Ffracio: syniadau ar y frwydr ddadleuol am ynni’r dyfodol

gan Jessica Wood

Mae Hollti Hydrolig neu ‘Ffracio’ fel y gwelir yn fwy cyffredin, yn bwnc llosg ac yn ddadleuol. Ffracio yw broses lle mae cymysgedd o ddŵr , tywod a chemegau yn cael ei ddrilio a’i chwistrelli i mewn i graig siâl trwchus ar bwysedd uchel, er mwyn i’r graig ryddhau nwy naturiol o’r holltau bach a grëwyd. A yw’n broses hanfodol ar gyfer egni’r dyfodol? A oes opsiynau glanach a llai ‘beryglus’? Mae’r rhain yn cwestiynau sydd yn codi’n aml i arbenigwyr, ond gyda ffracio helaeth eisoes yn digwydd yn yr U.D.A mae dim ond mater o amser cyn i’r D.G profi ffracio ar raddfa fawr. Ar yr 23ain o Ebrill, 2015 yng Nghanolfan y Celfyddydau Prifysgol Aberystwyth roedd fforwm cyhoeddus o’r enw “Fracking and the Imagination: Scraping the Barrel or Saving the Day?”. Roedd gwyddonwyr naturiol a chymdeithasol, artistiaid ac ymgyrchwyr amgylcheddol o Gymru a thu hwnt, yn ogystal â darlithwyr ar draws yr adran wedi mynychu. Un darlithydd o’r fath oedd Mark Whitehead, daearyddwr amgylcheddol, pwy yr oeddwn wedi gofyn cwestiynau i ynglŷn â ffracio a sut mae daearyddwyr dynol yn mynd at y pwnc.

Mae ffracio yn cael ei gyfiawnhau yn aml gan ei fod yn rhoi diogelwch ynni, rhywbeth sydd yn hanfodol ar gyfer cynaliadwyedd ynni’r dyfodol am fel yr ydym yn byw yn awr, yn ddwys ar ynni. Yn ôl amcangyfrif o Arolwg Daearegol Prydeinig, os oedd ond 10% o gronfeydd siâl y D.G yn cael eu defnyddio, bydd Prydain yn gallu cael ei bweru am yr hanner canrif nesaf a hyd yn oed yn cymryd lle cyflenwadau Môr y Gogledd, sy’n prinhau. Fodd bynnag, mae hyn yn golygu parhad mewn dibyniaeth y D.G ar danwydd ffosil ac yn cymryd sylw i ffwrdd o ddyfodol carbon-isel. Dywedwyd gan Mark Whitehead “y perygl fwyaf yw y gallai [ffracio] oedi’r angen brys i newid i danwydd di-garbon”. Felly yn ei dro, mae hyn yn codi’r cwestiwn a yw’r llywodraeth mor ymrwymedig fel maent yn awgrymu weithiau i fynd i’r afael â bygythiadau newid hinsawdd? Yn enwedig yn awr gan mae ffracio yn rhan o’r agenda llywodraethol, ac yn cael ei weld fel achubiaeth ar gyfer ein hanghenion ynni am y dyfodol. Er gwaethaf ffracio, fel pob tanwydd ffosil, yn gorfod cael eu gadael yn y pen draw am ynni adnewyddadwy sydd yn aml yn hyrwyddo oes ddiddiwedd, rhywbeth ni all ffracio wneud.

Mae’r broses ffracio a’i effeithiau uniongyrchol ar ardaloedd lleol wedi dod o dan graffu gan grwpiau a chymunedau ymgyrchu, yn fwyaf diweddar yn Swydd Efrog gyda’r grŵp ymgyrch ‘Frack free Ryedale’. Yn 2011, cafodd prosiect ffracio mwyaf datblygedig y D.G yn Blackpool ei atal ar ôl darganfod dau ddaeargryn bach sydd gyda chyswllt posibl. Mae’r penderfyniad a ddylid parhau i ffracio yn y safleoedd hyn yn ddyledus ym Mehefin 2015. Mae ffracio archwiliadol, fel y gwelir yn Blackpool, yn gyffredin ar draws y D.G, yn enwedig yng ngogledd-orllewin a de-ddwyrain Lloegr, ond gyda llawer o safleoedd caniataol mae ond ychydig wedi cael eu drilio. Efallai oherwydd y problemau sy’n gysylltiedig â’r broses ffracio. Nid yn unig y bod angen llawer iawn o ddŵr (sydd eisoes yn brin yn y de-ddwyrain) i fewnbynnu i’r system, ond mae yna bryderon ynglŷn â’r wal sy’n gysylltiedig gyda ffracio oherwydd mae’n bosib eu bod yn gollwng a halogi dŵr daear. Mae’r rhain yn bryderon difrifol ac yn ôl Mark Whitehead, gallai bod yn fygythiad gwirioneddol i iechyd hirdymor y cymunedau sy’n amgylchynu safleoedd o’r fath.

Er mae’r erthygl hon yn fyr ac yn canolbwyntio ar farn negyddol am ffracio, mae’n codi pryderon pwysig sydd i raddau helaeth ar flaen y gad. Wedi dweud hynny, mae ffracio yn rhan o ddadl llawer ehangach a chymhleth lle mae manteision ac anfanteision yn dod i chwarae rôl. Mae’n anodd ffurfio barn ar ffracio pan gaiff ei chymylu mewn cymaint o ansicrwydd a thystiolaeth anghyson. Os byddwn yn canolbwyntio ar ddiddordebau personol efallai bydd cwmnïau yn dweud ie achos ei werth economaidd, ond efallai bydd cymunedau lleol yn dweud na oherwydd syndrom “NIMBYism” (Not In My Backyard) a’i dirywiad amgylcheddol ar eu tref leol. Efallai gall ffracio dod â manteision i un endid ond yn aml bydd yn cael effeithiau negyddol ar rannau eraill o’r gymdeithas.

Wrth gloi, mae’n amlwg bod y drafodaeth ehangach ar ynni’r dyfodol yn cael canolbwyntio unwaith eto ar danwydd ffosil. Gyda chymdeithas sydd yn dibynnu mwy a mwy ar ynni, a gyda’r ysgrifenyddes Ynni a Newid Hinsawdd newydd, Amber Rudd, yn awr yn mynegi ei chefnogaeth i ffracio a gwahardd cymorthdaliadau ar gyfer ffermydd gwynt ar y tir, mae’n edrych fel y gall ffracio cael ei annog ar draul egni adnewyddadwy. Nid yw ffracio yn ateb delfrydol i anghenion egni’r dyfodol, nid yw’n arwain at ddyfodol carbon-isel, nid yw’n arwain gwledydd i gyrraedd eu targedau gollyngiadauychwaith. Mae dyfodol ffracio felly yn un o ansicrwydd fel dywedwyd gan Marc Whitehead:

“I have this vision of future generations scratching their heads as they look back at fracking and think ‘so confronted with the real and present danger of climate change you chose to fracture the earth’s crust so you could release more greenhouse gases into the atmosphere – what were you thinking!’”

Casgliad addas ar gyfer pwnc sy’n parhau i rannu barn ymhell cyn i’r cwmnïau ffracio symud i mewn, ac efallai, ymhell ar ôl iddynt symud allan.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *