O Brofiad Gwaith i Fyd Gwaith

Mae fy nghyfnod fel Myfyrwraig Raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn prysur ddirwyn i ben, ac mae’n deimlad od iawn, mae’n rhaid dweud. Mae’r Brifysgol yma wedi chwarae rhan enfawr yn fy mywyd ers pedair blynedd bellach: dechrau fel glasfyfyriwr yn Adran y Gymraeg a phrofi tair blynedd o fwynhau, cymdeithasu â ffrindiau newydd ac, wrth gwrs, gweithio’n galed! Does dim modd gorbwysleisio pa mor glos yw’r Adran, yr ymdeimlad hynny o gyfeillgarwch rhwng myfyrwyr a darlithwyr sy’n gwneud i unrhyw fyfyriwr deimlo’n gartrefol o’r cychwyn cyntaf.

O’r diwedd daeth yn amser i ffarwelio â bywyd myfyriwr a dechrau swydd newydd fel Myfyrwraig Raddedig Dan Hyfforddiant. Cynllun blwyddyn yw hwn i leoli myfyrwyr sy’n graddio o Brifysgol Aberystwyth mewn swyddi llawn amser er mwyn eu paratoi ar gyfer y byd go iawn. Mae fy swydd i wedi’i lleoli rhwng Adran y Gymraeg a Chanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg. Rwyf wedi elwa cymaint o’r swydd, ac wedi adeiladu ar fy sgiliau, yn ogystal â meithrin sgiliau newydd sbon.

Rwyf wedi cael y cyfle i greu’r blog hwn, a chydweithio â staff a myfyrwyr yr Adran er mwyn sicrhau cyfraniadau cyson i’r blog. Ymhellach, rwyf wedi bod yn trefnu digwyddiadau megis Diwrnod Shwmae Su’mae a’r wythnos o Ddathliadau Gŵyl Dewi. Tasg ddiddorol a osodwyd i mi oedd creu basdata o ddigwyddiadau y gellid trydar amdanynt. Rhai o’r digwyddiadau sy’n sefyll yn y cof yw canmlwyddiant cychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf, canmlwyddiant geni Dylan Thomas, a’r un mwyaf cofiadwy yw darganfod bod International Toilet Day yn cwympo ar ddiwrnod fy mhen-blwydd! (19 Tachwedd i unrhyw un sydd eisiau gwybod!) Rwyf hefyd wedi bod yn cynorthwyo’r gwaith o lansio’r Cynllun Iaith Ddiwygiedig drwy greu a chyfarwyddo fideo sy’n dangos y Gymraeg ar waith ar draws y Brifysgol. Roedd creu’r fideo hwn yn brofiad gwych ac yn gyfle i mi ailymweld â sgiliau a ddysgais wrth astudio Astudiaethau Ffilm a Theledu ar lefel BA.

Erbyn hyn, rwy’n hynod o falch i ddweud fy mod wedi bod yn ffodus i dderbyn swydd newydd fel Swyddog Cymorth y Gymraeg, Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Byddaf yn cychwyn ar bennod nesaf fy ngyrfa ar 7 Gorffennaf, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at y sialens newydd.

Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch yn fawr i holl staff Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg ac Adran y Gymraeg am y cymorth a’r cyfeillgarwch yn ystod y flwyddyn ddiwethaf – rwyf wedi elwa cymaint o’ch profiad a’ch arweiniad.

Lansiad-y-CIG---gwefan

Gwenan Davies, Myfyrwraig Raddedig Dan Hyfforddiant Adran y Gymraeg a Chanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg, BA Cymraeg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu (2013)

Blog UMCA 40

UMCA 40

Os ydych yn mwynhau cerddoriaeth, hanes, Cymreictod neu bartïon pen-blwydd, Aberystwyth yw’r lle delfrydol i chi yn ystod pythefnos cyntaf mis Mehefin. I ddathlu pen-blwydd UMCA’n Ddeugain, mae’r pwyllgor wedi bod wrthi’n brysur yn trefnu digwyddiadau di-ri i’ch diddanu chi.
Ar 5 Mehefin, bydd Sŵn 40 yn gyfle i bawb fwynhau dawnsio ac yfed i gyfeiliant caneuon Cymraeg gorau y 40 mlynedd diwethaf. Mae’r noson yn gaddo fod yn un llawn hwyl tan oriau man y bore – i’r rheini sy’n goroesi!

Bydd 6 Mehefin 2014 yn aros yng nghof y genedl am byth! Dyma ddiwrnod Gŵyl UMCA 40! Bydd y rheini ohonom sy’n mynychu yn cofio’r diwrnod fel un o’r rhai gorau erioed! Bydd yr Ŵyl yn cynnwys gig yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth a bydd y canlynol yn ein diddanu – anadlwch mewn…

GERAINT LØVGREEN A’R ENW DA, Y BANDANA, VANTA, DELWYN SIÔN, CEFFYLAU LLIWGAR, BLAIDD, YR EIRA, CATRIN HERBERT, BREICHIAU HIR, GWYRYF, RADIO RHYDD, TYMBAL, Y BANDITOS, A MWY…

FFiw!

Yn bersonol rwy’n edrych ymlaen at weld Vanta yn ailffurfio a chlywed rhai o oreuon Hergest gan Delwyn Siôn, heb sôn am ymfalchïo yn y ffaith bod y bandiau yma i gyd yn gyn-aelodau UMCA! Un peth sydd bron â bod yn well na hyn i gyd yw’r ffaith fy mod yn gallu prynu tocyn am gyn lleied â £10! BARGEN!

Ers rhai wythnosau bellach, mae aelodau Pwyllgor UMCA 40 wedi bod yn paratoi Arddangosfa arbennig a gyhelir 14 Mehefin 2014 ym Mhantycelyn. Rydym wedi bod yn twrio trwy hen ffeiliau UMCA yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn gwylio hen raglenni am fyfyrwyr Aber yn yr Archif Sgrin a Sain yno. Bydd yr arddangosfa yn cynnwys archif o’r 40 mlynedd diwethaf, stondinau gan gymdeithasau sy’n cydweithio a noddi UMCA a’i dathliadau Pen-blwydd, yn ogystal â siaradwyr gwadd a darlleniadau gan feirdd. Nid wyf am ddatgelu mwy ar hyn o bryd, dewch draw i weld!

Mae’r profiad o fod ar y pwyllgor trefnu yn un bythgofiadwy i mi ac rwyf mor ddiolchgar am gael y cyfle i gyfrannu. Mae’r holl ddigwyddiadau sy’n rhan o’r dathliadau deugain yn wych a gobeithiaf eich gweld chi yno!

Bethan Walkling Rhan ll Cymraeg, Drama ac Astudiaethau Theatr. Swyddog Hysbysebu Pwyllgor UMCA 40.

Dathlu carreg filltir – RSPB – Celebrating a milestone

[The RSPB celebrates its 125th anniversary this year. Howard Williams, Phd candidate, gives us an insight into the uses of birds in Welsh poetry of the Middle Ages: from the gentlemanly pursuit of hawking to preparing birds for the pot. He also explains the metaphorical uses of birds, either to flatter noble patrons (eagles, peacocks) and their wives (gulls), or as trustworthy love messengers.]

Fel mae’r RSPB wedi cyfaddef o dro i dro, nid gwarchod adar yn uniongyrchol yw eu prif rôl, er gwaethaf eu henw, ond gwarchod cynefinoedd lle gall adar ffynnu. Ac felly gyda theimladau cymysg bydden nhw’n edrych ar Gymru’r Oesoedd Canol: fe fydden nhw’n cymeradwyo’r dirwedd amrywiol a diffyg ffermio dwys ond yn dychryn wrth sylweddoli bod pawb bron yn arfer ymateb i aderyn prin trwy geisio ei fwyta. Ond, pa resymau bynnag oedd ganddynt, o leiaf roedd pobl y cyfnod yn cymryd cryn dipyn o ddiddordeb mewn adar. Roedd eu barddoniaeth yn ddrych i hynny ac yn rhyfeddol o amrywiol: tua thrigain o rywogaethau sy’n hedfan trwy’r cerddi. Dyma ychydig o esiamplau i gynnig blas bychan ar yr arlwy.
Un o ddiddordebau mawr y boneddigion, a oedd yn gyfrifol am gynnal y beirdd proffesiynol, oedd heboca ac, yn ei sgil, gyfnewid adar hela â’i gilydd. Achubai’r beirdd ar y cyfle i lunio cerddi yn gofyn i un uchelwr am aderyn fel anrheg (‘gosawg’ neu hebog tramor fel arfer) dros uchelwr arall. Yn ogystal â moli’r uchelwyr (a gobeithio cael dau ddogn o nawdd am un gerdd) mae’r beirdd yn cynnwys disgrifiadau manwl a dychmygus o’r gweilch hyn. Cynhwysir hefyd restrau go ffansïol o’r prae y byddai’r aderyn yn arfer ei ddal megis adar y bwn, crehyrod a garanod (cranes!) – a phob un ar eu ffordd i’r pot. Mae cerddi tebyg i ofyn am elyrch a pheunod wedi goroesi ac ynddynt, ar ôl cyfleu’n grefftus harddwch ac urddas yr aderyn, mae ambell i fardd yn mentro awgrymu rysáit bach a’r math gorau o win i’w hebrwng.
Byddai sawl math o aderyn yn cael eu hanfon hefyd at ferched fel negeswyr serch, megis gwylan ac ehedydd Dafydd ap Gwilym. Yn ddiweddarach, fe’u gyrrid at noddwyr i’w seboni a hyd yn oed at gyfeillion i dynnu eu coesau. Personoli adar oedd y fath ganu wrth gwrs ond ar ôl llyncu’r rhagdybiaeth ffantasïol hon gallwn weld yn aml ryw bwyslais ar ymarferoldeb, a hynny wrth ddewis aderyn sy’n gymwys i’r dasg sy’n ei wynebu, rhoi cyfeiriadau iddo a’i rybuddio rhag cael ei ddal mewn un ffordd neu’i gilydd gan helwyr.
Mae adar yn cael eu defnyddio’n aml gan y beirdd fel trosiad. Yn wir, anodd dod o hyn i gerdd o fawl neu ddychan heb gyfeiriad o’r fath. Nid yw llawer o’r trosiadau yn peri syndod, megis galw noddwr yn eryr a galw canwr (neu fardd) yn eos, ond mae sawl un yn fwy annisgwyl. Roedd tebygu rhywun i’r aderyn, iconaidd bellach, sy’n hedfan yn osgeiddig uwch tir Cymru, sef y barcud coch, yn fodd o’i sarhau, yn enwedig y newydd-ddyfodiad a oedd yn ceisio ymuno â rengoedd y boneddigion (er bod y beirdd yn ddigon parod i ffugio ach iddo mewn byr o dro). Ffordd o ganmol uchelwr, heb arlliw o awgrym ei fod yn ffroenuchel neu’n narsisaidd, oedd ei alw’n baun, a gwylan oedd ei wraig heb ensynio ei bod hithau’n drachwantus neu’n haerllug.
Adloniant poblogaidd oedd barddoniaeth yn yr Oesoedd Canol a byddai’r RSPB yn cenfigennu at faint o sylw a gafodd adar ynddi.

Howard Williams, ymgeisydd PhD sydd wrthi ar hyn o bryd yn gorffen traethawd ar adar yng ngwaith y cywyddwyr.