Cenhedlaeth newydd yn cofio cyn-fyfyriwr: Gwilym Williams B.A. (1890–1916)

Union gan mlynedd i heddiw, 22 Mai 1916, claddwyd Gwilym Williams, mab fferm Nant-yr-afr Fawr, Tre-lech a’r Betws sir Gaerfyrddin ym mynwent Merville, Ffrainc. Mae aelodau o’i deulu yn nodi’r canmlwyddiant trwy ymweld â’i fedd yn Ffrainc y penwythnos hwn.

Roedd Gwilym yn un o raddedigion Adran y Gymraeg, Aberystwyth ac yn fardd ifanc addawol. Enillodd nifer o gadeiriau eisteddfodol, gan gynnwys Cadair Eisteddfod y Brifysgol ym 1912: ‘Gwanwyn Bywyd’ oedd teitl ei bryddest fuddugol a T. Gwynn Jones fu’n beirniadu’r gystadleuaeth.

Gwilym Williams

Gwilym Williams

Graddiodd Gwilym gydag anrhydedd yn 1913 a mynd i ddysgu am dymor yn Ysgol Ganolradd y Drenewydd ac yna Ysgol Ramadeg Brenhines Mary, Walsall ger Birmingham. Yng Ngorffennaf 1915 ymunodd â’r fyddin a chael ei wneud yn is-Gapten ar 17 Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Hwyliodd y bataliwn i Ffrainc ym mis Rhagfyr, ac ym mis Mai 1916 roedd Gwilym ar flaen y gad yn Fauquissart. Cafodd ei glwyfo yn ei wddf gan fwled ddydd Sadwrn 20 Mai a bu farw drannoeth yn yr ysbyty ym Merville. Claddwyd Gwilym ym Mynwent Merville 22 Mai 1916; roedd yn chwech ar hugain oed.

Un o’r rhai a fu’n galaru am Gwilym oedd ei ffrind, Jane Helen Rowlands o Borthaethwy a fu’n fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol Bangor ac a gysegrodd ei bywyd i waith cenhadol. Daeth yn ysgolhaig Bengali adnabyddus hefyd.

Mae llythyrau sydd ym meddiant y teulu yn tystio i’r berthynas glos rhwng y ddau wedi iddynt gyfarfod fel aelodau o staff Ysgol Ganolraddol Y Drenewydd. Yn wir, cred Hefin Wyn M.A. fod a wnelo penderfyniad Helen Rowlands i fynd yn genhades â phenderfyniad annisgwyl Gwilym i wirfoddoli i ryfela.

Yng ngeiriau Hefin Wyn:
“Arferai ‘Helen o Fôn’, fel y’i hadwaenid, anfon llythyrau o Assam at y teulu bob mis Mai am flynyddoedd wedi marwolaeth Gwilym yn sôn am ei serchiadau tuag ato. ‘Dyma’r bachgen mwyaf pur ei galon a adnabum erioed’ meddai mewn un llythyr. Rhaid dod i’r casgliad mai calon ddrylliedig oedd wedi anfon Wncwl Gwilym i faes y gad. Roedd ei englyn ffarwel i’w gariad yn brawf o’r ing a deimlai:

Draw i randir yr India – mae Helen
Am hwylio o Walia;
O’n golwg ni. O gwylia
Hi dros y dŵr, Iesu da.”

Cofio Gwilym Williams
Roedd Gwilym Williams yn hen ewythr i Hefin Wyn a chynhaliwyd digwyddiad arbennig i gofio Gwilym 18 Mai 2016 yn Yr Hen Goleg lle bu’n fyfyriwr. Braf oedd cael croesawu Hefin Wyn ac aelodau eraill o deulu Gwilym i’r digwyddiad.

Arweiniwyd y digwyddiad gan Hefin Wyn a thraddododd ddarlith arbennig a oedd yn ffrwyth ymchwil a hanes llafar y teulu: ‘O Nant-yr-afr i Merville: cofio Gwilym Williams B.A. 1890–1916’. Collwyd cymaint o ddynion a bechgyn ifanc yn ystod y Rhyfel Mawr ac mae dysgu am hanes unigolion fel Gwilym Williams yn fodd i amgyffred y golled i deuluoedd, i gymunedau ac i’r genedl.

Trefnwyd arddangosfa fach o fywyd a gwaith Gwilym Williams i gyd-fynd â’r digwyddiad, gan gynnwys Cadair Eisteddfod y Brifysgol 1912, llun o Gwilym yn ei lifrai milwrol, ynghyd â llythyrau amrywiol o’i eiddo. Roedd yr arddangosfa’n cynnwys y ddau lythyr olaf a ysgrifennodd o’r ffosydd 18 Mai 1916, teyrnged iddo gan D. J. Williams ynghyd â dogfennau a lluniau o’i gyfnod fel myfyriwr yn Aberystwyth.

I gloi’r digwyddiad, bu staff a myfyrwyr presennol yr Adran yn darllen detholiad o gerddi Gwilym o’r gyfrol goffa Dan yr Helyg (1917), ynghyd â cherddi newydd a ysbrydolwyd gan stori rymus y cyn-fyfyriwr. Gellir darllen cerddi Gwilym ar-lein gan fod y gyfrol bellach ar gael yn ddigidol ar wefan Cymru1914 Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Dan yr Helyg (1917) ar wefan Cymru1914.

Gwilym Wms darlleniadau
(O’r dde i’r chwith: Hefin Wyn, Eurig Salisbury, Endaf Griffiths, Iestyn Tyne, Marged Tudur a Miriam Elin Jones)

Diolch o galon i Amgueddfa Ceredigion am fenthyca’r casys arddangos hardd a ddefnyddiwyd yn yr arddangosfa.

Gwobrau Dan Arweiniad Myfyrwyr 2016

Braf yw cael llongyfarch dau o’n cydweithwyr yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ar ennill cymeradwyaeth uchel eleni yn y Gwobrau Dan Arweiniad Myfyrwyr: Mrs Rhian Haf Davies (Staff Cymorth y Flwyddyn) a Dr Ian Hughes (Goruchwyliwr y Flwyddyn). Mae’r gwobrau’n cydnabod gwaith rhagorol y ddau ac rydym yn falch iawn o’r cyfle hwn i ddiolch iddynt ac i’w llongyfarch yn wresog.
Rhian ac Ian SLTA 2016
Ac yntau ar fin ymddeol, dyma gyfle hefyd i gydnabod cyfraniad aruthrol Dr Ian Hughes i’r Adran a dymuno’n dda iddo yn ei ymddeoliad. Mae Ian yn ddarlithydd ysbrydoledig: yn athro iaith pen ei gamp (y Gymraeg a’r Wyddeleg fel ei gilydd) ac yn ddehonglwr clir a chytbwys ar y chwedlau Arthuraidd a’r Mabinogi. Fel ysgolhaig, mae Ian yn arbenigo ar ryddiaith Gymraeg yr Oesoedd Canol ac edrychwn ymlaen at gael pori yn ei gyfrol nesaf i ddod o’r wasg, sef Bendigeiduran Uab Llyr, golygiad Cymraeg o ail gainc y Mabinogi. Byddwn yn gweld eisiau cymwynasgarwch Ian, heb sôn am ei ffraethineb rhwydd a deallus!

Comhghairdeachas agus go n-éirí leat, aireoidh muid uainn go mór tú

Diolch i bob un o’n myfyrwyr a ddangosodd eu gwerthfawrogiad trwy enwebu Rhian ac Ian eleni!

Lansiad e-Lyfr am Hen Gymraeg

Ddydd Gwyl Dewi eleni, bydd e-lyfr newydd, a arianwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn cael ei lansio: Llawlyfr Hen Gymraeg gan Alexander Falileyev. Bydd y lansiad yn Neuadd Pantycelyn am 12.30, ac mae croeso i bawb yno. Bydd yna luniaeth ysgafn.

Dyma’r disgrifiad cynhwysfawr cyntaf un o Hen Gymraeg (iaith y 9fed ganrif hyd ddechrau’r ddeuddegfed) i ymddangos yn yr iaith Gymraeg. Mae’n addasiad (gan yr awdur ei hunan) o ramadeg Hen Gymraeg Alexander Falileyev a gyhoeddwyd yn Rwsieg yn 2002, ac yn Ffrangeg yn 2008. Yn ogystal â throsi’r gwaith i’r Gymraeg, mae Dr Falileyev wedi’i addasu ar gyfer cynulleidfa Gymraeg, ac wedi ymgorffori ffrwyth yr ymchwil diweddaraf ar y testunau hyn (peth ohono eto i’w gyhoeddi). Mae hyn yn golygu y bydd o ddiddordeb i ysgolheigion profiadol yn ogystal â myfyrwyr a lleygwyr. Mae’n cynnwys disgrifiadau manwl o’r testunau hysbys, gyda llyfryddiaeth lawn, penodau ar ffonoleg, gramadeg a chystrawen yr iaith, a detholiad o destunau golygedig gyda nodiadau cynhwysfawr a geirfa. Mae’r llyfr hwn yn rhoi cyfle, am y tro cyntaf, i’r Cymry ddod i adnabod rhai o’r enghreifftiau cynharaf hysbys o destunau yn eu hiaith.

Mae Dr Falileyev, yn enedigol o St Petersburg, Rwsia, yn arbenigydd ar yr ieithoedd Celtaidd. Mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar enwau lleoedd a phersonol Celtaidd o Ewrop yn yr hen gyfnod, ac ar iaith a llenyddiaeth Cymru’r Oesoedd Canol. Roedd yn gweithio yn yr Adran Gymraeg yma yn Aberystwyth ar wahanol brosiectau ymchwil ar ieithoedd Celtaidd y cyfandir rhwng 2003 a 2013, ac mae’n dal i fyw yn yr ardal, yng Ngoginan.

Llawlyfr Hen Gymraeg 1

Noson Llên a Chân Rhagfyr 2015

Gyda’n tymor cyntaf yn Aberystwyth yn tynnu at ei derfyn, aethom ni fel myfyrwyr blwyddyn gyntaf y cwrs Cymraeg Proffesiynol ati i drefnu noson Llên a Chân. Cynhaliwyd y noson yn Lolfa Fach Pantycelyn ar Nos Wener 4 Rhagfyr, yng nghwmni Caryl Lewis, Hywel Griffiths a Patrobas.

Roeddem yn ffodus iawn bod un o’n cyd-fyfyrwyr, Iestyn Tyne, yn aelod o’r grŵp gwerin roc poblogaidd Patrobas. Roedd eu perfformiad yn arbennig, a bu’r gynulleidfa yn ddigon ffodus i gael rhagflas o’r caneuon ar eu CD newydd, sef ‘Dwyn y Dail’, a oedd ar fin cael ei gyhoeddi.

Cafwyd cyfweliadau diddorol gan yr awdur Caryl Lewis, a fu’n trafod ei nofel newydd, Y Bwthyn, ynghyd â’i chyfrolau straeon byrion a’i nofelau i blant, a’r bardd Hywel Griffiths a fu’n trafod ei lwyddiant diweddar yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Roedd un aelod o’r gynulleidfa yn gyffrous iawn bod Caryl Lewis yn mynychu’r noson, sef Carlos – gyrrwr tacsi o ardal Aberystwyth. Mae Carlos yn hoff iawn o’i gwaith hi, ac mae’n aml yn sôn wrth ei gwsmeriaid ei fod wedi rhoi lifft adref i Caryl un noson. Prynodd docyn oddi wrth Lois yn syth pan glywodd fod Caryl yn mynychu’r noson!

Cynhaliwyd cystadleuaeth ysgrifennu creadigol wedi ei noddi gan Gyngor Llyfrau Cymru i gyd-fynd â’r noson, wedi ei feirniadu gan Eurig Salisbury. Roedd gofyn i ymgeiswyr naill ai ysgrifennu limrig a fyddai’n addas ar gyfer yr Eisteddfod Ryng-golegol, neu ddarn o waith creadigol o unrhyw gyfrwng ar y testun ‘Aber’. Daeth Rhodri Siôn yn fuddugol gyda’i limrig, ac Endaf Griffiths ac Iestyn Tyne yn rhannu’r wobr gyntaf am y darn creadigol.

Ar ran fy nghyd-fyfyrwyr, hoffwn ddiolch i bawb fu’n gyfrifol am sicrhau llwyddiant y noson, yn enwedig Caryl Lewis, Hywel Griffiths, Eurig Salisbury a Patrobas. Hefyd, hoffwn ddiolch i’r Adran am roi’r cyfle i ni drefnu noson o’r fath. Roedd yn brofiad a fydd, rwy’n siŵr, yn aros yn y cof fel un o uchafbwyntiau ein tymor cyntaf fel myfyrwyr yn Aberystwyth.

Noson Llen a Chan 3

Noson Llen a Chan 1

Sulwen Richards, myfyriwr Rhan 1 Cymraeg Proffesiynol

Diwrnod yng Nghymru Fydd – cipolwg ar y dyfodol!

Mae fy ngwaith ymchwil, sy’n seiliedig ar archwilio llenyddiaeth ffuglen wyddonol yn y Gymraeg, wedi fy arwain ar hyd nifer o lwybrau cyffrous. Boed yn fentro i’r gofod yn chwilota am arallfydwyr neu wrth deithio drwy amser i ddyfodol pell, rwy’n mentro ar antur i dir anial, gan mai dyma’r astudiaeth gyntaf o’r genre yn y Gymraeg.

Yn ogystal â chrwydro llenyddol wrth bori drwy gyfrolau o ddydd i ddydd, rwyf hefyd wedi manteisio ar sawl cyfle yn y byd ‘go iawn’. Un o’r cyfleoedd hynny oedd mynd ati i drefnu Diwrnod yng Nghymru Fydd / A Day in Future Wales, gyda Rhodri ap Dyfrig, gynt o’r Adran Theatr, Ffilm a Theledu.

Roedd y gynhadledd, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Arad Goch yn Aberystwyth, yn gyfle i bobl ddod i drafod pynciau amrywiol yn seiliedig ar syniadau dyfodolaidd, a hynny mewn cyd-destun Cymraeg a Chymreig. Gwahoddwyd Bleddyn Bowen, myfyriwr ymchwil yn yr Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol, i gyflwyno agweddau o wleidyddiaeth economi’r gofod ac ystyried ei botensial i Gymru. Bu trafodaethau hefyd am gelf ac am gemau cyfrifiadurol a pherfformiad gan Eddie Ladd a Nico Dafydd, yn cyflwyno’r nofel ffuglen wyddonol Y Dydd Olaf gan Owain Owain i’r gynulleidfa. Cefais innau gyfle i gadeirio trafodaeth ar gyflwr lenyddiaeth ffantasi a ffuglen wyddonol heddiw, gyda’r awduron Elidir Jones ac Ifan Morgan Jones a’r academydd Dr Gareth Llŷr Evans, a ddatgelwyd fod mwy o alw am lenyddiaeth o’r fath yn y Gymraeg.
Diwrnod panel
Dathliad oedd y gynhadledd hon, yn hytrach na chynhadledd academaidd, a threfnwyd gig yn cynnwys HMS Morris a Roughion gyda’r nos i goroni’r cwbl. Ar ôl bron i dri fis o drefnu, roedd hi’n brofiad anhygoel gweld y cwbl yn dod at ei gilydd a phawb i’w gweld yn mwynhau. Heb os, dyma fu un o anturiaethau mwyaf cyffrous fy nghyfnod ymchwil hyd yma.

Miriam Elin Jones (BA Cymraeg), myfyriwr PhD dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Ymddeoliad hapus!

Dymunwn yn dda i Dr Mihangel Morgan, sy’n ymddeol o’r Adran ar ôl 22 o flynyddoedd. Mae ei gyfraniad i fywyd yr Adran wedi bod yn amlochrog, fel llenor dawnus, beirniad heriol a darlithydd ysbrydoldedig – a ffrind. At hynny bu’n bresenoldeb cadarnhaol a ffraeth mewn byrddau adrannol a chiniawau Nadolig.

Mae Mihangel wedi bod mor garedig â gadael rhai degau o lyfrau inni, a dau ddarn o galigraffeg o’i waith ei hun i’w harddangos.

Edrychwn ymlaen at gael dathlu ei gyfraniad i fywyd yr Adran pan fydd arholiadau Semester 1 wedi gorffen. Yn y cyfamser, dymnwn ymddeoliad hapus (a chreadigol!) i Mihangel.

Dwned 21

Mae’r rhifyn diweddaraf o’r cylchgrawn Dwned bellach ar gael.

Dwned 21 (420x640)

Cynnwys rhif 21 (2015)  

Simon Rodway……………‛Defod Urddo’r Bardd Celtaidd’

Rhian M. Andrews………….‘Y Bardd yn Llysgennad, Rhan II’

A. Cynfael Lake……………‛Awdl i Domas ap Siancyn ap Madog’

Huw Walters……………..‛Llyfryddiaeth yr Athro D.J. Bowen’

Nodyn

Gwilym Morus-Baird……….‛Annwfn ac Awen Rhai o’r Gogynfeirdd’

Adolygiad gan Bleddyn Owen Huws ar Dyddiau Olaf Owain Glyndŵr, gan Gruffydd Aled Williams

Gellir archebu copi drwy gysylltu â’r Adran Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, SY23 3DY

Croeso cynnes yng Nghaeredin

Yr wythnos hon yng Nghaeredin cynhaliwyd cyfarfod blynyddol olaf y prosiect a ariennir gan Ymddiriedolaeth Leverhulme: ‘Women’s Poetry in Ireland, Scotland and Wales 1400–1800’. Cynhaliwyd cyfarfodydd blaenorol yn y trefi sy’n gartref i gyfranwyr eraill y prosiect, sef Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Genedlaethol Iwerddon, Galway.

Treuliodd y tîm fore cyfan yn dod â strwythur y flodeugerdd i fwcwl. Bydd y gyfrol orffenedig yn cynnwys cerddi Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban, Cymraeg, Sgoteg, Eingl-Sgoteg, Sgoteg Ulster a Saesneg, ac yn eu plith mae cerddi gan fenywod a ddarganfuwyd yng nghwrs y prosiect hwn! A ninnau wedi cytuno ar gynnwys y flodeugerdd, troesom ein sylw at y gyfrol feirniadol y byddwn yn ysgrifennu ar y cyd ac a fydd yn tynnu sylw at yr elfennau cymharol diddorol sydd i’w gweld yn y cerddi gan fenywod. Er enghraifft, mae sawl gwahaniaeth generig a chenedlaethol trawiadol yn eu hamlygu eu hunain, o farwnadau gwleidyddol prydyddesau Iwerddon a’r Alban i Deyrngarwch Brenhinol baledwragedd Cymru!

Roedd yn braf cael bod mewn dinas mor hardd â Chaeredin a chael croeso gan gydweithwyr Ysgol Llenyddiaethau, Ieithoedd a Diwylliannau Prifysgol Caeredin sydd wedi ei lleoli ar Sgwâr Siôr. Mae hi wastad yn bleser cael cydweithio gyda Dr Sarah Dunnigan o’r Adran Saesneg, ac roedd yn braf hefyd cael cwrdd â chydweithwyr o’r Adran Astudiaethau Celtaidd ac Albanaidd. Edrychwn ymlaen at ddychwelyd flwyddyn nesaf i draddodi papurau ar ddarganfyddiadu’r prosiect.

Dilynwch ein cyfrif Trydar @WomensPoetryISW