Erthygl i gylchgrawn Golwg – Amaeth a Brexit

Sut mae pryfyn yn datgysylltu ei hun o we pry cop deugain mlwydd oed heb ddinistrio’r we nac ychwaith cael ei fwyta gan y corryn? Gyda tipyn o drafferth. Mae’r problemau yn lluosog, cymhleth a phell-gyrhaeddol, hon yw’r hinsawdd wleidyddol sy’n wynebu’r diwydiant amaeth yn y blynyddoedd nesaf.

Boed law neu hindda mae’r Polisi Amaeth Cyffredinol (PAC) wedi amddiffyn ffermwyr Ewrop gyfan drwy gymorthdaliadau hael ag ymyrraeth yn y farchnad. Canlyniad hyn oedd prisiau uwch yn y siopau a chost sylweddol i’r trethdalwr. Cawn weld a fydd polisi amaeth newydd Prydain parhau i’r un cyfeiriad.

Ers adolygiad PAC yn 2005 cynyddu’n sylweddol wnaeth cymorth ariannol i ffermwyr ond yn refferendwm 2016 roedd nifer ohonynt yn gweld dim trafferth pleidleisio i adael fframwaith ariannol sefydlog o fewn Ewrop. Cyflwynwyd dadleuon annelwig ar sail “… bod angen newid…”, mewn gwirionedd protest yn erbyn rheoliadau’r farchnad sengl, prisiau marchnad isel am laeth, cig oen a grawn oedd wrth wraidd y bleidlais i adael. Yr eironi mawr wedi i’r bunt gwympo yn erbyn yr ewro, bod pris cig oen yn codi ychydig gan bod allforion nawr yn rhatach ym mharth yr ewro a’r galw yn cynyddu. Hefyd mae’r cyfradd gyfnewid a ddefnyddir i drawsnewid cymorthdaliadau o’r ewro i’r bunt yn cael ei gytuno pob mis Medi, ac os yw’r bunt yn parhau yn wan bryd hynny bydd cymorthdaliadau 2016 yn sylweddol uwch. Onid yw bod allan o Ewrop yn grêt! Na, ffactorau tymor byr yn unig yw rhain, yn anffodus fe ddiystyrwyd sefydlogrwydd tymor hir yn llwyr.

Cymorthdaliadau yw prif ffynhonnell incwm ffermwyr nid y marchnadoedd amaethyddol, mae’n amrywio o fferm i fferm ond dangosodd data Arolwg Busnes Fferm Cymru (ffigyrau 2014/15) bod cymorthdaliadau yn fwy nag elw mewn Ffermydd Mynydd Gwartheg a Defaid (169%), Ffermydd Defaid Mynydd (157%), Ffermydd Ucheldir Gwartheg a Defaid (110%) a hyd yn oed mewn busnesau godro, sydd am resymau hanesyddol yn derbyn llai o gymhorthdal, mae’n cyfrannu at 30% incwm y fferm. Rhain yw’r labeli sy’n diffinio natur y fferm deuluol yng Nghymru ac oni bai bod polisi amaeth newydd Prydain yn cydymdeimlo a’r sector, gallwn yn hawdd allosod i’r syniad bod strwythurau cynhenid cefn gwlad Cymru yn wynebu dyfodol ariannol anodd tu hwnt.

Taliadau uniongyrchol i ffermwyr drwy Piler 1 PAC yw 76% o’r gwariant yng Nghymru. Fe allwn ddadlau bod gweddill y gwariant drwy Piler 2 – taliadau yn ymwneud a’r amgylchedd, datblygu gwledig a chymdeithasol ee ‘Cyswllt Fferm’, polisi cymorth i newydd-ddyfodiaid ifanc – yn fwy arwyddocaol i ddatblygu economi wledig. Does dim llif arian arall ar gael i’r gwasanaethau hyn.

Felly ar drothwy’r Sioe yn Llanelwedd prif bwnc trafod y diwydiant fydd natur polisi amaeth Prydain a Chymru wedi Brexit. Yn flaenaf ar y rhestr siopa yw mynediad i’r farchnad sengl a does dim syndod bod yr holl bleidiau gwleidyddol yn gytûn am hyn. Nesaf yw dyfodol y Taliad Sylfaenol, ei faint, am ba hyd bydd yn parhau a pha amodau fydd ynghlwm a’r ariannu?

Gyda Andrea Leadsom yng ngofal polisi amaeth Prydain fe fyddwn yn disgwyl mwy o bwyslais ar y farchnad rydd, dadreolaeth, llai o bwyslais ar yr amgylchedd, a llai o ymyrraeth gan lywodraeth. Tra wahanol i PAC, yn fanteisiol i ffermwyr mawr ond nid o anghenraid i ffermwyr yn yr ardaloedd llai ffafriol. Bydd disgwyl gweld polisi gwledig integredig yn cysylltu er enghraifft a pholisi atal llifogydd. Mewn sefyllfa ddatganoledig, a Phlaid Lafur yng Nghaerdydd a blaenoriaethau wahanol i’r Gymru wledig, byddai gwaddol arian PAC a ddosrannir yn ôl Fformiwla Barnett yn cystadlu yn uniongyrchol a’r gwasanaeth iechyd ac addysg. Pwy wnaiff ennill y ddadl yna tybed?

Rwy’n gweld problem gyda ffitio amaeth i’r model datganoledig beth bynnag. O ystyried bydd rôl strategol polisi amaeth yn dychwelyd i Brydain ar ôl Brexit, sut yn union bydd penderfyniadau ynglŷn a chytundebau masnachol, safonau ansawdd, rheoliadau amgylcheddol a mynediad i’r farchnad sengl yn cael eu gweithredu? Ar y gorau amwys yw agwedd Llywodraeth ‘one nation’ Dorïaidd at ddatganoli, mae’n anodd gen i gredu na fyddai am gadw cyn-bwerau strategol Ewrop yn Llundain. Ar hyn o bryd mae amaeth yn gymhwysedd ddatganoledig, o ystyried natur wleidyddol wahanol Caerdydd, Caeredin a Belfast gellid gweld polisi amaeth yn cael ei ychwanegu i’r rhestr o bwerau a ‘gedwir yn ôl’ gan lywodraeth Llundain yn yr un modd a nawdd cymdeithasol a pholisi cyllidol ac ariannol. ‘Rhy anodd ei ddatganoli’, ‘dim arbenigedd yn y rhanbarthau’, ‘cyllideb rhy bwysig’ fyddai’r neges; cam mawr yn ôl i ddatganoli, ond disgwyladwy, ac yn adlewyrchu’r tueddiadau imperialaidd Brydeinig yn nadl Brexit o’r cychwyn cyntaf. Gan mae anian geidwadol a ‘g’ fach sydd gan y mwyafrif o ffermwyr, digon posib bydd y diwydiant amaethyddol yn croesawu hyn. Pwy a wyr?

Bu grymoedd gwrthweithiol yn Llundain yn awgrymu lleihad yng ngwariant PAC ers cryn amser, yn 2013 bu DEFRA yn cwestiynu rhesymeg cadw Piler 1, y Swyddfa Dramor yn 2014 yn pwysleisio’r datgysylltiad rhwng pwrpas y PAC a strwythurau dosrannu cyllid, oll cyn dechrau trafod agweddau rheibus y Trysorlys. Yr wythnos diwethaf gofynnodd Ian Lucas AS Wrecsam a oedd ‘…gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cynnig cyfle euraidd i asesu’r lefel o gymorthdaliadau sy’n cael ei dalu i ffermio yng Nghymru i weld os all yr arian gael ei wario yn fwy effeithiol ac effeithlon mewn ardaloedd eraill…”. Cynyddu fydd amledd y galwadau am ddiwygio sylfaenol.

Beth yn union oedd rôl yr undebau yn y refferendwm? O edrych ar y canlyniad, dim llawer. Ni lwyddodd arweinwyr y diwydiant fynegi pwysigrwydd strategol polisi amaeth Traws-ewropeaidd i’w haelodau heb sôn am y weddill y wlad. Hanes bellach yw’r berthynas tactegol rhwng undebau amaethyddol Ewrop, defnyddioldeb a pharodrwydd undebau milwriaethus Ffrainc i brotestio ar yr un llaw a threfn sefydliadol undebau yr Almaen wrth ddylanwadu ar feistri gwleidyddol.

Er lles ffermwyr Cymru bydd angen i’r negodwyr lunio cydbwysedd rhwng cynnal mynediad llawn i’r farchnad sengl a lleihau rheoliadau ar gynhyrchion mewn i’r farchnad. Annoeth yw dod i’r casgliad bod coelcerth rheolau yn debygol, marchnad Ewrop-rheolau Ewrop. Parhau fydd tagiau electronig am resymau iechyd anifeiliaid ac olrhain bwyd.
Does dim ateb eto i’r holl gwestiynau, beth yw dyfodol dynodiad ‘Wyn Cymru’, ‘Cig Eidion Cymru’, ‘Halen Môn’ ? Bydd angen ateb sydyn ar sut mae ffermwyr Cymru yn addasu i ddyfodol a chymorthdaliadau is a phrisiau marchnad anwadal.

Support payments post Brexit

As it stands today the exchange rate for the Euro sits at €1=£0.83333, a change of 13.9% from the €1 = £0.73129 rate set by the European Central Bank in September 2015 that converts CAP support payments into £ sterling. If the £ sits at the same 83p per Euro level then in the short term UK farmers will see and equivalent boost in BPS payments in December 2016.

It doesn’t stop there, producers who rely on an EU export market for their product will find that export demand will increase since the cost of purchasing from abroad will be less. Lamb falls into this category (75,338 t to EU in 2015) (AHDB data) however it will take an additional 40,000 t exports to take it back to 2013 levels. In the 4 months to April 2016 there is little evidence of additional appetite for UK lamb on the continent and it will be interesting to see if export trade increases significantly post the Brexit vote and the collapse in the £.

The long game is different, trading relationships are uncertain and the CAP will disappear from the UK in 2019-20, certainly before the onset of the next funding period. There appear to be short term income gains for UK agriculture but long term its much less certain.