Cyfarfod adborth â’r myfyrwyr sydd â phroblemau symudedd neu wahaniaethau dysgu.

Helo eto,

Ddydd Gwener byddwn yn cynnal cyfarfod adborth â’r myfyrwyr sydd â phroblemau symudedd neu wahaniaethau dysgu. Mae tîm y prosiect yn awyddus iawn i glywed beth sydd gennych chi i’w ddweud am y cynllun newydd arfaethedig; efallai y bydd modd i chi amlygu problem nad oeddem wedi ei hystyried eto. Byddwn yn edrych ar y cynllun, y cynllun lliw arfaethedig a rhai o’r dodrefn. Mae’r rheoliadau adeiladu’n ymdrin â’r problemau symudedd sylfaenol a fydd yn codi ond rydym hefyd eisiau ystyried materion yn ymwneud â’r synhwyrau a’r clyw. Dim ond gyda’ch cymorth chi y gallwn ni wneud hyn.

Cynhelir y cyfarfod am 10yb yn ystafell hyfforddi Hugh Owen (yr ystafell fach ger yr ystafell gyfrifiaduron fawr ar lawr E) fore dydd Gwener (24ain). Mae croeso i ddefnyddwyr sydd â phroblemau symudedd, sydd eisoes wedi trefnu mynediad drwy’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr, ddefnyddio’r fynedfa hygyrchedd ar Lawr E.

Os ydych chi’n fyfyriwr gyda phroblemau symudedd neu wahaniaeth dysgu dewch i roi gwybod beth ydych chi’n ei feddwl.

Adborth gan Ddefnyddwyr

Un peth yr anghofiais sôn amdano yn fy neges ddiwethaf oedd bod y cynlluniau wedi’u seilio’n fawr iawn ar yr adborth yr ydym eisoes wedi’i gael (mae’r llun uchod yn dangos y bwrdd adborth a ddefnyddiwyd yn y llyfrgell i gasglu eich sylwadau drwy gyfrwng nodiadau Post-It). Pan fo’n bosibl, rydym wedi ymgorffori’ch awgrymiadau ac rydym yn gwerthfawrogi’ch ymrwymiad a’ch brwdfrydedd tuag at y prosiect hyd yma.

Er bod y manylion bach yn dal i gael eu trafod mae rhai o’r newidiadau pensaernïol mawr yn fwy cadarn ac rydym ar fin dod at garreg filltir fawr yn y prosiect gan ein bod yn mynd i dendr am y contract adeiladu ddiwedd y mis. Rhagor cyn hir!

Croeso i Blog Ailwampio Lefel D

Helo, Lucy O’Donnell ydw i, Rheolwr Prosiect Adnewyddu Llawr D Llyfrgell Hugh Owen, ac rwy’n blogio ar ran Tîm Adnewyddu’r Llyfrgell. Rwyf wedi bod yn llyfrgellydd yn y Gwasanaethau Gwybodaeth ers 2012 ac rwy’n raddedig o Brifysgol Aberystwyth.

Nod y blog hwn yw darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau adnewyddu i holl ddefnyddwyr Llyfrgell Hugh Owen, ac i ofyn am eich cyfranogiad a’ch barn ar y prosiect.

Yma fe welwch gynllun diweddaraf y penseiri ar gyfer y gwaith adnewyddu (llun trwy garedigrwydd Pensaernïaeth DarntonB3 Architecture)
Hugh Owen Level D Option G – Architect Design

Sylwch bod y cynlluniau hyn ar ffurf drafft ar hyn o bryd. Os oes gennych unrhyw adborth am y prosiect mae croeso i chi gynnig sylwadau neu gysylltu â ni trwy: is-feedback@aber.ac.uk.
Am ragor o wybodaeth gweler y dudalen ganlynol: https://www.aber.ac.uk/cy/is/news/librefurb/
Anelwn at flogio bob wythnos i roi gwybod i chi sut mae’r gwaith yn dod yn ei flaen.
Diolch!
Lucy