Lle y gallai daearyddiaeth fynd â chi?

by Sara Elizabeth Fisher

Ydych chi erioed wedi meddwl am sut i fynd ar drywydd eich cariad at ddaearyddiaeth. Mae gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gydag IBG) yr ateb ar ffurf cynllun Llysgenhadon sydd wedi’i dargedu at ddaearyddwyr israddedig, ôl-raddedig a graddedigion sy’n chwilio i wneud cyfraniad gweithredol i’w cymunedau ac i hyrwyddo daearyddiaeth fel pwnc. Simon Faulkner, cydlynydd y cynllun sydd yma’n esbonio’r manteision i ddisgyblion ysgol:

‘Defnyddia Cynllun Llysgenhadon Daearyddiaeth frwdfrydedd ac angerdd israddedigion a graddedigion daearyddiaeth am y pwnc i ddangos i ddisgyblion ysgol o unrhyw oed Ysgolion Uwchradd perthnasedd a phwysigrwydd y pwnc, nid yn unig iddynt hwy yn bersonol, ond hefyd ei bwysigrwydd i’r byd ehangach.’

Mae’r cynllun yn bodoli i hyrwyddo disgyblaeth daearyddiaeth. Mae pawb sydd wedi ymwneud â daearyddiaeth wedi profi pobl sydd â chanfyddiad o stereoteipiau negyddol o’r pwnc, sy’n bethau sy’n tynnu oddi ar dyfnder a disgleirdeb y pwnc. Mae’r cynllun hwn yn ceisio chwalu’r mythau sy’n gysylltiedig â’r pwnc a hybu daearyddiaeth fel pwnc ysbrydoledig ac amrywiol.

Ymunais â’r cynllun yn fy nhrydedd flwyddyn fel ffordd o wella fy nghyflogadwyedd ac i fy helpu i ystyried llwybrau gyrfa amgen. Fodd bynnag synnais o’r ochr orau gyda’r diwrnod hyfforddi. Yn onest, roeddwn yn disgwyl ychydig oriau yn mynd drwy ganllawiau a rheoliadau diogelwch. Fodd bynnag, roedd y sesiwn yn dangos Daearyddiaeth ar ei orau; roedd yn ddiddorol, yn llawn gwybodaeth ac yn hynod o bleserus. Trwy gydol y sesiwn hyfforddi buom yn trafod sut i annog disgyblion iau i ymgysylltu â’r ddisgyblaeth, sut i wneud sesiynau creadigol a rhyngweithiol a delio ag unrhyw broblemau a allai godi drwy gydol ein cyfranogiad ar y cynllun. Roedd y pwyslais ar sut y gallwn gymryd ein syniadau a chariad at Ddaearyddiaeth y tu hwnt i’r sefydliad, mae hyn fel Simon Faulkner yn datgan yw prif ddiben y cynllun:

‘Mae’r Cynllun yn rhoi pwyslais mawr ar gyfathrebu’r pwnc i ddisgyblion ysgol, gan dynnu ar yr hyn ddysgwyd gan y Llysgenhadon yn ystod eu gradd a syniadau na fyddai disgyblion wedi dod ar eu traws o’r blaen, mewn ymdrech i’w hannog i gymryd y pwnc heibio i’r camau gorfodol.’

Mae’r cynllun yn hybu ymwybyddiaeth a set o sgiliau sy’n werthfawr ar lefel bersonol, gan ddarparu’r Llysgenhadon gyda’r hyder a’r cymhelliant i wneud rhywbeth gyda’u hangerdd am y pwnc. Eglura William Hingley, myfyriwr Daearyddiaeth yn y drydedd flwyddyn a ymgymerodd â’r cynllun y llynedd sut mae’r cynllun wedi ei alluogi i ehangu ei set sgiliau, ‘mae’r cynllun wir wedi datblygu fy hyder wrth weithio â phlant iau ac fy helpu i rannu fy nghariad o Ddaearyddiaeth’. Mae hwn yn deimlad a rennir gan Gydlynydd y cynllun, ‘mae’r cynllun yn hyrwyddo agweddau o ddaearyddiaeth nad ydynt bob amser yn cael eu cydnabod, megis yr amrywiaeth o sgiliau byddwch yn eu hennill a natur ymwybodol cymdeithasol (socially conscious) y pwnc’. Mae’r cynllun yn anarferol o ran mynd i’r afael â llawer o faterion, gan ehangu gorwelion y daearyddwr a’r pwnc ill dau.

‘Rwyf yn argymell y dylai pob myfyriwr wneud cais am y cynllun:

‘Mae’r Cynllun Llysgennad RGS wedi helpu i gadarnhau fy angerdd am ddaearyddiaeth. Cofiais faint o hwyl sydd y tu hwnt i draethodau hir a dyddiadau cau. Roedd y diwrnod yn llawer o hwyl a byddwn yn annog pawb i roi cynnig arni’. Daniel McConaghy, myfyriwr Daearyddiaeth trydedd flwyddyn.

Felly, y tro nesaf y daw’r e-bost i ofyn pobl i gofrestru ar y cynllun Llysgenhadon RGS, rho gynnig arni!

Ffracio: syniadau ar y frwydr ddadleuol am ynni’r dyfodol

gan Jessica Wood

Mae Hollti Hydrolig neu ‘Ffracio’ fel y gwelir yn fwy cyffredin, yn bwnc llosg ac yn ddadleuol. Ffracio yw broses lle mae cymysgedd o ddŵr , tywod a chemegau yn cael ei ddrilio a’i chwistrelli i mewn i graig siâl trwchus ar bwysedd uchel, er mwyn i’r graig ryddhau nwy naturiol o’r holltau bach a grëwyd. A yw’n broses hanfodol ar gyfer egni’r dyfodol? A oes opsiynau glanach a llai ‘beryglus’? Mae’r rhain yn cwestiynau sydd yn codi’n aml i arbenigwyr, ond gyda ffracio helaeth eisoes yn digwydd yn yr U.D.A mae dim ond mater o amser cyn i’r D.G profi ffracio ar raddfa fawr. Ar yr 23ain o Ebrill, 2015 yng Nghanolfan y Celfyddydau Prifysgol Aberystwyth roedd fforwm cyhoeddus o’r enw “Fracking and the Imagination: Scraping the Barrel or Saving the Day?”. Roedd gwyddonwyr naturiol a chymdeithasol, artistiaid ac ymgyrchwyr amgylcheddol o Gymru a thu hwnt, yn ogystal â darlithwyr ar draws yr adran wedi mynychu. Un darlithydd o’r fath oedd Mark Whitehead, daearyddwr amgylcheddol, pwy yr oeddwn wedi gofyn cwestiynau i ynglŷn â ffracio a sut mae daearyddwyr dynol yn mynd at y pwnc.

Mae ffracio yn cael ei gyfiawnhau yn aml gan ei fod yn rhoi diogelwch ynni, rhywbeth sydd yn hanfodol ar gyfer cynaliadwyedd ynni’r dyfodol am fel yr ydym yn byw yn awr, yn ddwys ar ynni. Yn ôl amcangyfrif o Arolwg Daearegol Prydeinig, os oedd ond 10% o gronfeydd siâl y D.G yn cael eu defnyddio, bydd Prydain yn gallu cael ei bweru am yr hanner canrif nesaf a hyd yn oed yn cymryd lle cyflenwadau Môr y Gogledd, sy’n prinhau. Fodd bynnag, mae hyn yn golygu parhad mewn dibyniaeth y D.G ar danwydd ffosil ac yn cymryd sylw i ffwrdd o ddyfodol carbon-isel. Dywedwyd gan Mark Whitehead “y perygl fwyaf yw y gallai [ffracio] oedi’r angen brys i newid i danwydd di-garbon”. Felly yn ei dro, mae hyn yn codi’r cwestiwn a yw’r llywodraeth mor ymrwymedig fel maent yn awgrymu weithiau i fynd i’r afael â bygythiadau newid hinsawdd? Yn enwedig yn awr gan mae ffracio yn rhan o’r agenda llywodraethol, ac yn cael ei weld fel achubiaeth ar gyfer ein hanghenion ynni am y dyfodol. Er gwaethaf ffracio, fel pob tanwydd ffosil, yn gorfod cael eu gadael yn y pen draw am ynni adnewyddadwy sydd yn aml yn hyrwyddo oes ddiddiwedd, rhywbeth ni all ffracio wneud.

Mae’r broses ffracio a’i effeithiau uniongyrchol ar ardaloedd lleol wedi dod o dan graffu gan grwpiau a chymunedau ymgyrchu, yn fwyaf diweddar yn Swydd Efrog gyda’r grŵp ymgyrch ‘Frack free Ryedale’. Yn 2011, cafodd prosiect ffracio mwyaf datblygedig y D.G yn Blackpool ei atal ar ôl darganfod dau ddaeargryn bach sydd gyda chyswllt posibl. Mae’r penderfyniad a ddylid parhau i ffracio yn y safleoedd hyn yn ddyledus ym Mehefin 2015. Mae ffracio archwiliadol, fel y gwelir yn Blackpool, yn gyffredin ar draws y D.G, yn enwedig yng ngogledd-orllewin a de-ddwyrain Lloegr, ond gyda llawer o safleoedd caniataol mae ond ychydig wedi cael eu drilio. Efallai oherwydd y problemau sy’n gysylltiedig â’r broses ffracio. Nid yn unig y bod angen llawer iawn o ddŵr (sydd eisoes yn brin yn y de-ddwyrain) i fewnbynnu i’r system, ond mae yna bryderon ynglŷn â’r wal sy’n gysylltiedig gyda ffracio oherwydd mae’n bosib eu bod yn gollwng a halogi dŵr daear. Mae’r rhain yn bryderon difrifol ac yn ôl Mark Whitehead, gallai bod yn fygythiad gwirioneddol i iechyd hirdymor y cymunedau sy’n amgylchynu safleoedd o’r fath.

Er mae’r erthygl hon yn fyr ac yn canolbwyntio ar farn negyddol am ffracio, mae’n codi pryderon pwysig sydd i raddau helaeth ar flaen y gad. Wedi dweud hynny, mae ffracio yn rhan o ddadl llawer ehangach a chymhleth lle mae manteision ac anfanteision yn dod i chwarae rôl. Mae’n anodd ffurfio barn ar ffracio pan gaiff ei chymylu mewn cymaint o ansicrwydd a thystiolaeth anghyson. Os byddwn yn canolbwyntio ar ddiddordebau personol efallai bydd cwmnïau yn dweud ie achos ei werth economaidd, ond efallai bydd cymunedau lleol yn dweud na oherwydd syndrom “NIMBYism” (Not In My Backyard) a’i dirywiad amgylcheddol ar eu tref leol. Efallai gall ffracio dod â manteision i un endid ond yn aml bydd yn cael effeithiau negyddol ar rannau eraill o’r gymdeithas.

Wrth gloi, mae’n amlwg bod y drafodaeth ehangach ar ynni’r dyfodol yn cael canolbwyntio unwaith eto ar danwydd ffosil. Gyda chymdeithas sydd yn dibynnu mwy a mwy ar ynni, a gyda’r ysgrifenyddes Ynni a Newid Hinsawdd newydd, Amber Rudd, yn awr yn mynegi ei chefnogaeth i ffracio a gwahardd cymorthdaliadau ar gyfer ffermydd gwynt ar y tir, mae’n edrych fel y gall ffracio cael ei annog ar draul egni adnewyddadwy. Nid yw ffracio yn ateb delfrydol i anghenion egni’r dyfodol, nid yw’n arwain at ddyfodol carbon-isel, nid yw’n arwain gwledydd i gyrraedd eu targedau gollyngiadauychwaith. Mae dyfodol ffracio felly yn un o ansicrwydd fel dywedwyd gan Marc Whitehead:

“I have this vision of future generations scratching their heads as they look back at fracking and think ‘so confronted with the real and present danger of climate change you chose to fracture the earth’s crust so you could release more greenhouse gases into the atmosphere – what were you thinking!’”

Casgliad addas ar gyfer pwnc sy’n parhau i rannu barn ymhell cyn i’r cwmnïau ffracio symud i mewn, ac efallai, ymhell ar ôl iddynt symud allan.

Lleoliad Gwaith: Pwll Graean SSSI Four Ashes

ysgrifennwyd gan Holly Addis, casglwyd gan Heather Crumpton

Four Ashes SSSI gravel pit has long been of geological interest. This site is five miles north of Wolverhampton in Staffordshire. In the 1960’s and 70’s it was a working quarry and supplied scientists with information concerning both the extent of the Devensian Irish Sea ice sheet in Britain, and palaeoecological and palaeoclimatological changes during the late Pleistocene. However, fifty years on, not only had most of the quarry been infilled with landfill, covering many of the exposures, little management had been done in reducing the impacts of vegetation cover and waterlogging. The site was assessed by Natural England as being in unfavourable condition and much of its scientific interest was thought to have been lost (Burek, 2012). Although only a small area of the original working face can still be viewed, clearance work and regeneration of the site began in autumn 2012 and the site has since recovered to favourable condition.

The original research on the Four Ashes site was from 1967 – 1970 (Morgan, A.V. 1973). On the basis of this work, the gravel pit was chosen as the type site for the Devensian glaciation in Britain and therefore it became an important reference site for the Quaternary study. In more recent years other examples of the Devensian period have been found elsewhere in Chelford (Bowen, 1999) and Dimlington (Rose, 1985) , however, Four Ashes still remains a key reference and stratotype site (Glasser, 2002). Although much of the site has been lost due to landfill, important till deposits can still be found at the former pit margin. The bedrock at Four Ashes is Triassic sandstone, though little of this can be seen today. The site is more important for the overlying gravel deposits and the organic content within and beneath them (Andrew and West, 1977). The sequence is capped by Irish Sea till. The lowest organic lenses are thought to date to the Ipswichian Interglacial and the base of the gravel unit was laid down by braided rivers in the early Devensian. Within these early-mid Devensian gravels there are further organic lenses which contain evidence of cooler climatical conditions and imply that whist the gravel was being deposited, Four Ashes had a deciduous woodland environment (Morgan, A. V. 1973). The insect fauna, particularly beetles, from these sediments was studied in detail by A Morgan (1973). Palaeoclimatic evidence from pollen and insect fauna indicate that summer temperatures only reached 10oC (Duff and Smith, 1992).

Here a large rootball  has been uprooted causing the top of the profile to collapse (c) Eleanor Brown, on a visit to one of the sections excavated

Here a large rootball has been uprooted causing the top of the profile to collapse
(c) Eleanor Brown, on a visit to one of the sections excavated

Radiocarbon dating from the Four Ashes site show that the last main glaciation in Britain peaked after 30,000 BP in the late Devensian between 26000-13000 BP (Bowen, 1973). Although till from the Four Ashes site indicates the Irish Sea ice extended as far as Wolverhampton, the site itself shows little evidence regarding the main glaciation other than these till deposits. Later periglacial conditions followed the deposition of the till, causing cryoturbation and freeze-thaw processes to occur (Bowen, 1999). This cold climate caused the formation of features such as ice-wedges which are seen penetrating through the profile. The ice-wedges found range from 71 to 215cm in depth and 6 to 51cm in width (Morgan, A. V. 1973). Unfortunately they are poorly preserved. Although results from the University of Liverpool are yet to be fully processed, they do indicate that, in the recently reviewed sections at Four Ashes, there are possible signs of cryoturbation. Although ice-wedge pseudomorphs do not provide evidence for the main glaciation itself, they do indicate the extent of permafrost and the climatic conditions of the later Devensian period (Bowen, 1973). Although Four Ashes has now lost much of its original profile studied in the 1960’s and 1970’s, it is an important geological site in providing insight in the extent of the Devensian ice sheet, and subsequent permafrost, and the climate variations during this time. More recent studies have utilised advanced technology, such as the University of Liverpool who may provide new dating of the Devonian ice sheet at Four Ashes. The University of Liverpool used optically stimulated luminescence (OSL) in the sands and gravels at the site in order to predict a more accurate age of the till. Results from this research are yet to be published.

Quaternary sediments are particularly vulnerable to plant root penetration and damage from soil processes (Bridgland, 2013) and this is evident at Four Ashes gravel pit. Not only has severe biological disruption damaged the site, infilling sections of the gravel pit with landfill, has meant that in the remaining areas only 2.2m of the original 4.6m profile can be seen (Morgan, A. V. 1973). Much of the scientific research, and consequent papers, was conducted during the 1970’s and since then very little research has been updated despite the advancements in technology. The site had not attracted recent scientific interest until the University of Liverpool decided that Four Ashes was important and relevant for research for the BRITICE-CHRONO project. The Four Ashes site is now part of a substantial five year project, funded and supported by the National Environment Research Council (NERC) consortium grant; BRITICE-CHRONO NE/J009768/1, in investigating the timing of the growth and demise of the last British and Irish Ice Sheet. From this investigation of the advancement and retreat of the Devensian ice sheet, the BRITICE-CHRONO project hopes to predict ice sheet change for current day ice masses; principally land ice retreat in Antarctica and Greenland, to help predict future global sea level change.

Richard Waller of Keele University visited the site in 2011 and wrote up a report about conservation suggestion measures of the site for Natural England. This led to the initial recent re-interest at Four Ashes and with aid of a Natural England CES (Conservation Enhancement Scheme) grant, the site landowner and the scientific interest of University of Liverpool, Four Ashes has been subject to management actions to return it to favourable condition for research. In the spring of 2014 members of the BRITICE-CHRONO project from the University of Liverpool conducted research using OSL, to date the sediments. The University is still processing the results from the site and the final data will be included within the BRITICE-CHRONO results. This return of research at the site initiated conservation action to take place by allowing access for University of Liverpool and potentially other scientists in the near future.

Summer 2014, and the site has already started to vegetate over and the ground is saturated  (c) Holly Addis

Summer 2014, and the site has already started to vegetate over and the ground is saturated
(c) Holly Addis

One of the main issues at Four Ashes was vegetation cover over the exposure and roots intruding and disturbing the upper part of the profile. This was overcome in a number of ways. Large trees had grown up around the site, covering the former quarry face and the un-dug reserve, and needed to be removed. This was done by cutting them down close to the base. However, caution was required due to the deep roots. In a few cases the remaining trees on the un-dug reserve have been uprooted, particularly in the 2013-2014 winter storms and have taken a lot of the topsoil upper part of the sequence with them. This damages the profile further and so stabilising the slope was also important, as well as opening it up from vegetation. A few trees have been left near the road side to reduce unauthorised access e.g. fly-tipping. Grassy vegetation was removed in certain areas; however, the development of herbaceous vegetation will help prevent further erosion. Waterlogging is also an issue at old quarry sites like Four Ashes as it hinders access to the former pit faces. A site inspection showed that the nearby drains had become blocked over time. The original drainage channel had become overgrown and this has been cleared to help lower water levels by around 4 feet. Since then brash from the vegetation clearance has been laid down in the waterlogged areas to help provide firm ground to allow vehicles (e.g. mechanical excavators) access to the former quarry floor. This clearance program meant that in spring 2014 members of the BRITICE-CHRONO project from the University of Liverpool were able to carry out their data collection. However, this solution was not without risks. Excavations using mechanical vehicles led to issues with root balls becoming unstable and the upper profile collapsing (Figure 1). This also potentially causes health and safety concerns for scientists wishing to research the site in the future. A recent site visit in July 2014 showed that the vegetation is already beginning to return and water levels are noticeably higher (Figure 2). Although the Four Ashes is a success in terms of site management, this will only be temporary unless further periodic management is put into place. The CES agreement is a five year project and so Four Ashes vegetation clearance will continue until the agreement expires. Annual clearance and localised monitoring are straightforward methods that will help maintain Four Ashes’ favourable condition for future research. The Quaternary Research Association (QRA) is marking 50 years by creating a list of the most significant 50 quaternary geological sites across Britain (Silva, 2014). Natural England has nominated Four Ashes to be included in this Top 50 list, reiterating Four Ashes importance and recovery.

Acknowledgements

  • Tracey Hill, Geoff Howe, Jaclyn Lake from the Natural England Staffordshire land management team.
  • Geological site management advice from Barbara Silva and Dave Evans from Natural England.
  • Piers Monckton and Ian Henderson from Somerford Home Farm
  • Richard Chiverrell and Matt Burke from BRITICE-CHRONO and the University of Liverpool
  • References:
    • Andrew, R. and West, R.G. (1977) ‘Pollen analysis from Four Ashes, Worcs.’ Philosophical Transactions of the Royal Society of London, B280, 242-6.
    • Bowen, D.Q. (1973) ‘The Pleistocene history of Wales and the borderlands.’ Geological Journal, 8, 207-224.
    • Bowen, D.Q. (1999) A revised correlation of quaternary deposits in the British Isles. Geological society publishing house, Bath.
    • Bridgland, D. (2013) ‘Geoconservation of Quaternary sites and interests.’ Proceedings of geologists’ Association, 124, 612-624.
    • Burek, C. (2012) ‘The importance of quaternary geoconcervation.’ Quaternary newsletter, 126, 25-33.
    • Duff, P.Mcl.D. and Smith, A.J. (1992) Geology of England and Wales. The Geological society, London.
    • Evens, D.J.A. (2002) Dimmlington. In Quaternary of Northern England, Geological conservation review series, No. 25, Joint Nature Conservation Committee, Peterborough, pp 139-44
    • Glasser, N.F. (2002) Four Ashes. In Quaternary of Northern England, Geological conservation review series, No. 25, Joint Nature Conservation Committee, Peterborough, pp 136-38.Hains, B.A. and Horton, A. (1989) Central England. British Geological survey, London.
    • Morgan, A. (1973) ‘Late Pleistocene environmental changes indicated by fossil insect faunas od the English Midlands.’ Boreas, 2, 173-212.
    • Morgan, A.V. (1973) ‘The Pleistocene geology of the area north and west of Wolverhampton, Staffordshire, England.’ Philosophical transactions of the royal society of London. Series B, Biological sciences, 265, 233-297.
    • Rose, J. (1980) ‘The Dimlington Stadial/Dimlingron Chronozone; a proposal for naming the main glacial episode of the late Devensian in Britain.’ Boreas, 14, 225-30.
    • Silva, B. (2014) ‘Help nominate a QRA Top 50 site.’ Earth Heritage, 42, 11.
    • Waller, R. (2011) ‘Preliminary recommendations for the re-exposure of the four ashes SSSI.’ Report to Natural England.

    Cymorth Astudio

    gan Helen Siegieda

    Y LLYFRGELL
    Yn y flwyddyn gyntaf efallai na fyddwch yn treulio llawer iawn o amser yn y llyfrgell, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn dod yn gyfarwydd â sut i ddod o hyd i a benthyg llyfr, sut i weithredu’r argraffwyr a sganwyr a sut i gael gwybod ble mae cyfrifiaduron ar gael. Fe wnes i hyn yn fy mlwyddyn gyntaf ac mae’n helpu i chi neidio yn syth i mewn i eich astudiaethau yn yr ail flwyddyn fel y gwyddoch beth i’w wneud! Yn hytrach na threulio misoedd yn ceisio deall popeth.

    YR ADRAN DDAEARYDDIAETH
    Mae’r holl staff yn wirioneddol gyfeillgar yn yr Adran Ddaearyddiaeth ac yn barod i helpu os ydych yn cael trafferth gydag unrhyw beth. Yn bersonol roeddwn yn cael trafferth â setlo i mewn i’r brifysgol ac es i siarad â’m tiwtor personol, Kevin Grove, a helpodd i mi gadw fy nghymhelliant ac fy annog i beidio â gadael. Cynigiodd ei brofiadau ei hun ynglŷn â symud filltiroedd i ffwrdd o gartref a sut mae’n anodd ar y dechrau. Mae Kim Peters yn diwtor academaidd gwych hefyd ac yr wyf yn gwybod ei bod fy nghyd-fyfyrwyr wedi cysylltu â hi ar sawl achlysur oherwydd eu bod wedi bod yn ansicr am sut i gwblhau aseiniad; cadwch gofnod o oriau swyddfa staff neu mae croeso i chi anfon e-bost atyn nhw! Mae manylion pawb ar wefan Prifysgol Aberystwyth.

    RHEOLI AMSER
    Yn bersonol, dyma oedd un o’r agweddau mwyaf anodd o fywyd prifysgol. Gyda bod yn fyfyriwr newydd, anghyfarwydd i’r dref, yn awyddus i gymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd yn ogystal â cheisio bod yn ran o’r Clwb Taekwondo a’r Clwb heicio, cefias fy llethu â phopeth roedd rhaid i mi ei wneud. Peidiwch â gadael i bethau fynd yn drech arno chi! Cadwch ddyddiadur ac ysgrifennu i lawr yr holl bethau rhaid i chi wneud yr wythnos honno. Peidiwch â phentyrru gormod i un diwrnod rhag i chi orlwytho eich hun; dosbarthwch y gwaith drwy gydol yr wythnos a peidiwch ag anghofio i adael ychydig o nosweithiau rhydd i dreulio gyda ffrindiau neu ymlacio.

    ASEINIADAU
    Mae Prifysgol Aberystwyth yn unigryw gan ei fod yn asesu ei myfyrwyr mewn llu o ffyrdd gwahanol; nid traethodau’n unig, ond adroddiadau, adolygiadau llenyddiaeth, cyflwyniadau grŵp, cyflwyniadau unigol, cyfweliadau, holiaduron a mwy. Mae bod yn fyfyriwr daearyddiaeth yn rhoi amrywiaeth eang o sgiliau proffesiynol y gallwch eu cymryd i mewn i’r gweithle chi. Peidiwch â phoeni os ydych yn brin o hyder wrth wneud cyflwyniad neu bod eich traethodau ddim yn ddigon da, dyna yw bwriad y flwyddyn gyntaf – i wella eich gwendidau. Yn bersonol, yn yr ysgol uwchradd ni fyddai fy athrawon yn fy newis i wneud cyflwyniad oherwydd byddwn yn rhy nerfus a methu siarad o flaen grŵp bach o bobl. Ar ôl ychydig o gyflwyniadau yn y Brifysgol rwyf bellach yn gallu cyflwyno o flaen dau gant o bobl yn hyderus, a nid wyf hyd yn oed yn mynd yn nerfus. Mae’n cael ei brofi yn ystadegol ar ôl 5-10 o gyflwyniadau y dewch chi’n llawer mwy hyderus ac arfer â’r gweithgaredd. ‘Practice makes perfect!’

    TRAETHODAU
    Rwyf bob amser yn meddwl taw y mwyaf rwy’n darllen, yr hawsaf bydd y traethawd i’w hysgrifennu. Dechreuwch drwy gael golwg yn y llyfrgell ac wrth fenthyg llyfrau sydd â theitlau / penodau perthnasol i’ch aseiniad. Dechreuwch drwy gael rhywfaint o wybodaeth gefndirol o gwmpas y pwnc, yna gallwch ddefnyddio Google Scholar neu Primo i ganolbwyntio ar feysydd penodol. Rwy’n argymell tua 7-10 o ffynonellau o safon uchel ar gyfer traethawd gweddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ysgrifennu’r cyfeiriadau wrth i chi fynd yn eich blaen, does dim yn waeth na gorffen traethawd a chyrraedd y llyfryddiaeth ‘mond i sylweddoli nad oes gennych syniad o ble y daw pob dyfyniad a darn o wybodaeth. Yn olaf, cymerwch eich amser. Mae’r broses o ysgrifennu traethawd yn cymryd 4-5 diwrnod; treuliwch 3 diwrnod yn darllen a gwneud nodiadau, ac yna cynllunio ac ysgrifennu dros y dau ddiwrnod nesaf.

    GWAITH GRŴP
    Mae gwaith grŵp yn rhan wirioneddol bleserus o brifysgol, a gallwch wneud ffrindiau newydd wrth i chi gael eich rhoi mewn grwpiau gyda myfyrwyr na fyddech fel arfer yn cymdeithasu â hwy. Byddwch yn gwrtais a dod i adnabod aelodau eraill yn eich grŵp cyn dechrau ar y gwaith. O brofiad, mae creu tudalen Facebook yn ffordd hawdd iawn i ddiweddaru aelodau eraill y grŵp a gwneud yn siŵr eich bod i gyd ar y trywydd iawn. Gwnewch yn siwr i gwrdd fwy nag unwaith yn eich grŵp. Byddwch yn gwahanu ac yn gwneud darnau unigol o waith ymchwil, ond mae’n rhaid i hyn ddod at ei gilydd, felly bydd angen cyfarfod i roi’r cyfan mewn un cyflwyniad / adroddiad ac yna ei ymarfer ychydig o weithiau i wneud yn siŵr ei fod yn llifo. Camsyniad cyffredin yw nad oes angen darllen ar gyfer gwaith grŵp. Mae hynny’n anghywir; mae’r darlithwyr i gyd yn hoffi gweld ôl darllen mewn darn o waith felly gwnewch ychydig o ddarllen yr un a thaflu mewn dyfyniad yma ac acw i wneud hi’n amlwg eich bod wedi darllen, a sicrhewch ei fod yn berthnasol i’ch pwnc.

    Barn Myfyrwyr

    gan Helen Siegieda

    Gan fy mod yn fyfyriwr Daearyddiaeth Ddynol yn Aberystwyth roeddwn i am gael gwybod sut mae fy nghyd-fyfyrwyr yn dod ymlaen ar eu cyrsiau, a pha gyngor sydd ganddynt i ddarpar fyfyrwyr a glas-fyfyrwyr yr Adran Ddaearyddiaeth.

    Isabel Parry (Ail Flwyddyn, F800)
    A oes gennyt unrhyw gyngor i fyfyrwyr wrth iddynt ddewis modiwlau?
    Ystyria sut caiff y modiwl ei asesu a’r hyn yr wyt yn perfformio orau ynddo e.e. traethodau, arholiadau, cyflwyniadau. Fodd bynnag, yn bwysicaf oll, dewisa modiwlau ‘sgen ti ddiddordeb ynddo ac y byddi’n mwynhau.

    Beth yw dy ddiddordebau personol mewn daearyddiaeth?
    Y ffordd yr ydym yn effeithio ar yr amgylchedd a sut mae’r amgylchedd yn effeithio arnom ni e.e. trychinebau naturiol, newid hinsawdd, diogelwch bwyd a dŵr.

    Beth wyt ti’n ei wneud ar gyfer eich traethawd hir?
    Fy mwriad yw i edrych ar ddiogelwch dŵr a mynediad anghyfartal at adnoddau dŵr.

    Cyngor cyffredinol?
    Gwna dy orau o gyfleoedd a gynigir, cael hwyl ond gofala dy fod yn gwneud amser ar gyfer gwaith prifysgol (yn enwedig yn yr ail flwyddyn!!!).

    Olly Haines (Ail Flwyddyn, L700)
    Beth fu dy hoff modiwl hyd yn hyn?
    ‘Placing Politics’ oherwydd ei fod y mwyaf perthnasol i fy niddordebau ac ei fod yn fy nghaniatáu i ddadlau fy marn yn erbyn safbwyntiau eraill. Mae’r darlithwyr hefyd wedi bod y mwyaf diddorol.

    Beth yw dy ddiddordebau personol o fewn daearyddiaeth?
    Gwleidyddiaeth daearyddiaeth a sut mae gwleidyddion wedi datblygu ar hyd y blynyddoedd wrth i’r byd o’u cwmpas newid. Er enghraifft, sut mae cyfryngau cymdeithasol yn chwarae mwy o ran ym mhob etholiad cyffredinol. Mae’r diddordeb hwn wedi fy arwain at gael profiad gwaith / interniaeth gyda Kirsty Williams.

    A oes gennyt unrhyw gyngor i fyfyrwyr wrth iddynt ddewis modiwlau?
    Gwna yn siŵr dy fod yn deall cynnwys y modiwl cyn ei ddewis a sicrhau ei fod y modiwl cywir sy’n briodol i dy radd, yn enwedig dewisiadau ail flwyddyn.

    Diwrnod ym mywyd GeogSoc

    gan Helen Siegieda

    geogsoc logo

    Es i chwilio am Daniel Colson, myfyriwr yn y drydedd flwyddyn ac is-lywydd presennol GeogSoc ar gyfer y flwyddyn academaidd 2014-2015, a holi ef am hynt a helynt y gymdeithas a’i nodweddion gorau.

    Gallwch chi ddisgrifio GeogSoc mewn brawddeg i mi?
    Ooh mewn brawddeg. Iawn, byddwn i’n dweud ei fod yn gymdeithas ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn Daearyddiaeth, pe bai’n ddynol neu ffisegol, sydd yn awyddus i fwynhau mewn gwirionedd.

    Pryd wnaethoch chi ymuno â GeogSoc?
    Ymunais â GeogSoc yn yr Wythnos Glas yn fy mlwyddyn gyntaf, gan roedd pawb arall yn ymuno a theimlais fel yr oedd rhaid i mi hefyd. Do, fe wnes i gwrdd â llawer o ffrindiau yna, mae’n ffordd arbennig o dda i gymdeithasu â phobl eraill.

    Rwy’n teimlo fel y dylwn i ymuno nawr! Dywedwch wrthyf am eich rôl ar y pwyllgor a pham yr oeddech wedi ceisio am y rôl?
    Iawn, felly eleni fi yw’r Is-lywydd, a swydd fi yw helpu’r llywydd, Fiona Campbell, felly eleni fel pwyllgor roeddwn wedi trefnu sgyrsiau gyrfaoedd ar gyfer yr adran, ac roedd gennym tri thîm rygbi 7 pob ochr eleni yn ogystal â threfnu dawns graddio ar gyfer y gymdeithas. Rydym yn chwarae pêl-droed pob prynhawn Mercher, sydd yn agored i fechgyn a merched. Mae tua 15-20 o bobl yn tueddu dod, a chawsom gêm yr erbyn y staff, a chollasom 2-1 i’r staff…. Sgoriodd Stephen Tooth y gôl fuddugol, a oedd yn gic rydd. Mae nosweithiau cymdeithasol pob nos Fawrth. Mae gennym brydau bwyd trwy gydol y flwyddyn, mae’r rhai adeg y Nadolig a diwedd y flwyddyn yn agored i bobl tu hwnt y gymdeithas.

    Swyddogion GeogSoc 2014-15

    GeogSoc Officers 2014-15

    Gallwch ddweud wrthyf am sut mae GeogSoc yn cymryd rhan mewn codi arian?
    Drwy gydol y flwyddyn rydym wedi cynnal gwahanol werthiant pobi ar gyfer gwahanol achosion, o leiaf ddau bob semester. Mae Hannah Poll, ein swyddog cyhoeddusrwydd yn rheoli a threfnu’r rhain, ac yn cael ymateb gwych gan yr adran ac adrannau eraill ar draws y Brifysgol! Yn ddiweddar yr ydym wedi cynnal cwis tafarn i godi arian ar gyfer y ddaeargryn yn Nepal (cadw gyda’r thema ddaearyddol). Hefyd roedd gennym un cyn y Nadolig i godi arian. Y ddau’n boblogaidd. Roedd y darlithwyr yn bresennol, ac yn anffodus wedi ennill! Roeddwn hefyd wedi trefnu dwy gêm pêl-droed staff a myfyrwyr, yr oedd yr un cwpl o wythnosau yn ôl i godi arian ar gyfer MIND Aberystwyth – yr eluseniechyd meddwl leol. Roedd yn dda ac yr oeddwn wedi codi £90 mewn awr o bêl-droed. Yn ystod penwythnos gŵyl y Banc mis Mai roedd gennym tri thîm daearyddiaeth yn rygbi 7 pob ochr yr oeddwn wedi trefnu – dau dîm o fechgyn ac un tîm merched. Roedd yn dda iawn. Ynglŷn â chodi arian, rydym hefyd wedi gwneud casgliadau trwy gydol y flwyddyn ar gyfer elusennau ac wedi helpu hyrwyddo seminarau adrannol.

    Ydych chi wedi bod ar unrhyw deithiau GeogSoc?
    Do, mae gennym swyddog deithiau, Sam Lloyd eleni. Yn y semester cyntaf aethom ni i’r Animalarium ym Mhorth, lle mae pawb yn hoffi. Mae’n dda iawn. Nid yw’n gartref i anifeiliaid amddifad ond, yn hytrach, mae’n ailgartrefu anifeiliaid anwes mae pobl neu sŵau ddim yn gallu edrych ar eu hôl. Gallwch fwydo’r mwncïod ac anifeiliaid eraill, maent yn cydio cnau wrthych, mae hynny’n hwyl. Rwy’n credu mai’n £3 gyda charden myfyriwr.

    Beth mae noson allan nodweddiadol gyda GeogSoc fel?
    Llawer o hwyl. Mae fel arfer 50-60 o bobl. Mae’n crawl tafarn, pawb yn gwisgo lan, mynd i Pier, ac mae’r bobl ymroddedig yn mynd i Yokos.

    A fyddech yn argymell GeogSoc i’r flwyddyn gyntaf?
    Ie, yn bendant. Rwy’n argymell i bobl yn y flwyddyn gyntaf i ymuno â phopeth maent yn gallu. Er y byddwch yn difaru’r holl e-byst, dylech ymuno â phopeth sydd o ddiddordeb i chi. Un o’r pethau rwy’n eu difaru yw dim ymrwymo i hoci neu nofio, gan yr oeddwn wedi ymuno â’r ddau yn ystod Wythnos y Glas, ac rwy’n dal i gael yr e-byst, ond doeddwn i ddim wedi mynd, felly ie ymunwch â phopeth y gallwch.

    Grêt, Diolch Dan.

    By Helen Siegieda

    I wybod mwy am GeogSoc…
    Ewch i Aber GeogSoc 2014-2015 ar Facebook
    Dilynwch GeogSoc ar Twitter
    Neu ewch i blog newydd GeogSoc!

    Dr. Andrew Thomas

    gan Magda Chmura

    Dr. Andrew Thomas

    Dr. Andrew Thomas

    1. Pryd ddechreuodd eich diddordeb mewn tiroedd cras (arid) yn gyntaf?

    Fe wnes ymchwil yn Anialwch y Kalahari yn ne Affrica am y tro cyntaf yn ôl yn 1997. Byth ers hynny, rwyf wedi bod â diddordeb mewn sychdiroedd (drylands) y byd. Mae’r geomorffoleg ac ecoleg yn unigryw ac yn hollol hudol. Mae’r cysylltiadau niferus rhwng pobl a’r amgylchedd hefyd yn glir iawn mewn sychdiroedd a dyna beth yn ei gwneud yn lle mor dda i Daearyddwyr i astudio.

    2. Pryd wnaethoch chi ymweld ag anialwch am y tro cyntaf? Sut oedd hi?

    Roeddwn i ar daith maes Daearyddiaeth, wrth gwrs! Aethom i’r Sahara yn ne Tunisia. Rwy’n dal i gofio pa mor gyffrous oeddwn wrth weld yr ehangder helaeth o dwyni. Nid oeddwn yn gallu credu pa mor fân oedd y tywod, roedd e fel blawd. Roedd y daith hefyd yn gofiadwy oherwydd yn anffodus fe gyd-darodd â rhyfel cyntaf y Gwlff a daethom ar draws pobl anghyfeillgar mewn mannau. Roedd rhaid i ni adael un pentref yn weddol gyflym pan ddechreuodd grŵp o blant taflu cerrig at ein bws!

    3. P’un yw eich hoff anialwch a pham?

    Dyna gwestiwn anodd. Rwyf wedi mwynhau pob un o’r sychdiroedd ‘rwyf wedi ymweld â hwy am wahanol resymau. Mae’r Namib yn drawiadol, gyda thwyni enfawr a ffurfiannau craig trawiadol, ond byddai’n rhaid i mi ddweud y Kalahari. Rwyf wrth fy modd â Botswana. Mae’r bobl mor gyfeillgar ac mae bob amser yn fy rhyfeddu pa mor ddyfeisgar y gallant fod. Mae amrywiaeth y planhigion ac anifeiliaid yn debyg unman arall dwi wedi bod. Rwy’n gweld rhywogaethau newydd bob tro rwy’n mynd a chi byth yn hollol siŵr p’un a byddwch yn gweld llewod, mambas du neu grwbanod ar y safle nesaf.

    Kalahari  (c) Andrew Thomas

    Kalahari
    (c) Andrew Thomas

    4. Beth oedd y peth mwyaf anarferol a ddigwyddodd i chi mewn anialwch? Unrhyw straeon brawychus?

    Ar wahan i ddod ar draws anifeiliaid anarferol, un o’r lleoedd mwyaf anghyffredin ac anhygoel dwi wedi bod yw Bryniau Tsodilo yn ardal anghysbell o ogledd-orllewin Botswana. Mae’r bryniau wedi eu gwneud o gwartsit sy’n codi bron yn fertigol allan o’r tywod ac maent wedi eu gorchuddio â chelf graig hynafol. Mae rhai o’r lluniau yn dyddio’n ôl filoedd o flynyddoedd ac yn cael eu cadw yn eithriadol o dda. Mae’r safle yn lleoliad diwylliannol ac ysbrydol pwysig i’r cymunedau San a’r Hambukushu brodorol ac mae nifer o straeon am ddigwyddai rhyfedd yno. Ar fy ymweliad cyntaf cynlluniais i aros tri diwrnod i archwilio’r bryniau ac edrych ar y paentiadau graig.

    Celf Craig Tsodilo  (c) Andrew Thomas

    Tsodilo Rock Art
    (c) Andrew Thomas

    Fodd bynnag, ac er gwaethaf fy nghynlluniau, mi adawais ar ôl dim ond un noson. Fi oedd yr unig berson yno ac roeddwn newydd fynd i’r gwely yn fy mhabell ar ôl diwrnod hyfryd o gerdded a thynnu lluniau. Yna clywais sŵn dwfn yn dod o’r gogledd. Aeth y sŵn yn uwch ac yn uwch, ac yna bang, plygodd y babell dros ei pholion wrth i’r gwynt daro’r ochr. Daeth hyn i ben ar ôl ychydig eiliadau, aeth y babell yn ôl i fyny ac aeth popeth yn dawel eto. Fodd bynnag, ar ôl ychydig o funudau, clywais sŵn unwaith eto, y tro hwn yn dod o gyfeiriad arall. Aeth y sŵn yn uwch ac yn uwch, ac yna tarodd y gwynt gan wwthio fy mhabell drosodd unwaith eto. Aeth hyn ymlaen am y rhan fwyaf o’r nos. Wrth orwedd yn fy sach gysgu yn y tywyllwch ceisiais resymoli ac esbonio’r ffenomen hinsoddol hwn, ond gan fethu’n llwyr â gwneud hynny meddyliais fod yr ysbrydion yn y safle yn dweud wrthyf i adael. Pan godais y bore wedyn, yr oedd yn hollol llonydd, fel pe bai dim wedi digwydd, ond yna disgynnodd haid o wenyn ar y babell, diflanodd pob owns o synnwyr cyffredin a penderfynais ddianc. Ond aeth hynny ddim yn rhy dda chwaith, gan mai dim ond ychydig gannoedd o fetrau y deithiais cyn i mi gladdu’r car mewn darn o bridd cotwm du a gorfod treulio sawl awr yn palu’r car allan!

    5. A ydym yn debygol o brofi mwy o ddiffeithdiro oherwydd newid hinsawdd?

    Ydyn, yn anffodus. Mae pob un o’r rhagfynegiadau hinsoddol yn dangos bod sychdiroedd y byd yn mynd i boethi dros y ganrif hon. Bydd hyn yn cynyddu diffygion lleithder a’i gwneud yn fwy anodd i blanhigion dyfu a sefydlogi’r wyneb. Gallwn ddisgwyl mwy o erydiad gwynt, stormydd llwch a dirywiad yn ansawdd y pridd. Yn ffodus, mae dal cryn dipyn y gallwn ei wneud i oedi hyn, yn enwedig drwy ddefnyddio technegau ffermio priodol a chyfyngu nifer y da byw.

    Bryniau Tsodilo  (c) Andrew Thomas

    Tsodilo Hills
    (c) Andrew Thomas

    6. Pam ddylen ni ymchwilio i diffeithdiroedd?

    Ar gyfer pob un o’r rhesymau uchod ac oherwydd eu bod yn llefydd gwych i ymweld â nhw.

    Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil- ‘Mae’n fwystfil eithaf cymhleth’

    gan Sara Elizabeth Fisher

    Mae’n debyg nad yw’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (FfRhY) yn gysyniad adnabyddus i fyfyrwyr, efallai oherwydd ein bod yn tybio nad yw’r gwaith ymchwil a gynhaliwyd gan adrannau yn gysylltiedig â’n haddysg ni. Fodd bynnag, mae perfformiad diweddar Aberystwyth yn y FfRhY yn awgrymu nid yn unig dylem fod yn ymwybodol o beth ydyw a’i effeithiau, ond dylem hefyd fod yn falch o gael ein dysgu mewn sefydliad o’r fath. Siaradais â’r Athro Colin McInnes sy’n arwain y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil ar gyfer Prifysgol Aberystwyth. Felly, beth yn union yw’r FfRhY?

    ‘Pob 5 mlynedd mae gan bob adran yn yr holl brifysgolion y cyfle i gael asesiad o ansawdd eu hymchwil ac mae’r manteision o gael hyn yn ddeublyg. Yn gyntaf proffil a chydnabyddiaeth gan gyfoedion, os yr ydych yn gwneud yn dda yr ydych yn cael eich gweld fel eich bod yn rhan o adran gref a llwyddiannus o ran ymchwil ac yn ail yr arian, mae arian ynghlwm yn dibynnu ar ba mor dda yr ydych yn gwneud’.
    Mae’r FfRhY yn cael ei fesur gan dri phrif faes; y cyntaf yw ansawdd yr ymchwil, yr ail yw amgylchedd yr ymchwil ac yn drydydd effaith y gwaith ymchwil. Mae sgôr cyfansawdd yn cael ei roi o’r tri maes. Aeth y cyflwyniadau diwethaf ym mis Tachwedd, 2014, fodd bynnag, mae adrannau o fewn y brifysgol yn dechrau paratoi tua deg mis cyn yr asesiad.

    Cafodd canlyniadau eleni eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr. Mae cymryd rhan yn y FfRhY yn arwydd o gryfder adrannol. Felly sut oedd Aberystwyth wedi gwneud?

    ’Fe wnaethom yn debyg i fel yr oeddwn yn gobeithio. Nid ydym yn gallu cystadlu gyda’r prifysgolion mawr, dwys ar wyddoniaeth. Nid ydym yn ddigon mawr, nad ydym yn cael yr un daliad grant, mae’r un faint o staff yn mynd i mewn. Felly os yr ydych am gymharu ni gyda Manceinion neu Goleg Imperial Llundain, byddwn ddim yn gwneud mor dda oherwydd yn syml y maint a chymysgedd pwnc. Os yr ydych yn ystyried hynny, rydym yn hapus iawn ar sut y gwnaethom. Roeddwn wedi dal ein safle ac mae hyn yn ôl pob tebyg yn dyrnu ychydig yn uwch na’r hyn yr ydym yn ystyried fel ein safle naturiol’.

    Fodd bynnag, mae rhai adrannau o fewn y brifysgol yn gwneud yn hynod o dda, gydag un o’r adrannau hynny’n Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear “roeddwn wedi gwneud yn well na’r tro diwethaf yn cyfateb i’n disgwyliadau o fewn yr adran. Mewn geiriau arall, roeddem yn meddwl bod yr adran yn gryf iawn a dylai wneud yn dda iawn. Roedd ein gobeithionwedi eu gwireddu pan gyhoeddwyd y canlyniadau felly wnaethom yn dda iawn.”

    Ar y pwynt hwn, bydd llawer o bobl yn gofyn pam mae hyn yn bwysig i fyfyrwyr a pham ddylem ni gymryd sylw o fframweithiau o’r fath. Mae hwn yn ffactor pwysig ar gyfer myfyrwyr oherwydd wedi i ni raddio, byddwn yn cael ein cydnabod am ddod o adran dda, a gallwn ymfalchïo mewn bod yn rhan o sefydliad blaenllaw o ran ymchwil. Efallai’r fantais fwyaf amlwg a deniadol o wneud yn dda yw bod yr adrannau sy’n cyflawni’n uchel yn denu staff o ansawdd uchel ac o ganlyniad mae’r addysg yn cael ei ystyried yn flaen y gad, yn dysgu beth sy’n newydd a phwysig mewn Daearyddiaeth. Fel dywed yr Athro Colin McInnes ‘Mae’r FfRhY yn un o brif ddangosyddion o ba mor dda mae’r adran’. Mae yna hefyd gymhelliad ariannol i wneud yn dda yn y FfRhY, yn aml mae grantiau chwe ffigwr yn cael eu gwneud yng ngoleuni canlyniadau da ac mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar brofiad myfyrwyr a chyfleoedd yn y Brifysgol.

    Mae ymchwil yn cyfri ac mae ymchwil yn siarad, efallai y bydd deall mwy o’r hyn sy’n digwydd y tu allan i gyfyngiadau cul ein gradd ni yn gwneud i ni werthfawrogi ein profiad ar lefel wahanol. Mae’n hawdd barnu prifysgol ar leoliad a graddau ar wahanol bethau, ond byddwn yn dadlau bod edrych yn fanylach ar gynnyrch gwirioneddol adran yn gynrychiolaeth eithriadol o gryf o beth fydd eich gradd. Yn fy marn i, mae fy nhair blynedd yn astudio Daearyddiaeth Ddynol wedi bod yn hynod o ddiddorol. Mae wedi rhagori fy nisgwyliadau. Mae llawer o fy ffrindiau wedi sylwi ar ba mor amrywiol mae fy modiwlau, yn astudio celf tanddaearol, henebion a chrefyddau’r byd yn nodweddiadol. Yr wyf yn credu bod y math ac ansawdd yr ymchwil a gynhyrchir yn yr adran Ddaearyddiaeth yn cael ei oleuo yn y modiwlau a ddarperir a’r mwynhad o’r radd rydym yn ei hastudio.