Amdanom ni / About Us

Mae’r Grŵp Mynediad Agored ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnwys aelodau o’r Adrannau Ymchwil, Busnes ac Arloesi a’r Gwasanaethau Gwybodaeth ac mae’n cyfarfod bob mis i drafod cynnydd a’r gofynion newidiol.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â Mynediad Agored, neu i gael gwybod sut i roi gwybodaeth ar PURE, cysylltwch ag openaccess@aber.ac.uk

Beth yw Mynediad Agored?

  • Mae llenyddiaeth Mynediad Agored (MA) yn llenyddiaeth ysgolheigaidd, wedi’i adolygu gan gymheiriaid, sydd ar gael ar-lein yn rhad ac am ddim, ac yn rhydd oddi wrth y rhan fwyaf o’r cyfyngiadau hawlfraint a thrwyddedu.
  • Mae hyn yn golygu y gall unrhyw un yn y byd edrych ar y deunydd, a gall nifer y bobl sy’n darllen erthyglau Mynediad Agored fod yn llawer mwy na’r nifer ar gyfer deunydd lle mae’r testun wedi’i gyfyngu i danysgrifwyr.
  • Nid yw Mynediad Agored yn effeithio ar adolygiadau gan gymheiriaid – mae cadwrfeydd Mynediad Agored yn ategu, yn hytrach na chymryd lle, cyfnodolion.
  • Mae cyrff cyllido megis Cynghorau Ymchwil y DU, Ymddiriedolaeth Wellcome, Horizon 2020 ac erbyn hyn Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn gofyn yn gynyddol am Fynediad Agored.
  • Ceir diffiniadau pellach o Fynediad Agored a gwybodaeth am y llwybrau Mynediad Agored Gwyrdd ac Aur ar wefan Mynediad Agored Prifysgol Aberystwyth

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

The Open Access Group at AU includes members of the Departments of Research, Business and Innovation and Information Services and meets monthly to discuss progress and changing requirements.

For further information on OA or how to enter information into PURE, please contact openaccess@aber.ac.uk

What is Open Access?

  • Open Access (OA) literature is freely available, peer-reviewed, online scholarly literature which is free of most copyright and licensing restrictions.
  • This means it can be freely accessed by anyone in the world, with the potential readership of OA articles being far greater than that for material where the full-text is restricted to subscribers.
  • OA does not affect peer-review – OA repositories supplement and do not replace journals.
  • OA is increasingly a requirement for funding bodies such as RCUK, the Wellcome Trust, Horizon 2020 and now HEFCE & HEFCW.
  • Further definitions of OA and information on Green and Gold forms of OA can be obtained from the Aberystwyth University Open Access web page.