Cadair Eisteddfodol 1912 Eisteddfodic Chair

Daeth ymwelydd arbennig iawn i’r Adran 4 Mehefin, sef Hefin Wyn. Mae Hefin Wyn yn gynfyfyriwr i ni ac roedd yn teithio i Aber am reswm penodol iawn.

Rydym fel Adran yn ffodus iawn bod Hefin Wyn a’i deulu wedi penderfynu cyflwyno cadair eisteddfodol a phortread o’i hen ewythr, Gwilym Williams, i’n gofal.

Roedd Gwilym yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth ac yn gynfyfyriwr yn yr Adran. Profodd ei fod yn fardd medrus trwy ennill nifer o gadeiriau eisteddfodol, gan gynnwys Cadair Eisteddfod y Brifysgol, 1912 a feirniadwyd gan T. Gwynn Jones, darlithydd yn yr Adran ar y pryd.

Wedi i Gwilym raddio yn 1913 bu’n gweithio fel athro yn Ysgol Ganolraddol Y Drenewydd, lle cyfarfu â Jane Helen Rowlands, athrawes Ffrangeg. Mae’n debyg i’r ddau gwympo mewn cariad, ond penderfynodd Helen gysegru ei bywyd i waith cenhadol dramor. Dyma englyn a ysgrifennwyd gan Gwilym i ddymuno’n dda iddi:

Draw i randir yrIndia – mae Helen
Am hwylio o Walia;
O’n golwg ni, O gwylia
Hi dros y dŵr, Iesu da.

(Dan yr Helyg, 1917, t. 103)

Yn 1915, er nad oedd gorfodaeth arno, penderfynodd Gwilym ymuno â’r fyddin, a chafodd ei wneud yn Is-gapten gyda’r Ffiwsilwyr Cymreig. Yn ystod ei gyfnod yn hyfforddi yn Rhuddlan anfonai lythyrau at ei deulu ac at Helen hefyd. Anfonwyd ef i faes y gad fis Ebrill 1916 ac ar fore Sadwrn 20 Mai derbyniodd ei rieni luniau ohono yn ei lifrai milwrol. Heb yn wybod i’w deulu, cafodd Gwilym ei glwyfo yn ystod oriau mân y bore hwnnw a bu farw yn gynnar fore Sul 21 Mai. Claddwyd ef drannoeth, Ddydd Llun 22 Mai, a’r pnawn hwnnw derbyniodd ei deulu frysneges yn cadarnhau bod Gwilym wedi marw. Dyma a ddywedodd y Capten wrth dalu teyrnged i ddewrder y bardd ifanc:
Gwnâi filwr da, cofiaf iddo ddwedyd wrthyf un min nos, ill dau yn dyheu am gael byw i weld y rhyfel ’ma drosodd. ‘And yet,’ meddai, ‘there’s a certain romance in dying Young, and dying for your country’.

Cyhoeddwyd cyfrol goffa i Gwilym gan ei deulu yn 1917, sef Dan yr Helyg. Mae’r gyfrol yn cynnwys ei gerddi, rhai darnau o ryddiaith, yn ogystal â rhai englynion gan ei frawd John. Mae’r bryddest ‘Gwanwyn Bywyd’ hefyd i’w chael rhwng cloriau’r gyfrol, sef y gerdd a enillodd iddo Gadair Eisteddfod Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, 2 Mawrth 1912. Cerdd yw hon sy’n ein tywys drwy fywyd plentyn o’r crud, gan wneud defnydd effeithiol o’r misoedd a’r tymhorau i gyfleu treigl amser. Dyma flas ohoni:

Tegach fil na blodau’r byd
Ydyw llewych wyneb plentyn,
A phereiddiach miri’r crud
Na thelori’r un aderyn.

Mae’i galon dyner mor santaidd wyn
A’r alaw wylaidd ym min y llyn.

Cyn laned ydyw ei feddwl ef
A’r ôd pan ddelo i lawr o’r nef.

Fyd, na fydd euog o wneuthur cam
Ag eilun calon ei dad a’i fam.

Ni fydd lonydd Gwener wen
Onis dwg i wŷdd ei feinwen,
Ac i ddwy gymylog nen
Wedi cawod daw yr heulwen;
Fraich ymraich hyd lwybrau’r allt
Gwyra’r ddau yng ngwynfa cariad,
Cusan, gwen a deigryn hallt
Ydyw iaith hyotla’u teimlad.

Gyda gwellt neu blu’n ei phig
Mae Mehefin wedi dyfod,
Medd mwyalchen yn y wig,
Medd y wennol dan y bargod;
Moliant haf a gan pob un
Pan fo lawn y pebyll bychain,
Moli’r haf mae mab a mun
Ar eu haelwyd fach ei hunain.

Hoffai Adran y Gymraeg a Phrifysgol Aberystwyth ddiolch i deulu Gwilym Williams am gyflwyno’r gadair, y portread a llythyrau Gwilym Williams i’w gofal. Gobaith diffuant yr Adran yw y bydd y rhoddion hyn yn parhau’r cof am Gwilym Williams a’i farddoniaeth ymhlith ei myfyrwyr. Bydd Llyfrgell Hugh Owen yn trefnu arddangosfa arbennig i goffáu canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Mawr, a bydd gan Gwilym Williams le anrhydeddus yn yr arddangosfa honno.

Cynhelir achlysur swyddogol i dderbyn y rhoddion yn Adran y Gymraeg 19 Tachwedd 2014. Bydd yr Athro Gerwyn Williams yn traddodi darlith ar lenyddiaeth Gymraeg a’r Rhyfel Mawr a bydd Hefin Wyn yn traethu ar fywyd a gwaith Gwilym Williams.

Gwenan Davies, Myfyrwraig Raddedig Dan Hyfforddiant Adran y Gymraeg a Chanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg, BA Cymraeg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu (2013)

Comments are closed.