Dod o hyd i’r fynedfa i Lyfrgell Hugh Owen

Helo bawb,

I helpu ein defnyddwyr i ddod o hyd i’r fynedfa i Lyfrgell Hugh Owen yn ystod y gwaith adnewyddu, mae Ellie Downes, ein cynorthwyydd llyfrgell hyfryd, wedi gwneud fideos sy’n dangos yn union sut i ddod o hyd i ni.

Sut i ddod o hyd i’r fynedfa i Lyfrgell Hugh Owen o gyfeiriad Rosser/Parry-Williams (Adran ThFfaTh):

Sut i ddod o hyd i’r fynedfa i Lyfrgell Hugh Owen o gyfeiriad y Piazza

Prosiect Adnewyddu’r Llyfrgell a’r Amgylchedd

Mae gan y Gwasanaethau Gwybodaeth hanes o gefnogi gweithgareddau ‘Gwyrdd’ ac ystyried effaith amgylcheddol ein holl weithgareddau. Yr haf diwethaf dyfarnwyd Gwobr Safon Aur i ni yn unol â’r Rhaglen Effaith Gwyrdd.

I barhau â’n harferion cynaliadwy yn ystod y broses o symud y gwasanaeth a gwagio Llawr D rydym wedi:

  • Cadw’r gwydr o Lawr D er mwyn ei ailddefnyddio yn y cynllun newydd.
  • Addasu dodrefn diangen at ddibenion gwahanol a rhoi bywyd newydd iddynt (mae’r ffotograffau isod o hen ddroriau sydd wedi cael gweddnewidiad)
  • Rhoi unrhyw lestri nad oedd eu hangen o lolfa’r staff i Craft er mwyn iddynt eu hailddefnyddio.
  • Gosod peiriant Hydrachill – bydd hwn yn ein galluogi i ail-lenwi ein poteli dŵr gan leihau’r angen i brynu dŵr potel.
  • Cadw ein Pwyntiau Mynediad Diwifr a’n hoffer CCTV er mwyn eu hailddefnyddio.
  • Adleoli’r dodrefn / silffoedd ar draws ein llyfrgelloedd.
  • Ailgylchu’r holl offer trydanol/TG diangen.
  • Cadw’r moduron drws er mwyn eu hailddefnyddio yn yr ystafell newydd.

Pan fo’n bosibl, rydym wedi ceisio sicrhau bod y cyfan yn cael cyn lleied o effaith ar yr amgylchedd â phosibl.

Cydweithwyr yr adran Gwasanaethau Gwybodaeth yw’r cydweithwyr gorau erioed :)

Mae’r gwaith adnewyddu wedi amharu llawer ar gydweithwyr y Gwasanaethau Gwybodaeth ac mae pob un ohonynt wedi bod mor gefnogol a chydweithredol wrth i’r gwaith adnewyddu fynd rhagddo. Boed yn storio darnau o ddodrefn yn eu swyddfeydd, neu’n cwtsio lan i wneud lle i gydweithwyr sydd wedi gorfod symud o Lawr D dros dro, neu golli ystafell baned y staff dros gyfnod y gwaith, maent wedi bod yn wych. Diolch i chi gyd.
Dyma rai ohonynt yn defnyddio ein hystafell baned dros dro.

Pam mae Llawr D, Llyfrgell Hugh Owen yn cael ei adnewyddu?

Mewn adborth diweddar gan fyfyrwyr a staff PA i’r llyfrgell, dywedwyd:

  • “Credaf yn gryf y dylai Llyfrgell Hugh Owen gael ei adnewyddu’n llwyr. Y tu mewn a’r tu allan yn ddelfrydol.”
  • “[hoffwn weld rhagor o] ardaloedd astudio i grwpiau (nad ydynt yn rhai tawel), gyda chyfrifiaduron. Mae angen diffiniad rhwng ardaloedd astudio tawel a’r ardaloedd nad ydynt yn rhai tawel. Mwy o ystafelloedd fel Ystafell Joy Welch y gellir eu llogi. Hefyd [mwy] o doiledau […]
  • “[hoffwn weld rhagor o] welliannau i greu llyfrgell oleuach a disgleiriach.”

O ganlyniad i adborth gan ddefnyddwyr y llyfrgell a’r angen amlwg i ddiweddaru adeilad sydd wedi dyddio, cyflwynodd y Gwasanaethau Gwybodaeth (GG) gynnig am adnewyddiad gwerth £2M i Lyfrgell Hugh Owen dros gyfnod o 4 blwyddyn ariannol, 4 cyfran o £500k. Cam cyntaf y gwaith fydd adnewyddu Llawr D dros 2 flwyddyn ariannol (2016-17 – 2017-18), gyda Llawr E ac F yn cael eu hadnewyddu yn ystod 2 flwyddyn olaf y prosiect.

Fel gwasanaeth allweddol yn y Brifysgol drwy gydol y flwyddyn, mae’n hanfodol bod y llyfrgell yn aros ar agor trwy gydol y gwaith adnewyddu a chytunwyd y byddem yn dechrau gyda phrif fynedfa’r Llyfrgell ar Lawr D.

Dyma rai o’r ffactorau a gyfrannodd tuag at wneud cais am y prosiect:

  • Yn ôl adborth rheolaidd gan fyfyrwyr, mae’n amlwg bod angen mwyhau, diweddaru a gwella’r ardaloedd astudio i fyfyrwyr ar Lawr D. Mae’r gofod sydd yno ar hyn o bryd wedi dyddio’n sylweddol ac nid yw bellach yn bodloni anghenion y defnyddwyr a’r staff.
  • Mae’r gofod i staff sy’n gweithio ar Lawr D yn gyfyng ac mae’r cynllun presennol yn golygu bod y rhai hynny nad ydynt ar yr amserlen i weithio ar y ddesg ymholiadau yn dal i fod yng ngolwg y defnyddwyr. Golyga hyn fod defnyddwyr yn torri ar draws gwaith y staff yn aml ac mae’n rhoi profiad gwael i ddefnyddwyr a allai feddwl bod y staff hyn yn eu hanwybyddu.
  • Er bod y GG wedi sgorio’n dda iawn yn yr arolwg ‘Aber Ydym Ni’, ein sgôr salaf oedd “Mae gan yr adran adnoddau a/neu ddeunyddiau sy’n ddeniadol yr olwg” cwestiwn y cawsom gyfradd bodlonrwydd o 56.7% ar ei gyfer; roedd pob sgôr arall i’r GG rhwng 70% ac 86%.
  • Mae tystiolaeth o’r sector yn dangos pwysigrwydd mawr y llyfrgell a’r adnoddau gwybodaeth o ran bodlonrwydd y myfyrwyr a recriwtio myfyrwyr. Gweler https://www.timeshighereducation.com/student/news/student-experience-survey-2017-expectations-are-high-for-learning-resources a https://www.timeshighereducation.com/news/student-experience-survey-2017-build-facilities-and-students-will-come
  • Gwella’r gofod a’r gwasanaethau ar Lawr D, ble ceir mynedfa’r Llyfrgell a lleoliad y Ddesg Ymholiadau Llyfrgell a TG, fyddai’n cael y mwyaf o effaith ar fyfyrwyr presennol, a’r llawr hwn hefyd yw ein ffenestr siop ar gyfer darpar fyfyrwyr.

Mae ein cynlluniau ar gyfer Llawr D yn cynnwys:

  • Aildrefnu’r cynllun i wella’r llif drwy’r adeilad a mynediad y defnyddwyr i’r adnoddau a’r gwasanaethau. Bydd hyn yn cynnwys symud prif fynedfa’r llyfrgell i wynebu’r Piazza.
  • Agor a newid diben rhai o’r ardaloedd yn y cefn i roi lle ychwanegol i ddefnyddwyr. Bydd hyn yn cynnwys ardal i beiriannau bwyd a diod, ystafelloedd astudio grŵp ychwanegol y gellir eu llogi, toiledau i fyfyrwyr a lle i eistedd ar gyfer defnyddio cyfrifiaduron ac ar gyfer astudio’n unigol ac mewn grwpiau.
  • Gwella’r golau, y gwres a’r awyriad i sicrhau amgylchedd mwy cyfforddus i’n defnyddwyr.
  • Diweddaru’r addurniadau a’r dodrefn i ddarparu lle modern, sy’n bodloni anghenion ein defnyddwyr.

Er y bydd Llawr D ar gau yn ystod y gwaith adnewyddu, bydd y Llyfrgell yn parhau i fod ar agor trwy gydol y gwaith. Bydd y staff a’r gwasanaethau’n cael eu symud i Lawr E y Llyfrgell a’r oriau agor yn aros yr un fath. Gallwch weld ein cynlluniau ar weddalen adnewyddu’r llyfrgell a chroeso i chi anfon eich adborth atom: https://www.aber.ac.uk/cy/is/news/librefurb/

Mae Desg Ymholiadau Llyfrgell Hugh Owen bellach wedi’i symud dros dro o Lawr D i Lawr E

Yr wythnos hon agorodd ein Desg Ymholiadau Llyfrgell a TG ar Lawr E yn Llyfrgell Hugh Owen. Mae’r Ddesg Ymholiadau hon wedi’i lleoli o flaen drysau’r brif fynedfa ar Lawr E. Mae’r staff wrth y Ddesg Ymholiadau’n croesawu eich ymholiadau.

Rydym wedi bod yn brysur yn adleoli rhai casgliadau o lyfrau a gwasanaethau er mwyn paratoi ar gyfer dechrau’r gwaith adeiladu ar Lawr D y llyfrgell. Er bod gennym arwyddion i fyny o amgylch y llyfrgell yn cyfeirio defnyddwyr y llyfrgell at y fynedfa newydd i’r llyfrgell ac i’r llyfrau a’r gwasanaethau sydd wedi’u symud, os ydych chi’n cael unrhyw broblem dod o hyd i’r llyfrau neu os oes arnoch angen cymorth, mae croeso i chi gysylltu ag aelod o’n staff.
Cofiwch hefyd fod croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bost, ffôn neu sgwrs ar-lein i gael unrhyw gymorth neu i ofyn unrhyw gwestiwn am ddefnyddio gwasanaethau ac adnoddau’r llyfrgell/TG: https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/contactus/

Mae Llawr D y llyfrgell bellach wedi cael ei wagio o’r holl ddodrefn yn barod ar gyfer y contractwyr adeiladu, sy’n dod i ddechrau gweithio yn ystod wythnos olaf mis Mehefin. Dyma sut olwg oedd ar Lawr D ar ddiwrnod ola’r tymor (ddydd Sadwrn diwethaf)

A dyma Lawr D heddiw, yn barod ar gyfer y gwaith adnewyddu.

Nodyn i’ch atgoffa bod gweddalen o’r gwaith adnewyddu i Lawr D Llyfrgell Hugh Owen ar gael ar: https://www.aber.ac.uk/cy/is/news/librefurb/

Diolch i bawb a gymerodd ran yn y gwaith o adleoli’r gwasanaeth hwn i Lawr E. Rydym yn edrych ymlaen at weld y gwaith adeiladu yn dechrau.

Elizabeth

Ail-leoli Gwasanaethau

Helo,

Dechreuodd y gwaith o symud ein gwasanaethau Llyfrgell, TG, Cyfryngau a Gwerthiannau i Lawr E o ddifrif ddoe.

  • Mae’r Peiriant Hunan Fenthyca sydd ag Adnodd Talu Dirwyon wedi’i symud o Lawr D i Ystafell Iris De Freitas
  • Mae’r cyfrifiaduron y tu allan i’r lifft ar Lawr E wedi cael eu symud a chânt eu hailddosbarthu drwy’r llyfrgell. Edrychwch ar y dudalen Argaeledd Cyfrifiaduron Computer Availability page i ddod o hyd i gyfrifiadur sydd ar gael.
  • Mae’r byrddau y tu allan i’r lifft ar Lawr E wedi cael eu symud i’r ardal y tu allan i’r lifft ar Lawr F.
  • Mae Tîm y Ddesg Gwasanaethau TG wrthi’n ail-leoli i Ystafell Hyfforddiant Hugh Owen.
  • Mae cydweithwyr yn y gwasanaeth Cyfryngau a Gwerthiannau wedi symud i ardal yr Academi ar Lawr E.
  • Bydd Tîm y Ddesg Gwasanaethau Llyfrgell yn symud ddydd Llun i’r swyddfa cynllun agored i staff ar Lawr E.

Nodyn i’ch atgoffa y bydd Llawr D yn cau i bawb am 5:30yp ddydd Llun 5 Mehefin.

O 8:30yb ddydd Mawrth 6 Mehefin bydd ein gwasanaethau rheng flaen yn cael eu cyflwyno o Lawr E.

Ewch i mewn ac allan o’r llyfrgell drwy’r fynedfa Hygyrchedd ar Lawr E (mae’r fynedfa’n wynebu’r cyntedd uchaf ar ochr ddeheuol adeilad Hugh Owen – uwchlaw’r fynedfa i Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd).

Diolch yn fawr iawn i’r Porthorion sydd wedi gweithio’n galed iawn i symud dodrefn o amgylch y llyfrgell. Diolch hefyd i staff y Gweithdy sydd wedi bod yn brysur yn symud cyfrifiaduron o un lle i’r llall.

Bydd rhagor o symud ddydd Llun a dydd Mawrth nesaf ac fe geisiaf roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi gyd eto’n fuan.

Cynllun dros dro y desgiau ar Lawr E.


Lleoliad newydd y Peiriant Hunan Fenthyca gydag adnodd Talu Dirwyon.