Dathlu carreg filltir – RSPB – Celebrating a milestone

[The RSPB celebrates its 125th anniversary this year. Howard Williams, Phd candidate, gives us an insight into the uses of birds in Welsh poetry of the Middle Ages: from the gentlemanly pursuit of hawking to preparing birds for the pot. He also explains the metaphorical uses of birds, either to flatter noble patrons (eagles, peacocks) and their wives (gulls), or as trustworthy love messengers.]

Fel mae’r RSPB wedi cyfaddef o dro i dro, nid gwarchod adar yn uniongyrchol yw eu prif rôl, er gwaethaf eu henw, ond gwarchod cynefinoedd lle gall adar ffynnu. Ac felly gyda theimladau cymysg bydden nhw’n edrych ar Gymru’r Oesoedd Canol: fe fydden nhw’n cymeradwyo’r dirwedd amrywiol a diffyg ffermio dwys ond yn dychryn wrth sylweddoli bod pawb bron yn arfer ymateb i aderyn prin trwy geisio ei fwyta. Ond, pa resymau bynnag oedd ganddynt, o leiaf roedd pobl y cyfnod yn cymryd cryn dipyn o ddiddordeb mewn adar. Roedd eu barddoniaeth yn ddrych i hynny ac yn rhyfeddol o amrywiol: tua thrigain o rywogaethau sy’n hedfan trwy’r cerddi. Dyma ychydig o esiamplau i gynnig blas bychan ar yr arlwy.
Un o ddiddordebau mawr y boneddigion, a oedd yn gyfrifol am gynnal y beirdd proffesiynol, oedd heboca ac, yn ei sgil, gyfnewid adar hela â’i gilydd. Achubai’r beirdd ar y cyfle i lunio cerddi yn gofyn i un uchelwr am aderyn fel anrheg (‘gosawg’ neu hebog tramor fel arfer) dros uchelwr arall. Yn ogystal â moli’r uchelwyr (a gobeithio cael dau ddogn o nawdd am un gerdd) mae’r beirdd yn cynnwys disgrifiadau manwl a dychmygus o’r gweilch hyn. Cynhwysir hefyd restrau go ffansïol o’r prae y byddai’r aderyn yn arfer ei ddal megis adar y bwn, crehyrod a garanod (cranes!) – a phob un ar eu ffordd i’r pot. Mae cerddi tebyg i ofyn am elyrch a pheunod wedi goroesi ac ynddynt, ar ôl cyfleu’n grefftus harddwch ac urddas yr aderyn, mae ambell i fardd yn mentro awgrymu rysáit bach a’r math gorau o win i’w hebrwng.
Byddai sawl math o aderyn yn cael eu hanfon hefyd at ferched fel negeswyr serch, megis gwylan ac ehedydd Dafydd ap Gwilym. Yn ddiweddarach, fe’u gyrrid at noddwyr i’w seboni a hyd yn oed at gyfeillion i dynnu eu coesau. Personoli adar oedd y fath ganu wrth gwrs ond ar ôl llyncu’r rhagdybiaeth ffantasïol hon gallwn weld yn aml ryw bwyslais ar ymarferoldeb, a hynny wrth ddewis aderyn sy’n gymwys i’r dasg sy’n ei wynebu, rhoi cyfeiriadau iddo a’i rybuddio rhag cael ei ddal mewn un ffordd neu’i gilydd gan helwyr.
Mae adar yn cael eu defnyddio’n aml gan y beirdd fel trosiad. Yn wir, anodd dod o hyn i gerdd o fawl neu ddychan heb gyfeiriad o’r fath. Nid yw llawer o’r trosiadau yn peri syndod, megis galw noddwr yn eryr a galw canwr (neu fardd) yn eos, ond mae sawl un yn fwy annisgwyl. Roedd tebygu rhywun i’r aderyn, iconaidd bellach, sy’n hedfan yn osgeiddig uwch tir Cymru, sef y barcud coch, yn fodd o’i sarhau, yn enwedig y newydd-ddyfodiad a oedd yn ceisio ymuno â rengoedd y boneddigion (er bod y beirdd yn ddigon parod i ffugio ach iddo mewn byr o dro). Ffordd o ganmol uchelwr, heb arlliw o awgrym ei fod yn ffroenuchel neu’n narsisaidd, oedd ei alw’n baun, a gwylan oedd ei wraig heb ensynio ei bod hithau’n drachwantus neu’n haerllug.
Adloniant poblogaidd oedd barddoniaeth yn yr Oesoedd Canol a byddai’r RSPB yn cenfigennu at faint o sylw a gafodd adar ynddi.

Howard Williams, ymgeisydd PhD sydd wrthi ar hyn o bryd yn gorffen traethawd ar adar yng ngwaith y cywyddwyr.

Comments are closed.