Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2016

Braf yw medru cyhoeddi bod Aberystwyth ar y brig yn y Deyrnas Unedig am ddysgu Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Ansawdd yr addysgu yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth yw’r gorau yn y Deyrnas Unedig, yn ôl arolwg barn o fyfyrwyr y Deyrnas Unedig.

Yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2016 (NSS), roedd y boddhad cyffredinol gydag addysgu Cymraeg (Astudiaethau Celtaidd) yn cyrraedd 100%, a chafodd asesiadau ac adborth, a chymorth academaidd y sgôr uchaf posib hefyd.

Yn ogystal, cafodd yr Adran y sgôr uchaf o 100% am foddhad cyffredinol, o’i chymharu â sgôr y Deyrnas Unedig o 86%.

Meddai Dr Cathryn Charnell White, Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth:
“Fel Adran rydym wrth ein boddau gyda’r cadarnhad a gawsom gan ein myfyrwyr yn yr arolwg cenedlaethol diweddaraf. Mae’r sgôr o 100% am addysgu’n adlewyrchu ymrwymiad fy nghydweithwyr i gymell ein myfyrwyr, yn ogystal â rhannu eu brwdfrydedd dros eu meysydd arbenigol yn y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Mae’r sgôr o 100% am foddhad cyffredinol yn dweud y cyfan.”

Mae ffigurau’r Arolwg yn dod yn dynn ar sodlau ffigurau cyflogadwyedd diweddaraf Prifysgolion y Deyrnas Unedig, sy’n dangos bod 100% o raddedigion yr Adran Gymraeg mewn gwaith neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl gadael Prifysgol Aberystwyth. Ffigurau cyflogadwyedd Prifysgol Aberystwyth.

Welsh and Celtic Studies Welsh - NSS Graphic

Mae llwyddiannau’r Adran wedi cyfrannu at lwyddiant ehangach Prifysgol Aberystwyth, sydd ymhlith y deg uchaf yn nhabl sefydliadau addysg uwch y Deyrnas Unedig, ac ar y brig yng Nghymru o ran boddhad cyffredinol myfyrwyr, yn ôl yr arolwg blynyddol.

Mae’r canlyniadau’n dangos bod boddhad cyffredinol ymhlith myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 92%, sef chwe phwynt canran yn uwch na ffigur y Deyrnas Unedig o 86%.

Mae’r Arolwg yn casglu data o 155 o Sefydliadau Addysg Uwch y Deyrnas Unedig, a chaiff ei gydnabod fel ffynhonnell ddylanwadol o wybodaeth ar gyfer darpar fyfyrwyr wrth iddynt ystyried eu hopsiynau.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, a chanfod pam bod ein myfyrwyr mor fodlon gyda’n cyrsiau, yna nid yw’n rhy hwyr. Mae gennym rai lleoedd clirio ar ôl ar gyfer y flwyddyn academaidd 2016-17, neu dewch i’n gweld ar un o’n Diwrnodau Agored.

Cynhelir yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn flynyddol gan IPSOS Mori ar ran holl gynghorau ariannu addysg uwch y Deyrnas Unedig, a chyfwelir tua 312,000 o fyfyrwyr blwyddyn olaf yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’n gofyn i fyfyrwyr i roi sgôr i’w prifysgolion ar gyfer ystod eang o agweddau, gan gynnwys ansawdd yr addysgu, asesiadau ac adborth, cymorth academaidd, trefniadaeth a rheolaeth, adnoddau dysgu a datblygiad personol.

‘Mentro Meifod’: ap Cymraeg newydd

[In this post Eiri Angharad Siôn, a graduate of Professional Welsh, discusses how a BA module on Welsh literary heritage inspired her to undertake further study for an MPhil. Her research, funded by KESS (Knowledge Economy Skills Scholarships) and in collaboration with Geosho, involves the production of an exciting new mapping app, ‘Mentro Meifod’, which gives users access to literary and cultural walks in four fascinating locations in Montgomeryshire.] 

Yn ystod tair blynedd ddymunol iawn yn astudio Cymraeg Proffesiynol yn Adran y Gymraeg yma ym Mhrifysgol Aberystwyth cefais y cyfle i astudio modiwlau blaengar a chyffrous. Roedd ‘Trosi ac Addasu’ yn rhoi blas ar gyfieithu a golygu gwaith printiedig; ‘Cymraeg yn y Gweithle’ yn rhoi cyfle i brofi ychydig o fywyd yn y byd gwaith go iawn, a fy hoff fodiwl – a dyma oedd y gwir ysgogiad i mi fynd ymlaen i wneud MPhil a dweud y gwir – ‘Bro a Bywyd’, modiwl a oedd yn rhoi’r  cyfle i ddehongli treftadaeth lenyddol y Cymry. Fel rhan o’r modiwl hwn roeddem yn ystyried gwerth treftadaeth lenyddol Cymru a sut y gallwn ei defnyddio er mwyn hybu’r economi leol. Cefais greu prosiect o’m dewis, ac fe gynhyrchais lyfryn cryno am hanes llenyddol Sir Drefaldwyn. Wedi cael blas ar hynny roeddwn yn awyddus i ymchwilio ymhellach i lenyddiaeth a hanes yr ardal, a hefyd i ganfod y ffordd orau o ddarparu’r fath ddeunydd mewn modd hygyrch i gynulleidfa heddiw.

Bûm yn ddigon lwcus i gael fy ariannu i wneud y gwaith ymchwil hwn gan KESS (Knowledge Economy Skills Scholarships), Rhaglen Gydgyfeirio Ewropeaidd sy’n cyllido gwaith ymchwil MPhil a PhD yng Ngorllewin Cymru ac yn y Cymoedd. Mae’r cyrsiau hyn yn gofyn i fyfyrwyr gydweithio â chwmni preifat wrth wneud eu hymchwil, a deuthum ar draws cwmni Geosho o Gaernarfon sy’n arbenigo mewn creu apiau mapio. Fel rhan o’m gwaith ymchwil i ddarpariaeth deunydd treftadol, cefais gyfle i gynhyrchu fy ap fy hun gyda chwmni Geosh, sef ‘Mentro Meifod’, a thrwy hynny gael cyfle i ddysgu mwy am faes mapio diwylliannol creadigol yn gyffredinol.

Ap o deithiau cerdded llenyddol a diwyllianol mewn pedwar man yn Sir Drefaldwyn yw’r ap rwyf wedi bod yn gweithio arno. Dewisais yr ardal hon am amryw resymau, yn bennaf am mai yn Sir Drefaldwyn y byddai’r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal eleni, ond hefyd am fod gen i gysylltiadau teuluol â’r ardal ac am fy mod yn frwdfrydig i ddysgu mwy am ei hanes. Cafodd yr ap ei lansio ar Ddydd Llun yr Eisteddfod, ac roedd cyfle i’r cyhoedd ei lawrlwytho a dilyn y teithiau yn ystod yr wythnos. Mae’r teithiau eu hunain yn gweithio gyda thechnoleg GPRS ac felly nid oes angen signal ffôn (elfen bwysig wrth ystyried eu bod wedi’u lleoli mewn ardal wledig a diarffordd), ac wrth i chi ddilyn map pob taith gerdded mae gwybodaeth am yr hyn sydd o’ch cwmpas a hanes yr ardal yn ymddangos ar sgrîn y ffôn, gyda lluniau a chlipiau sain o gerddi neu gerddoriaeth berthnasol.

Fy nghobaith wrth gynhyrchu ap o’r fath oedd mesur gwerth y math hwn o beth, gan ystyried a allai arwain at greu mwy o ddiddordeb yn llenyddiaeth a threftadaeth Cymru – efallai ymhlith cynulleidfa wahanol i’r un a fyddai’n ymddiddori yn y pwnc yn draddodiadol, megis pobl ifanc neu ddi-Gymraeg. Yn sicr gwelaf botensial ar gyfer hybu twristiaeth ddiwylliannol yn y math hwn o brosiect. Wrth i wyliau diwylliannol a theithiau cerdded ddod yn fwyfwy poblogaidd, mae cyfle i ni fel Cymry fachu ar y cyfle a gwneud yn fawr o’n hanes a’n diwylliant cyfoethog a hybu’r economi leol yn sgil hynny. Mae’r ap hwn yn un cwbl ddwyieithog (gan gynnwys cyfieithiadau o’r cerddi), a theimlaf fod potensial i greu fersiwn i ddysgwyr ac i blant hefyd. Mae peryg i Gymru gael ei gadael ar ei hôl pan ddaw at ddeunydd digidol a thechnolegol, ac mae angen manteisio ar unrhyw gyfle i sicrhau ein bod yn defnyddio’r platfform er ein budd ni. Er mwyn lawrlwytho’r Ap ewch at: www.mentromeifod.co.uk

Eiri Angharad Siôn, BA Cymraeg Proffesiynol

Mentro Meifod

Y Ddraig yn dal i hedfan

Ar ddydd Iau 28ain Mai, lansiwyd cylchgrawn llenyddol Adran y Gymraeg, Y Ddraig, ym Mar Theatr y Werin, Canolfan y Celfyddydau. Cyhoeddir y cylchgrawn fel rhan o waith y cynllun gradd arloesol, Cymraeg Proffesiynol. Myfyrwyr y flwyddyn gyntaf a fu’n gyfrifol am gomisiynu a golygu’r holl eitemau, ac am drefnu’r lansiad i ddathlu ffrwyth eu gwaith.

Cydlynir modiwl y flwyddyn gyntaf gan Dr Bleddyn Huws a Dr Rhianedd Jewell, Darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Cymraeg Proffesiynol. Dywedodd Dr Jewell:

“Mae’r profiad hwn yn rhoi blas i’r myfyrwyr ar gyhoeddi, golygu ac ysgrifennu’n broffesiynol. Fel rhan o’r cwrs mae’r myfyrwyr yn datblygu sgiliau hynod o werthfawr ar gyfer y byd gwaith ar ôl graddio, a gallant fod yn falch iawn o’r cylchgrawn hwn sydd o safon uchel iawn.”

Mae’r rhifyn eleni yn cynnwys amrywiaeth ddiddorol o gerddi, darnau o lên meicro a chyfres o gyfweliadau ag unigolion megis yr awdures llyfrau pobi, Elliw Gwawr, a’r actor Gareth Jewell.

Dyma bedwaredd flwyddyn y cylchgrawn yn ei ffurf bresennol gan mai cwrs gweddol newydd o hyd yw Cymraeg Proffesiynol, ond mae hanes Y Ddraig lawer yn hŷn.

Lansiwyd y gyfrol yn swyddogol eleni gan yr Athro Marged Haycock, a ddatgelodd yn ei hanerchiad fod y cylchgrawn bron mor hen ag Adran y Gymraeg. Nododd fod nifer fawr o lenorion Cymru wedi cyfrannu at Y Ddraig yn y gorffennol, gan gynnwys y bardd Gerwyn Wiliams, y nofelydd Mared Lewis a’r awdures Lleucu Roberts. Darllenodd englyn o rifyn 1985 yn y lansiad sydd yn disgrifio gwerth y cylchgrawn hyd heddiw:

Y Ddraig

Mawr yw pryder y werin – am yr haint

       Ym mhridd y Gorllewin,

Ond parhau wna’r hen ŷd prin,

– Y Ddraig ry nawdd i’r egin.

Gellir archebu copi o gylchgrawn Y Ddraig am £3 drwy gysylltu ag Adran y Gymraeg drwy e-bostio cymraeg@aber.ac.uk

 

Lansiad y Ddraid 2015 bach

Marged Edwards, Lois Roberts-Jones, Gwenno Ywain, Yr Athro Marged Haycock, Gwen Williams, Heledd Hawkins a Carwyn Eckley

Cymraeg Proffesiynol: y dewis amlwg!

Pan oeddwn yn y chweched dosbarth yn chwilota am gwrs gradd i’w astudio, apeliodd Cymraeg Proffesiynol yn syth. Yn wahanol i gwrs Cymraeg arferol, law yn llaw â meistroli’r iaith ac ymgyfarwyddo â’i llenyddiaeth, rhoir profiadau ymarferol i’ch paratoi ar gyfer y byd gwaith proffesiynol.

Gydag enw da Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth a’i harbenigwyr toreithiog, sy’n fwy na pharod i’ch cefnogi, yr oedd y dewis yn un gwbl amlwg. Mae’r brifysgol hon yn gadarnle i’r iaith Gymraeg gyda chymdeithas Gymraeg ffyniannus a changen Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n sicrhau darpariaeth academaidd a chyfleusterau digonol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yr hyn a wna Cymraeg Proffesiynol yn gwrs mor werthfawr ac unigryw yw’r profiadau a’r cyfleoedd amhrisiadwy a gynigir – y cyfan er mwyn cael blas ar y byd gwaith proffesiynol. Yn ystod fy nhair blynedd, cefais gyfle i hogi amryw sgiliau defnyddiol, megis sgiliau cyfieithu yn y modiwl ‘Astudiaethau Trosi ac Addasu’, sgiliau gweithio mewn tîm, cysodi a golygu wrth gyd-olygu cylchgrawn llenyddol Y Ddraig yn y modiwl ‘Cyflwyniad i Gymraeg Proffesiynol’, a sgiliau dewis a dethol a gweithio’n annibynnol yn y modiwlau ‘Bro a Bywyd’ a’r ‘Prosiect Hir’. Yn ogystal â’r modiwlau sy’n meithrin sgiliau ar gyfer y byd gwaith proffesiynol, mae digon o gyfleoedd i astudio modiwlau llenyddol a hanesyddol amrywiol, megis ‘Barddoniaeth Gymraeg Ddiweddar’, ‘Dafydd ap Gwilym a’i Gyfoeswyr’, ‘Y Cynfeirdd Diweddar’ a llawer mwy.

Un o uchafbwyntiau’r cwrs i mi oedd cael mynd am gyfnod o brofiad gwaith fel rhan o’r modiwl ‘Y Gymraeg yn y Gweithle’ yn yr ail flwyddyn. Oherwydd fy niddordeb brwd mewn cyfieithu, manteisiais ar y cyfle i ymweld ag Adran Gyfieithu Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon a Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth a Chaerdydd. Heb os, yr oedd y profiadau hyn yn agoriad llygad gwerthfawr i rôl y Gymraeg yn y byd gwaith.

Yn ychwanegol i’r profiadau a oedd yn rhan o’r cwrs, cefais nifer o gyfleoedd allgyrsiol i ennill profiad proffesiynol. Un enghraifft o hyn oedd y fraint o gael cyfieithu ar y pryd yn Sioe Nadolig Ysgol Bro Siôn Cwilt y llynedd. Yr oedd yn brofiad gwych ac yn gyfle i fagu hyder ac i greu cysylltiadau defnyddiol ar gyfer y dyfodol.

Rwy’n hynod falch fy mod wedi dewis astudio’r cwrs hwn ac yn ddiolchgar iddo am fy mharatoi at y dyfodol ac am agor fy llygaid i’r digonedd o gyfleoedd sydd ar gael gyda’r Gymraeg. Dewis doeth yn ddiau oedd dewis astudio Cymraeg Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth, ar gyfer fy natblygiad personol fy hun ac ar gyfer fy nyfodol yn y byd gwaith.

Rhys Hughes, Rhan II, Cymraeg Proffesiynol

Rhys hughes

Cymraeg Proffesiynol yn Agor Drysau

Cynhaliwyd digwyddiad arloesol a chyffrous gan yr adran ddydd Sadwrn y 4ydd o Hydref, sef Cynhadledd Cymraeg Proffesiynol. Roedd y gynhadledd yn gyfle gwych i arddangos doniau ein myfyrwyr presennol, cynnwys amrywiol y cwrs Cymraeg Proffesiynol, a gwerth sgiliau galwedigaethol wrth fentro i’r byd gwaith ar ôl graddio.

Gwahoddwyd myfyrwyr chweched dosbarth i’r gynhadledd a daeth disgyblion o bob rhan o Gymru i ymgymryd â gweithgareddau’r diwrnod. Agorwyd y gynhadledd yn swyddogol gan Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-ganghellor dros y Gymraeg a Diwylliant Cymru, a nododd lwyddiannau’r adran yn sgil ein canlyniadau cyflogadwyedd. Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 100% o’r myfyrwyr a raddiodd o’r Adran yn 2013 mewn gwaith neu’n astudio 6 mis ar ôl graddio, ac fe ymddengys y bydd y cwrs Cymraeg Proffesiynol yn ychwanegu at y llwyddiant arbennig hwn yn y dyfodol.

Cafwyd cyflwyniadau i fodiwlau’r cwrs BA gan staff yr adran, a amlinellodd yr amrywiaeth eang o bosibiliadau a gynigir. Bydd myfyrwyr Cymraeg Proffesiynol yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau marchnata, golygu, cyfieithu, cyfieithu ar y pryd, ymchwilio, a siarad cyhoeddus. Cânt hefyd ddatblygu prosiectau unigol a chynhyrchu gwaith y gellir ei gyhoeddi, megis llyfryn ar hanes eu hardal leol, app, taith lenyddol neu gyfieithiadau proffesiynol. Mae’r holl brofiadau a’r cynyrchiadau hyn wrth gwrs yn cyfoethogi unrhyw CV.

Clywyd hefyd gan fyfyrwyr presennol yr adran a oedd yn trafod eu profiadau ar y cwrs ac ar leoliadau profiad gwaith. Siaradodd Rhodri Siôn a Mared Jones am dasgau’r flwyddyn gyntaf, megis trefnu Noson Llên a Chân a golygu rhifyn o’r Ddraig, sef cylchgrawn llenyddol blynyddol yr Adran Gymraeg. Disgrifiodd Cerys Davey ei phrofiad arbennig gyda Golwg ac S4C, a dangosodd gynnyrch ei gwaith ar ffurf dwy erthygl a gyhoeddwyd gan y cylchgrawn. Y Cyngor Llyfrau a chwmni cyhoeddi Atebol oedd pwnc cyflwyniad Hanna Merrigan a gafodd y cyfle i gyfieithu llyfrau plant i’r Gymraeg. Yn olaf, siaradodd Rhys Hughes am ei obaith i weithio fel cyfieithydd yn dilyn ei brofiadau gyda Chyngor Sir Gwynedd a Llywodraeth Cymru. Roedd y cyflwyniadau yn ysbrydoliaeth a oedd yn adlewyrchu gwerth ac amrywiaeth y cwrs Cymraeg Proffesiynol.

Daeth cyflwyniadau’r prynhawn gan bobl broffesiynol sydd wedi datblygu gyrfaoedd gwahanol iawn ym myd y Gymraeg. Siaradodd Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr Golwg, am y byd newyddiadurol ac am sut y mae’r Gymraeg wedi ei gludo y tu hwnt i Gymru i weithio mewn llefydd fel Hawaii, Bangladesh a De America. Soniodd Delyth Jewell, Pennaeth Ymchwil Plaid Cymru yn San Steffan, am gyffro’r Senedd yn Llundain, ac ymdrechion llwyddiannus plaid leiafrifol i wneud gwahaniaeth hollbwysig yn y byd gwleidyddol. Y mae cerddi ei hoff feirdd, Waldo Williams a T. H. Parry-Williams hyd yn oed wedi treiddio i’w hareithiau yn Llundain. Daeth y diwrnod i glo gyda chyflwyniad gan Branwen Huws, cyn-fyfyrwraig o’r adran sy’n gweithio erbyn hyn fel Pennaeth Marchnata i’r Lolfa. Pwysleisiodd Branwen bwysigrwydd profiad gwaith yn ei gyrfa, gyrfa sy’n caniatáu iddi weithio gydag enwogion y byd llenyddol megis Angharad Tomos a Dr Mihangel Morgan.

Trefnwyd y gynhadledd gan Dr Rhianedd Jewell sy’n gweithio fel Darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Cymraeg Proffesiynol. Dywed Rhianed am y digwyddiad:

“Dangosodd holl gyflwyniadau’r gynhadledd bod y Gymraeg yn agor dewis eang o ddrysau yn y byd gwaith, ac y gall y cwrs gradd Cymraeg Proffesiynol eich galluogi chi hefyd i wireddu breuddwydion o bob math.”

Cynhaledd Cymraeg Proffesiynol

Graddio 2014 Graduation

[scroll down for the English version]
Diwrnod graddio yw’r achlysur sy’n rhoi’r boddhad mwyaf i staff Adran y Gymraeg: mae’n gyfle i longyfarch ein myfyrwyr yn ystod y seremoni raddio ffurfiol ac i ddathlu eu llwyddiant mewn derbyniad adrannol anffurfiol.

Myfyrwyr a staff yr Adran

Myfyrwyr a staff yr Adran

Eleni, roedd ein myfyrwyr a’u teuloedd yn gwenu’n fwy llydan nag arfer…

Dyfarnwyd pymtheg gradd dosbarth cyntaf i fyfyrwyr ein cynlluniau BA Cymraeg, Cymraeg Proffesiynol ac Astudiaethau Celtaidd, a phleser arbennig oedd gwylio’r garfan gyntaf o fyfyrwyr y cynllun BA Cymraeg Proffesiynol yn graddio gyda chanlyniadau rhagorol.

Llongyfarchiadau i bob un o fyfyrwyr BA, MPhil a PhD Adran y Gymraeg a raddiodd eleni, a phob dymuniad da i chi ar y cam nesaf ar hyd y daith!

Mae rhagor o luniau a sylwadau difyr ar ein ffrwd trydar @CymraegAber #GraddioAber a gellir gwylio’r seremoni ar-lein am gyfnod byr.

Myfyrwyr Cymraeg Proffesiynol

Myfyrwyr Cymraeg Proffesiynol

For staff of the Department of Welsh graduation day is the most rewarding occasion in the academic year: it is an opportunity to congratulate our students at the formal graduation ceremony and a chance to celebrate their success in an informal departmental reception.

This year, our students and their families had broader smiles than usual…

Fifteen first class degrees were awarded to students of our BA schemes in Welsh, Professional Welsh and Celtic Studies, and it was a particular pleasure to see the first cohort of the BA in Professional Welsh graduate with excellent results.

Congratulations to every BA, MPhil and PhD student in the Department of Welsh who graduated this year, and best wishes on the next leg of the journey!

Myfyrwyr PhD

Myfyrwyr PhD

See our Twitter feed for more photographs and comments @CymraegAber #AberGraduation. You may also watch the ceremony online for a limited time.

Bydd Y Ddraig yn hedfan yn Eisteddfod yr Urdd

Ar stondin Prifysgol Aberystwyth ar ddiwrnod olaf Eisteddfod yr Urdd yn y Bala bydd myfyrwyr sy’n astudio Cymraeg Proffesiynol yn lansio rhifyn 2014 o gylchgrawn Y Ddraig, sef cylchgrawn llenyddol blynyddol yr Adran Gymraeg. Byddant yn gwneud hynny yng nghwmni’r wraig wadd, Mared Ifan, Llywydd UMCA.

Caiff nifer o feirdd a llenorion yr Adran weld eu gwaith mewn print, a cheir llawer o eitemau gwahanol yn amrywio o englynion a chywyddau a straeon byrion i gyfweliadau a darnau o lên meicro. Y myfyrwyr eu hunain a oedd yn gyfrifol am gomisiynu a golygu’r holl gyfraniadau.

Ymhlith uchafbwyntiau’r rhifyn hwn y mae’r cyfweliadau â’r llenor Manon Steffan Ros a’r gwleidydd Jonathan Edwards AS, yn ogystal â’r ddau gywydd gan y cynganeddwr ifanc addawol Endaf Griffiths, y naill i’r mewnlifiad o Saeson i’w fro enedigol a’r llall i’r gobaith a gynigia dysgwyr yr iaith i ddyfodol y Gymraeg. Ceir yma hefyd ddarnau doniol o lên meicro ac englyn i’r ‘Traethawd Munud Olaf’!

Meddai Dr Rhianedd Jewell, cydlynydd y cwrs:

‘Llwyddodd y myfyrwyr i gasglu deunydd amrywiol hynod safonol at ei gilydd, a gallant fod yn falch iawn o gynnwys y rhifyn. Cawsant hyfforddiant yn y dosbarth ynghylch comisiynu a golygu gwaith ysgrifenedig ar gyfer ei gyhoeddi, ac mae’n braf eu gweld yn rhoi’r hyn a ddysgwyd ar waith mewn modd mor ymarferol â hyn.”

Cynhelir y lansiad am 1.00 o’r gloch ar stondin y Brifysgol ar faes Eisteddfod yr Urdd ar ddydd Sadwrn 31 Mai. Croeso i bawb.

Gellir archebu copi am £5.00 (yn cynnwys cludiad) drwy gysylltu â cymraeg@aber.ac.uk
Y Ddraig 2014 bach

Trefnu’r Noson Llên a Chân: profiadau myfyrwyr Cymraeg Proffesiynol

[Two of the department’s Professional Welsh students reflect on their experiences organising an evening of literary and musical entertainment. It was a very successful event, and the skills gained will be of great help as they approach the next challenges this term!]
Llun Cymraeg Proffesiynol
Ar ddechrau ein tymor cyntaf yma fel myfyrwyr yn Aberystwyth cafodd ein dosbarth Cymraeg Proffesiynol y dasg o drefnu noson lenyddol. Roedd yn sicr yn her i bawb gan nad oedd gan yr un ohonom brofiad o drefnu noson o’r fath.

Y peth cyntaf a benderfynwyd oedd pa fath o noson roeddem ei heisiau, a’r teimlad cyffredinol gan bawb oedd ein bod eisiau trefnu noson a fyddai’n apelio at fyfyrwyr yn ogystal â’r cyhoedd. Penderfynwyd felly gael eitemau cerddorol yn ogystal ag eitemau llenyddol, a dyma sut y cawsom y syniad o drefnu noson llên a chân.

Ar ôl cael cyfranwyr a phenderfynu ar amser a lleoliad roeddem yn gweld pethau yn dod at ei gilydd yn reit daclus. Bu’n rhaid felly ddefnyddio sgiliau cyfathrebu er mwyn holi a fyddai siaradwyr gwadd yn fodlon cyfrannu, ac hefyd bu’n rhaid cydweithio a chyd-dynnu er mwyn cytuno ar drefniadau ar gyfer y noson. Roedd yn rhaid cael ychydig o gyhoeddusrwydd i’r noson ac fe wnaethom ni hynny trwy Facebook, gwefan Adran y Gymraeg a thrwy roi posteri o amgylch tref Aberystwyth. Yr unig beth i’w wneud wedyn oedd disgwyl am y noson ei hun!

Roedd pawb yn teimlo’n nerfus iawn cyn y noson ond fe aeth pob dim yn berffaith heb yr un broblem. Fe holwyd Bet Jones, enillwraig gwobr goffa Daniel Owen, gennym ni’r myfyrwyr am ei phrofiad o ysgrifennu ei nofel, Craciau, yn ogystal â rhai o’i syniadau am themâu a welir yn y nofel sydd yn berthnasol heddiw. Holwyd Llion Jones am ei gyfrol newydd, Trydar Mewn Trawiadau, sef casgliad o’i linellau a chwpledi o gynghanedd ar ‘Twitter’ ac hefyd am ei olwg ar farddoniaeth yn yr unfed ganrif ar hugain. Cawsom gyfle yma i ddatblygu sgiliau cyfathrebu unwaith eto, yn ogystal â chyfle i ddatblygu ein gallu i siarad yn gyhoeddus. Daeth Gwilym Bowen Rhys a Catrin Herbert hefyd i’n diddori â dwy gân yr un, ac fe atgyfododd Gwilym hen draddodiad Cymreig o ‘ganu pastwn’ – canu, tra’n cnocio pastwn ar y llawr i gadw curiad, sef rhywbeth a wnaed gan feirdd na fedrent fforddio offeryn. Roedd y cyfweliadau gyda Bet a Llion yn ddiddorol tu hwnt, roedd y perfformiadau gan Gwilym a Catrin yn swynol iawn, ac roedd perfformaid Gwilym yn sicr yn wreiddiol!

Cynhaliwyd cystadleuaeth gennym yn unol â’r noson. Rhoddwyd tasg i’r ymgeiswyr o lunio naill ai gerdd drydar; cerdd heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol, neu ddarn o lên meicro heb fod dros 200 gair. Yn wir, daeth dau i’r brig dan feirniadaeth Dr Huw Meirion Edwards a Dr Mihangel Morgan i ennill tocyn llyfr gwerth £20 punt yr un. Roedd safon y gwaith yn fwy na boddhaol, ond roedd gwaith y ddau lenor buddugol yn llawn haeddiannol o’r gwobrau, a bydd y darnau yn ymddangos yn rhifyn nesafcylchgrawn Adran y Gymraeg, Y Ddraig. I gloi’r noson darllenodd Endaf Griffiths, sydd yn fyfyriwr yn yr ail flwyddyn, dameidiau o’i gerddi i’n diddanu cyn i ni gael paned a sgwrs.

Teimlwn yn ffodus iawn ein bod wedi cael bod yn rhan o’r noson; roedd yn sicr yn brofiad unigryw a dysgasom lawer o’i herwydd. Bydd y sgiliau a ddefnyddiasom o fudd mawr inni wrth fynd ati i olygu cylchgrawn llenyddol Y Ddraig y tymor hwn. Bydd angen sgiliau cyfathrebu er mwyn hel nawdd, a bydd cydweithio’n allweddol er mwyn cytuno ar gynnwys y cylchgrawn ac wrth ei olygu. Hoffem ddiolch ar ran y dosbarth i Dr Rhianedd Jewell ac i Dr Bleddyn Owen Huws am eu holl gymorth trwy gydol y dasg ac am ein helpu i drefnu noson lwyddiannus a llawn hwyl.

Diolch i Jacob Ellis am y llun.

Mared Jones a Rhodri Siôn, Rhan I, Cymraeg Proffesiynol