{"id":2237,"date":"2023-12-15T11:30:00","date_gmt":"2023-12-15T11:30:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/?p=2237"},"modified":"2024-02-15T17:11:00","modified_gmt":"2024-02-15T17:11:00","slug":"detocs-digidol-ailgychwyn-fy-ffordd-o-fyw-digidol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/cy\/2023\/12\/15\/detocs-digidol-ailgychwyn-fy-ffordd-o-fyw-digidol\/","title":{"rendered":"Detocs Digidol: Ailgychwyn Fy Ffordd o Fyw Digidol \ud83d\udcf5"},"content":{"rendered":"\n<p><strong><em>Blogbost gan Noel Czempik (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"205\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2023\/11\/digital-wellbei_62641738-1024x205.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2043\" srcset=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2023\/11\/digital-wellbei_62641738-1024x205.png 1024w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2023\/11\/digital-wellbei_62641738-300x60.png 300w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2023\/11\/digital-wellbei_62641738-768x153.png 768w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2023\/11\/digital-wellbei_62641738-1536x307.png 1536w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2023\/11\/digital-wellbei_62641738-2048x409.png 2048w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2023\/11\/digital-wellbei_62641738-712x142.png 712w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<p>Ar fy nhaith i les digidol, fe gefais fy hun ar groesffordd, yn anfodlon ar y berthynas a oedd wedi esblygu rhyngof i a thechnoleg. Unwaith yn ffynhonnell llawenydd ar gyfer hwyluso cysylltiadau a chyfoethogi profiadau, yn raddol daeth yn bresenoldeb rhwystredig ac yn achos pryder. Ofer fu pob ymgais i roi cynnig ar wahanol strategaethau, o arddangos graddlwyd i osod larymau atgoffa; roedd fy nyfeisiau yn parhau i lyncu gormod o\u2019m hamser, gan arwain at euogrwydd ac ymdeimlad o fethiant personol, profiad tra gwahanol i\u2019m chwilfrydedd cychwynnol gyda thechnoleg. Beth sydd wedi newid?<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Rhyfeloedd Sweipio<\/strong>: <strong>Melltith y Ff\u00f4n Clyfar<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Yn nyddiau cynnar y cyfryngau cymdeithasol, roedd mewngofnodi yn golygu tanio cyfrifiadur y teulu, llywio trwy haenau bwrdd gwaith, ac aros yn amyneddgar wrth i olwynion y byd digidol droi\u2019n araf. Gallai&#8217;r byd hwnnw ddiflannu mewn un clic amser swper neu pan fyddai storm ar y gorwel. Wrth i ni neidio ymlaen i heddiw, ac mae ein dyfeisiau gyda ni\u2019n barhaus, wrth law yn ein pocedi, yn barod ar gyfer ymgysylltu ar unwaith. Mae&#8217;r rhwyddineb yr ydym yn datgloi ein ffonau heb bwrpas clir wedi troi&#8217;n arfer, rydyn ni\u2019n ysu am y wefr ddopamin a ddaw yn sgil rhyngweithio digidol.<\/p>\n\n\n\n<p>Wedi&#8217;i gyfyngu yn y lle cyntaf i lifau penodol, mae&#8217;r cyfryngau cymdeithasol wedi esblygu&#8217;n blatfformau cynnwys eang wedi&#8217;u crefftio i ddal ein sylw&#8217;n ddiddiwedd. Yn y dirwedd defnyddwyr-ganolog sydd ohoni, nid dyfeisiau niwtral ydyn nhw ond yn hytrach maen nhw wedi&#8217;u cynllunio&#8217;n fwriadol i annog defnydd aml ac estynedig. Er ein bod yn chwilio am dechnoleg ddiddorol, gall yr atyniad sy&#8217;n bachu ein diddordeb weithiau weithio yn erbyn ein dymuniadau.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>O Whoville i Screensville: Sut mae&#8217;r Ff\u00f4n Clyfar wedi Dwyn y Dolig <\/strong><strong><\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Er bod ein dyfeisiau yn amhrisiadwy i&#8217;n cysylltu ni yn ystod cyfnodau clo ac wrth dreulio gwyliau o bell, maen nhw hefyd wedi newid natur ein rhyngweithio personol. Dwi\u2019n cofio&#8217;n glir treulio&#8217;r Nadolig ar \u00f4l y pandemig gyda&#8217;r teulu, wedi&#8217;n hamgylchynu gan sgriniau, pob un ohonom wedi ymgolli yn ein bydoedd digidol. Dathliadau cwbl wahanol i\u2019r rhai roedden ni wedi&#8217;u cynllunio ond yn realiti wedi&#8217;i lunio gan hollbresenoldeb technoleg.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae fy mherthynas gyda thechnoleg a oedd gynt yn un gadarnhaol bellach wedi troi&#8217;n un wenwynig, ac mae torri&#8217;n rhydd o afael fy ff\u00f4n yn gofyn am fwy nag ewyllys yn unig.<\/p>\n\n\n\n<!--more-->\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Dydy fy ff\u00f4n ddim yn ennyn Llawenydd: Pam y gallai Detocs Digidol Weithio i Mi<\/strong><\/h2>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"alignright size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2023\/12\/digital-wellbei_62778829-1024x1024.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2304\" width=\"288\" height=\"288\" srcset=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2023\/12\/digital-wellbei_62778829-1024x1024.png 1024w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2023\/12\/digital-wellbei_62778829-300x300.png 300w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2023\/12\/digital-wellbei_62778829-150x150.png 150w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2023\/12\/digital-wellbei_62778829-768x768.png 768w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2023\/12\/digital-wellbei_62778829-1536x1536.png 1536w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2023\/12\/digital-wellbei_62778829-2048x2048.png 2048w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2023\/12\/digital-wellbei_62778829-712x712.png 712w\" sizes=\"auto, (max-width: 288px) 100vw, 288px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<p>Doedd awgrymiadau a haciau storio a thacluso ddim yn ddefnyddiol pan oeddwn i&#8217;n boddi mewn dillad. Gan fy mod i&#8217;n ysu i adennill rheolaeth dros fy wardrob, cymerais gyngor Marie Kondo a thynnu pob dilledyn yr oeddwn i\u2019n berchen arno o\u2019u cypyrddau er mwyn gweld sut roeddwn i&#8217;n teimlo am bob eitem, gan gadw y rhai a oedd yn cyfoethogi fy mywyd yn unig. Mae detocs digidol yn addewid o newid systemig tebyg, er ei fod yn radical. Drwy gael gwared ar yr holl weithgareddau digidol dros dro, fy nod yw cael persbectif ar yr hyn sy&#8217;n wirioneddol bwysig ac ailgyflwyno ymwybyddiaeth ofalgar i&#8217;m rhyngweithio digidol.<\/p>\n\n\n\n<p>Eto i gyd, yr her yw ymarferoldeb tynnu allan o weithgareddau digidol yn llwyr. Yn yr oes sydd ohoni, mae cadw i fyny ag ymrwymiadau gwaith, aseiniadau prifysgol a bywyd cymdeithasol fel petaen nhw ond yn bosibl gyda chysylltiad cyson \u00e2&#8217;r rhyngrwyd. Mae hwylustod technoleg wedi disodli llawer o offer a systemau trefniadol, hefyd &#8211; fy ff\u00f4n clyfar yw fy unig gloc larwm, oriawr, camera, calendr a llawer mwy, gan agor y drysau i&#8217;r byd digidol o&#8217;r funud&nbsp; rydyn ni&#8217;n deffro.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Ctrl + Alt + Detocs: Her bersonol<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Er mwyn adennill rheolaeth, dwi wedi cymryd camau pendant. <strong>Wrth ymgymryd \u00e2 detocs digidol, am fis cyfan ym mis Rhagfyr<\/strong>, byddaf yn:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Dileu apiau\u2019r cyfryngau cymdeithasol o\u2019m ff\u00f4n ac allgofnodi o&#8217;r fersiynau cyfatebol ar y bwrdd gwaith (ac eithrio&#8217;r ap Messenger, lle dwi\u2019n cadw mewn cysylltiad \u00e2 ffrindiau a theulu).<\/li>\n\n\n\n<li>Analluogi hysbysiadau o bob ap ac eithrio ambell un dethol.<\/li>\n\n\n\n<li>Tynnu&#8217;r rhan fwyaf o&#8217;r teclynnau sydd ar y sgrin cartref.<\/li>\n\n\n\n<li>Rhoi cyfrinair mwy pwrpasol yn hytrach nag adnabod wyneb.<\/li>\n\n\n\n<li>Cadw fy ff\u00f4n allan o gyrraedd am y rhan fwyaf o&#8217;r dydd.<\/li>\n\n\n\n<li>Creu mannau pwrpasol ar gyfer gwaith digidol ac astudio, lle byddaf yn gwirio fy e-byst unwaith y dydd.<\/li>\n\n\n\n<li>Rhoi sylw i\u2019m hanghenion emosiynol pan fyddaf am godi fy ff\u00f4n ac ailgyfeirio fy ffocws at weithgareddau sy&#8217;n ystyrlon ac yn foddhaus.<\/li>\n\n\n\n<li>Cadw dyddiadur am fy mhrofiad.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Er mwyn gwneud yr her yn un gynaliadwy, dwi am ganiat\u00e1u i fy hun ddefnyddio technoleg i wylio ffilmiau a gwrando ar gerddoriaeth a llyfrau sain \u2013 mae cynnwys ffurfiau hir yn ddewisiadau bwriadol naturiol, sy\u2019n darparu profiadau cyfoethog ac sy\u2019n gwbl wahanol i sgrolio difeddwl neu wirio di-baid.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Llywio&#8217;r Nadolig Digyswllt: Rhagfyr Di-Ddigidol<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Wrth i mi ddychmygu&#8217;r tymor gwyliau heb gysur presenoldeb digidol, mae yna gymysgedd o gyffro ac ofn. A fydd wynebu fy ngorbryder yn fy arwain at darddiad fy arferion digidol di-fudd? Trwy&#8217;r gyfres hon ar les digidol, byddaf yn rhannu uchafbwyntiau ac isafbwyntiau fy ymdrech i adennill rheolaeth dros fy mywyd digidol. Ymunwch \u00e2 mi wrth i mi lywio heriau detocs digidol, gyda&#8217;r nod o ganolbwyntio ar yr hyn sy&#8217;n wirioneddol bwysig i mi&#8217;r Nadolig hwn.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Blogbost gan Noel Czempik (Pencampwr Digidol Myfyrwyr) Ar fy nhaith i les digidol, fe gefais fy hun ar groesffordd, yn anfodlon ar y berthynas a oedd wedi esblygu rhyngof i a thechnoleg. Unwaith yn ffynhonnell llawenydd ar gyfer hwyluso cysylltiadau a chyfoethogi profiadau, yn raddol daeth yn bresenoldeb rhwystredig ac yn achos pryder. Ofer fu [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":74660,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[240,37,107],"tags":[],"class_list":["post-2237","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-cyfres-lles-digidol","category-hunaniaeth-lles-digidol","category-pencampwyr-digidol-myfyrwyr"],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_likes_enabled":true,"jetpack_sharing_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2237","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/users\/74660"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2237"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2237\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2309,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2237\/revisions\/2309"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2237"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2237"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2237"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}