Rhestr Termau Mynediad Agored

 Adneuo

Ychwanegu cynnyrch ymchwil fel erthygl i storfa – gyda’r metadata safonol.

Agregedwyr E-gyfnodolion

Cwmnïau sy’n dod â chynnyrch e-gyfnodolion o wahanol gyhoeddwyr at ei gilydd ar un llwyfan gwe drwy drefniadau trwyddedu â’r prif gyhoeddwyr.

CADAIR

Storfa sefydliadol Prifysgol Aberystwyth – http://cadair.aber.ac.uk, a fydd yn cael ei diddymu’n fuan gan borthol PURE ar gyfer mynediad agored allanol i bapurau PA

Cronfeydd Data Sherpa

Set o gronfeydd data sy’n rhoi manylion ynghylch gofynion Mynediad Agored cyfnodolion, cyhoeddwyr a noddwyr ymchwil ac sy’n galluogi cyfateb gofynion Mynediad Agored rhwng yr is-setiau hyn (e.e. ar gyfer gofynion cymhwysedd FfRhY CCAU)

Cyfathrebu / Cyhoeddiad Ysgolheigaidd

Darn o ymchwil, yn cynnwys erthyglau, llyfrau, penodau, adroddiadau technegol, papurau gweithredol, monograffau, cyflwyniadau mewn cynadleddau, deunyddiau clyweledol, setiau data ymchwil, modelau mathemategol a data dilynol ymhlith eraill.

Cyn-brint

Unrhyw un o ddrafftiau rhagarweiniol erthygl cyn iddo gael ei adolygu gan gymheiriaid a chyn iddo gael ei gyflwyno i gyhoeddwr, o bosib.

Embargo

Yn ystod y cyfnod hwn bydd mynediad at waith ysgolheigaidd yn gyfyngedig i’r sawl sydd wedi talu am fynediad. Ar ôl diwedd y cyfnod embargo, gellir cadw testun llawn erthygl – fersiwn cyn-brint, ôl-brint neu derfynol – mewn storfa, yn unol â’r hyn a ganiateir gan y cyhoeddwr neu’r deiliad hawlfraint.

Fersiwn Testun Llawn

Cynnwys llawn erthygl, sy’n gallu cynnwys ffeiliau data ymchwil cefndirol sy’n gysylltiedig â’r gwaith.

FfRhY

Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil a luniwyd gan Gynghorau Cyllido Addysg Uwch y DU ar gyfer asesu ansawdd ymchwil ym mhrifysgolion a cholegau addysg bellach y DU.

Hawlfraint

Hawl gyfreithiol unigryw a throsglwyddadwy, a roddir i grëwr  gwaith gwreiddiol i argraffu, cyhoeddi, perfformio neu recordio deunyddiau academaidd, llenyddol, artistig neu gerddorol.

Llawysgrif sy’n cael ei derbyn gan Awduron (AAM)

Llawysgrif derfynol yr awdur sy’n cael ei llwytho i dudalen sy’n cael ei fformatio gan y cyhoeddwr. Mae’r Llawysgrif hon yn wahanol i’r fersiwn cyhoeddedig terfynol oherwydd diffyg rhifau tudalen, cyfrol a chyhoeddiad.

Metadata 

Data sy’n disgrifio fformat a chynnwys deunydd mewn storfa neu gronfa ddata. O ran eitemau mewn storfeydd mynediad agored, bydd hyn yn cynnwys fel arfer o leiaf gyfeiriadau llyfryddiaethol llawn, crynodeb, geiriau allweddol, manylion embargo a chyfeiriad gwe.

Mynediad Agored

Y broses ar gyfer sicrhau bod canlyniadau ymchwil ar gael i bawb â chysylltiad â’r rhyngrwyd yn hytrach na chuddio’r canlyniadau hyn y tu ôl i wal dalu drwy danysgrifio.

Mynediad Agored Aur

Mae erthyglau’r system hon yn cael eu ‘geni’n fynediad agored’ adeg eu cyhoeddi. Mae’r rhan fwyaf o gyfnodolion mynediad agored llawn yn codi tâl am y cyhoeddiadau hyn.

Mynediad Agored Gwyrdd

Peri bod fersiwn o waith (fel arfer ôl-brint neu lawysgrif sy’n cael ei derbyn gan awdur) ar gael mewn storfa mynediad agored. Gall fod yn storfa sefydliadol fel CADAIR neu storfa bynciau, fel arXivPubMed Central neu RePec. Nid yw gosod gwaith yn ResearchGate neu gasgliadau cyfryngau cymdeithasol eraill yn cael ei ystyried yn fynediad agored Gwyrdd.

Ôl-brint

Llawysgrif yr awdur wedi’i hadolygu gan gymheiriaid a’i chywiro, ac wedi’i chreu yn Word neu LaTeX fel arfer. Pan fydd cyhoeddwyr yn gofyn i awduron lwytho fersiwn ôl-brint terfynol erthygl i dudalen sydd wedi’i fformatio, ystyrir mai Llawysgrif sy’n cael ei derbyn gan Awduron (AAM) yw’r ddogfen hon

PURE 

Y System Wybodaeth Ymchwil Cyfredol (CRIS) a ddefnyddir gan Brifysgol Aberystwyth i reoli metadata ymchwil ac i gadw cyhoeddiadau cysylltiedig.

Rheolau Mynediad Agored Cynghorau Ymchwil y DU (RCUK)

Dyma’r rheolau argaeledd mynediad agored a ddefnyddir gan RCUK er mwyn gwneud papurau’n gymwys i’w hasesu wrth ddyfarnu grantiau RCUK yn y dyfodol – gydag amrywiol ddiwygiadau: http://www.rcuk.ac.uk/research/openaccess/

Rheolau Mynediad Agored HEFCE

Dyma’r rheolau argaeledd mynediad agored a ddefnyddir gan Gynghorau Cyllido er mwyn i bapurau gan awduron addysg uwch yn y DU fod yn gymwys ar gyfer yr ymarfer Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil nesaf – gydag amrywiol ddiwygiadau: http://www.hefce.ac.uk/rsrch/oa/

Storfa

Cronfa ddata ar-lein o weithiau Mynediad Agored. Nid yw storfeydd yn cynnal adolygiadau gan gymheiriaid ond maent yn cynnwys deunyddiau sydd wedi’u hadolygu gan gymheiriaid mewn mannau eraill. Gall storfeydd hefyd gadw ‘llenyddiaeth lwyd’ fel Traethodau Ymchwil, Papurau Trafod, Setiau Data a deunyddiau eraill.

Storfa Bynciau

Archif ar-lein o gyhoeddiadau mynediad agored mewn meysydd penodol, e.e. PubMed Central ac arXiv. Gall gynnwys cyn-brintiau, ôl-brintiau neu fersiynau terfynol erthyglau yn ôl yr hyn a bennir gan reolau’r storfeydd neu amodau’r cyhoeddwyr.

Storfa Sefydliadol

Archif ar-lein o gynnyrch ysgolheigaidd sefydliad all gynnwys cyhoeddiadau mewn cyfnodolion, llyfrau ac adrannau mewn llyfrau, adroddiadau technegol, papurau gweithredol, monograffau, cyflwyniadau mewn cynadleddau, deunyddiau clyweledol,  modelau mathemategol neu unrhyw gynnyrch ymchwil arall o werth ysgolheigaidd sydd wedi’i adolygu gan gymheiriaid.

Tâl prosesu erthyglau (APC)

Ffi cyhoeddwr i dalu costau golygu, adolygu gan gymheiriaid, marchnata a dosbarthu erthygl Mynediad Agored Aur.

Trwyddedau Creative Commons

Math o drwydded sy’n amlinellu’r hyn all unigolyn ei wneud â gwaith mynediad agored os yw’r hawlfraint yn nwylo trydydd parti. Gellir dod o hyd i fanylion y trwyddedau hyn ar wefan Creative Commons (CC) lle disgrifir 4 elfen sylfaenol y trwyddedau: trwydded priodoli yn unig (CC-BY), trwydded heb ddeilliadau (CC-BY-ND), trwydded heb ailddefnydd masnachol (CC-BY-NC), a thrwydded egwyddor ShareAlike (CC-BY-SA) a’u hamrywiol gyfuniadau.