Hybu a hyrwyddo’r Gymraeg

Mae myfyrwyr y Gymraeg weithiau’n clywed cwestiynau tebyg i ‘pam astudio’r Gymraeg?’ neu ‘bydd yr iaith yn marw’ a.y.y.b. Mae cwestiynau fel hyn yn ein diflasu oherwydd mae astudio’r Gymraeg ar lefel uwch yn werthfawr a dylem groesawu pobl eraill.
Nid yw’r broses o ddysgu iaith yn dod i ben ac mae’n rhaid gweithio tuag at wella drwy’r amser. Y ffordd hawsaf o wneud hyn yw siarad ac ymarfer. Mae’n haws ymarfer yr iaith mewn ardal fel Aberystwyth, ond yng Ngwent, fy ardal enedigol, mae angen chwilio am gyfleoedd.
Ar ôl gadael Aberystwyth yn 2014, roeddwn yn gweithio fel Swyddog Ieuenctid yn Sir Fynwy ac yna fel swyddog maes Menter Iaith BGTM (Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy). Mae’r ardal hon yn enfawr, felly fi sy’n gyfrifol am ardaloedd Blaenau Gwent a Gogledd Sir Fynwy. Hyd yn hyn, rwy’n mwynhau fy swydd ac yn mwynhau cryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg i gymuned Gymraeg yr ardal. Mae cymunedau Cymraeg yr ardaloedd hyn yn fwy cuddiedig na chymunedau ieithyddol y Gogledd a’r Gorllewin, ac mae ein cymunedau ni’n gymysgedd da o Gymry Cymraeg a dysgwyr – o bedwar ban y byd!
Un peth sy wedi fy ngwylltio yw’r term ‘ail iaith’ ar gyfer dysgwyr neu bobl sy’n dod o deuluoedd sy’n defnyddio iaith arall. Credaf ei bod yn creu hollt yng nghymunedau’r Gymraeg. Weithiau, nid wyf yn siŵr am y term ‘dysgwr’ chwaith, oherwydd rwyf wedi bod yn dysgu, rwy’n dal i ddysgu, ond er hynny rwyf wedi cyrraedd pwynt lle gallaf weithio a gweinyddu trwy’r Gymraeg.
Yn fy ngwaith presennol, rwy’n gweithio gyda phobl o bob oedran, ac mae cyfle i gyflwyno’r syniad i deuluoedd eu bod yn gallu addysgu eu plant trwy gyfrwng y Gymraeg a rhoi sgil a phrofiad iddynt na dderbyniais i yn yr ysgol. Mae fy nghyfrifoldebau’n cynnwys darparu cyrsiau i deuluoedd ar sut y gallant ddefnyddio’r Gymraeg yn achlysurol yn y cartref, a threfnu digwyddiadau dysgu anffurfiol, er enghraifft boreau coffi, a hyd yn oed mynd i’r dafarn am gwrw a chlonc. Rwyf wedi darparu sesiynau amser stori i fabanod hefyd. Nawr, cofiwch fod y teuluoedd hyn, fel arfer, yn deuluoedd Saesneg, ond mae cyfle gyda fi i gyflwyno bywyd newydd a ffordd newydd i’w plant. Mae’r penderfyniad yn gallu bod yn un anodd iddynt ac, yn ddealladwy, mae nhw’n ofni sut y gallant ymdopi. Felly, mae’n bwysig peidio â defnyddio termau fel ‘ail iaith’ er mwyn hyrwyddo mynediad i’r cyfleoedd hyn.
Rwyf yn credu bod gobaith, ond efallai y bydd yn rhaid i ni groesawu pobl mewn ffordd wahanol wrth gyflwyno’r iaith a’i diwylliant fel carreg gamu i’n Cymru fodern?
Nid wyf am bregethu ynghylch sut i ymdrin â phobl, ond rhaid cofio bod gan bawb hawl i’r iaith. Rwyf yn credu ei bod yn bwysig trafod y pethau hyn, yn enwedig ymysg yr ifainc, oherwydd ni yw’r bobl sy’n dylanwadu ar y genhedlaeth nesaf.

Hannah Roberts

Hannah Roberts, BA Cymraeg

Sylwadau ar gau.