{"id":1249,"date":"2023-05-02T12:00:00","date_gmt":"2023-05-02T11:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/?p=1249"},"modified":"2023-09-05T10:59:24","modified_gmt":"2023-09-05T09:59:24","slug":"twyll-ar-lein-adnabod-e-byst-a-negeseuon-testun-twyllodrus","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/cy\/2023\/05\/02\/twyll-ar-lein-adnabod-e-byst-a-negeseuon-testun-twyllodrus\/","title":{"rendered":"Twyll Ar-lein: Adnabod E-byst a Negeseuon Testun Twyllodrus"},"content":{"rendered":"\n<p><strong><em>Blogbost gan Jeffrey Clark (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"241\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/ddt-training-ba_59737571-1024x241.png\" alt=\"Banner with Student Digital Champion\" class=\"wp-image-436\" srcset=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/ddt-training-ba_59737571-1024x241.png 1024w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/ddt-training-ba_59737571-300x71.png 300w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/ddt-training-ba_59737571-768x181.png 768w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/ddt-training-ba_59737571-1536x362.png 1536w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/ddt-training-ba_59737571-2048x482.png 2048w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2022\/10\/ddt-training-ba_59737571-712x168.png 712w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r rhyngrwyd yn lle gwych i gysylltu \u00e2 ffrindiau, gweithio ar brosiectau, a gwneud arian hyd yn oed. Fodd bynnag, mae rhai pobl yn defnyddio&#8217;r rhyngrwyd i geisio cymryd eich arian CHI! Yn anffodus, mae dulliau twyllo\u2019n dod yn fwyfwy datblygedig ond peidiwch \u00e2 phoeni, rydw i yma i helpu! Yn y blogbost hwn byddwn yn edrych ar e-byst twyll, beth ydyn nhw, sut i&#8217;w hadnabod a beth i&#8217;w wneud pan fyddwch chi&#8217;n eu derbyn. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-vivid-red-color has-text-color\"><strong>Gwnewch yn si\u0175r eich bod yn darllen tudalen Prifysgol Aberystwyth ar&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/regulations\/spam\/\">e-byst sbam<\/a> cyn darllen y blogbost hwn.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Beth yw e-bost gwe-rwydo?<\/h2>\n\n\n\n<p>E-bost sydd wedi ei gynllunio i geisio cael eich data personol sensitif yw e-bost gwe-rwydo. Gallai&#8217;r data fod ar ffurf eich cyfeiriad, gwybodaeth cerdyn credyd, neu eich manylion banc hyd yn oed! Mae e-byst gwe-rwydo fel arfer yn cael eu gwneud i edrych fel e-byst busnes cyfreithlon fel yr enghraifft isod.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2023\/04\/Phishing-Email-Example.png\" alt=\"Screenshot of a Phishing Email from TustedBank\" class=\"wp-image-1151\" width=\"589\" height=\"438\" srcset=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2023\/04\/Phishing-Email-Example.png 472w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2023\/04\/Phishing-Email-Example-300x223.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 589px) 100vw, 589px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\"><em>Delwedd o Wikimedia Commons<\/em><\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n hawdd gweld sut y gallai rhywun gael ei dwyllo gan e-bost gwe-rwydo fel hwn. Yn gyntaf, mae&#8217;r e-bost yn rhoi gwybod i&#8217;r sawl y mae&#8217;n ei dargedu y gallai ei gyfrif banc fod wedi&#8217;i beryglu, sy&#8217;n annog y darllenwr i weithredu ar frys. Yn ail, does dim byd yn amheus am y cyswllt ar yr olwg gyntaf. Felly sut y gallwch chi ddweud y gwahaniaeth rhwng e-bost busnes cyfreithlon ac e-bost gwe-rwydo?<\/p>\n\n\n\n<!--more darllenwch fwy-->\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Ffyrdd o adnabod e-bost gwe-rwydo &nbsp;<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Sylwch ar yr iaith a ddefnyddir: <\/strong>Ydy\u2019r e-bost yn cynnwys ymadroddion fel &#8216;mae angen eich sylw ar unwaith&#8217; neu &#8216;mae gennych chi 24 awr hyd nes y byddwn yn rhewi eich cyfrif?&#8217; Mae hwn yn fath o beirianneg gymdeithasol sydd wedi&#8217;i gynllunio i ysgogi ymateb emosiynol gan y dioddefwr. Drwy fygwth y bydd canlyniadau i beidio ag ymateb, mae&#8217;r e-bost yn eich annog i weithredu ar unwaith heb gael cyfle i edrych ar yr e-bost yn iawn. Weithiau mae&#8217;n bosib na fydd e-bost gwe-rwydo yn eich cyfarch yn uniongyrchol, sef arwydd arall bod yr e-bost wedi ei greu o dempled.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gwneud cynnig na allwch ei wrthod: <\/strong>Weithiau nid yw e-byst gwe-rwydo yn cynnwys bygythiadau; gallant hefyd fod yn gynigion i geisio eich temtio. Ydych chi erioed wedi derbyn e-bost yn rhoi gwybod eich bod chi wedi ennill cystadleuaeth neu fod modd i chi arbed arian os defnyddiwch chi g\u00f2d taleb? Mae siawns dda mai e-byst gwe-rwydo yw&#8217;r &#8216;cynigion&#8217; hyn. Fel y nodwyd uchod, mae&#8217;n ddoeth ystyried yr iaith a ddefnyddir. Mae llawer o e-byst gwe-rwydo yn dweud wrth y sawl sy&#8217;n ei ddarllen mai dim ond &#8216;o fewn 24 awr&#8217; y mae&#8217;r &#8216;cynigion&#8217; ar gael er mwyn ysgogi brys yn yr un modd. Rheol wych yw pan fo cynnig yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, mae&#8217;n debyg ei fod.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Chwiliwch am gamgymeriadau sillafu a gramadeg: <\/strong>Os yw e-bost yn honni ei fod yn dod gan fusnes cyfreithlon, a&#8217;ch bod yn ansicr a yw&#8217;n e-bost gwe-rwydo ai peidio, ystyriwch gynnwys yr e-bost. Ydy&#8217;r e-bost yn cynnwys camgymeriadau sillafu a gramadeg difrifol? Mae llawer o negeseuon e-bost gan fusnesau go iawn yn awtomataidd ac anaml iawn y byddant yn cynnwys gwallau sillafu a gramadeg, os o gwbl. Ond mae e-byst gwe-rwydo yn aml yn cael eu creu gan ddefnyddwyr unigol, felly maen nhw&#8217;n fwy tueddol o gynnwys camgymeriadau sillafu na gohebiaeth swyddogol.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gwiriwch enw parth yr e-bost: <\/strong>Pan fyddwch yn archebu rhywbeth gan Amazon, byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau eich archeb gyda rhif cadarnhau. Dylai&#8217;r e-bost ddod gan y cyfeiriad &#8216;auto-confirm@amazon.co.uk.&#8217; Os byddwch yn cael e-bost yn dweud wrthych eich bod wedi archebu rhywbeth nad oes gennych chi gof o&#8217;i archebu, rwy&#8217;n cynghori&#8217;n gryf eich bod yn gwirio&#8217;r cyfeiriad e-bost.&nbsp;Os oes rhywbeth yn ymddangos yn amheus, gwrandewch ar eich greddf a pheidiwch ag agor yr e-bost.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gwrandewch ar rybuddion meddalwedd cleient eich e-bost: <\/strong>Mae rhai e-byst gwe-rwydo&#8217;n cael eu canfod gan feddalwedd diogelwch awtomatig cleient eich e-bost. Er enghraifft, bydd Outlook yn eich rhybuddio ynghylch agor e-byst gan gleientiaid allanol (defnyddiwr sy&#8217;n anfon e-bost atoch gan gleient e-bost gwahanol.) Bydd Outlook hefyd yn eich rhybuddio i beidio \u00e2 chlicio ar unrhyw ddolenni na lawrlwytho unrhyw atodiadau o e-byst y tu allan i rwydwaith y Brifysgol. Oni bai eich bod yn adnabod yr anfonwr, rwy&#8217;n argymell yn gryf eich bod yn peidio ag agor unrhyw e-byst gan gleient allanol.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Cysylltwch \u00e2&#8217;r cwmni: <\/strong>Mae llawer o e-byst gwe-rwydo wedi eu cuddio fel e-byst swyddogol gan gwmn\u00efau yn y byd go iawn. Rhai cwmn\u00efau sy&#8217;n cael eu dynwared yn aml gan dwyllwyr gwe-rwydo yw Amazon, y Post Brenhinol, a llawer o gwmn\u00efau bancio. Os ydych chi&#8217;n ansicr a yw e-bost yn un swyddogol, anfonwch e-bost atynt neu ffoniwch eu cangen gwasanaeth cwsmeriaid ac esboniwch eich sefyllfa. Bydd llawer yn dod yn \u00f4l atoch yn brydlon ac yn gallu eich helpu!<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Osgoi ymosodiad gwe-rwydo<\/h2>\n\n\n\n<p>Yn ffodus, nid yw derbyn e-bost gwe-rwydo yn ddigon i chi ddioddef ymosodiad gwe-rwydo ac nid yw ei agor i wirio ei gynnwys chwaith. Fodd bynnag, ni ddylech chi BYTH glicio ar unrhyw beth sydd mewn e-bost gan rywun nad ydych yn ei adnabod. Dylid osgoi unrhyw ddolenni neu atodiadau oherwydd mae&#8217;n bosib i ymosodiad gwe-rwydo ddigwydd heb i chi rannu unrhyw wybodaeth bersonol hyd yn oed. Os yw&#8217;r e-bost yn edrych yn amheus i chi yna fe&#8217;ch cynghorir i&#8217;w ddileu. Os daw&#8217;r e-bost gan gwmni rydych yn gysylltiedig ag ef fel eich banc, ac os ydych chi&#8217;n ansicr a yw&#8217;r ohebiaeth yn swyddogol, dylech gysylltu \u00e2 changen gwasanaethau cwsmeriaid eich banc am gymorth.<\/p>\n\n\n\n<p>Rwyf yn argymell hefyd eich bod yn rhoi gwybod i&#8217;r <a href=\"mailto:reportphishing@apwg.org\">Gweithgor Gwrth Gwe-Rwydo<\/a> neu\u2019r <a href=\"mailto:report@phishing.gov.uk\">Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol<\/a>. Os ydych yn derbyn e-bost yr ydych chi&#8217;n ei amau i&#8217;ch cyfrif e-bost Prifysgol, anfonwch hyn ymlaen at Gwasanaethau Gwybodaeth (<a href=\"mailto:is@aber.ac.uk\">gg@aber.ac.uk<\/a>) yn syth. Os cewch neges destun rydych chi&#8217;n tybio ei bod yn ymgais i we-rwydo, anfonwch y neges ymlaen i rif 7762. Trwy adrodd am e-byst a negeseuon destun o\u2019r fath, mae llai a llai o bobl yn cael eu twyllo gan sgamiau gwe-rwydo.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Rydw i wedi fy nhwyllo gan e-bost gwe-rwydo&#8217;n ddamweiniol.&nbsp; Beth ddylwn i ei wneud nawr?<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r rhan hon o&#8217;r blogbost yn bwysig iawn oherwydd po gyntaf y byddwch chi&#8217;n gweithredu wrth agor e-bost gwe-rwydo, y mwyaf o wybodaeth y gallwch chi ei hamddiffyn rhag seiberdroseddwyr. Y cam cyntaf yw peidio \u00e2 chynhyrfu, er ei bod yn haws dweud na gwneud. Cofiwch ei bod yn annhebygol iawn y bydd agor e-bost gwe-rwydo yn unig yn peryglu eich gwybodaeth. Fodd bynnag, peidiwch byth \u00e2 chlicio ar unrhyw ddolenni yn yr e-bost na lawrlwytho unrhyw atodiadau. Beth am ddychmygu eich bod chi wedi clicio ar ddolen e-bost gwe-rwydo yn ddamweiniol, ac mae&#8217;n agor ffurflen i&#8217;w llenwi \u2013 <strong>PEIDIWCH \u00c2 NODI UNRHYW WYBODAETH BERSONOL! <\/strong>Gellir defnyddio&#8217;r wybodaeth hon i gael mynediad at asedau fel eich cyfrif banc yn ogystal \u00e2 chyfrifon eraill y gallech fod yn eu defnyddio ar y Rhyngrwyd. Weithiau bydd y dolenni hyn yn lawrlwytho meddalwedd faleisus niweidiol yn awtomatig i&#8217;ch cyfrifiadur yn y cefndir heb i chi sylweddoli hynny. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-vivid-red-color has-text-color\"><strong>Os byddwch chi&#8217;n clicio&#8217;n ddamweiniol ar ddolen mewn e-bost gwe-rwydo, <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/is\/help\/contactus\/\">cysylltwch \u00e2 Gwasanaethau Gwybodaeth<\/a> ar unwaith.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Eisiau dysgu mwy? <\/strong>Edrychwch ar ein<a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/learning\/collections\/6983085832840650753?u=107524890\"> <\/a><a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/learning-login\/share?account=107524890&amp;forceAccount=true&amp;redirect=https%3A%2F%2Fwww%2Elinkedin%2Ecom%2Flearning%2Fcollections%2Fenterprise%2F1%7EAAAAAAZosxo%3D1438054%3FshareId=41ce42ce-5d18-4d83-9c01-dba722dea622\">Casgliad LinkedIn Learning<\/a><a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/learning\/collections\/6983085832840650753?u=107524890\"> <\/a>ar e-byst a negeseuon gwe-rwydo i gael rhagor o wybodaeth.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2023\/04\/012-1024x576.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-1155\" srcset=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2023\/04\/012-1024x576.png 1024w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2023\/04\/012-300x169.png 300w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2023\/04\/012-768x432.png 768w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2023\/04\/012-1536x864.png 1536w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2023\/04\/012-2048x1152.png 2048w, https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/files\/2023\/04\/012-712x401.png 712w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Blogbost gan Jeffrey Clark (Pencampwr Digidol Myfyrwyr) Mae&#8217;r rhyngrwyd yn lle gwych i gysylltu \u00e2 ffrindiau, gweithio ar brosiectau, a gwneud arian hyd yn oed. Fodd bynnag, mae rhai pobl yn defnyddio&#8217;r rhyngrwyd i geisio cymryd eich arian CHI! Yn anffodus, mae dulliau twyllo\u2019n dod yn fwyfwy datblygedig ond peidiwch \u00e2 phoeni, rydw i yma [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":76425,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[37,58,30,107],"tags":[],"class_list":["post-1249","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-hunaniaeth-lles-digidol","category-hyfedredd-mewn-tgch","category-myfyrwyr","category-pencampwyr-digidol-myfyrwyr"],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_likes_enabled":true,"jetpack_sharing_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1249","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/users\/76425"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1249"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1249\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1258,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1249\/revisions\/1258"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1249"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1249"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/digital-capabilities\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1249"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}