Meeting Michael D. Higgins, President of Ireland

Three members of staff and three students from the Welsh Department’s Celtic Studies programme recently represented Aberystwyth University at a reception held in the Cardiff Millennium Centre for Michael D. Higgins, the good-natured, eloquent and immensely popular President (since October 2010) of the Irish Republic who was visiting Wales to promote the development of a Wales-Ireland sector for facing a shared range of economic, political cultural and environmental challenges.

President Higgins is well known as a poet and supporter of the arts. As Minister for Arts, Culture (now ‘Heritage’) and the Gaeltacht in 1993–97 he was largely responsible for re-establishing the Irish Film Board and creating the nation’s Irish language television service (TG4). In April 2014 his was the first official visit ever made by an Irish Head of State to the United Kingdom, to Parliament and to Windsor Castle.

Dr Ian Hughes, Dr Simon Rodway, and Dr William Mahon, along with postgrads James McCann (MA) and Hynek Janousek and Erasmus student Sarah O’Neill (National University of Ireland, Galway) made the minibus trip to Cardiff on Tuesday, 28 October. The reception was held from 12.30 – 2.30 and featured an inspiring speech by the President which included specific reference to the Irish-language tuition available at Aberystwyth University and the financial support it receives from the Irish government. Each of the Aberystwyth representatives also had an opportunity to exchange private words with President Higgins.

An additional highlight for the Aberystwyth visitors was a chance meeting with the Welsh literary giant and Gaelophile Dr Harri Pritchard Jones who shared memories of his days spent in the Aran Islands and spoke to them in excellent Irish.

Derbyniad gyda Arlywydd Iwerddon 1

Dr Ian Hughes, Sarah O’Neill, Dr William Mahon, Dr Harri Pritchard Jones, Dr Simon Rodway, James McCann, Hynek Janousek

The invitation to members of Aberystwyth University came from the Irish Embassy in London at the suggestion of Séamus Mac Giolla Chomhaill, Principal Officer for Irish Language policy and economic, social and cultural development of the Gaeltacht (Irish-speaking regions) within the Department of Arts, Heritage and the Gaeltacht. Mr Mac Giolla Chomhaill had paid a visit to the Aberystwyth Welsh Department last May and was highly impressed by the linguistic competence and expertise of the Celtic-Studies teaching staff.

Dr William Mahon, Darlithydd Astudiaethau Celtaidd

Swper ffarwel yr Athro Patrick Sims-Williams

Daeth staff a ffrindiau’r Adran, ynghyd â’u partneriaid, at ei gilydd nos Wener 10 Hydref i ddiolch yn ddiffuant i’r Athro Patrick-Sims am ei 20 mlynedd ar staff yr Adran. Yn sgil anerchiad gan Robrin Chapman a’r llwnc destun ‘Patrick, yr Adran a’r dyfodol’, ac atgofion am Patrick fel athro gan Simon Rodway, darllenodd Huw Meirion Edwards yr englyn hwn o deyrnged a gyfansoddodd i nodi’r achlysur:

Nid un wyt ti i daenu — gŵn o ddysg

Yn ddi-wên o’th ddeutu;

Dy anian ydyw rhannu

Ymroddiad oes – da foes fu.

Dywedodd yr Athro Gruffydd Aled Williams air byrfyfyr wedi hynny. Cyfeiriodd at unplygrwydd Patrick, a soniodd am ddigwyddiad pan oedd draw yn Tsieina wrth y Mur Mawr. Holodd brodor o ble’r oedd yn dod, a phan atebodd mai Aberystwyth yng Nghymru, gofynnwyd iddo a oedd yn adnbod Patrick Sims-Williams!

Cyflwynwyd cardiau a rhodd i Patrick gan Rhian Haf Owen: rhestr o’i brif weithiau cyhoeddedig wedi’i llythrennu’n gain gan Mihangel Morgan. Wrth ddiolch am y rhodd a’r anerchiadau, soniodd Patrick am ddod i Aberystwyth o Gaer-grawnt yn 1994, am ei bryder wrth ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg am y tro cyntaf, ac am y cyfeillgarwch a ddangoswyd iddo yn ei gartref newydd.

Daeth y noson i ben dros lasaid neu ddau, a phawb yn cael cyfle i sgwrsio â phawb arall bron. Noson i’w chofio!

Dr Robin Chapman, Yr Athro Patrick Sims-Williams a Dr Mihangel morgan

Dr Robin Chapman, Yr Athro Patrick Sims-Williams a Dr Mihangel Morgan

Gwobrau Dysgu Prifysgol Aberystwyth – 2014 – Aberystwyth Teaching Awards

Llongyfarchiadau i Adran y Gymraeg!

Cynhaliwyd noson i nodi’r ‘Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr’ yn ddiweddar ac, yn dilyn llwyddiant Dr Robin Chapman y llynedd, fe fu’r Adran yn amlwg mewn dau gategori eleni…
Enillodd James McCann (myfyriwr PhD) dystygrif ‘Cymeradwyaeth Uchel’ yn y categori ‘Cynrychiolydd Myfyrwyr’, ac fe enillodd Adran y Gymraeg dystysgrif ‘Cymeradwyaeth Uchel’ yng nghategori ‘Adran y Flwyddyn’. Gellir gweld lluniau o’r noson ar dudalennau Facebook Undeb Myfyrwyr Aberystwyth
‘Mae Adran y Gymraeg yn adran anhygoel sy’n llawn darlithwyr brwdrydig ac yn barod i helpu’
Llongyfarchiadau i James ac i holl staff yr Adran. Diolch iddynt hefyd am eu hymroddiad a’u gwaith caled, a diolch i bob un o fyfyrwyr yr Adran a ddangosodd eu gwerthfawrgogiad drwy bleidleisio.

Congratulations to the Welsh Department!
May witnessed the annual ‘Student Led Teaching Awards’ and, following Dr Robin Chapman’s success last year, the Department was prominent in two categories this year…
James McCann (a PhD student) gained a ‘Highly Commended’ certificate in the ‘Student Representative’ category and the Department of Welsh gained a ‘Highly Commended’ certificate in the category, ‘Department of the Year’. Photographs of the evening are available on Aberystwyth Student Union’s Facebook page…
‘The Department of Welsh is an incredible department full of enthusiastic lecturers and always ready to help’
Congratulations to James and all staff of the Department and a big thank you for their commitment and hard work. With thank also to every student who showed their appreciation by voting.

James a Rhian

James a Rhian

Llawlyfr Hen Gymraeg

[This post celebrates the beginning of a project to update and translate Dr Alexander Falileyev’s grammar of Old Welsh into Welsh. Originally written in Russian, the volume was translated into French in 2008 and subsequently won the Vernam Hull Memorial Prize. The Welsh version, Llawlyfr Hen Gymraeg, is funded by a Coleg Cymraeg Cenedlaethol grant awarded to Dr Falileyev and Dr Simon Rodway.]

Llongyfarchiadau! Heddiw yw diwrnod cyntaf prosiect newydd yn Adran y Gymraeg. Mae Dr Simon Rodway a Dr Alexander Falileyev wedi ennill grant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gyfieithu gramadeg Hen Gymraeg Dr Falileyev, a ysgrifennwyd yn Rwsieg yn wreiddiol, i’r Gymraeg. Y gyfrol hon yw’r disgrifiad cynhwysfawr cyntaf o’r iaith. Cyfieithwyd y gyfrol Rwsieg i’r Ffrangeg yn 2008 ac enillodd Wobr Goffa Vernam Hull y flwyddyn honno. Bydd y fersiwn Gymraeg newydd yn cael ei thargedu at gynulleidfa yng Nghymru ac ym Mhrydain yn gyffredinol, yn fyfyrwyr ac yn ddarlithwyr fel ei gilydd. Nid cyfieithiad moel fydd hwn, ond yn hytrach ddiweddariad cyflawn o argraffiad 2008. Bydd fformat y llyfr yn debyg i lawlyfrau academaidd eraill a gyhoeddwyd yng Nghymru, e.e. Llawlyfr Llydaweg Canol (1922) a Llawlyfr Cernyweg Canol (1928) gan Henry Lewis.

CCC-Melyn

Gwledd o lyfrau…

Bu 2013 yn flwyddyn brysur i ddarlithwyr Adran y Gymraeg… Cyhoeddwyd gwledd o lyfrau ganddynt a fydd, yn eu tro, yn bwydo i mewn i’r modiwlau arbenigol y maent yn eu dysgu ar gynlluniau BA ac MA yr Adran. Rhagor na hynny, fe gyhoeddwyd eu llyfrau mewn da bryd ar gyfer y farchnad Nadoligaidd! Os ydych yn chwilio am anrheg i rywun arall neu ynteu ddeunydd darllen i chi eich hun, cofiwch gyhoeddiadau’r staff…

Mihangel Pygiana

Ysgrifennu Creadigol

• Huw Meirion Edwards, Lygad yn Llygad: casgliad o gerddi amlhaenog a chain yn y mesurau caeth a rhydd.

• Mihangel Morgan, Pygiana ac Obsesiynau Eraill: ysgrifau pryfoclyd a hynod ddifyr… Beth yw apêl y pwg?

Iaith a llên Cymru’r Oesoedd Canol

• Ian Hughes, Math uab Mathonwy: argraffiad Saesneg o’r chwedl ddyrys hon sydd hefyd yn cynnwys nodiadau beirniadol trylwyr ar y testun.

• Bleddyn Owen Huws (gol.), Dwned, 19 (2013): rhifyn newydd o’r cylchgrawn dylanwadol hwn sy’n trafod hanes a llên Cymru’r Oesoedd Canol. Mae’r rhifyn hwn yn cwmpasu trafodaethau ar dynged (Ian Hughes), penwisgoedd merched yn y canu serch (Alaw Mai Edwards), ‘Cywydd Gwenonwy’ (A. Cynfael Lake, cyd-olygydd Dwned) ynghyd â gwedd newydd ar hanes Owain Glyndŵr (Gruffydd Aled Williams).

• Simon Rodway, Dating Medieval Welsh Literature: cyfrol sy’n eglurhau un o sialensau mwyaf cymhleth a chyffrous llên Cymru’r Oesoedd Canol.

Bleddyn Lansiad Dwned 1

Ysgolheictod testunol

• Marged Haycock, Prophecies from the Book of Taliesin: golygiad newydd ac awdurdodol o gerddi proffwydol un o lawysgrifau mwyaf heriol y Gymraeg.

• Richard Glyn Roberts, Diarhebion Llyfr Coch Hergest: golygiad newydd a chyflawn o ddiarhebion y Llyfr Coch – ac amryw ohonynt yn goch iawn!

Y Celtiaid a Cheltigrwydd

• Alexander Falileyev, The Celtic Balkans: golwg newydd ar gysylltiadau Celtaidd ardal ddiddorol a chymhleth.

Ymgartrefu yn y Coleg Ger y Lli

[Dr Rhianedd Jewell blogs about settling in to her new job at Aberystwyth as Coleg Cymraeg Cenedlaethol Lecturer in Profesional Welsh.]
Ym mis Medi eleni dechreuais fy swydd newydd fel Darlithydd mewn Cymraeg Proffesiynol yn Adran y Gymraeg. Cefais fy ngeni a’m magu yn ardal Caerffili, ac ar wahân i ambell daith i’r dref gyda ffrindiau a’r teulu (bu fy nhad a’m tad-cu yn astudio yn Aber!), roedd Aberystwyth yn ddieithr iawn i mi. Y mae’r wythnosau diwethaf, felly, wedi bod yn antur i mi; cyfle i grwydro’r dref ac i fynd ar goll sawl gwaith yng nghoridorau cymhleth a grisiau troellog yr Hen Goleg.

Rwyf wedi darganfod sawl agwedd hyfryd ar fywyd yn Aber erbyn hyn…

Y cyntaf yw presenoldeb yr Eidal yng Ngorllewin Cymru. Treuliais naw mlynedd o’m bywyd yn astudio Eidaleg fel myfyrwraig yn Rhydychen, ac yn naturiol felly, rwyf yn dwli ar fwyd Eidalaidd. Pleser pur felly yw torri ar draws gwaith darllen neu ymchwil er mwyn cael cappuccino bach yn Agnelli’s ar Stryd y Bont.

Yr ail bleser yw’r promenâd, y rhodfa hirfaith sy’n rhannu machlud anhygoel ar noson glir, ac sy’n cynnig croeso cynnes wrth gerdded i’r gwaith ben bore. Mae’r gwyntoedd yn cryfhau wrth i fisoedd y gaeaf nesáu, gan herio f’ymbarél bach, ond mae’r ymarfer corff yn gwneud lles i mi! Ac mae adlewyrchiad y lloer a goleuadau’r prom ar lan y môr yn gysur wrth i’r nosweithiau gau yn gynt.

Y pleser olaf yw’r llyfrgelloedd. Caiff hanes, traddodiad, creadigrwydd a hunaniaeth Cymru eu diogelu yn llyfrgell y Brifysgol a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a gwahoddir myfyrwyr, darlithwyr a darllenwyr o bob math i ddyfnhau eu gwybodaeth a’u dychymyg trwy ymddiddori yn y trysorau a gedwir ynddynt.

Yn wir, dyma leoliad ysbrydoledig i ddechrau antur newydd, ac er mor brysur yw gwaith y tymor, yr wyf yn mwynhau’r fraint o gyd-gerdded â’r myfyrwyr ar eu hanturiau nhw.

Rhianedd Jewell, Darlithydd mewn Cymraeg Proffesiynol

Llun Rhianedd

Eisteddfota 2013: lansio Lygad yn Llygad (2013) gan Huw Meirion Edwards

[Dr Huw Meirion Edwards launched his first volume of collected poems at the Eisteddfod.]
Roedd bwrlwm cyson ar stondin Prifysgol Aberystwyth yn ystod yr Eisteddfod yn Ninbych eleni: roedd rhai’n mynychu’r gweithgareddau amrywiol a drefnwyd gan y Brifysgol ac eraill yn taro heibio am baned a chlonc. Er gwaethaf y traffig eisteddfodol, cyrhaeddais stondin y Brifysgol am hanner dydd, 7 Awst 2013, mewn pryd ar gyfer un o uchafbwyntiau’r wythnos, sef lansio Lygad yn Llygad gan Huw Meirion Edwards…

Hon yw cyfrol farddonol gyntaf Huw Meirion ac roedd y lansiad yn gyfle i’w glywed yn sôn am ei gerddi, am glawr trawiadol y gyfrol, ac am y pethau amrywiol ac amlochrog sy’n ei ysbrydoli. Darllenodd ambell gerdd hefyd er mwyn rhoi blas i bawb ar themâu a chyweiriau’r gyfrol. Wrth ei glywed yn darllen y cerddi ar lafar, daeth i’m meddwl mai anaml iawn, mewn gwirionedd, y byddaf yn ‘clywed’ barddoniaeth. Mae cyflwyno elfen berfformiadol i farddoniaeth yn dod â cherddi’n fwy byw i gynulleidfa wrth iddi glywed rhythmau cerdd a phwylais bardd ar eiriau neu ymadroddion penodol. Clywsom gerddi cyfarch gan Dafydd Pritchard ac Iwan Bryn James sy’n aelodau gyda Huw Meirion o dîm Talwrn y Cŵps, ac i gloi’r lansiad cawsom gyfle i wrando ar Catrin Herbert, un o fyfyrwyr Huw Meirion ar y modiwl Ysgrifennu Creadigol, yn perfformio rhai o’i chaneuon … neu’n hytrach ei cherddi?

Fel y gellid disgwyl gan arbenigwr ar farddoniaeth Dafydd ap Gwilym sy’n dysgu modiwl MA ar y bardd, mae cerddi Huw Meirion wedi eu gwreiddio yn y traddodiad barddol Cymraeg, ond eto i gyd yn arddangos eofndra parchus tuag at y traddodiad hwnnw. Un o’r cerddi a ddarllenodd oedd ‘I ofyn llwyth o dail…’, cerdd sy’n ymateb yn eironig i draddodiad y canu gofyn ac yn dyst i’r ‘afiaith perig’ y soniodd y Prifardd Dafydd Pritchard amdano yn ei gerdd yntau i Huw Meirion:

Mae i eiriau Huw Meirion
olud a maeth hen wlad Môn,
awen helaeth ei thraethau’n
wyn eu gwedd a’r Fenai’n gwau
trwy drobyllau’i geiriau i gyd
yn afiaith perig hefyd.
(Dafydd Prichard, ‘Ar achlysur lawnsio Lygad yn Llygad’)*

Cerddi achlysurol yw amryw o gerddi’r gyfrol ac maent yn agor cil y drws ar wedd gymdeithasol barddoniaeth; yn achos Huw Meirion, ei ymwneud â thîm Talwrn y Cŵps a thîm ymryson Ceredigion. Mae cerdd Iwan Bryn yn dweud y cyfan a hynny drwy efelychu’n gampus ormodiaith yr hen ganu:

Wyt ŵr mawr, wyt eryr Môn,
Ein harwr wyt, Huw Meirion

Wyt athrylith, ddarlithydd,
Wyt wron o safon sydd
Yn wych am ein harwain ni,
Yn hwyliog ysbrydoli.

‘Lygad yn Llygad’ mewn llaw,
Na heglwch o’ma’n waglaw.
(Iwan Bryn James, ‘Cywydd Mawl i Huw Meirion’)*

Dilynwch #lygadynllygad ar gyfrif Trydar yr Adran (@CymraegAber) a chofiwch drydar eich hoff gerddi, eich hoff gwpledi neu eich hoff drawiadau…

Diolch i bawb a gyfrannodd at y lansiad ac i bawb a ddaeth yno i gefnogi, ac yn arbennig i Marred Glynn a Geraint Lloyd Owen (Gwasg y Bwthyn).

*Diolch i Dafydd Prichard ac Iwan Bryn am ganiatáu i mi ddyfynnu o’u cerddi.

Cathryn Charnell-White

Huw Lydag yn Llygad 2

Catrin Herbert Lygad yn Llygad

Golygydd gwadd ‘Post Cyntaf’, Radio Cymru, 28 Awst 2013

[Head of Department, Cathryn Charnell-White, blogs about her experience as guest editor on Radio Cymru’s morning news programme, ‘Post Cyntaf’, in which she discussed butterflies and knitting – and their literary connections.]
Un o’m dyletswyddau mwyaf pleserus yn fy swydd newydd fel Pennaeth Adran oedd bod yn olygydd gwadd ar y ‘Post Cyntaf’. Gofynnwyd i mi ddewis dau bwnc ymlaen llaw er mwyn i newyddiadurwyr Radio Cymru lunio pecynnau i’w ddarlledu ar y dydd. Dewisais un pwnc difrifol (hynt a helynt ieir fach yr haf) ac un ysgafnach ei naws (y grefft o wau).

Ieir bach yr haf
Dewisais y pwnc hwn oherwydd bod llai o ieir fach yr haf i’w gweld yn yr ardd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’n debyg mai’r tywydd sy’n cyfrif am hyn: mae cyfres o hafau gwlyb a diflas wedi rhwystro’r creaduriaid rhag paru a dodwy wyau.

Gellir cefnogi ieir bach yr haf trwy blannu planhigion fel coed mêl (buddleia) sy’n darparu digon o neithdar ar eu cyfer, ac hefyd trwy neilltuo ‘man gwyllt’ yn yr ardd er mwyn sicrhau bod cynefinoedd addas ar gael ar gyfer eu cylch bywyd llawn. Dyma esgus da i beidio â thorri’r lawnt ac i roi rhwydd hynt i’r danadl poethion…
• Gweler cynllun Garddio Bywyd Gwyllt Eryri
• Gellir chwilio am enwau cynhenid Gymraeg am ieir bach yr haf ar wefan naturiaethol llênnatur.com, heb sôn am ymgolli yn yr oriel fendigedig o luniau…

Mae gennyf ddiddordeb byw ym myd natur ac ers sawl blwyddyn bellach rwy’n sianelu’r diddordeb hwnnw i’m gwaith ymchwil ar lenyddiaeth y tirlun a’r hinsawdd 1500–1800. Rwy wedi mwynhau edrych ar destunau llenyddol o berspectif gwahanol trwy gydweithio gydag aelodau o staff Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear (SDGD/IGES) ar hinsoddeg hanesyddol (S. historical climatology) yng Nghymru. Bûm hefyd ar bwyllgor ymgynghorol ‘Eira Ddoe: cofio tywydd eithafol’ (LlGC), prosiect sy’n annog y cyhoedd i rannu eu hatgofion o dywydd eithafol yng Nghymru. Rwy wrthi’n paratoi Trysorfa’r Tywydd (2015) i Barddas, sef detholiad o gerddi a phytiau llenyddol am yr hinsawdd ‘ar tywydd yng Nghymru.

Gan fod llên natur a llên y tywydd yn enghreifftiau da iawn o’r modd y mae pwnc hanesyddol yn berthnasol iawn i’r presennol, rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu modiwl ecofeirniadol ar lenyddiaeth y tirlun a’r amgylchedd yma yn Adran y Gymraeg. Yn y cyfamser, os ydych yn awyddus i ddarllen ymhellach dyma ambell beth defnyddiol:
• Timothy Clark, The Cambridge Guide to Literature and the Environment (Cambridge, 2011)
• Gwefan ‘The Association for the study of Literature and Environment’ (ASLE-UKI)
• Heather Williams, ‘Ecofeirniadaeth i’r Celtiaid’, Llenyddiaeth Mewn Theori, 3 (2008) [2009], 1–28.
• Cathryn A. Charnell-White, ‘Cofio’r tywydd yng Nghymru: casgliad Thomas Evans, Hendreforfudd o englynion meteorolegol’, Llên Cymru, 34 (2011), 62–87.
• Cathryn A. Charnell-White, ‘Eira mân, eira mawr’, Taliesin, 142 (Gwanwyn 2011), 19–27.

Gwau
Mae gwau yn ffordd dda o ymlacio ar ôl diwrnod caled o waith! Dangosodd pecyn Radio Cymru bod yr hen grefft hon yn mwynhau adfywiad ar hyn o bryd, a bod dynion, yn ogystal â menywod, yn ymateb i’r her…

Ceir patrwm ar gyfer sanau a ysbrydolwyd gan y testun Saesneg eiconig Beowulf. Tybed pa glasuron llenyddol Cymraeg a Chymreig a fyddai’n addas i fod ar y gweill, fel petai?

Fe luniodd Dafydd ap Gwilym gerdd yn gyfnewid am sanau a wnaed gan Elen gwraig Robin Nordd o Aberystwyth. Gweler Cerdd 120, llau. 13–28 ar wefan dafyddapgwilym.net. (Diolch i Dr Barry Lewis am y cyfeiriad hwn)

Cofiwch drydar eich cynigion trwy ddefnyddio #gwaullenyddol @CymraegAber.

Cathryn A. Charnell-White