Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2016

Braf yw medru cyhoeddi bod Aberystwyth ar y brig yn y Deyrnas Unedig am ddysgu Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Ansawdd yr addysgu yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth yw’r gorau yn y Deyrnas Unedig, yn ôl arolwg barn o fyfyrwyr y Deyrnas Unedig.

Yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2016 (NSS), roedd y boddhad cyffredinol gydag addysgu Cymraeg (Astudiaethau Celtaidd) yn cyrraedd 100%, a chafodd asesiadau ac adborth, a chymorth academaidd y sgôr uchaf posib hefyd.

Yn ogystal, cafodd yr Adran y sgôr uchaf o 100% am foddhad cyffredinol, o’i chymharu â sgôr y Deyrnas Unedig o 86%.

Meddai Dr Cathryn Charnell White, Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth:
“Fel Adran rydym wrth ein boddau gyda’r cadarnhad a gawsom gan ein myfyrwyr yn yr arolwg cenedlaethol diweddaraf. Mae’r sgôr o 100% am addysgu’n adlewyrchu ymrwymiad fy nghydweithwyr i gymell ein myfyrwyr, yn ogystal â rhannu eu brwdfrydedd dros eu meysydd arbenigol yn y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Mae’r sgôr o 100% am foddhad cyffredinol yn dweud y cyfan.”

Mae ffigurau’r Arolwg yn dod yn dynn ar sodlau ffigurau cyflogadwyedd diweddaraf Prifysgolion y Deyrnas Unedig, sy’n dangos bod 100% o raddedigion yr Adran Gymraeg mewn gwaith neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl gadael Prifysgol Aberystwyth. Ffigurau cyflogadwyedd Prifysgol Aberystwyth.

Welsh and Celtic Studies Welsh - NSS Graphic

Mae llwyddiannau’r Adran wedi cyfrannu at lwyddiant ehangach Prifysgol Aberystwyth, sydd ymhlith y deg uchaf yn nhabl sefydliadau addysg uwch y Deyrnas Unedig, ac ar y brig yng Nghymru o ran boddhad cyffredinol myfyrwyr, yn ôl yr arolwg blynyddol.

Mae’r canlyniadau’n dangos bod boddhad cyffredinol ymhlith myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 92%, sef chwe phwynt canran yn uwch na ffigur y Deyrnas Unedig o 86%.

Mae’r Arolwg yn casglu data o 155 o Sefydliadau Addysg Uwch y Deyrnas Unedig, a chaiff ei gydnabod fel ffynhonnell ddylanwadol o wybodaeth ar gyfer darpar fyfyrwyr wrth iddynt ystyried eu hopsiynau.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, a chanfod pam bod ein myfyrwyr mor fodlon gyda’n cyrsiau, yna nid yw’n rhy hwyr. Mae gennym rai lleoedd clirio ar ôl ar gyfer y flwyddyn academaidd 2016-17, neu dewch i’n gweld ar un o’n Diwrnodau Agored.

Cynhelir yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn flynyddol gan IPSOS Mori ar ran holl gynghorau ariannu addysg uwch y Deyrnas Unedig, a chyfwelir tua 312,000 o fyfyrwyr blwyddyn olaf yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’n gofyn i fyfyrwyr i roi sgôr i’w prifysgolion ar gyfer ystod eang o agweddau, gan gynnwys ansawdd yr addysgu, asesiadau ac adborth, cymorth academaidd, trefniadaeth a rheolaeth, adnoddau dysgu a datblygiad personol.

Hybu a hyrwyddo’r Gymraeg

Mae myfyrwyr y Gymraeg weithiau’n clywed cwestiynau tebyg i ‘pam astudio’r Gymraeg?’ neu ‘bydd yr iaith yn marw’ a.y.y.b. Mae cwestiynau fel hyn yn ein diflasu oherwydd mae astudio’r Gymraeg ar lefel uwch yn werthfawr a dylem groesawu pobl eraill.
Nid yw’r broses o ddysgu iaith yn dod i ben ac mae’n rhaid gweithio tuag at wella drwy’r amser. Y ffordd hawsaf o wneud hyn yw siarad ac ymarfer. Mae’n haws ymarfer yr iaith mewn ardal fel Aberystwyth, ond yng Ngwent, fy ardal enedigol, mae angen chwilio am gyfleoedd.
Ar ôl gadael Aberystwyth yn 2014, roeddwn yn gweithio fel Swyddog Ieuenctid yn Sir Fynwy ac yna fel swyddog maes Menter Iaith BGTM (Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy). Mae’r ardal hon yn enfawr, felly fi sy’n gyfrifol am ardaloedd Blaenau Gwent a Gogledd Sir Fynwy. Hyd yn hyn, rwy’n mwynhau fy swydd ac yn mwynhau cryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg i gymuned Gymraeg yr ardal. Mae cymunedau Cymraeg yr ardaloedd hyn yn fwy cuddiedig na chymunedau ieithyddol y Gogledd a’r Gorllewin, ac mae ein cymunedau ni’n gymysgedd da o Gymry Cymraeg a dysgwyr – o bedwar ban y byd!
Un peth sy wedi fy ngwylltio yw’r term ‘ail iaith’ ar gyfer dysgwyr neu bobl sy’n dod o deuluoedd sy’n defnyddio iaith arall. Credaf ei bod yn creu hollt yng nghymunedau’r Gymraeg. Weithiau, nid wyf yn siŵr am y term ‘dysgwr’ chwaith, oherwydd rwyf wedi bod yn dysgu, rwy’n dal i ddysgu, ond er hynny rwyf wedi cyrraedd pwynt lle gallaf weithio a gweinyddu trwy’r Gymraeg.
Yn fy ngwaith presennol, rwy’n gweithio gyda phobl o bob oedran, ac mae cyfle i gyflwyno’r syniad i deuluoedd eu bod yn gallu addysgu eu plant trwy gyfrwng y Gymraeg a rhoi sgil a phrofiad iddynt na dderbyniais i yn yr ysgol. Mae fy nghyfrifoldebau’n cynnwys darparu cyrsiau i deuluoedd ar sut y gallant ddefnyddio’r Gymraeg yn achlysurol yn y cartref, a threfnu digwyddiadau dysgu anffurfiol, er enghraifft boreau coffi, a hyd yn oed mynd i’r dafarn am gwrw a chlonc. Rwyf wedi darparu sesiynau amser stori i fabanod hefyd. Nawr, cofiwch fod y teuluoedd hyn, fel arfer, yn deuluoedd Saesneg, ond mae cyfle gyda fi i gyflwyno bywyd newydd a ffordd newydd i’w plant. Mae’r penderfyniad yn gallu bod yn un anodd iddynt ac, yn ddealladwy, mae nhw’n ofni sut y gallant ymdopi. Felly, mae’n bwysig peidio â defnyddio termau fel ‘ail iaith’ er mwyn hyrwyddo mynediad i’r cyfleoedd hyn.
Rwyf yn credu bod gobaith, ond efallai y bydd yn rhaid i ni groesawu pobl mewn ffordd wahanol wrth gyflwyno’r iaith a’i diwylliant fel carreg gamu i’n Cymru fodern?
Nid wyf am bregethu ynghylch sut i ymdrin â phobl, ond rhaid cofio bod gan bawb hawl i’r iaith. Rwyf yn credu ei bod yn bwysig trafod y pethau hyn, yn enwedig ymysg yr ifainc, oherwydd ni yw’r bobl sy’n dylanwadu ar y genhedlaeth nesaf.

Hannah Roberts

Hannah Roberts, BA Cymraeg

Cymraeg Proffesiynol yn Agor Drysau

Cynhaliwyd digwyddiad arloesol a chyffrous gan yr adran ddydd Sadwrn y 4ydd o Hydref, sef Cynhadledd Cymraeg Proffesiynol. Roedd y gynhadledd yn gyfle gwych i arddangos doniau ein myfyrwyr presennol, cynnwys amrywiol y cwrs Cymraeg Proffesiynol, a gwerth sgiliau galwedigaethol wrth fentro i’r byd gwaith ar ôl graddio.

Gwahoddwyd myfyrwyr chweched dosbarth i’r gynhadledd a daeth disgyblion o bob rhan o Gymru i ymgymryd â gweithgareddau’r diwrnod. Agorwyd y gynhadledd yn swyddogol gan Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-ganghellor dros y Gymraeg a Diwylliant Cymru, a nododd lwyddiannau’r adran yn sgil ein canlyniadau cyflogadwyedd. Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 100% o’r myfyrwyr a raddiodd o’r Adran yn 2013 mewn gwaith neu’n astudio 6 mis ar ôl graddio, ac fe ymddengys y bydd y cwrs Cymraeg Proffesiynol yn ychwanegu at y llwyddiant arbennig hwn yn y dyfodol.

Cafwyd cyflwyniadau i fodiwlau’r cwrs BA gan staff yr adran, a amlinellodd yr amrywiaeth eang o bosibiliadau a gynigir. Bydd myfyrwyr Cymraeg Proffesiynol yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau marchnata, golygu, cyfieithu, cyfieithu ar y pryd, ymchwilio, a siarad cyhoeddus. Cânt hefyd ddatblygu prosiectau unigol a chynhyrchu gwaith y gellir ei gyhoeddi, megis llyfryn ar hanes eu hardal leol, app, taith lenyddol neu gyfieithiadau proffesiynol. Mae’r holl brofiadau a’r cynyrchiadau hyn wrth gwrs yn cyfoethogi unrhyw CV.

Clywyd hefyd gan fyfyrwyr presennol yr adran a oedd yn trafod eu profiadau ar y cwrs ac ar leoliadau profiad gwaith. Siaradodd Rhodri Siôn a Mared Jones am dasgau’r flwyddyn gyntaf, megis trefnu Noson Llên a Chân a golygu rhifyn o’r Ddraig, sef cylchgrawn llenyddol blynyddol yr Adran Gymraeg. Disgrifiodd Cerys Davey ei phrofiad arbennig gyda Golwg ac S4C, a dangosodd gynnyrch ei gwaith ar ffurf dwy erthygl a gyhoeddwyd gan y cylchgrawn. Y Cyngor Llyfrau a chwmni cyhoeddi Atebol oedd pwnc cyflwyniad Hanna Merrigan a gafodd y cyfle i gyfieithu llyfrau plant i’r Gymraeg. Yn olaf, siaradodd Rhys Hughes am ei obaith i weithio fel cyfieithydd yn dilyn ei brofiadau gyda Chyngor Sir Gwynedd a Llywodraeth Cymru. Roedd y cyflwyniadau yn ysbrydoliaeth a oedd yn adlewyrchu gwerth ac amrywiaeth y cwrs Cymraeg Proffesiynol.

Daeth cyflwyniadau’r prynhawn gan bobl broffesiynol sydd wedi datblygu gyrfaoedd gwahanol iawn ym myd y Gymraeg. Siaradodd Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr Golwg, am y byd newyddiadurol ac am sut y mae’r Gymraeg wedi ei gludo y tu hwnt i Gymru i weithio mewn llefydd fel Hawaii, Bangladesh a De America. Soniodd Delyth Jewell, Pennaeth Ymchwil Plaid Cymru yn San Steffan, am gyffro’r Senedd yn Llundain, ac ymdrechion llwyddiannus plaid leiafrifol i wneud gwahaniaeth hollbwysig yn y byd gwleidyddol. Y mae cerddi ei hoff feirdd, Waldo Williams a T. H. Parry-Williams hyd yn oed wedi treiddio i’w hareithiau yn Llundain. Daeth y diwrnod i glo gyda chyflwyniad gan Branwen Huws, cyn-fyfyrwraig o’r adran sy’n gweithio erbyn hyn fel Pennaeth Marchnata i’r Lolfa. Pwysleisiodd Branwen bwysigrwydd profiad gwaith yn ei gyrfa, gyrfa sy’n caniatáu iddi weithio gydag enwogion y byd llenyddol megis Angharad Tomos a Dr Mihangel Morgan.

Trefnwyd y gynhadledd gan Dr Rhianedd Jewell sy’n gweithio fel Darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Cymraeg Proffesiynol. Dywed Rhianed am y digwyddiad:

“Dangosodd holl gyflwyniadau’r gynhadledd bod y Gymraeg yn agor dewis eang o ddrysau yn y byd gwaith, ac y gall y cwrs gradd Cymraeg Proffesiynol eich galluogi chi hefyd i wireddu breuddwydion o bob math.”

Cynhaledd Cymraeg Proffesiynol

O Brofiad Gwaith i Fyd Gwaith

Mae fy nghyfnod fel Myfyrwraig Raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn prysur ddirwyn i ben, ac mae’n deimlad od iawn, mae’n rhaid dweud. Mae’r Brifysgol yma wedi chwarae rhan enfawr yn fy mywyd ers pedair blynedd bellach: dechrau fel glasfyfyriwr yn Adran y Gymraeg a phrofi tair blynedd o fwynhau, cymdeithasu â ffrindiau newydd ac, wrth gwrs, gweithio’n galed! Does dim modd gorbwysleisio pa mor glos yw’r Adran, yr ymdeimlad hynny o gyfeillgarwch rhwng myfyrwyr a darlithwyr sy’n gwneud i unrhyw fyfyriwr deimlo’n gartrefol o’r cychwyn cyntaf.

O’r diwedd daeth yn amser i ffarwelio â bywyd myfyriwr a dechrau swydd newydd fel Myfyrwraig Raddedig Dan Hyfforddiant. Cynllun blwyddyn yw hwn i leoli myfyrwyr sy’n graddio o Brifysgol Aberystwyth mewn swyddi llawn amser er mwyn eu paratoi ar gyfer y byd go iawn. Mae fy swydd i wedi’i lleoli rhwng Adran y Gymraeg a Chanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg. Rwyf wedi elwa cymaint o’r swydd, ac wedi adeiladu ar fy sgiliau, yn ogystal â meithrin sgiliau newydd sbon.

Rwyf wedi cael y cyfle i greu’r blog hwn, a chydweithio â staff a myfyrwyr yr Adran er mwyn sicrhau cyfraniadau cyson i’r blog. Ymhellach, rwyf wedi bod yn trefnu digwyddiadau megis Diwrnod Shwmae Su’mae a’r wythnos o Ddathliadau Gŵyl Dewi. Tasg ddiddorol a osodwyd i mi oedd creu basdata o ddigwyddiadau y gellid trydar amdanynt. Rhai o’r digwyddiadau sy’n sefyll yn y cof yw canmlwyddiant cychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf, canmlwyddiant geni Dylan Thomas, a’r un mwyaf cofiadwy yw darganfod bod International Toilet Day yn cwympo ar ddiwrnod fy mhen-blwydd! (19 Tachwedd i unrhyw un sydd eisiau gwybod!) Rwyf hefyd wedi bod yn cynorthwyo’r gwaith o lansio’r Cynllun Iaith Ddiwygiedig drwy greu a chyfarwyddo fideo sy’n dangos y Gymraeg ar waith ar draws y Brifysgol. Roedd creu’r fideo hwn yn brofiad gwych ac yn gyfle i mi ailymweld â sgiliau a ddysgais wrth astudio Astudiaethau Ffilm a Theledu ar lefel BA.

Erbyn hyn, rwy’n hynod o falch i ddweud fy mod wedi bod yn ffodus i dderbyn swydd newydd fel Swyddog Cymorth y Gymraeg, Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Byddaf yn cychwyn ar bennod nesaf fy ngyrfa ar 7 Gorffennaf, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at y sialens newydd.

Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch yn fawr i holl staff Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg ac Adran y Gymraeg am y cymorth a’r cyfeillgarwch yn ystod y flwyddyn ddiwethaf – rwyf wedi elwa cymaint o’ch profiad a’ch arweiniad.

Lansiad-y-CIG---gwefan

Gwenan Davies, Myfyrwraig Raddedig Dan Hyfforddiant Adran y Gymraeg a Chanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg, BA Cymraeg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu (2013)

Swydd ddelfrydol cyn-fyfyriwr – Former students’ ideal job

[In this Welsh-language post, Ffion Mair Parrington explains why she chose to study at Aberystwyth. She also recounts the modules she most enjoyed, including ‘Cymraeg yn y Gweithle’ (Welsh in the Workplace) which led her to her ideal job as a professional translator.]

Mae’n rhyfedd meddwl yn ôl i’r union ddiwrnod pan benderfynais astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth… Ail ddiwrnod yr Ysgol Ddeuddydd oedd hi, ym mis Medi 2009. Roeddwn, erbyn hynny, yn 17 oed ac wedi hen ddatgan mai Lerpwl oedd y lle i mi: dinas fawr, digon o siopau, bywyd cymdeithasol gwych – roedd popeth yno! Wel, bron iawn. Yn amlwg, doedd dim cyfle i astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Lerpwl, a dyna oedd sail fy mhenderfyniad i ymweld ag Aberystwyth.

O fewn munudau roedd Glannau Mersi yn angof, wrth i mi glywed am y modiwlau amrywiol yr oedd gan Adran y Gymraeg i’w cynnig. Dysgais hefyd fod modd i mi astudio Cymraeg a Saesneg ar y cyd, rhywbeth a oedd o ddiddordeb mawr i mi gan fy mod eisoes wedi ystyried gyrfa fel cyfieithydd. Un o’r prif fodiwlau a lwyddodd i’m denu i’r Adran oedd ‘Y Gymraeg yn y Gweithle’, modiwl sy’n astudio’r defnydd o’r Gymraeg yng Nghymru gyfoes. Ychydig a wyddwn bryd hynny pa mor bwysig a fyddai’r modiwl hwn i mi!

Cefais dair blynedd wych yn astudio yn Aberystwyth, ac roedd naws agos-atoch Adran y Gymraeg yn golygu fod digon ogymorth ar gael petawn ei angen. Roedd maint yr Adran yn helpu i feithrin cyfeillgarwch unigryw rhwng y staff a’r myfyrwyr, ac roedd hynny’n gaffaeliad mawr. Un o’r modiwlau rwy’n cofio ei fwynhau fwyaf oedd ‘Dafydd ap Gwilym a’i Gyfoeswyr’. Roeddwn eisoes wedi cael blas ar waith Dafydd ap Gwilym yn y chweched dosbarth, felly difyr oedd treulio’r tymor yn astudio ei waith yn fwy manwl. Cefais hefyd gyfle i ysgrifennu Traethawd Estynedig ar lenyddiaeth ychwareli: pwnc addas iawn ar gyfer merch o Ddyffryn Nantlle!

Rwyf wedi sôn eisoes am fodiwl ‘Y Gymraeg yn y Gweithle’. Dilynais y modiwl hwn yn ystod fy mlwyddyn olaf ac roedd yn ofynnol fy mod yn treulio wyth diwrnod o brofiad gwaith ar leoliad. Treuliais fy nghyfnod gyda Prysg, cwmni cyfieithu yng Nghaerdydd, gan fwynhau’r profiad yn fawr. Roedd yn gyfle i weld y Gymraeg ar waith bob dydd, yn ogystal â dysgu rhagor am waith cyfieithwyr yng Nghymru. Yn ystod fy nghyfnod yno, cefais wybod bod ycwmni yn awyddus i recriwtio cyfieithwyr newydd, ac fe es amdani. Yn dilyn prawf a chyfweliad, roeddwn yn ddigon ffodus i gael fy mhenodi, ac rwyf bellach wedi bod yn Gyfieithydd dan Hyfforddiant gyda’r cwmni ers bron i chwe mis. Pwy fyddai’n meddwl y byddai un modiwl yn f’arwain at fy swydd ddelfrydol!

Mae gen i reswm i ddiolch i’r Adran, nid yn unig am fy helpu i gychwyn ar fy ngyrfa, ond am eu cymorth a’u cefnogaeth yn ystod fy nghyfnod yn y Brifysgol. Sori Lerpwl – Aber sy’n ennill bob tro!

Llun Ffion Parrington

Ffion Mair Parrington, BA Cymraeg a Saesneg (2013)

Profiad Gwaith

[In this post, Ffion Gwen Davies blogs about her work experience with Telesgob production company as part of her assessment for the undergraduate employability module ‘Y Gymraeg yn y Gweithle’ (Welsh in the Workplace).]
A minnau’n ferch fferm â diddordeb ym materion cefn gwlad ac hefyd yn gobeithio dilyn gyrfa ym myd y cyfryngau, ble gwell i dreulio’m cyfnod o brofiad gwaith ar gyfer y modiwl ‘Y Gymraeg yn y Gweithle’ na Chwmni Cynhyrchu Telesgop?
Dwi wedi bod yn ddigon ffodus yn y gorffennol i gael gweithio ar gynyrchiadau’r Sioe Frenhinol a’r Ffair Aeaf. Er nad oedd byd ymchwilio a golygu yn ddieithr i mi, braf oedd cael blas ar strwythur swyddfa wahanol a dod i adnabod llond swyddfa o gyd-weithwyr newydd. Er hyn, rhaid cyfaddef, braf oedd cael gweld ambell i wyneb cyfarwydd wrth gyrraedd, yn enwedig ar ôl y siwrne hunllefus trwy’r gwynt a’r glaw a thagfeydd traffig yr M4.
Gan fod Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc ar y gorwel, dyma oedd fy mhrif dasg yn ystod fy nghyfnod o brofiad gwaith: ymchwilio a pharatoi ar gyfer darllediad byw Telesgop o Bafiliwn Môn. Roedd pob math o dasgau gennyf, megis pori trwy’r cystadlaethau, pecynnu eitemau llwyfan a threfnu gwesteion ar gyfer y stiwdio. Yn ffodus iawn, mae mwy o oriau darlledu gan Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc eleni ac, er bod hynny’n golygu mwy o waith i mi, mae hi hefyd yn golygu mwy o oriau o ddiddanwch a boddhad i wylwyr S4C ar nos Sadwrn yr Eisteddfod.
Cynhyrchiad arall dwi wedi bod yn gweithio arno yn ystod fy nghyfnod yma ydy’r Ŵyl Gerdd Dant a gynhaliwyd ym Mhontrhydfendigaid 9 Tachwedd. A darnau gosod yr ŵyl eleni yn dal i atseinio yn fy mhen, mae’r holl becynnau bellach yn barod ar gyfer y darllediad.

Wrth gyrraedd diwedd fy nghyfnod yma yn Nhelesgop, rhaid i mi ganmol y cyfle a roddwyd i mi gan yr Adran Gymraeg i ddilyn modiwl o’r fath, sef modiwl a gynigia’r cyfle i chi gael profiad o fywyd go iawn ac i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a gweinyddu – a hynny oll trwy gyfrwng y Gymraeg!
A chofiwch wylio rhaglen y Ffermwyr Ifanc ar nos Sadwrn 16 Tachwedd. Mwynhewch!

Ffion Gwen Davies, Rhan II, Cymraeg, Drama ac Astudiaethau Theatr

Llun Ffion Gwen