{"id":2838,"date":"2024-03-04T12:00:00","date_gmt":"2024-03-04T12:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/?p=2838"},"modified":"2024-03-01T12:31:39","modified_gmt":"2024-03-01T12:31:39","slug":"a-oes-bywyd-ar-ol-cyfryngau-cymdeithasol-fy-mis-o-wneud-detocs-digidol-%f0%9f%93%b5","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/cy\/2024\/03\/04\/a-oes-bywyd-ar-ol-cyfryngau-cymdeithasol-fy-mis-o-wneud-detocs-digidol-%f0%9f%93%b5\/","title":{"rendered":"A oes bywyd ar \u00f4l cyfryngau cymdeithasol? &#8211; Fy mis o wneud detocs digidol \ud83d\udcf5"},"content":{"rendered":"\n<p><strong><em>Blogbost gan Noel Czempik (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"205\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2023\/11\/digital-wellbei_62641738-1024x205.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2043\" srcset=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2023\/11\/digital-wellbei_62641738-1024x205.png 1024w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2023\/11\/digital-wellbei_62641738-300x60.png 300w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2023\/11\/digital-wellbei_62641738-768x153.png 768w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2023\/11\/digital-wellbei_62641738-1536x307.png 1536w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2023\/11\/digital-wellbei_62641738-2048x409.png 2048w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2023\/11\/digital-wellbei_62641738-712x142.png 712w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p>Ydych chi erioed wedi teimlo bod eich ff\u00f4n yn eich rheoli chi mwy nag yr ydych chi\u2019n rheoli eich ff\u00f4n? Dyna\u2019n union yr oeddwn i\u2019n ei deimlo, nes i mi gyrraedd croesffordd y llynedd. Yn rhwystredig oherwydd yr ymdrechion aflwyddiannus i leihau fy amser ar sgrin a&#8217;r teimlad o fod yn sownd mewn byd digidol, cychwynnais ar daith ddadwenwyno digidol trwy gydol mis Rhagfyr \u2013 gallwch ddarllen amdani <a href=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/cy\/2023\/12\/15\/detocs-digidol-ailgychwyn-fy-ffordd-o-fyw-digidol\/\">yma<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn y blogbost hwn, byddaf yn rhannu fy mhrofiad, yr uchafbwyntiau a&#8217;r isafbwyntiau, a&#8217;r gwersi a ddysgais o adennill rheolaeth dros fy arferion digidol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>\ud83d\udc4d Newidiadau cadarnhaol o&#8217;m detocs<\/strong><\/h3>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2024\/03\/pexels-tracy-le-blanc-607812-edited-scaled.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2828\" width=\"405\" height=\"270\" srcset=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2024\/03\/pexels-tracy-le-blanc-607812-edited-scaled.jpg 2560w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2024\/03\/pexels-tracy-le-blanc-607812-edited-300x200.jpg 300w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2024\/03\/pexels-tracy-le-blanc-607812-edited-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2024\/03\/pexels-tracy-le-blanc-607812-edited-768x512.jpg 768w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2024\/03\/pexels-tracy-le-blanc-607812-edited-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2024\/03\/pexels-tracy-le-blanc-607812-edited-2048x1365.jpg 2048w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2024\/03\/pexels-tracy-le-blanc-607812-edited-712x475.jpg 712w\" sizes=\"auto, (max-width: 405px) 100vw, 405px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\" type=\"1\" start=\"1\">\n<li style=\"font-size:17px\"><strong><em>Llai<\/em><\/strong><strong>, nid mwy, o unigrwydd<\/strong>. Wnes i erioed sylweddoli faint yr oedd cyfryngau cymdeithasol yn draenio fy matri cymdeithasol. Ar \u00f4l peth amser hebddo, roeddwn i&#8217;n ei chael hi&#8217;n haws mynd allan a rhyngweithio \u00e2 phobl, ac yn sicr ni wnes i golli&#8217;r ofn fy mod yn colli allan.<\/li>\n\n\n\n<li style=\"font-size:17px\"><strong>Gwell ymwybyddiaeth emosiynol.<\/strong> Roeddwn i&#8217;n meddwl bod defnyddio fy ff\u00f4n yn helpu i reoleiddio fy emosiynau, ond dim ond tynnu sylw ydoedd. Ar \u00f4l addasiad annymunol, gallwn gydnabod a phrosesu fy nheimladau&#8217;n fwy iach.<\/li>\n\n\n\n<li style=\"font-size:17px\"><strong>Trefn bore newydd<\/strong>. Roeddwn i&#8217;n meddwl nad oedd gen i un, ond fy nhrefn boreol <em>oedd<\/em> defnyddio fy ff\u00f4n. Ar \u00f4l i mi stopio, roeddwn i&#8217;n ei chael hi&#8217;n haws gwneud pethau eraill, megis ysgrifennu yn fy nyddiadur gyda phaned o de.<\/li>\n\n\n\n<li style=\"font-size:17px\"><strong>Cynhyrchiant a chreadigrwydd diymdrech.<\/strong> Gallwn wneud llawer yn yr eiliadau bach hynny pan fyddwn fel arfer yn codi fy ff\u00f4n. Roedd fy meddwl yn glir hefyd i feddwl am fy natrysiadau fy hun yn hytrach na chwilio amdanynt ar-lein.<\/li>\n\n\n\n<li style=\"font-size:17px\"><strong>Gorffwys gwell.<\/strong> Roedd ansawdd fy nghwsg yn gwella, ac roedd seibiannau bach yn ystod y dydd yn fwy hamddenol.<\/li>\n\n\n\n<li style=\"font-size:17px\"><strong>Byw i\u2019r funud. <\/strong>Roedd hi\u2019n haws mwynhau\u2019r cyfnodau bach bob dydd ac roedd amser fel petai\u2019n arafu.<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>\ud83d\udc4e Rhai o&#8217;r anfanteision a&#8217;r heriau a brofais<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\" type=\"1\" start=\"1\">\n<li style=\"font-size:17px\"><strong>Ymfudodd fy arferion digidol i apiau eraill.<\/strong> Am gyfnod, roeddwn i&#8217;n ei chael hi&#8217;n anodd peidio \u00e2 disodli&#8217;r cyfryngau cymdeithasol gyda YouTube neu hyd yn oed sgrolio trwy fy lluniau neu negeseuon. Roedd <strong>ap ScreenZen <\/strong>yn ddefnyddiol iawn \u2013 <a href=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/cy\/2024\/02\/29\/cymerwch-reolaeth-ar-eich-ffon-gyda-screenzen-cyn-ir-ffon-eich-rheoli-chi-%f0%9f%93%b4\/\">Darllenwch fy adolygiad o&#8217;r ap yma<\/a>.<\/li>\n\n\n\n<li style=\"font-size:17px\"><strong>Y cyfnod addasu.<\/strong> Am beth amser, roeddwn i&#8217;n teimlo&#8217;n anniddig ac yn ddiflas ac yn crefu i gael defnyddio fy ff\u00f4n trwy&#8217;r amser. Roedd angen i mi ail-ddysgu sut i dreulio fy amser a bod yn amyneddgar.<\/li>\n\n\n\n<li style=\"font-size:17px\"><strong>Yr anghyfleustra.<\/strong> Roeddwn i&#8217;n synnu faint oedd angen i mi ddefnyddio fy ff\u00f4n i wirio&#8217;r amser, gosod y larwm neu&#8217;r amserydd, defnyddio dilysu aml-ffactor, neu dalu am bethau.<\/li>\n\n\n\n<li style=\"font-size:17px\"><strong>Colli allan.<\/strong> Mae llawer o ddigwyddiadau, megis gigs lleol neu ddigwyddiadau clybiau a chymdeithasau, yn cael eu hysbysebu ar-lein yn unig. Roeddwn i\u2019n cael gwybod am lawer o gyfleoedd ar \u00f4l iddynt ddigwydd, a hyd yn oed wrth chwilio&#8217;n rhagweithiol, roedd y rhan fwyaf o ganlyniadau chwilio yn mynd \u00e2 mi i wefannau cyfryngau cymdeithasol, a oedd yn aml yn golygu mewngofnodi i gael mynediad at y cynnwys llawn.<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Fy nghyngor i&#8217;r rhai sydd \u00e2 diddordeb mewn gwneud detocs digidol<\/strong><\/h3>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2024\/03\/pexels-tirachard-kumtanom-733856-1024x684.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2826\" width=\"373\" height=\"249\" srcset=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2024\/03\/pexels-tirachard-kumtanom-733856-1024x684.jpg 1024w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2024\/03\/pexels-tirachard-kumtanom-733856-300x200.jpg 300w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2024\/03\/pexels-tirachard-kumtanom-733856-768x513.jpg 768w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2024\/03\/pexels-tirachard-kumtanom-733856-1536x1025.jpg 1536w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2024\/03\/pexels-tirachard-kumtanom-733856-2048x1367.jpg 2048w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2024\/03\/pexels-tirachard-kumtanom-733856-712x475.jpg 712w\" sizes=\"auto, (max-width: 373px) 100vw, 373px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\" type=\"1\" start=\"1\">\n<li style=\"font-size:17px\"><strong>Nid oes rhaid iddo fod yn berffaith.<\/strong> Hyd yn oed os oes angen i chi ddefnyddio dyfeisiau ar gyfer gwaith \/ astudio neu os ydych yn baglu o ran eich ymrwymiadau, mae\u2019n dal yn bosibl &#8211; gallwch chi elwa yn fawr o&#8217;r profiad o hyd.<\/li>\n\n\n\n<li style=\"font-size:17px\"><strong>Addasu wrth i chi fynd.<\/strong> Efallai y bydd angen i chi addasu eich disgwyliadau os nad yw pethau&#8217;n mynd yn union fel y cynlluniwyd, nid methiant yw hyn. Dathlwch lwyddiannau bach a dod o hyd i&#8217;r hyn sy&#8217;n teimlo&#8217;n dda i&#8217;ch helpu i adeiladu arferion cynaliadwy.<\/li>\n\n\n\n<li style=\"font-size:17px\"><strong>Nid yw&#8217;n ddedwyddwch llwyr, ond nid yw\u2019n ddiflastod llwyr chwaith.<\/strong> Bydd adegau pan fyddwch chi eisiau rhoi&#8217;r gorau iddi ac adegau pan na fyddwch chi&#8217;n difaru dim. Bydd eich profiad a phopeth rydych chi&#8217;n ei ddysgu amdanoch chi&#8217;ch hun yn unigryw, ac efallai taw hyn yw\u2019r peth mwyaf gwerthfawr.<\/li>\n<\/ol>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Blogbost gan Noel Czempik (Pencampwr Digidol Myfyrwyr) Ydych chi erioed wedi teimlo bod eich ff\u00f4n yn eich rheoli chi mwy nag yr ydych chi\u2019n rheoli eich ff\u00f4n? Dyna\u2019n union yr oeddwn i\u2019n ei deimlo, nes i mi gyrraedd croesffordd y llynedd. Yn rhwystredig oherwydd yr ymdrechion aflwyddiannus i leihau fy amser ar sgrin a&#8217;r teimlad [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":74660,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[240,37,107],"tags":[],"class_list":["post-2838","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-cyfres-lles-digidol","category-hunaniaeth-lles-digidol","category-pencampwyr-digidol-myfyrwyr"],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_likes_enabled":true,"jetpack_sharing_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2838","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/users\/74660"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2838"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2838\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2844,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2838\/revisions\/2844"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2838"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2838"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2838"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}