Diwrnod yng Nghymru Fydd – cipolwg ar y dyfodol!

Mae fy ngwaith ymchwil, sy’n seiliedig ar archwilio llenyddiaeth ffuglen wyddonol yn y Gymraeg, wedi fy arwain ar hyd nifer o lwybrau cyffrous. Boed yn fentro i’r gofod yn chwilota am arallfydwyr neu wrth deithio drwy amser i ddyfodol pell, rwy’n mentro ar antur i dir anial, gan mai dyma’r astudiaeth gyntaf o’r genre yn y Gymraeg.

Yn ogystal â chrwydro llenyddol wrth bori drwy gyfrolau o ddydd i ddydd, rwyf hefyd wedi manteisio ar sawl cyfle yn y byd ‘go iawn’. Un o’r cyfleoedd hynny oedd mynd ati i drefnu Diwrnod yng Nghymru Fydd / A Day in Future Wales, gyda Rhodri ap Dyfrig, gynt o’r Adran Theatr, Ffilm a Theledu.

Roedd y gynhadledd, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Arad Goch yn Aberystwyth, yn gyfle i bobl ddod i drafod pynciau amrywiol yn seiliedig ar syniadau dyfodolaidd, a hynny mewn cyd-destun Cymraeg a Chymreig. Gwahoddwyd Bleddyn Bowen, myfyriwr ymchwil yn yr Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol, i gyflwyno agweddau o wleidyddiaeth economi’r gofod ac ystyried ei botensial i Gymru. Bu trafodaethau hefyd am gelf ac am gemau cyfrifiadurol a pherfformiad gan Eddie Ladd a Nico Dafydd, yn cyflwyno’r nofel ffuglen wyddonol Y Dydd Olaf gan Owain Owain i’r gynulleidfa. Cefais innau gyfle i gadeirio trafodaeth ar gyflwr lenyddiaeth ffantasi a ffuglen wyddonol heddiw, gyda’r awduron Elidir Jones ac Ifan Morgan Jones a’r academydd Dr Gareth Llŷr Evans, a ddatgelwyd fod mwy o alw am lenyddiaeth o’r fath yn y Gymraeg.
Diwrnod panel
Dathliad oedd y gynhadledd hon, yn hytrach na chynhadledd academaidd, a threfnwyd gig yn cynnwys HMS Morris a Roughion gyda’r nos i goroni’r cwbl. Ar ôl bron i dri fis o drefnu, roedd hi’n brofiad anhygoel gweld y cwbl yn dod at ei gilydd a phawb i’w gweld yn mwynhau. Heb os, dyma fu un o anturiaethau mwyaf cyffrous fy nghyfnod ymchwil hyd yma.

Miriam Elin Jones (BA Cymraeg), myfyriwr PhD dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Ymddeoliad hapus!

Dymunwn yn dda i Dr Mihangel Morgan, sy’n ymddeol o’r Adran ar ôl 22 o flynyddoedd. Mae ei gyfraniad i fywyd yr Adran wedi bod yn amlochrog, fel llenor dawnus, beirniad heriol a darlithydd ysbrydoldedig – a ffrind. At hynny bu’n bresenoldeb cadarnhaol a ffraeth mewn byrddau adrannol a chiniawau Nadolig.

Mae Mihangel wedi bod mor garedig â gadael rhai degau o lyfrau inni, a dau ddarn o galigraffeg o’i waith ei hun i’w harddangos.

Edrychwn ymlaen at gael dathlu ei gyfraniad i fywyd yr Adran pan fydd arholiadau Semester 1 wedi gorffen. Yn y cyfamser, dymnwn ymddeoliad hapus (a chreadigol!) i Mihangel.

Croeso cynnes yng Nghaeredin

Yr wythnos hon yng Nghaeredin cynhaliwyd cyfarfod blynyddol olaf y prosiect a ariennir gan Ymddiriedolaeth Leverhulme: ‘Women’s Poetry in Ireland, Scotland and Wales 1400–1800’. Cynhaliwyd cyfarfodydd blaenorol yn y trefi sy’n gartref i gyfranwyr eraill y prosiect, sef Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Genedlaethol Iwerddon, Galway.

Treuliodd y tîm fore cyfan yn dod â strwythur y flodeugerdd i fwcwl. Bydd y gyfrol orffenedig yn cynnwys cerddi Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban, Cymraeg, Sgoteg, Eingl-Sgoteg, Sgoteg Ulster a Saesneg, ac yn eu plith mae cerddi gan fenywod a ddarganfuwyd yng nghwrs y prosiect hwn! A ninnau wedi cytuno ar gynnwys y flodeugerdd, troesom ein sylw at y gyfrol feirniadol y byddwn yn ysgrifennu ar y cyd ac a fydd yn tynnu sylw at yr elfennau cymharol diddorol sydd i’w gweld yn y cerddi gan fenywod. Er enghraifft, mae sawl gwahaniaeth generig a chenedlaethol trawiadol yn eu hamlygu eu hunain, o farwnadau gwleidyddol prydyddesau Iwerddon a’r Alban i Deyrngarwch Brenhinol baledwragedd Cymru!

Roedd yn braf cael bod mewn dinas mor hardd â Chaeredin a chael croeso gan gydweithwyr Ysgol Llenyddiaethau, Ieithoedd a Diwylliannau Prifysgol Caeredin sydd wedi ei lleoli ar Sgwâr Siôr. Mae hi wastad yn bleser cael cydweithio gyda Dr Sarah Dunnigan o’r Adran Saesneg, ac roedd yn braf hefyd cael cwrdd â chydweithwyr o’r Adran Astudiaethau Celtaidd ac Albanaidd. Edrychwn ymlaen at ddychwelyd flwyddyn nesaf i draddodi papurau ar ddarganfyddiadu’r prosiect.

Dilynwch ein cyfrif Trydar @WomensPoetryISW

Gwobr Goffa Vernam Hull Memorial Prize

[This post congratulates Dr Richard Glyn Roberts, a new member of staff, who was recently awarded the Vernam Hull Memorial Prize for his scholarly edition and discussion of the collection of proverbs in the iconic medieval manuscript Llyfr Coch Hergest (The Red Book of Hergest): Diarhebion Llyfr Coch Hergest (2013). The Ellis Grifiths Memorial Prize was awarded to Dr Rhiannon Marks, graduate of the Department of Welsh and Celtic Studies at Aberystwyth, and lecturer at the School of Welsh, Cardiff University]

Llongyfarchiadau calonnog i’n cydweithiwr newydd Dr Richard Glyn Roberts, enillydd Gwobr Goffa Vernam Hull. Dyfernir Gwobr Goffa Vernam Hull am waith cyflawn sy’n ymwneud â Rhyddiaith Gymraeg cyn 1700, a derbyniodd Richard y wobr am ei gyfrol Diarhebion Llyfr Coch Hergest (Aberystwyth: CMCS, 2013). Ceir yn y gyfrol y golygiad cyntaf o’r casgliad o ddiarhebion a gedwir yn y llawysgrif ganoloesol Gymraeg bwysig, Llyfr Coch Hergest, ynghyd ag astudiaeth o’r deunydd diddorol hwnnw. Mae ei ymchwil i baremioleg, sef diarhebion, yn parhau… Mae ef ar hyn o bryd yn golygu casgliad diarhebion William Salesbury a Gruffydd Hiraethog, Oll Synnwyr pen Kembero ygyd (1547), sef yr ail lyfr printiedig yn y Gymraeg. Bydd myfyrwyr Rhan 2 yr Adran yn mwynhau darlithiau Richard ar William Salesbury ar y modiwl ‘Y Gymraeg: iaith dysg a chymdeithas’.
Screen Shot 2015-10-06 at 22.34.00
Hefyd, dyfarnwyd Gwobr Goffa Ellis Griffiths 2014 i Dr Rhiannon Marks, un o raddedigion yr Adran hon a darlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Derbyniodd Rhiannon y wobr am ei chyfrol ‘Pe gallwn, mi luniwn lythyr’: golwg ar waith Menna Elfyn (Gwasg Prifysgol Cymru, 2013), cyfrol feirniadol arbrofol sy’n dehongli cerddi Menna Elfyn ac yn trafod ein perthynas â llenyddiaeth.

Llongyfarchiadau i Richard a Rhiannon!

Gweinyddir a dyfernir y gwobrau gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.
Darllenwch y stori lawn yma

Croeso! Fáilte! Degemer mad!

Mae hi wastad yn braf croesawu myfyrwyr newydd a chyfredol i’n plith ar ddechrau tymor. Eleni rydym hefyd yn croesawu staff newydd i’r Adran, felly, dyma nhw yn eu geiriau eu hunain…

It is always a pleasure to welcome new and returning students at the beginning of term. This year we are also pleased to welcome new members of staff to the Department. Here they are in their own words…

Peadar Ó Muircheartaigh
I’m from Mayo in the west of Ireland and lecture in Celtic Studies at Aberystwyth. My main research interest is the dialectology and historical linguistics of Irish, Scottish Gaelic and Manx languages. I also work on the literature, literary history and print/manuscript culture of the Gaelic languages in the eighteenth century. I studied Modern Irish (BA) and Old and Middle Irish (MA) at the National University of Ireland, Galway, before going to the University of Notre Dame and the University of Edinburgh for further postgraduate study. Before coming to Aberystwyth, I taught at Edinburgh, Glasgow and Maynooth. I’m currently working on an annotated edition of the earliest (1782) printed anthology of Irish poetry.

Is as Maigh Eo agus tá mé i mo léachtóir leis an Léann Ceilteach anseo in Aberystwyth. Baineann mo chuid taighde, go príomha, le canúineolaíocht agus le teangeolaíocht stairiúil na dteangacha Gaelacha ach ta spéis ar leith agam in oidhreacht liteartha na nGael san ochtú haois déag. Cuireadh oiliúnt sa Nua-Ghaeilge (BA) agus sa tSean- agus Mhéan-Ghaeilge (MA) orm in Ollscoil na hÉireann, Gaillimh, sular thug mé aghaidh ar an University of Notre Dame agus an University of Edinburgh. Chaith mé tréimhsí éagsúla i mbun teagaisc i nDún Éideann, i Maigh Nuadh agus i nGlaschú, sular tháinig mé go dtí Aberystwyth. Tá an chéad díolaim filíochta a foilsíodh sa Ghaeilge (1782) á cur in eagar agam faoi láthair.

James McCann
Tógadh i bPortsmouth Shasana mé agus tháinig mé go hAberystwyth le BA a dhéanamh sa Léann Ceilteach de bhrí gur í seo an t-aon Roinn amháin ina bhféidir na teangacha Ceilteacha beo uilig a fhoghlaim, gan trácht ar na foirmeacha stairiúla ar nós na Sean-Bhreatnaise agus na Sean-Ghaeilge.
Tá mé ar tí dochtúireacht a chríochnú atá bunaithe ar cheann de théacsanna Robert Gwyn, an t-údar Caitliceach Breatnaise ón séú haois déag. I measc na n-ábhar taighde ar spéis liom iad tá litríocht Chaitliceach na Breatnaise, filíocht Ghaeilge na hochtú haoise déag, agus litríocht na hAthbheochana. Beidh mé ag múineadh Breatnaise do thosnaitheoirí agus chúrsaí atá ag baint le teanga agus litríocht na Nua-Ghaeilge.

Rwy’n dod yn wreiddiol o ddinas Portsmouth a deuthum i Aberystwyth i wneud BA mewn Astudiaethau Celtaidd oherwydd mai hon yw’r unig Adran lle gallwch ddysgu’r holl ieithoedd Celtaidd byw, heb sôn am ffurfiau hanesyddol fel Hen Gymraeg a Hen Wyddeleg? Hefyd, a yw’n gywir ychwangeu ‘yn yr ugeinfed ganrif’ ar ôl ‘yr Adfywiad’?
Yr wyf ar fin gorffen doethuriaeth yn seiliedig ar un o weithiau Robert Gwyn yr awdur Catholig o’r unfed ganrif ar bymtheg. Mae fy niddordebau ymchwil yn cynnwys llenyddiaeth Gatholig Gymraeg, barddoniaeth Wyddeleg y ddeunawfed ganrif a llenyddiaeth yr Adfywiad Wyddeleg yn yr ugeinfed ganrif. Byddaf yn dysgu Cymraeg i Ddechreuwyr a chyrsiau yn ymwneud ag iaith a llenyddiaeth yr Wyddeleg.

Richard Glyn Roberts
Un o Abererch ydw i, ar y ffin rhwng Llŷn ac Eifionydd. Astudiais y Gymraeg ym Mangor ac aros yno wedyn i gwblhau doethuriaeth ar gasgliadau diarhebion yr Oesau Canol. Bu^m yn ennill fy mara drwy gyfieithu ar y pryd a bu^m am gyfnod yn darlithio yn Ngholeg y Brifysgol, Dulyn. Yn fwy diweddar bu^m yn Gymrawd Ymchwil yn Aberystwyth lle bu^m, fel rhan o brosiect dan nawdd yr Academi Brydeinig a’r MLRA, yn paratoi adysgrifiadau o lawysgrifau rhyddiaith y bymthegfed ganrif.

Cyhoeddwyd fy astudiaeth baremiolegol, Diarhebion Llyfr Coch Hergest yn 2013 a dyfarnwyd imi Wobr Goffa Vernam Hull amdani. Yr un flwyddyn golygais, gyda Dr Simon Brooks, y gyfrol Pa beth yr aethoch allan i’w achub? Ysgrifau i gynorthwyo’r gwrthsafiad yn erbyn dadfeiliad y Gymru Gymraeg, yr unig ymateb academaidd difrif i ffigurau iaith Cyfrifiad 2011. Yn fy nghyfraniadau i’r gyfrol honno gwelir dylanwad Bourdieu a Foucault arnaf.

Rwy’n dal i ymddiddori mewn paremioleg ac, ar hyn o bryd, rwy’n paratoi golygiad o gasgliad diarhebion William Salesbury a Gruffydd Hiraethog, Oll Synnwyr pen Kembero ygyd (1547), yr ail lyfr printiedig Cymraeg. At hynny rwy’n gweithio ar amryw agweddau ar hanes diweddar efrydiau Cymraeg ac yn neilltuol y berthynas drefedigaethol rhwng y ddisgyblaeth academaidd a’r diwylliant ysgrifenedig subaltern brodorol.

Eurig Salisbury

Rwyf i wedi fy mhenodi’n Ddarlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol. Fel mae teitl y swydd yn ei awgrymu, fy ngwaith i yw ysbrydoli myfyrwyr yr Adran i greu gyda geiriau, a thrwy hynny i fwynhau cyfoeth llenyddiaeth Cymru o’r newydd. Dros ddeng mlynedd yn ôl ro’n i’n fardd ar ei brifiant ac yn fyfyriwr yn yr Adran hon! Rwy’n edrych ymlaen at gael rhannu â’r myfyrwyr yr holl bethau rwyf i wedi eu dysgu ers hynny fel bardd ac awdur cyhoeddedig. At hynny, rwy’n edrych ymlaen hefyd at gael cyflwyno myfyrwyr i gyfoeth fy maes ymchwil arbenigol, sef barddoniaeth yr Oesoedd Canol. Mae’n siŵr y bydd y myfyrwyr, yn eu tro, yn rhoi digonedd o ysbrydoliaeth i mi.

Y Gynhadledd Gyntaf ar Amrywiaeth Ieithyddol yng Nghymru

[Hynek Janousek, newly-graduated in Celtic Studies, recounts the successful international conference on ‘language diversity in Wales’ that he helped organise at the National Library of Wales.]

Cenedl heb iaith, cenedl heb galon? Os gwir y ddihareb hon, gellid awgrymu bod y gynhadledd Amrywiaeth Ieithyddol yng Nghymru/Language Diversity in Wales, a gynhaliwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru 18–19 Gorffennaf eleni, wedi dangos bod gan y wlad hon sawl calon sy’n curo’n nerthol y tu mewn a’r tu allan i’w ffiniau.

Fe arferwyd dwy brif iaith Cymru o fewn y tîm trefnu ac ymhlith y cyfranwyr a gynhwysai academyddion o sawl gwlad ar gyfandiroedd Ewrop a Gogledd America. Fe amyneiliwyd rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yn y cyflwyniadau ac yn y trafodaethau a’u dilynodd (beth bynnag oedd ieithoedd gwreiddiol y papurau). Ymhellach, cafodd y confensiwn dwyieithog ei hun ei archwilio ar lefel sosio-ieithyddol a chymdeithasegol, ac fe dueddai y cyfraniadau oll i ddangos bod tirwedd ieithyddol Cymru yn llawer mwy cymhleth na deuoliaeth draddodiadol dau dafod y Ddraig Goch. Ac wrth gwrs, fe glywid ymysg y cyfranwyr ieithoedd na fyddant yn cael eu cysylltu â Chymru fel arfer megis Rwsieg, Iseldireg, Almaeneg, Ffinneg, Tsieceg, Gwyddeleg. Bu sôn hefyd am ieithoedd lleiafrifoedd Cymreig gan gynnwys Hindi a Phwyleg.
Roedd y gynhadledd yn gyfle i sylweddoli, ymysg pethau eraill, fod gan Gymru ystod eang o hunaniaethau sy’n gwrthdaro ac yn cydblethu â’i gilydd mewn amryw ffyrdd.

‘Amrywiaeth mewn undod’ felly oedd y ddolen gyswllt rhwng y gwahanol gyfraniadau o’r cychwyn cyntaf, fel yr awgrymodd teitl y ddarlith agoriadol gan un o’r siaradwyr gwadd, Elin Haf Gruffydd Jones. Amrywiaeth ieithyddol a disgyblaethol oedd pwnc yn ogystal â chyfrwng y digwyddiad rhyngwladol hwn a ddaeth â tho newydd o ysgolheigion blaengar ynghyd o feysydd amryfal megis ieithyddiaeth, beirniadaeth lenyddol, ffonoleg a seineg, astudiaethau cyfieithu a chyfryngau, ieitheg hanesyddol, tafodieitheg, technoleg wybodaeth a llawer eraill.

Fe fframiwyd sesiynau’r ail ddiwrnod gan gyflwyniadau cynhwysfawr gan y ddau siaradwr gwadd arall. Bu Markku Filppula, un o’r prif arbenigwyr ar dafodieithoedd Saesneg a chanddynt gefndiroedd Celtaidd, yn rhoi llith gyrhaeddgar ynghylch deinameg hanesyddol a daearyddol rhwng Saesneg Cymru a’r Gymraeg, gan wneud cymariaethau dadlennol â hanes ieithyddol Iwerddon. Ffocws manwl ac enghreifftiau llafar difyr o amrywiaeth gystrawennol yng Nghymraeg y Gogledd oedd prif nodweddion y ddarlith gan David Willis, un o awduron y prosiect arloesol Atlas Cystrawen Tafodieithoedd y Gymraeg, ar y cyd â Bob Borsley a Maggie Tallerman (roedd yr olaf hefyd yn bresennol).

Nid yw’n bosibl crynhoi’r cyfoeth o ddysg ac ymchwil a mewnwelediadau ffres a gyfryngwyd gan y gynhadledd… A ydych erioed wedi synfyfyrio uwchben gwahanol acenion Saesneg Cymru a’r ffordd y mae pobl yn teimlo yn eu cylch? Mae’n debyg bod gennych acen ‘sexy’ os yw eich Saesneg yn digwydd bod yn Gymreigaidd. A ydych wedi ystyried pwy sy’n gyfarwydd â chyfoeth llenyddiaeth fodern y Gymraeg y tu allan i Gymru? Byddech wedi cael eich synnu, siŵr o fod, gan y gweithgarwch brwd sydd i’w weld mewn cyfieithu ac astudiaethau cyfieithu rhwng Cymraeg a Phwyleg ar hyn o bryd. A fyddwch weithiau yn cnoi cil dros ddefnydd tafodiaith a’i pherthynas â Chymraeg Llenyddol mewn ffuglen Gymraeg? Neu i ba raddau y mae modd cyffredinoli ynghylch nodweddion a ffiniau daearyddol tafodieitheodd y Gymraeg?

Yn sicr, ni chynigiwyd atebion terfynol i’r un o’r cwestiynau hyn, ond fe amlygwyd rhai ohonynt am y tro cyntaf mewn cyd-destun rhyngddisgyblaethol a fwriodd oleuni newydd arnynt a pheri i ysgolorion o feysydd gwahanol iawn gyd-ysyried a chyd-ymholi. Ar ben hynny, roedd Gweithdy’r Gynhadledd ar gorpora digidol ac adnabod lleferydd gan Sarah Cooper a Marieke Meelen yn gyfle i’r myfyrwyr ymchwil sydd ar fin camu i mewn i fyd gwaith ddysgu ac ystyried gwahanol lwybrau academaidd a gyrfaol.

O ddyfynnu dim ond un o’r ymatebion brwdfrydig yn y cyfryngau cymdeithasol, roedd y fenter hon yn ‘llwyddiant ysgubol’ , yn fan cychwyn i amryw drafodaethau yn ogystal â phrosiectau newydd sbon. Er mai o’r academia y daeth y rhan fwyaf o’r gynulleidfa bresennol, fe ddenwyd cryn dipyn o gyfranwyr o’r cyhoedd ehangach ac roedd yn amlwg bod pwnc y gynhadledd o ddiddordeb cyffredinol. Fe wnaeth yr ‘undod mewn amrywiaeth’ neu’r ‘amrywiaeth mewn undod’ ysgogi trafodaeth fywiog a digymrodedd o ystyrlon ynghylch gwahanol agweddau ar yr ecosystem ddiwylliannol rydym yn ei galw yn Gymru/Wales. Hir oes i’r fenter a wnaeth y drafodaeth hon yn bosibl!

Cynhaliwyd y digwyddiad dan nawdd Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Hynek Janousek, BA Astudiaethau Celtaidd (2014)

Llwyfannu ymchwil Lowri Morgans – ‘Ectoplasm’ – Staging Lowri Morgans’s research

[Llanelli Eisteddfod 2014 promises to be extra special for Lowri Morgans who gained her PhD at the Department of Welsh Aberystwyth this summer… This post tells of the way in which Lowri’s research on body language and gesture in Medieval Welsh literature has impacted on the work of Jon Gower (author and broadcaster) and Eddie Ladd (performer): ‘Ectoplasm’ will be performed during the Eisteddfod at Tinopolis’s Theatre, 20.00, 7 & 8 August.]

Bydd Eisteddfod Llanelli 2014 yn un arbennig iawn i Lowri Morgans…

Enillodd Lowri radd PhD o Adran Y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth eleni. Mae hi bellach yn darlithio yn y Gymraeg i fyfyrwyr Lefel A yng Ngholeg Sir Gâr, Llanelli. Pwnc ei hymchwil oedd ‘Ymdriniaeth ag ystum ac ymddygiad yn y Gymru ganoloesol c.700-c.1500’. Roedd Lowri yn ymchwilio i enghreifftiau o iaith y corff yn y chwedlau Cymraeg a barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, gan edrych ar hanes y gusan, cofleidio, ystumiau dwylo ac ystumiau wynebol.
Ym mis Mai eleni darlithiodd ar y pwnc yn Fforwm Beirdd yr Uchelwyr, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru: ‘Iaith y Corff yng Ngwaith Beirdd yr Uchelwyr’. Roedd cryn ddiddordeb yn y ddarlith a gofynnwyd i Lowri drafod ei gwaith ar raglen Dei Tomos ar Radio Cymru.

Clywyd yr eitem gan yr awdur a’r darlledwr Jon Gower, ac roedd am ddefnyddio gwaith Lowri ar gyfer rhan o’r sioe theatr ‘Ectoplasm’:

Tyfodd y sioe ‘Ectoplasm’ allan o ddymuniad ar ran Eddie Ladd a minnau i wneud mwy o waith creadigol ar gyfer y theatr yn Gymraeg, a hynny’n dilyn mwynhau nifer o weithiau Theatr Genedlaethol llynedd. O’n safbwynt innau roeddwn am gael sgwrs eto gyda fy nhad-cu, Thomas John Gower bu fawr ddeugain mlynedd yn ôl ac felly rydym am ei atgyfodi yn y sioe, gan ddefnyddio sgiliau pypeda elfennol iawn. Roeddwn hefyd yn chwilio am ddeunydd byddai’n sbarduno dychymyg Eddie pan glywais Lowri Morgans yn siarad ar raglen Dei Tomos ar Radio Cymru ynglŷn â’i gwaith ymchwil ar ieithwedd y corff yng ngwaith beirdd megis Dafydd ap Gwilym. Swniodd hyn yn ffynhonnell berffaith ac wedi darllen darlith Lowri ar y testun roedd yn benderfyniad hawdd i ‘w ddefnyddio fel sail i ran o’r sioe. (Jon Gower)

Bydd y sioe theatr ‘Ectoplasm’ yn cael ei pherfformio yn Stiwdio Tinopolis nos Iau (7 Awst) a nos Wener (8 Awst) am 20.00. Tocynnau £10 (a gostyngiadau £8). Croeso cynnes i bawb!

Lowri

 
Lowri Morgans, PhD, BA Cymraeg

Graddio 2014 Graduation

[scroll down for the English version]
Diwrnod graddio yw’r achlysur sy’n rhoi’r boddhad mwyaf i staff Adran y Gymraeg: mae’n gyfle i longyfarch ein myfyrwyr yn ystod y seremoni raddio ffurfiol ac i ddathlu eu llwyddiant mewn derbyniad adrannol anffurfiol.

Myfyrwyr a staff yr Adran

Myfyrwyr a staff yr Adran

Eleni, roedd ein myfyrwyr a’u teuloedd yn gwenu’n fwy llydan nag arfer…

Dyfarnwyd pymtheg gradd dosbarth cyntaf i fyfyrwyr ein cynlluniau BA Cymraeg, Cymraeg Proffesiynol ac Astudiaethau Celtaidd, a phleser arbennig oedd gwylio’r garfan gyntaf o fyfyrwyr y cynllun BA Cymraeg Proffesiynol yn graddio gyda chanlyniadau rhagorol.

Llongyfarchiadau i bob un o fyfyrwyr BA, MPhil a PhD Adran y Gymraeg a raddiodd eleni, a phob dymuniad da i chi ar y cam nesaf ar hyd y daith!

Mae rhagor o luniau a sylwadau difyr ar ein ffrwd trydar @CymraegAber #GraddioAber a gellir gwylio’r seremoni ar-lein am gyfnod byr.

Myfyrwyr Cymraeg Proffesiynol

Myfyrwyr Cymraeg Proffesiynol

For staff of the Department of Welsh graduation day is the most rewarding occasion in the academic year: it is an opportunity to congratulate our students at the formal graduation ceremony and a chance to celebrate their success in an informal departmental reception.

This year, our students and their families had broader smiles than usual…

Fifteen first class degrees were awarded to students of our BA schemes in Welsh, Professional Welsh and Celtic Studies, and it was a particular pleasure to see the first cohort of the BA in Professional Welsh graduate with excellent results.

Congratulations to every BA, MPhil and PhD student in the Department of Welsh who graduated this year, and best wishes on the next leg of the journey!

Myfyrwyr PhD

Myfyrwyr PhD

See our Twitter feed for more photographs and comments @CymraegAber #AberGraduation. You may also watch the ceremony online for a limited time.

Gwobrau Dysgu Prifysgol Aberystwyth – 2014 – Aberystwyth Teaching Awards

Llongyfarchiadau i Adran y Gymraeg!

Cynhaliwyd noson i nodi’r ‘Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr’ yn ddiweddar ac, yn dilyn llwyddiant Dr Robin Chapman y llynedd, fe fu’r Adran yn amlwg mewn dau gategori eleni…
Enillodd James McCann (myfyriwr PhD) dystygrif ‘Cymeradwyaeth Uchel’ yn y categori ‘Cynrychiolydd Myfyrwyr’, ac fe enillodd Adran y Gymraeg dystysgrif ‘Cymeradwyaeth Uchel’ yng nghategori ‘Adran y Flwyddyn’. Gellir gweld lluniau o’r noson ar dudalennau Facebook Undeb Myfyrwyr Aberystwyth
‘Mae Adran y Gymraeg yn adran anhygoel sy’n llawn darlithwyr brwdrydig ac yn barod i helpu’
Llongyfarchiadau i James ac i holl staff yr Adran. Diolch iddynt hefyd am eu hymroddiad a’u gwaith caled, a diolch i bob un o fyfyrwyr yr Adran a ddangosodd eu gwerthfawrgogiad drwy bleidleisio.

Congratulations to the Welsh Department!
May witnessed the annual ‘Student Led Teaching Awards’ and, following Dr Robin Chapman’s success last year, the Department was prominent in two categories this year…
James McCann (a PhD student) gained a ‘Highly Commended’ certificate in the ‘Student Representative’ category and the Department of Welsh gained a ‘Highly Commended’ certificate in the category, ‘Department of the Year’. Photographs of the evening are available on Aberystwyth Student Union’s Facebook page…
‘The Department of Welsh is an incredible department full of enthusiastic lecturers and always ready to help’
Congratulations to James and all staff of the Department and a big thank you for their commitment and hard work. With thank also to every student who showed their appreciation by voting.

James a Rhian

James a Rhian