Gall dechrau’n y Brifysgol fod yn gyfnod gofidus ond cyffrous iawn. Byddi wedi clywed hanesion gan y teulu, athrawon neu ffrindiau am eu profiad nhw, ond fel byddi’n dod i wybod (os nad wyt yn barod) mae profiad pawb o fywyd prifysgol yn wahanol. Gall hyn ei gwneud yn anodd i benderfynu beth fyddi’n dod…
Astudio Daearyddiaeth yn Aber
Un o’r penderfyniadau gorau wnes i oedd dewis mynychu Prifysgol Aberystwyth – cofiaf yn ôl i’r profiad cymhleth o gofrestru gyda UCAS a phendroni pa brifysgol oedd yn fy nenu. Ond nid wyf wedi edrych yn ôl na difaru unwaith – ac rwy’n sicr na wnewch chi chwaith. Rydw i eisoes yn fyfyriwr ail…
Pam Aberystwyth?
’y Coleg ger y lli.’ Nid yn unig mae dewis Prifysgol yn bwysig o ran yr addysg a derbyn gradd, ond mae yn bwysig dewis Prifysgol ar sail y gymuned hefyd. Yma yn Aberystwyth, mae’r gymuned Gymraeg yn gryf iawn ac mae pawb yn teimlo fel un teulu mawr. Fel rhan o UMCA rwyf wedi…
Llyfrgelloedd a chyfleuoedd astudio
Yma yn Aberystwyth, rydym ni am roi bob cyfle posib I fyfyrwyr, a’r cyfleuoedd gorau hefyd. Nid yn unig rydym yn cynnig un llyfrgell, ond rydym yn cynnig tri llyfrgell ar y campws: Lleolir Llyfrgell Thomas Parry ar Campws Llanbadarn Fawr, Aberystwyth. Mae’n cefnogi gofynion Staff a Myfyrwyr yr Athrofa Reolaeth, y Gyfraith a Gwyddor…
Taith Snapchat o Adran y Gymraeg ac Astudiethau Celtaidd
Mae’r Adran hon yn un ddelfrydol ar gyfer astudio iaith, llenyddiaeth a diwylliant Cymru, yn ogystal ag Astudiaethau Celtaidd a hynny mewn cyd-destun Cymreig a rhyngwladol. Mae Aberystwyth yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ddysgu Cymraeg a Chymraeg Proffesiynol yn ogystal â Llydaweg, Gwyddeleg, a Gaeleg yr Alban. Yn ogystal â chynlluniau BA mewn Cymraeg…
Cymdeithas Gymraeg Aberystwyth.
Sefydlwyd UMCA nol yn 1973 ar gyfer gwarchod hawliau a buddiannau ac ymgyrchu dros fyfyrwyr Cymraeg yn y Brifysgol. Cynrychiolai UMCA ei haelodau o safbwynt cymdeithasol, ieithyddol ac addysgol. Daw aelodau UMCA o bob cwr o Gymru a thu hwnt gan greu cymuned unigryw a chlos, sydd yn ffynnu ac esblygu yn flynyddol. Mae blynyddoedd…
Awgrymiadau adolygu
Mae ceisio adolygu yr adeg hon o’r flwyddyn yn anodd. Mae’n amser ‘dolig a phawb yn dechrau ymuno yn hwyl yr ŵyl a’r peth olaf sydd ar eich meddwl yw’r arholiadau sydd rownd y gornel. Ond, dyma rai awgrymiadau adolygu… Man astudio. Heb os, mae popeth ac unrhyw beth yn medru tynnu ein sylw adeg…
Y Gymraeg yn Aber
Mae Prifysgol Aberystwyth yn gweithredu’n ddwyieithog ac yn cynnig gwasanaethau i hyrwyddo’r Gymraeg i fyfyrwyr, staff a’r cyhoedd yng Nghymru. Adran o fewn y Brifysgol sy’n hyrwyddo ac yn cynorthwyo bywyd Cymraeg y Brifysgol yw Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg. Mae ei gwaith yn cynnwys cefnogi adrannau academaidd i ddatblygu prosiectau drwy’r Gymraeg, darparu gwasanaeth cyfieithu, cynnig…
LLEFYDD DEFNYDDIOL I WYBOD AMDANYNT
Er i mi fod yn fyfyriwr yma am dair blynedd, dwi dal ddim wedi bod ym mhob cilfan yn Aberystwyth ac mae na rhai llefydd bydden i wedi hoffi gwybod amdanynt yn gynt. Un peth wnaeth fy synnu yw faint o lefydd gwych sydd yma i astudio ynddynt, a faint o gyfleusterau diddorol sydd ar…
Cyngor ysgrifennu Datganiad Personol
Cyngor ysgrifennu Datganiad Personol Dyma gyfle i ti werthu dy hun i’r brifysgol! Mae angen i ti brofi dy fod yn ymgeisydd da i astudio yn y brifysgol a phrofi bod gen ti’r sgiliau a’r potensial i lwyddo. Dyma rai awgrymiadau i dy helpu gyda’r cais. Pam dewis y cwrs? Mae’n bwysig dy…