Plant Mewn Angen 2016

Yr wythnos hon, gydag wythnos Plant Mewn Angen ar y gorwel, gwelwyd myfyrwyr brwdfrydig Prifysgol Aberystwyth yn cymryd yr awenau er mwyn codi arian ar gyfer yr elusen. Bu un clwb yn arbennig, sef Clwb Rotaract Aberystwyth, wrthi’n brysur ar nos Wener 18 Tachwedd yn peintio wynebau a thynnu lluniau gyda Pudsey ei hun er mwyn codi arian tuag at yr elusen. Pa ddigwyddiad gwell i’w gynnal ar benwythnos y Ddawns Ryng-gol, gyda myfyrwyr o bob cornel o’w wlad yn ymweld â’r brifysgol?

‘Roeddwn wedi gobeithio codi swm rhesymol o arian tuag at ymgyrch Plant Mewn Angen drwy ofyn i fyfyrwyr wneud cyfraniad tra roedden nhw ar eu noson mas yn gyfnewid am gael eu hwynebau wedi eu peintio,’ meddai Owain Jones, Llywydd Clwb Rotaract Aberystwyth. Aeth ymlaen i ddweud, ‘Roeddwn hefyd yn awyddus i godi ymwybyddiaeth a cheisio denu myfyrwyr i ymuno â’n clwb, a sefydlwyd yn y brifysgol y llynedd. Tynnwyd lluniau o’r holl fyfyrwyr a gafodd eu hwynebau wedi’u peintio, a byddant yn cael eu gosod ar ein tudalen Facebook er mwyn dangos pa fath o weithgareddau mae’r clwb yn eu cynnal.’

Michelle PLant mewn angenDywedodd Gruff Huws, y myfyriwr brwdfrydig a wisgodd fel Pudsey am y noson, ‘Roedd hi’n noson lwyddiannus mewn sawl ffordd – roedd hi’n gyfle gwych i’r myfyrwyr gyfrannu at godi arian ar gyfer Plant Mewn Angen. Ond hefyd, cawsom lawer o ymateb a chwestiynau ynglŷn â beth yn union yw’r clwb a pha fath o weithgareddau yr ydym yn eu cynnal drwy’r flwyddyn. Er imi rewi’n gorn yn y wisg, roedd pob eiliad yn werth chweil ac ar gyfer achos da!’

Dyma lun o rai o aelodau’r clwb. Mae aelodau Clwb Rotaract Aberystwyth yn gwirfoddoli’n wythnosol er mwyn helpu’r gymuned. Sefydliad rhyngwladol ydyw ar gyfer pobl ifanc rhwng deunaw a deg ar hugain oed yn bennaf. Mae’r clwb wedi trefnu llawer o weithgareddau i godi arian dros y flwyddyn ddiwethaf – cwisiau tafarn, cystadlaethau pŵl, stiwardio ar gyfer noson tân gwyllt, goleuo’r dref, ffeiriau Nadolig a llawer mwy!

RoteractCodwyd llawer o arian gan y clwb ar gyfer elusennau amrywiol, gan gynnwys Mary’s Meals, ymgyrch End Polio Now, Mind ac, yn awr, Plant Mewn Angen.

Heb os, bu’r noson yn llwyddiant ysgubol, gyda’r clwb yn codi £71.75 ar gyfer Plant Mewn Angen.

Michelle Rafferty, Cymraeg a Hanes, Rhan II

Dysgu’r Gymraeg yn Nant Gwrtheyrn

Ar drothwy’r tymor newydd ym mis Medi aeth Peadar Ó Muircheartaigh, un o’n darlithwyr Gwyddeleg ar y cynllun Astudiaethau Celtaidd, i Nant Gwrtheyrn am wythnos i roi sglein ar ei Gymraeg.
Ar ôl cwblhau cwrs haf dwys Prifysgol Aberystwyth ym mis Awst, aeth Peadar tua Phen Llŷn i bentref unigryw Nant Gwrtheyrn, sydd bellach yn Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iaith a Diwylliant y Gymraeg. Mae’r pentref yn denu pobl o ben draw’r byd i ddilyn cyrsiau Cymraeg byrion. Mae’r pentref, a fu unwaith yn chwarel brysur, yn swatio rhwng y graig a Môr yr Iwerydd. Mae lluniau Peadar yn tystio i’r ffaith fod y lle hudolus hwn wedi cael anadl einioes newydd:
‘It was a great to be able to visit Nant, and most especially to meet some of the local people who have made Nant Gwrtheyrn such a success story – dwi’n edrych ymlaen at fynd yn ôl’, meddai Peadar.

Nant 1 (3) (480x640)Nant 2 (3) (640x480)Nant 3 (3) (640x480)Nant 4 (3) (640x480)

Cenhedlaeth newydd yn cofio cyn-fyfyriwr: Gwilym Williams B.A. (1890–1916)

Union gan mlynedd i heddiw, 22 Mai 1916, claddwyd Gwilym Williams, mab fferm Nant-yr-afr Fawr, Tre-lech a’r Betws sir Gaerfyrddin ym mynwent Merville, Ffrainc. Mae aelodau o’i deulu yn nodi’r canmlwyddiant trwy ymweld â’i fedd yn Ffrainc y penwythnos hwn.

Roedd Gwilym yn un o raddedigion Adran y Gymraeg, Aberystwyth ac yn fardd ifanc addawol. Enillodd nifer o gadeiriau eisteddfodol, gan gynnwys Cadair Eisteddfod y Brifysgol ym 1912: ‘Gwanwyn Bywyd’ oedd teitl ei bryddest fuddugol a T. Gwynn Jones fu’n beirniadu’r gystadleuaeth.

Gwilym Williams

Gwilym Williams

Graddiodd Gwilym gydag anrhydedd yn 1913 a mynd i ddysgu am dymor yn Ysgol Ganolradd y Drenewydd ac yna Ysgol Ramadeg Brenhines Mary, Walsall ger Birmingham. Yng Ngorffennaf 1915 ymunodd â’r fyddin a chael ei wneud yn is-Gapten ar 17 Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Hwyliodd y bataliwn i Ffrainc ym mis Rhagfyr, ac ym mis Mai 1916 roedd Gwilym ar flaen y gad yn Fauquissart. Cafodd ei glwyfo yn ei wddf gan fwled ddydd Sadwrn 20 Mai a bu farw drannoeth yn yr ysbyty ym Merville. Claddwyd Gwilym ym Mynwent Merville 22 Mai 1916; roedd yn chwech ar hugain oed.

Un o’r rhai a fu’n galaru am Gwilym oedd ei ffrind, Jane Helen Rowlands o Borthaethwy a fu’n fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol Bangor ac a gysegrodd ei bywyd i waith cenhadol. Daeth yn ysgolhaig Bengali adnabyddus hefyd.

Mae llythyrau sydd ym meddiant y teulu yn tystio i’r berthynas glos rhwng y ddau wedi iddynt gyfarfod fel aelodau o staff Ysgol Ganolraddol Y Drenewydd. Yn wir, cred Hefin Wyn M.A. fod a wnelo penderfyniad Helen Rowlands i fynd yn genhades â phenderfyniad annisgwyl Gwilym i wirfoddoli i ryfela.

Yng ngeiriau Hefin Wyn:
“Arferai ‘Helen o Fôn’, fel y’i hadwaenid, anfon llythyrau o Assam at y teulu bob mis Mai am flynyddoedd wedi marwolaeth Gwilym yn sôn am ei serchiadau tuag ato. ‘Dyma’r bachgen mwyaf pur ei galon a adnabum erioed’ meddai mewn un llythyr. Rhaid dod i’r casgliad mai calon ddrylliedig oedd wedi anfon Wncwl Gwilym i faes y gad. Roedd ei englyn ffarwel i’w gariad yn brawf o’r ing a deimlai:

Draw i randir yr India – mae Helen
Am hwylio o Walia;
O’n golwg ni. O gwylia
Hi dros y dŵr, Iesu da.”

Cofio Gwilym Williams
Roedd Gwilym Williams yn hen ewythr i Hefin Wyn a chynhaliwyd digwyddiad arbennig i gofio Gwilym 18 Mai 2016 yn Yr Hen Goleg lle bu’n fyfyriwr. Braf oedd cael croesawu Hefin Wyn ac aelodau eraill o deulu Gwilym i’r digwyddiad.

Arweiniwyd y digwyddiad gan Hefin Wyn a thraddododd ddarlith arbennig a oedd yn ffrwyth ymchwil a hanes llafar y teulu: ‘O Nant-yr-afr i Merville: cofio Gwilym Williams B.A. 1890–1916’. Collwyd cymaint o ddynion a bechgyn ifanc yn ystod y Rhyfel Mawr ac mae dysgu am hanes unigolion fel Gwilym Williams yn fodd i amgyffred y golled i deuluoedd, i gymunedau ac i’r genedl.

Trefnwyd arddangosfa fach o fywyd a gwaith Gwilym Williams i gyd-fynd â’r digwyddiad, gan gynnwys Cadair Eisteddfod y Brifysgol 1912, llun o Gwilym yn ei lifrai milwrol, ynghyd â llythyrau amrywiol o’i eiddo. Roedd yr arddangosfa’n cynnwys y ddau lythyr olaf a ysgrifennodd o’r ffosydd 18 Mai 1916, teyrnged iddo gan D. J. Williams ynghyd â dogfennau a lluniau o’i gyfnod fel myfyriwr yn Aberystwyth.

I gloi’r digwyddiad, bu staff a myfyrwyr presennol yr Adran yn darllen detholiad o gerddi Gwilym o’r gyfrol goffa Dan yr Helyg (1917), ynghyd â cherddi newydd a ysbrydolwyd gan stori rymus y cyn-fyfyriwr. Gellir darllen cerddi Gwilym ar-lein gan fod y gyfrol bellach ar gael yn ddigidol ar wefan Cymru1914 Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Dan yr Helyg (1917) ar wefan Cymru1914.

Gwilym Wms darlleniadau
(O’r dde i’r chwith: Hefin Wyn, Eurig Salisbury, Endaf Griffiths, Iestyn Tyne, Marged Tudur a Miriam Elin Jones)

Diolch o galon i Amgueddfa Ceredigion am fenthyca’r casys arddangos hardd a ddefnyddiwyd yn yr arddangosfa.

Diwrnod yng Nghymru Fydd – cipolwg ar y dyfodol!

Mae fy ngwaith ymchwil, sy’n seiliedig ar archwilio llenyddiaeth ffuglen wyddonol yn y Gymraeg, wedi fy arwain ar hyd nifer o lwybrau cyffrous. Boed yn fentro i’r gofod yn chwilota am arallfydwyr neu wrth deithio drwy amser i ddyfodol pell, rwy’n mentro ar antur i dir anial, gan mai dyma’r astudiaeth gyntaf o’r genre yn y Gymraeg.

Yn ogystal â chrwydro llenyddol wrth bori drwy gyfrolau o ddydd i ddydd, rwyf hefyd wedi manteisio ar sawl cyfle yn y byd ‘go iawn’. Un o’r cyfleoedd hynny oedd mynd ati i drefnu Diwrnod yng Nghymru Fydd / A Day in Future Wales, gyda Rhodri ap Dyfrig, gynt o’r Adran Theatr, Ffilm a Theledu.

Roedd y gynhadledd, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Arad Goch yn Aberystwyth, yn gyfle i bobl ddod i drafod pynciau amrywiol yn seiliedig ar syniadau dyfodolaidd, a hynny mewn cyd-destun Cymraeg a Chymreig. Gwahoddwyd Bleddyn Bowen, myfyriwr ymchwil yn yr Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol, i gyflwyno agweddau o wleidyddiaeth economi’r gofod ac ystyried ei botensial i Gymru. Bu trafodaethau hefyd am gelf ac am gemau cyfrifiadurol a pherfformiad gan Eddie Ladd a Nico Dafydd, yn cyflwyno’r nofel ffuglen wyddonol Y Dydd Olaf gan Owain Owain i’r gynulleidfa. Cefais innau gyfle i gadeirio trafodaeth ar gyflwr lenyddiaeth ffantasi a ffuglen wyddonol heddiw, gyda’r awduron Elidir Jones ac Ifan Morgan Jones a’r academydd Dr Gareth Llŷr Evans, a ddatgelwyd fod mwy o alw am lenyddiaeth o’r fath yn y Gymraeg.
Diwrnod panel
Dathliad oedd y gynhadledd hon, yn hytrach na chynhadledd academaidd, a threfnwyd gig yn cynnwys HMS Morris a Roughion gyda’r nos i goroni’r cwbl. Ar ôl bron i dri fis o drefnu, roedd hi’n brofiad anhygoel gweld y cwbl yn dod at ei gilydd a phawb i’w gweld yn mwynhau. Heb os, dyma fu un o anturiaethau mwyaf cyffrous fy nghyfnod ymchwil hyd yma.

Miriam Elin Jones (BA Cymraeg), myfyriwr PhD dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Croeso cynnes yng Nghaeredin

Yr wythnos hon yng Nghaeredin cynhaliwyd cyfarfod blynyddol olaf y prosiect a ariennir gan Ymddiriedolaeth Leverhulme: ‘Women’s Poetry in Ireland, Scotland and Wales 1400–1800’. Cynhaliwyd cyfarfodydd blaenorol yn y trefi sy’n gartref i gyfranwyr eraill y prosiect, sef Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Genedlaethol Iwerddon, Galway.

Treuliodd y tîm fore cyfan yn dod â strwythur y flodeugerdd i fwcwl. Bydd y gyfrol orffenedig yn cynnwys cerddi Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban, Cymraeg, Sgoteg, Eingl-Sgoteg, Sgoteg Ulster a Saesneg, ac yn eu plith mae cerddi gan fenywod a ddarganfuwyd yng nghwrs y prosiect hwn! A ninnau wedi cytuno ar gynnwys y flodeugerdd, troesom ein sylw at y gyfrol feirniadol y byddwn yn ysgrifennu ar y cyd ac a fydd yn tynnu sylw at yr elfennau cymharol diddorol sydd i’w gweld yn y cerddi gan fenywod. Er enghraifft, mae sawl gwahaniaeth generig a chenedlaethol trawiadol yn eu hamlygu eu hunain, o farwnadau gwleidyddol prydyddesau Iwerddon a’r Alban i Deyrngarwch Brenhinol baledwragedd Cymru!

Roedd yn braf cael bod mewn dinas mor hardd â Chaeredin a chael croeso gan gydweithwyr Ysgol Llenyddiaethau, Ieithoedd a Diwylliannau Prifysgol Caeredin sydd wedi ei lleoli ar Sgwâr Siôr. Mae hi wastad yn bleser cael cydweithio gyda Dr Sarah Dunnigan o’r Adran Saesneg, ac roedd yn braf hefyd cael cwrdd â chydweithwyr o’r Adran Astudiaethau Celtaidd ac Albanaidd. Edrychwn ymlaen at ddychwelyd flwyddyn nesaf i draddodi papurau ar ddarganfyddiadu’r prosiect.

Dilynwch ein cyfrif Trydar @WomensPoetryISW

Ymweliad â Llysgenhadaeth Iwerddon

Aeth Dr Ian Hughes, Dr William Mahon a Dr Simon Rodway o Adran y Gymraeg i Lundain Ddydd Llun 2 Mawrth i fynychu digwyddiad yn Llysgenhadaeth Iwerddon ar gyfer y sawl sy’n dysgu Gwyddeleg ym Mhrydain. Dyma oedd y digwyddiad cyntaf o’i bath yn y Llysgenhadaeth. Bob blwyddyn yn Iwerddon, ceir Seachtain na Gaeilge (‘Wythnos yr Wyddeleg’) yr wythnos cyn Gŵyl Padrig Sant (17 Mawrth), a’r bwriad oedd cynnal rhywbeth tebyg ym Mhrydain. Roedd yna ddarlleniadau a chanu yn yr Wyddeleg, a’r Llysgennad Daniel Mulhall yn llywio’r noson yn ddigon anffurfiol a chynnes.

Graddio 2015 Graduation

[This post celebrates the achievements of final year students who graduated this summer, and includes a list of undergraduates, postgraduates and new graduates who won departmental prizes at the end of the academic session. It also acknowledges the contribution of Dylan Iorwerth (Honorary Doctorate) to the discipline of Creative Writing and Professional Welsh]

Un o dasgau mwyaf pleserus y bwrdd arholi terfynol yw dyfarnu gwobrau i’n myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig. Dyma’r rhestr o o fyfyrwyr a gipiodd y gwobrau eleni:

Gwobr Thomas ac Elizabeth Maelgwyn Davies

Carwyn Eckley, Seren Haf MacMillan a Lois Angharad Roberts-Jones

 Gwobr Thomas ac Elisabeth Evans mewn Gwyddeleg

Alice Taylor ac Indeg Williams

 Gwobr yr Athro Thomas Jones

Rhodri Siôn a Gwilym Tudur

 Gwobr T. E. Nicholas

Miriam Glyn a Rhys Hughes

 Gwobr y Gyngres Geltaidd

Siân Mererid Jones a Shannon Parker

 Ysgoloriaeth Gymraeg Cynddelw

Owen Howell, Naomi Seren Nicholas ac Elin Tomos

 Ysgoloriaeth Syr Thomas Parry-Williams

Kirsty Louise Jones ac Alice Taylor

 Gwobr Syr Goronwy Daniel

Endaf Griffiths

Llongyfarchiadau calonnog i bob un a lwyddodd yn yr arholidau eleni ac yn arbennig i raddedigion newydd Adran y Gymraeg a raddiodd 15 Gorffennaf 2015. Gellir gwylio’r seremoni ar-lein.

Roedd un o gyn-fyfyrwyr mwyaf adnabyddus Prifysgol Aberystwyth hefyd yn rhan o’r seremoni honno, sef Dylan Iorwerth a dderbyniodd Ddoethuriaeth er Anrhydedd yn gydnabyddiaeth am ei gyfraniad aruthrol i’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Er ei fod yn newyddiadurwr wrth ei alwedigaeth, mae Dylan Iorwerth hefyd yn adnabyddus fel bardd a llenor, ac fel darlledwr rheolaidd ar y teledu a’r tonfeydd radio. Ymhlith ei gyhoeddiadau ar y Gymru gyfoes mae Gohebydd Tramor (1993), A Week in Europe (1996), Nabod y Teip (2007), Llyfr Mawr Wcw a’i Ffrindiau (2007) Y Gohebydd yng Ngheredigion yn y Flwyddyn Fawr (2007) ac, yn fwyaf diweddar, Golwg ar Gymru (2013). Mae’r ddeinameg rhwng y lleol a’r bydeang yn allweddol i’w weledigaeth broffesiynol. Ar ôl graddio, fe ymunodd â’r Wrexham Leader, a gweithiodd i Adran Newyddion BBC Radio Cymru cyn cael ei benodi yn ohebydd seneddol BBC Cymru yn Llundain. Arloesodd wrth gyd-sefydlu’r papur Dydd Sul Cymraeg ei iaith, Sulyn, ynghyd â’r cylchgrawn wythnosol Golwg a lansiwyd yn 1988. Dylan Iorwerth yw Golygydd Gyfarwyddwr Golwg Cyf. ac roedd hefyd yn allweddol wrth ddatblygu Golwg360, gwasanaeth newyddion a diwylliannol ar-lein. Darllenwch y stori yn llawn… ble arall, ond ar Golwg360! Llongyfarchiadau calonnog i’r Dr Dylan Iorwerth!

Dylan Iorwerth

Dylan Iorwerth

Meeting Michael D. Higgins, President of Ireland

Three members of staff and three students from the Welsh Department’s Celtic Studies programme recently represented Aberystwyth University at a reception held in the Cardiff Millennium Centre for Michael D. Higgins, the good-natured, eloquent and immensely popular President (since October 2010) of the Irish Republic who was visiting Wales to promote the development of a Wales-Ireland sector for facing a shared range of economic, political cultural and environmental challenges.

President Higgins is well known as a poet and supporter of the arts. As Minister for Arts, Culture (now ‘Heritage’) and the Gaeltacht in 1993–97 he was largely responsible for re-establishing the Irish Film Board and creating the nation’s Irish language television service (TG4). In April 2014 his was the first official visit ever made by an Irish Head of State to the United Kingdom, to Parliament and to Windsor Castle.

Dr Ian Hughes, Dr Simon Rodway, and Dr William Mahon, along with postgrads James McCann (MA) and Hynek Janousek and Erasmus student Sarah O’Neill (National University of Ireland, Galway) made the minibus trip to Cardiff on Tuesday, 28 October. The reception was held from 12.30 – 2.30 and featured an inspiring speech by the President which included specific reference to the Irish-language tuition available at Aberystwyth University and the financial support it receives from the Irish government. Each of the Aberystwyth representatives also had an opportunity to exchange private words with President Higgins.

An additional highlight for the Aberystwyth visitors was a chance meeting with the Welsh literary giant and Gaelophile Dr Harri Pritchard Jones who shared memories of his days spent in the Aran Islands and spoke to them in excellent Irish.

Derbyniad gyda Arlywydd Iwerddon 1

Dr Ian Hughes, Sarah O’Neill, Dr William Mahon, Dr Harri Pritchard Jones, Dr Simon Rodway, James McCann, Hynek Janousek

The invitation to members of Aberystwyth University came from the Irish Embassy in London at the suggestion of Séamus Mac Giolla Chomhaill, Principal Officer for Irish Language policy and economic, social and cultural development of the Gaeltacht (Irish-speaking regions) within the Department of Arts, Heritage and the Gaeltacht. Mr Mac Giolla Chomhaill had paid a visit to the Aberystwyth Welsh Department last May and was highly impressed by the linguistic competence and expertise of the Celtic-Studies teaching staff.

Dr William Mahon, Darlithydd Astudiaethau Celtaidd

Y Gynhadledd Gyntaf ar Amrywiaeth Ieithyddol yng Nghymru

[Hynek Janousek, newly-graduated in Celtic Studies, recounts the successful international conference on ‘language diversity in Wales’ that he helped organise at the National Library of Wales.]

Cenedl heb iaith, cenedl heb galon? Os gwir y ddihareb hon, gellid awgrymu bod y gynhadledd Amrywiaeth Ieithyddol yng Nghymru/Language Diversity in Wales, a gynhaliwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru 18–19 Gorffennaf eleni, wedi dangos bod gan y wlad hon sawl calon sy’n curo’n nerthol y tu mewn a’r tu allan i’w ffiniau.

Fe arferwyd dwy brif iaith Cymru o fewn y tîm trefnu ac ymhlith y cyfranwyr a gynhwysai academyddion o sawl gwlad ar gyfandiroedd Ewrop a Gogledd America. Fe amyneiliwyd rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yn y cyflwyniadau ac yn y trafodaethau a’u dilynodd (beth bynnag oedd ieithoedd gwreiddiol y papurau). Ymhellach, cafodd y confensiwn dwyieithog ei hun ei archwilio ar lefel sosio-ieithyddol a chymdeithasegol, ac fe dueddai y cyfraniadau oll i ddangos bod tirwedd ieithyddol Cymru yn llawer mwy cymhleth na deuoliaeth draddodiadol dau dafod y Ddraig Goch. Ac wrth gwrs, fe glywid ymysg y cyfranwyr ieithoedd na fyddant yn cael eu cysylltu â Chymru fel arfer megis Rwsieg, Iseldireg, Almaeneg, Ffinneg, Tsieceg, Gwyddeleg. Bu sôn hefyd am ieithoedd lleiafrifoedd Cymreig gan gynnwys Hindi a Phwyleg.
Roedd y gynhadledd yn gyfle i sylweddoli, ymysg pethau eraill, fod gan Gymru ystod eang o hunaniaethau sy’n gwrthdaro ac yn cydblethu â’i gilydd mewn amryw ffyrdd.

‘Amrywiaeth mewn undod’ felly oedd y ddolen gyswllt rhwng y gwahanol gyfraniadau o’r cychwyn cyntaf, fel yr awgrymodd teitl y ddarlith agoriadol gan un o’r siaradwyr gwadd, Elin Haf Gruffydd Jones. Amrywiaeth ieithyddol a disgyblaethol oedd pwnc yn ogystal â chyfrwng y digwyddiad rhyngwladol hwn a ddaeth â tho newydd o ysgolheigion blaengar ynghyd o feysydd amryfal megis ieithyddiaeth, beirniadaeth lenyddol, ffonoleg a seineg, astudiaethau cyfieithu a chyfryngau, ieitheg hanesyddol, tafodieitheg, technoleg wybodaeth a llawer eraill.

Fe fframiwyd sesiynau’r ail ddiwrnod gan gyflwyniadau cynhwysfawr gan y ddau siaradwr gwadd arall. Bu Markku Filppula, un o’r prif arbenigwyr ar dafodieithoedd Saesneg a chanddynt gefndiroedd Celtaidd, yn rhoi llith gyrhaeddgar ynghylch deinameg hanesyddol a daearyddol rhwng Saesneg Cymru a’r Gymraeg, gan wneud cymariaethau dadlennol â hanes ieithyddol Iwerddon. Ffocws manwl ac enghreifftiau llafar difyr o amrywiaeth gystrawennol yng Nghymraeg y Gogledd oedd prif nodweddion y ddarlith gan David Willis, un o awduron y prosiect arloesol Atlas Cystrawen Tafodieithoedd y Gymraeg, ar y cyd â Bob Borsley a Maggie Tallerman (roedd yr olaf hefyd yn bresennol).

Nid yw’n bosibl crynhoi’r cyfoeth o ddysg ac ymchwil a mewnwelediadau ffres a gyfryngwyd gan y gynhadledd… A ydych erioed wedi synfyfyrio uwchben gwahanol acenion Saesneg Cymru a’r ffordd y mae pobl yn teimlo yn eu cylch? Mae’n debyg bod gennych acen ‘sexy’ os yw eich Saesneg yn digwydd bod yn Gymreigaidd. A ydych wedi ystyried pwy sy’n gyfarwydd â chyfoeth llenyddiaeth fodern y Gymraeg y tu allan i Gymru? Byddech wedi cael eich synnu, siŵr o fod, gan y gweithgarwch brwd sydd i’w weld mewn cyfieithu ac astudiaethau cyfieithu rhwng Cymraeg a Phwyleg ar hyn o bryd. A fyddwch weithiau yn cnoi cil dros ddefnydd tafodiaith a’i pherthynas â Chymraeg Llenyddol mewn ffuglen Gymraeg? Neu i ba raddau y mae modd cyffredinoli ynghylch nodweddion a ffiniau daearyddol tafodieitheodd y Gymraeg?

Yn sicr, ni chynigiwyd atebion terfynol i’r un o’r cwestiynau hyn, ond fe amlygwyd rhai ohonynt am y tro cyntaf mewn cyd-destun rhyngddisgyblaethol a fwriodd oleuni newydd arnynt a pheri i ysgolorion o feysydd gwahanol iawn gyd-ysyried a chyd-ymholi. Ar ben hynny, roedd Gweithdy’r Gynhadledd ar gorpora digidol ac adnabod lleferydd gan Sarah Cooper a Marieke Meelen yn gyfle i’r myfyrwyr ymchwil sydd ar fin camu i mewn i fyd gwaith ddysgu ac ystyried gwahanol lwybrau academaidd a gyrfaol.

O ddyfynnu dim ond un o’r ymatebion brwdfrydig yn y cyfryngau cymdeithasol, roedd y fenter hon yn ‘llwyddiant ysgubol’ , yn fan cychwyn i amryw drafodaethau yn ogystal â phrosiectau newydd sbon. Er mai o’r academia y daeth y rhan fwyaf o’r gynulleidfa bresennol, fe ddenwyd cryn dipyn o gyfranwyr o’r cyhoedd ehangach ac roedd yn amlwg bod pwnc y gynhadledd o ddiddordeb cyffredinol. Fe wnaeth yr ‘undod mewn amrywiaeth’ neu’r ‘amrywiaeth mewn undod’ ysgogi trafodaeth fywiog a digymrodedd o ystyrlon ynghylch gwahanol agweddau ar yr ecosystem ddiwylliannol rydym yn ei galw yn Gymru/Wales. Hir oes i’r fenter a wnaeth y drafodaeth hon yn bosibl!

Cynhaliwyd y digwyddiad dan nawdd Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Hynek Janousek, BA Astudiaethau Celtaidd (2014)

Cadair Eisteddfodol 1912 Eisteddfodic Chair

Daeth ymwelydd arbennig iawn i’r Adran 4 Mehefin, sef Hefin Wyn. Mae Hefin Wyn yn gynfyfyriwr i ni ac roedd yn teithio i Aber am reswm penodol iawn.

Rydym fel Adran yn ffodus iawn bod Hefin Wyn a’i deulu wedi penderfynu cyflwyno cadair eisteddfodol a phortread o’i hen ewythr, Gwilym Williams, i’n gofal.

Roedd Gwilym yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth ac yn gynfyfyriwr yn yr Adran. Profodd ei fod yn fardd medrus trwy ennill nifer o gadeiriau eisteddfodol, gan gynnwys Cadair Eisteddfod y Brifysgol, 1912 a feirniadwyd gan T. Gwynn Jones, darlithydd yn yr Adran ar y pryd.

Wedi i Gwilym raddio yn 1913 bu’n gweithio fel athro yn Ysgol Ganolraddol Y Drenewydd, lle cyfarfu â Jane Helen Rowlands, athrawes Ffrangeg. Mae’n debyg i’r ddau gwympo mewn cariad, ond penderfynodd Helen gysegru ei bywyd i waith cenhadol dramor. Dyma englyn a ysgrifennwyd gan Gwilym i ddymuno’n dda iddi:

Draw i randir yrIndia – mae Helen
Am hwylio o Walia;
O’n golwg ni, O gwylia
Hi dros y dŵr, Iesu da.

(Dan yr Helyg, 1917, t. 103)

Yn 1915, er nad oedd gorfodaeth arno, penderfynodd Gwilym ymuno â’r fyddin, a chafodd ei wneud yn Is-gapten gyda’r Ffiwsilwyr Cymreig. Yn ystod ei gyfnod yn hyfforddi yn Rhuddlan anfonai lythyrau at ei deulu ac at Helen hefyd. Anfonwyd ef i faes y gad fis Ebrill 1916 ac ar fore Sadwrn 20 Mai derbyniodd ei rieni luniau ohono yn ei lifrai milwrol. Heb yn wybod i’w deulu, cafodd Gwilym ei glwyfo yn ystod oriau mân y bore hwnnw a bu farw yn gynnar fore Sul 21 Mai. Claddwyd ef drannoeth, Ddydd Llun 22 Mai, a’r pnawn hwnnw derbyniodd ei deulu frysneges yn cadarnhau bod Gwilym wedi marw. Dyma a ddywedodd y Capten wrth dalu teyrnged i ddewrder y bardd ifanc:
Gwnâi filwr da, cofiaf iddo ddwedyd wrthyf un min nos, ill dau yn dyheu am gael byw i weld y rhyfel ’ma drosodd. ‘And yet,’ meddai, ‘there’s a certain romance in dying Young, and dying for your country’.

Cyhoeddwyd cyfrol goffa i Gwilym gan ei deulu yn 1917, sef Dan yr Helyg. Mae’r gyfrol yn cynnwys ei gerddi, rhai darnau o ryddiaith, yn ogystal â rhai englynion gan ei frawd John. Mae’r bryddest ‘Gwanwyn Bywyd’ hefyd i’w chael rhwng cloriau’r gyfrol, sef y gerdd a enillodd iddo Gadair Eisteddfod Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, 2 Mawrth 1912. Cerdd yw hon sy’n ein tywys drwy fywyd plentyn o’r crud, gan wneud defnydd effeithiol o’r misoedd a’r tymhorau i gyfleu treigl amser. Dyma flas ohoni:

Tegach fil na blodau’r byd
Ydyw llewych wyneb plentyn,
A phereiddiach miri’r crud
Na thelori’r un aderyn.

Mae’i galon dyner mor santaidd wyn
A’r alaw wylaidd ym min y llyn.

Cyn laned ydyw ei feddwl ef
A’r ôd pan ddelo i lawr o’r nef.

Fyd, na fydd euog o wneuthur cam
Ag eilun calon ei dad a’i fam.

Ni fydd lonydd Gwener wen
Onis dwg i wŷdd ei feinwen,
Ac i ddwy gymylog nen
Wedi cawod daw yr heulwen;
Fraich ymraich hyd lwybrau’r allt
Gwyra’r ddau yng ngwynfa cariad,
Cusan, gwen a deigryn hallt
Ydyw iaith hyotla’u teimlad.

Gyda gwellt neu blu’n ei phig
Mae Mehefin wedi dyfod,
Medd mwyalchen yn y wig,
Medd y wennol dan y bargod;
Moliant haf a gan pob un
Pan fo lawn y pebyll bychain,
Moli’r haf mae mab a mun
Ar eu haelwyd fach ei hunain.

Hoffai Adran y Gymraeg a Phrifysgol Aberystwyth ddiolch i deulu Gwilym Williams am gyflwyno’r gadair, y portread a llythyrau Gwilym Williams i’w gofal. Gobaith diffuant yr Adran yw y bydd y rhoddion hyn yn parhau’r cof am Gwilym Williams a’i farddoniaeth ymhlith ei myfyrwyr. Bydd Llyfrgell Hugh Owen yn trefnu arddangosfa arbennig i goffáu canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Mawr, a bydd gan Gwilym Williams le anrhydeddus yn yr arddangosfa honno.

Gwenan Davies, Myfyrwraig Raddedig Dan Hyfforddiant Adran y Gymraeg a Chanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg, BA Cymraeg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu (2013)