau&#8217;n bodloni&#8217;r meini prawf. Math arall gwych o ddiogelwch i gyfrif yw profion dilysu dau gam. Mae&#8217;r dull hwn yn ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddiwr nodi cyfrinair ei gyfrif yn ogystal \u00e2 chod a anfonir i ddyfais arall (ff\u00f4n symudol neu e-bost amgen fel arfer) er mwyn mewngofnodi. Os gwelwch fod eich cyfrinair wedi&#8217;i beryglu am unrhyw reswm, yna bydd dilysu dau gam yn atal unrhyw un heb awdurdod rhag cael mynediad i&#8217;ch cyfrif. Defnyddir y nodwedd hon gan y rhan fwyaf o f\u00e2n-werthwyr ar-lein fel Amazon, yn ogystal \u00e2 rhwydwaith Prifysgol Aberystwyth. Mathau eraill o ddiogelwch cyfrif yw nodwedd &#8216;Face ID&#8217; Apple sy&#8217;n ei gwneud yn ofynnol i&#8217;r defnyddiwr sganio ei wyneb er mwyn agor dyfais. Mae gwasanaethau eraill fel Google yn cynnig yr opsiwn i ddefnyddwyr dracio unrhyw fewngofnodi neu ymgais i fewngofnodi, gan gynnwys lle digwyddodd hyn ac enw&#8217;r ddyfais a ddefnyddiwyd. Ein cyngor yw edrych ar osodiadau eich cyfrifon ar-lein a dewis yr opsiynau diogelwch sy&#8217;n gweddu orau i&#8217;ch anghenion.<\/p>\n<\/div><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-group has-medium-font-size\"><div class=\"wp-block-group__inner-container is-layout-constrained wp-block-group-is-layout-constrained\">\n<p><strong>Ydych CHI\u2019N destun tor diogelwch data?&#8217;<\/strong><\/p>\n<\/div><\/div>\n\n\n\n<p style=\"font-size:16px\">Os ydych chi&#8217;n darllen hyn, yna mae\u2019n bosibl bod un o&#8217;ch cyfrifon wedi cael ei beryglu o ganlyniad i dor diogelwch data. Mae tor diogelwch data&#8217;n digwydd pan fydd gwefan yn cael ei hacio, a hacwyr yn cael mynediad at ddata defnyddwyr y wefan honno. Gall rhywfaint o\u2019r data hwn gynnwys eich cyfrinair, enw go iawn, a hyd yn oed eich manylion banc. Mae&#8217;n anodd dweud os yw eich cyfrif mewn perygl o ganlyniad i\u2019r tor diogelwch data gan y bydd y cyfrif fel arfer yn gweithredu fel arfer wedyn. Yn ffodus, mae ffordd o wirio. Mae <a href=\"https:\/\/haveibeenpwned.com\/\">Haveibeenpwned.com<\/a> yn wasanaeth ar-lein am ddim sy&#8217;n gwirio os yw e-bost neu rif ff\u00f4n yn destun tor diogelwch data. Yn syml, teipiwch y cyfeiriad e-bost neu&#8217;r rhif ff\u00f4n yr hoffech ei wirio a bydd y gwasanaeth yn dangos i chi faint o doriadau diogelwch data y mae\u2019r cyfrif neu&#8217;r rhif ff\u00f4n wedi bod yn rhan ohonynt ac o ba wefan y daethant. Gallwch hefyd optio i mewn i gael gwybod os bydd eich cyfrif mewn perygl o ganlyniad i dor diogelwch data trwy glicio ar &#8216;notify me&#8217; ar wefan &#8216;haveibeenpwned&#8217;. Peidiwch \u00e2 chynhyrfu os gwelwch fod eich e-bost wedi bod yn rhan o dor diogelwch data gan nad oes dim y gellir ei wneud i <strong>atal <\/strong>hyn. Fodd bynnag, gallwch leihau\u2019r effaith drwy ddefnyddio cyfrineiriau unigryw a thrwy beidio \u00e2 rhannu gormod o ddata personol ar eich cyfrifon.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>A dyna ni!<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p style=\"font-size:16px\">Mae&#8217;r blog hwn yn trafod rhai agweddau yn unig ar gadw\u2019n ddiogel ar-lein. Mae nifer o ddulliau y gallwch eu defnyddio i ddiogelu eich hun pan fyddwch ar-lein. Os hoffech ddysgu mwy am gadw&#8217;n ddiogel ar-lein, edrychwch ar ein <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/checkpoint\/enterprise\/login\/107524890?pathWildcard=107524890&amp;application=learning&amp;redirect=https%3A%2F%2Fwww%2Elinkedin%2Ecom%2Flearning%2Fcollections%2Fenterprise%2F1%7EAAAAAAZosxo%3D1364114%3Fu%3D10752489\">Casgliad LinkedIn Learning<\/a> sy&#8217;n mynd dros ragor o agweddau ar ddiogelwch ar-lein a diogelwch cyfrifon. Cadwch yn ddiogel!<br><br><br><br><br><br><br><br><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Post Blog gan Jeffrey Clark (Pencampwr Digidol Myfyrwyr) Peryglon y Rhyngrwyd Does dim dwywaith nad yw&#8217;r Rhyngrwyd yn rhan o&#8217;n bywydau bob dydd. O&#8217;n swyddi i&#8217;r cyfryngau cymdeithasol, mae llawer ohonom wedi ein cysylltu \u00e2\u2019r we mewn rhyw ffurf neu&#8217;i gilydd. Am ei fod mor gyffredin, mae&#8217;n hawdd ei ddefnyddio mewn ffordd hamddenol a diofal. [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":76425,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[37,107],"tags":[],"class_list":["post-459","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-hunaniaeth-lles-digidol","category-pencampwyr-digidol-myfyrwyr"],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_likes_enabled":true,"jetpack_sharing_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/459","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/users\/76425"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=459"}],"version-history":[{"count":12,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/459\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":744,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/459\/revisions\/744"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=459"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=459"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=459"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}