Hybu a hyrwyddo’r Gymraeg

Mae myfyrwyr y Gymraeg weithiau’n clywed cwestiynau tebyg i ‘pam astudio’r Gymraeg?’ neu ‘bydd yr iaith yn marw’ a.y.y.b. Mae cwestiynau fel hyn yn ein diflasu oherwydd mae astudio’r Gymraeg ar lefel uwch yn werthfawr a dylem groesawu pobl eraill.
Nid yw’r broses o ddysgu iaith yn dod i ben ac mae’n rhaid gweithio tuag at wella drwy’r amser. Y ffordd hawsaf o wneud hyn yw siarad ac ymarfer. Mae’n haws ymarfer yr iaith mewn ardal fel Aberystwyth, ond yng Ngwent, fy ardal enedigol, mae angen chwilio am gyfleoedd.
Ar ôl gadael Aberystwyth yn 2014, roeddwn yn gweithio fel Swyddog Ieuenctid yn Sir Fynwy ac yna fel swyddog maes Menter Iaith BGTM (Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy). Mae’r ardal hon yn enfawr, felly fi sy’n gyfrifol am ardaloedd Blaenau Gwent a Gogledd Sir Fynwy. Hyd yn hyn, rwy’n mwynhau fy swydd ac yn mwynhau cryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg i gymuned Gymraeg yr ardal. Mae cymunedau Cymraeg yr ardaloedd hyn yn fwy cuddiedig na chymunedau ieithyddol y Gogledd a’r Gorllewin, ac mae ein cymunedau ni’n gymysgedd da o Gymry Cymraeg a dysgwyr – o bedwar ban y byd!
Un peth sy wedi fy ngwylltio yw’r term ‘ail iaith’ ar gyfer dysgwyr neu bobl sy’n dod o deuluoedd sy’n defnyddio iaith arall. Credaf ei bod yn creu hollt yng nghymunedau’r Gymraeg. Weithiau, nid wyf yn siŵr am y term ‘dysgwr’ chwaith, oherwydd rwyf wedi bod yn dysgu, rwy’n dal i ddysgu, ond er hynny rwyf wedi cyrraedd pwynt lle gallaf weithio a gweinyddu trwy’r Gymraeg.
Yn fy ngwaith presennol, rwy’n gweithio gyda phobl o bob oedran, ac mae cyfle i gyflwyno’r syniad i deuluoedd eu bod yn gallu addysgu eu plant trwy gyfrwng y Gymraeg a rhoi sgil a phrofiad iddynt na dderbyniais i yn yr ysgol. Mae fy nghyfrifoldebau’n cynnwys darparu cyrsiau i deuluoedd ar sut y gallant ddefnyddio’r Gymraeg yn achlysurol yn y cartref, a threfnu digwyddiadau dysgu anffurfiol, er enghraifft boreau coffi, a hyd yn oed mynd i’r dafarn am gwrw a chlonc. Rwyf wedi darparu sesiynau amser stori i fabanod hefyd. Nawr, cofiwch fod y teuluoedd hyn, fel arfer, yn deuluoedd Saesneg, ond mae cyfle gyda fi i gyflwyno bywyd newydd a ffordd newydd i’w plant. Mae’r penderfyniad yn gallu bod yn un anodd iddynt ac, yn ddealladwy, mae nhw’n ofni sut y gallant ymdopi. Felly, mae’n bwysig peidio â defnyddio termau fel ‘ail iaith’ er mwyn hyrwyddo mynediad i’r cyfleoedd hyn.
Rwyf yn credu bod gobaith, ond efallai y bydd yn rhaid i ni groesawu pobl mewn ffordd wahanol wrth gyflwyno’r iaith a’i diwylliant fel carreg gamu i’n Cymru fodern?
Nid wyf am bregethu ynghylch sut i ymdrin â phobl, ond rhaid cofio bod gan bawb hawl i’r iaith. Rwyf yn credu ei bod yn bwysig trafod y pethau hyn, yn enwedig ymysg yr ifainc, oherwydd ni yw’r bobl sy’n dylanwadu ar y genhedlaeth nesaf.

Hannah Roberts

Hannah Roberts, BA Cymraeg

Cenhedlaeth newydd yn cofio cyn-fyfyriwr: Gwilym Williams B.A. (1890–1916)

Union gan mlynedd i heddiw, 22 Mai 1916, claddwyd Gwilym Williams, mab fferm Nant-yr-afr Fawr, Tre-lech a’r Betws sir Gaerfyrddin ym mynwent Merville, Ffrainc. Mae aelodau o’i deulu yn nodi’r canmlwyddiant trwy ymweld â’i fedd yn Ffrainc y penwythnos hwn.

Roedd Gwilym yn un o raddedigion Adran y Gymraeg, Aberystwyth ac yn fardd ifanc addawol. Enillodd nifer o gadeiriau eisteddfodol, gan gynnwys Cadair Eisteddfod y Brifysgol ym 1912: ‘Gwanwyn Bywyd’ oedd teitl ei bryddest fuddugol a T. Gwynn Jones fu’n beirniadu’r gystadleuaeth.

Gwilym Williams

Gwilym Williams

Graddiodd Gwilym gydag anrhydedd yn 1913 a mynd i ddysgu am dymor yn Ysgol Ganolradd y Drenewydd ac yna Ysgol Ramadeg Brenhines Mary, Walsall ger Birmingham. Yng Ngorffennaf 1915 ymunodd â’r fyddin a chael ei wneud yn is-Gapten ar 17 Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Hwyliodd y bataliwn i Ffrainc ym mis Rhagfyr, ac ym mis Mai 1916 roedd Gwilym ar flaen y gad yn Fauquissart. Cafodd ei glwyfo yn ei wddf gan fwled ddydd Sadwrn 20 Mai a bu farw drannoeth yn yr ysbyty ym Merville. Claddwyd Gwilym ym Mynwent Merville 22 Mai 1916; roedd yn chwech ar hugain oed.

Un o’r rhai a fu’n galaru am Gwilym oedd ei ffrind, Jane Helen Rowlands o Borthaethwy a fu’n fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol Bangor ac a gysegrodd ei bywyd i waith cenhadol. Daeth yn ysgolhaig Bengali adnabyddus hefyd.

Mae llythyrau sydd ym meddiant y teulu yn tystio i’r berthynas glos rhwng y ddau wedi iddynt gyfarfod fel aelodau o staff Ysgol Ganolraddol Y Drenewydd. Yn wir, cred Hefin Wyn M.A. fod a wnelo penderfyniad Helen Rowlands i fynd yn genhades â phenderfyniad annisgwyl Gwilym i wirfoddoli i ryfela.

Yng ngeiriau Hefin Wyn:
“Arferai ‘Helen o Fôn’, fel y’i hadwaenid, anfon llythyrau o Assam at y teulu bob mis Mai am flynyddoedd wedi marwolaeth Gwilym yn sôn am ei serchiadau tuag ato. ‘Dyma’r bachgen mwyaf pur ei galon a adnabum erioed’ meddai mewn un llythyr. Rhaid dod i’r casgliad mai calon ddrylliedig oedd wedi anfon Wncwl Gwilym i faes y gad. Roedd ei englyn ffarwel i’w gariad yn brawf o’r ing a deimlai:

Draw i randir yr India – mae Helen
Am hwylio o Walia;
O’n golwg ni. O gwylia
Hi dros y dŵr, Iesu da.”

Cofio Gwilym Williams
Roedd Gwilym Williams yn hen ewythr i Hefin Wyn a chynhaliwyd digwyddiad arbennig i gofio Gwilym 18 Mai 2016 yn Yr Hen Goleg lle bu’n fyfyriwr. Braf oedd cael croesawu Hefin Wyn ac aelodau eraill o deulu Gwilym i’r digwyddiad.

Arweiniwyd y digwyddiad gan Hefin Wyn a thraddododd ddarlith arbennig a oedd yn ffrwyth ymchwil a hanes llafar y teulu: ‘O Nant-yr-afr i Merville: cofio Gwilym Williams B.A. 1890–1916’. Collwyd cymaint o ddynion a bechgyn ifanc yn ystod y Rhyfel Mawr ac mae dysgu am hanes unigolion fel Gwilym Williams yn fodd i amgyffred y golled i deuluoedd, i gymunedau ac i’r genedl.

Trefnwyd arddangosfa fach o fywyd a gwaith Gwilym Williams i gyd-fynd â’r digwyddiad, gan gynnwys Cadair Eisteddfod y Brifysgol 1912, llun o Gwilym yn ei lifrai milwrol, ynghyd â llythyrau amrywiol o’i eiddo. Roedd yr arddangosfa’n cynnwys y ddau lythyr olaf a ysgrifennodd o’r ffosydd 18 Mai 1916, teyrnged iddo gan D. J. Williams ynghyd â dogfennau a lluniau o’i gyfnod fel myfyriwr yn Aberystwyth.

I gloi’r digwyddiad, bu staff a myfyrwyr presennol yr Adran yn darllen detholiad o gerddi Gwilym o’r gyfrol goffa Dan yr Helyg (1917), ynghyd â cherddi newydd a ysbrydolwyd gan stori rymus y cyn-fyfyriwr. Gellir darllen cerddi Gwilym ar-lein gan fod y gyfrol bellach ar gael yn ddigidol ar wefan Cymru1914 Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Dan yr Helyg (1917) ar wefan Cymru1914.

Gwilym Wms darlleniadau
(O’r dde i’r chwith: Hefin Wyn, Eurig Salisbury, Endaf Griffiths, Iestyn Tyne, Marged Tudur a Miriam Elin Jones)

Diolch o galon i Amgueddfa Ceredigion am fenthyca’r casys arddangos hardd a ddefnyddiwyd yn yr arddangosfa.

Gwobr Goffa Vernam Hull Memorial Prize

[This post congratulates Dr Richard Glyn Roberts, a new member of staff, who was recently awarded the Vernam Hull Memorial Prize for his scholarly edition and discussion of the collection of proverbs in the iconic medieval manuscript Llyfr Coch Hergest (The Red Book of Hergest): Diarhebion Llyfr Coch Hergest (2013). The Ellis Grifiths Memorial Prize was awarded to Dr Rhiannon Marks, graduate of the Department of Welsh and Celtic Studies at Aberystwyth, and lecturer at the School of Welsh, Cardiff University]

Llongyfarchiadau calonnog i’n cydweithiwr newydd Dr Richard Glyn Roberts, enillydd Gwobr Goffa Vernam Hull. Dyfernir Gwobr Goffa Vernam Hull am waith cyflawn sy’n ymwneud â Rhyddiaith Gymraeg cyn 1700, a derbyniodd Richard y wobr am ei gyfrol Diarhebion Llyfr Coch Hergest (Aberystwyth: CMCS, 2013). Ceir yn y gyfrol y golygiad cyntaf o’r casgliad o ddiarhebion a gedwir yn y llawysgrif ganoloesol Gymraeg bwysig, Llyfr Coch Hergest, ynghyd ag astudiaeth o’r deunydd diddorol hwnnw. Mae ei ymchwil i baremioleg, sef diarhebion, yn parhau… Mae ef ar hyn o bryd yn golygu casgliad diarhebion William Salesbury a Gruffydd Hiraethog, Oll Synnwyr pen Kembero ygyd (1547), sef yr ail lyfr printiedig yn y Gymraeg. Bydd myfyrwyr Rhan 2 yr Adran yn mwynhau darlithiau Richard ar William Salesbury ar y modiwl ‘Y Gymraeg: iaith dysg a chymdeithas’.
Screen Shot 2015-10-06 at 22.34.00
Hefyd, dyfarnwyd Gwobr Goffa Ellis Griffiths 2014 i Dr Rhiannon Marks, un o raddedigion yr Adran hon a darlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Derbyniodd Rhiannon y wobr am ei chyfrol ‘Pe gallwn, mi luniwn lythyr’: golwg ar waith Menna Elfyn (Gwasg Prifysgol Cymru, 2013), cyfrol feirniadol arbrofol sy’n dehongli cerddi Menna Elfyn ac yn trafod ein perthynas â llenyddiaeth.

Llongyfarchiadau i Richard a Rhiannon!

Gweinyddir a dyfernir y gwobrau gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.
Darllenwch y stori lawn yma

‘Mentro Meifod’: ap Cymraeg newydd

[In this post Eiri Angharad Siôn, a graduate of Professional Welsh, discusses how a BA module on Welsh literary heritage inspired her to undertake further study for an MPhil. Her research, funded by KESS (Knowledge Economy Skills Scholarships) and in collaboration with Geosho, involves the production of an exciting new mapping app, ‘Mentro Meifod’, which gives users access to literary and cultural walks in four fascinating locations in Montgomeryshire.] 

Yn ystod tair blynedd ddymunol iawn yn astudio Cymraeg Proffesiynol yn Adran y Gymraeg yma ym Mhrifysgol Aberystwyth cefais y cyfle i astudio modiwlau blaengar a chyffrous. Roedd ‘Trosi ac Addasu’ yn rhoi blas ar gyfieithu a golygu gwaith printiedig; ‘Cymraeg yn y Gweithle’ yn rhoi cyfle i brofi ychydig o fywyd yn y byd gwaith go iawn, a fy hoff fodiwl – a dyma oedd y gwir ysgogiad i mi fynd ymlaen i wneud MPhil a dweud y gwir – ‘Bro a Bywyd’, modiwl a oedd yn rhoi’r  cyfle i ddehongli treftadaeth lenyddol y Cymry. Fel rhan o’r modiwl hwn roeddem yn ystyried gwerth treftadaeth lenyddol Cymru a sut y gallwn ei defnyddio er mwyn hybu’r economi leol. Cefais greu prosiect o’m dewis, ac fe gynhyrchais lyfryn cryno am hanes llenyddol Sir Drefaldwyn. Wedi cael blas ar hynny roeddwn yn awyddus i ymchwilio ymhellach i lenyddiaeth a hanes yr ardal, a hefyd i ganfod y ffordd orau o ddarparu’r fath ddeunydd mewn modd hygyrch i gynulleidfa heddiw.

Bûm yn ddigon lwcus i gael fy ariannu i wneud y gwaith ymchwil hwn gan KESS (Knowledge Economy Skills Scholarships), Rhaglen Gydgyfeirio Ewropeaidd sy’n cyllido gwaith ymchwil MPhil a PhD yng Ngorllewin Cymru ac yn y Cymoedd. Mae’r cyrsiau hyn yn gofyn i fyfyrwyr gydweithio â chwmni preifat wrth wneud eu hymchwil, a deuthum ar draws cwmni Geosho o Gaernarfon sy’n arbenigo mewn creu apiau mapio. Fel rhan o’m gwaith ymchwil i ddarpariaeth deunydd treftadol, cefais gyfle i gynhyrchu fy ap fy hun gyda chwmni Geosh, sef ‘Mentro Meifod’, a thrwy hynny gael cyfle i ddysgu mwy am faes mapio diwylliannol creadigol yn gyffredinol.

Ap o deithiau cerdded llenyddol a diwyllianol mewn pedwar man yn Sir Drefaldwyn yw’r ap rwyf wedi bod yn gweithio arno. Dewisais yr ardal hon am amryw resymau, yn bennaf am mai yn Sir Drefaldwyn y byddai’r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal eleni, ond hefyd am fod gen i gysylltiadau teuluol â’r ardal ac am fy mod yn frwdfrydig i ddysgu mwy am ei hanes. Cafodd yr ap ei lansio ar Ddydd Llun yr Eisteddfod, ac roedd cyfle i’r cyhoedd ei lawrlwytho a dilyn y teithiau yn ystod yr wythnos. Mae’r teithiau eu hunain yn gweithio gyda thechnoleg GPRS ac felly nid oes angen signal ffôn (elfen bwysig wrth ystyried eu bod wedi’u lleoli mewn ardal wledig a diarffordd), ac wrth i chi ddilyn map pob taith gerdded mae gwybodaeth am yr hyn sydd o’ch cwmpas a hanes yr ardal yn ymddangos ar sgrîn y ffôn, gyda lluniau a chlipiau sain o gerddi neu gerddoriaeth berthnasol.

Fy nghobaith wrth gynhyrchu ap o’r fath oedd mesur gwerth y math hwn o beth, gan ystyried a allai arwain at greu mwy o ddiddordeb yn llenyddiaeth a threftadaeth Cymru – efallai ymhlith cynulleidfa wahanol i’r un a fyddai’n ymddiddori yn y pwnc yn draddodiadol, megis pobl ifanc neu ddi-Gymraeg. Yn sicr gwelaf botensial ar gyfer hybu twristiaeth ddiwylliannol yn y math hwn o brosiect. Wrth i wyliau diwylliannol a theithiau cerdded ddod yn fwyfwy poblogaidd, mae cyfle i ni fel Cymry fachu ar y cyfle a gwneud yn fawr o’n hanes a’n diwylliant cyfoethog a hybu’r economi leol yn sgil hynny. Mae’r ap hwn yn un cwbl ddwyieithog (gan gynnwys cyfieithiadau o’r cerddi), a theimlaf fod potensial i greu fersiwn i ddysgwyr ac i blant hefyd. Mae peryg i Gymru gael ei gadael ar ei hôl pan ddaw at ddeunydd digidol a thechnolegol, ac mae angen manteisio ar unrhyw gyfle i sicrhau ein bod yn defnyddio’r platfform er ein budd ni. Er mwyn lawrlwytho’r Ap ewch at: www.mentromeifod.co.uk

Eiri Angharad Siôn, BA Cymraeg Proffesiynol

Mentro Meifod

Ymchwil newydd ar T. H. Parry-Williams: Dr Bleddyn Owen Huws yn Llundain

[This post recounts a lecture by Dr Bleddyn Owen Huws to the Honourable Society o Cymmrodorion in London in which he imparted new research about the controversy surrounding the recommendation in 1919 that T. H. Parry-Williams be given a professorship.]

Daeth torf sylweddol ynghyd i wrando ar y Dr Bleddyn Owen Huws yn traddodi darlith Gymraeg Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn Swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar Stryd Victoria yn Llundain. Roedd gan Adran y Gymraeg gynrychiolarth gref yno gan mai’r Dr Adrian Morgan, un o gyn-fyfyrwyr ymchwil yr Adran oedd yn y gadair, a’r Athro Gruffydd Aled Williams, Athro Emeritws y Gymraeg a chyn-bennaeth yr Adran, oedd yn rhoi’r diolchiadau.

Ffurfiwyd y Gymdeithas yn Llundain yn 1751 ac, yn unol ag amcanion ei sefydlwyr, mae’r Gymdeithas yn parhau i gyfarfod yn gyson hyd heddiw er mwyn hyrwyddo a datblygu Iaith, Llenyddiaeth, Celfyddydau a Gwyddorau Cymru. Ceisia fynd i’r afael â phynciaullosg Cymru ddoe, heddiw ac yfory. Yn y gorffennol, gwnaeth y Gymdeithas gyfraniad blaenllaw i greu sefydliadau fel Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Prifysgol Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol a’r Amgueddfa Genedlaethol. Heddiw, mae’r Gymdeithas yn parhau i wneud cyfraniad pwysig i drafodaethau gwleidyddol a diwylliannol yng Nghymru.

Pwnc darlith Dr Huws oedd ‘T. H. Parry-Williams a Helynt y Gadair Gymraeg yn Aberystwyth yn 1919–1920’.  Mae’r helynt yn wybyddys i bawb sydd â diddordeb yn y maes, ond dangosodd y ddarlith beth oedd maint y gwrthwynebiad tuag at Parry-Williams yn y wasg Gymreig. Fe’i erlidiwyd gan nifer o’i elynion – cymrodyr yn y Rhyfel Mawr, Esgob Tyddewi a phobl tref Aberystwyth a lofnododd ddeiseb yn erbyn penodi Parry-Williams yn Athro ac o blaid Timothy Lewis, a oedd wedi gwasanaethu ei Frenin a’i wlad. Roedd llawer o’r sylw a gafodd yn y wasg yn gyfan gwbl anheg.

Roedd y ddarlith yn un afaelgar a chofiadwy a bu canmol mawr ymhlith y rhai a ddaeth ynghyd i fwynhau’r arlwy. Mae ddarlith ar gael fel podlediad ar wefan y Gymdeithas ac fe fydd copi printiedig yn ymddangos yn Nhrafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (2014).

Am fanylion pellach, ewch i wefan y Cymmrodorion.

 

Yn y llun: Yr Athro Gruffydd Aled Williams; Yr Athro Prys Morgan; Dr Bleddyn Owen Huws; Mrs Delyth Huws; a'r Dr Adrian Morgan. Tynnwyd yn yr Army and Navy Club, Pall Mall.

Yn y llun: Yr Athro Gruffydd Aled Williams; Yr Athro Prys Morgan; Dr Bleddyn Owen Huws; Mrs Delyth Huws; a’r Dr Adrian Morgan. Tynnwyd yn yr Army and Navy Club, Pall Mall.

Llongyfarchiadau!

Cafodd staff Adran y Gymraeg broblem bleserus eleni, sef dyfarnu gwobrau adrannol i’n myfyrwyr. Ar ôl cryn ddadlau a bargeinio, dyma’r enwau a ddaeth i’r brig mewn blwyddyn arbennig o dda. Llongyfarchiadau arbennig i bob un ohonynt, ac i bawb a lwyddodd yn yr arholidau eleni.

Gwobr Thomas ac Elizabeth Maelgwyn Davies

H. Gwilym Tudur

Gwobr Thomas ac Elisabeth Evans mewn Gwyddeleg

Hynek Janousek

Gwobr yr Athro Thomas Jones

S. Fflur Rhys

Gwobr T.E. Nicholas

Marged Tudur, Llinos Haf Jones a S. Fflur Rhys

Gwobr y Gyngres Geltaidd

Siân Mererid Jones

Ysgoloriaeth Gymraeg Cynddelw

Manon Elin James, Anna Powys a Rhodri Siôn

Ysgoloriaeth Syr Thomas Parry-Williams

Marged Tudur, Megan Elenid Lewis a Mared Grug Llywelyn

Gwobr Bunford

Shannon Parker

Gwobr Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth

Miriam Glyn

Llwyfannu ymchwil Lowri Morgans – ‘Ectoplasm’ – Staging Lowri Morgans’s research

[Llanelli Eisteddfod 2014 promises to be extra special for Lowri Morgans who gained her PhD at the Department of Welsh Aberystwyth this summer… This post tells of the way in which Lowri’s research on body language and gesture in Medieval Welsh literature has impacted on the work of Jon Gower (author and broadcaster) and Eddie Ladd (performer): ‘Ectoplasm’ will be performed during the Eisteddfod at Tinopolis’s Theatre, 20.00, 7 & 8 August.]

Bydd Eisteddfod Llanelli 2014 yn un arbennig iawn i Lowri Morgans…

Enillodd Lowri radd PhD o Adran Y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth eleni. Mae hi bellach yn darlithio yn y Gymraeg i fyfyrwyr Lefel A yng Ngholeg Sir Gâr, Llanelli. Pwnc ei hymchwil oedd ‘Ymdriniaeth ag ystum ac ymddygiad yn y Gymru ganoloesol c.700-c.1500’. Roedd Lowri yn ymchwilio i enghreifftiau o iaith y corff yn y chwedlau Cymraeg a barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, gan edrych ar hanes y gusan, cofleidio, ystumiau dwylo ac ystumiau wynebol.
Ym mis Mai eleni darlithiodd ar y pwnc yn Fforwm Beirdd yr Uchelwyr, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru: ‘Iaith y Corff yng Ngwaith Beirdd yr Uchelwyr’. Roedd cryn ddiddordeb yn y ddarlith a gofynnwyd i Lowri drafod ei gwaith ar raglen Dei Tomos ar Radio Cymru.

Clywyd yr eitem gan yr awdur a’r darlledwr Jon Gower, ac roedd am ddefnyddio gwaith Lowri ar gyfer rhan o’r sioe theatr ‘Ectoplasm’:

Tyfodd y sioe ‘Ectoplasm’ allan o ddymuniad ar ran Eddie Ladd a minnau i wneud mwy o waith creadigol ar gyfer y theatr yn Gymraeg, a hynny’n dilyn mwynhau nifer o weithiau Theatr Genedlaethol llynedd. O’n safbwynt innau roeddwn am gael sgwrs eto gyda fy nhad-cu, Thomas John Gower bu fawr ddeugain mlynedd yn ôl ac felly rydym am ei atgyfodi yn y sioe, gan ddefnyddio sgiliau pypeda elfennol iawn. Roeddwn hefyd yn chwilio am ddeunydd byddai’n sbarduno dychymyg Eddie pan glywais Lowri Morgans yn siarad ar raglen Dei Tomos ar Radio Cymru ynglŷn â’i gwaith ymchwil ar ieithwedd y corff yng ngwaith beirdd megis Dafydd ap Gwilym. Swniodd hyn yn ffynhonnell berffaith ac wedi darllen darlith Lowri ar y testun roedd yn benderfyniad hawdd i ‘w ddefnyddio fel sail i ran o’r sioe. (Jon Gower)

Bydd y sioe theatr ‘Ectoplasm’ yn cael ei pherfformio yn Stiwdio Tinopolis nos Iau (7 Awst) a nos Wener (8 Awst) am 20.00. Tocynnau £10 (a gostyngiadau £8). Croeso cynnes i bawb!

Lowri

 
Lowri Morgans, PhD, BA Cymraeg

Cadair Eisteddfodol 1912 Eisteddfodic Chair

Daeth ymwelydd arbennig iawn i’r Adran 4 Mehefin, sef Hefin Wyn. Mae Hefin Wyn yn gynfyfyriwr i ni ac roedd yn teithio i Aber am reswm penodol iawn.

Rydym fel Adran yn ffodus iawn bod Hefin Wyn a’i deulu wedi penderfynu cyflwyno cadair eisteddfodol a phortread o’i hen ewythr, Gwilym Williams, i’n gofal.

Roedd Gwilym yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth ac yn gynfyfyriwr yn yr Adran. Profodd ei fod yn fardd medrus trwy ennill nifer o gadeiriau eisteddfodol, gan gynnwys Cadair Eisteddfod y Brifysgol, 1912 a feirniadwyd gan T. Gwynn Jones, darlithydd yn yr Adran ar y pryd.

Wedi i Gwilym raddio yn 1913 bu’n gweithio fel athro yn Ysgol Ganolraddol Y Drenewydd, lle cyfarfu â Jane Helen Rowlands, athrawes Ffrangeg. Mae’n debyg i’r ddau gwympo mewn cariad, ond penderfynodd Helen gysegru ei bywyd i waith cenhadol dramor. Dyma englyn a ysgrifennwyd gan Gwilym i ddymuno’n dda iddi:

Draw i randir yrIndia – mae Helen
Am hwylio o Walia;
O’n golwg ni, O gwylia
Hi dros y dŵr, Iesu da.

(Dan yr Helyg, 1917, t. 103)

Yn 1915, er nad oedd gorfodaeth arno, penderfynodd Gwilym ymuno â’r fyddin, a chafodd ei wneud yn Is-gapten gyda’r Ffiwsilwyr Cymreig. Yn ystod ei gyfnod yn hyfforddi yn Rhuddlan anfonai lythyrau at ei deulu ac at Helen hefyd. Anfonwyd ef i faes y gad fis Ebrill 1916 ac ar fore Sadwrn 20 Mai derbyniodd ei rieni luniau ohono yn ei lifrai milwrol. Heb yn wybod i’w deulu, cafodd Gwilym ei glwyfo yn ystod oriau mân y bore hwnnw a bu farw yn gynnar fore Sul 21 Mai. Claddwyd ef drannoeth, Ddydd Llun 22 Mai, a’r pnawn hwnnw derbyniodd ei deulu frysneges yn cadarnhau bod Gwilym wedi marw. Dyma a ddywedodd y Capten wrth dalu teyrnged i ddewrder y bardd ifanc:
Gwnâi filwr da, cofiaf iddo ddwedyd wrthyf un min nos, ill dau yn dyheu am gael byw i weld y rhyfel ’ma drosodd. ‘And yet,’ meddai, ‘there’s a certain romance in dying Young, and dying for your country’.

Cyhoeddwyd cyfrol goffa i Gwilym gan ei deulu yn 1917, sef Dan yr Helyg. Mae’r gyfrol yn cynnwys ei gerddi, rhai darnau o ryddiaith, yn ogystal â rhai englynion gan ei frawd John. Mae’r bryddest ‘Gwanwyn Bywyd’ hefyd i’w chael rhwng cloriau’r gyfrol, sef y gerdd a enillodd iddo Gadair Eisteddfod Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, 2 Mawrth 1912. Cerdd yw hon sy’n ein tywys drwy fywyd plentyn o’r crud, gan wneud defnydd effeithiol o’r misoedd a’r tymhorau i gyfleu treigl amser. Dyma flas ohoni:

Tegach fil na blodau’r byd
Ydyw llewych wyneb plentyn,
A phereiddiach miri’r crud
Na thelori’r un aderyn.

Mae’i galon dyner mor santaidd wyn
A’r alaw wylaidd ym min y llyn.

Cyn laned ydyw ei feddwl ef
A’r ôd pan ddelo i lawr o’r nef.

Fyd, na fydd euog o wneuthur cam
Ag eilun calon ei dad a’i fam.

Ni fydd lonydd Gwener wen
Onis dwg i wŷdd ei feinwen,
Ac i ddwy gymylog nen
Wedi cawod daw yr heulwen;
Fraich ymraich hyd lwybrau’r allt
Gwyra’r ddau yng ngwynfa cariad,
Cusan, gwen a deigryn hallt
Ydyw iaith hyotla’u teimlad.

Gyda gwellt neu blu’n ei phig
Mae Mehefin wedi dyfod,
Medd mwyalchen yn y wig,
Medd y wennol dan y bargod;
Moliant haf a gan pob un
Pan fo lawn y pebyll bychain,
Moli’r haf mae mab a mun
Ar eu haelwyd fach ei hunain.

Hoffai Adran y Gymraeg a Phrifysgol Aberystwyth ddiolch i deulu Gwilym Williams am gyflwyno’r gadair, y portread a llythyrau Gwilym Williams i’w gofal. Gobaith diffuant yr Adran yw y bydd y rhoddion hyn yn parhau’r cof am Gwilym Williams a’i farddoniaeth ymhlith ei myfyrwyr. Bydd Llyfrgell Hugh Owen yn trefnu arddangosfa arbennig i goffáu canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Mawr, a bydd gan Gwilym Williams le anrhydeddus yn yr arddangosfa honno.

Gwenan Davies, Myfyrwraig Raddedig Dan Hyfforddiant Adran y Gymraeg a Chanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg, BA Cymraeg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu (2013)

O Brofiad Gwaith i Fyd Gwaith

Mae fy nghyfnod fel Myfyrwraig Raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn prysur ddirwyn i ben, ac mae’n deimlad od iawn, mae’n rhaid dweud. Mae’r Brifysgol yma wedi chwarae rhan enfawr yn fy mywyd ers pedair blynedd bellach: dechrau fel glasfyfyriwr yn Adran y Gymraeg a phrofi tair blynedd o fwynhau, cymdeithasu â ffrindiau newydd ac, wrth gwrs, gweithio’n galed! Does dim modd gorbwysleisio pa mor glos yw’r Adran, yr ymdeimlad hynny o gyfeillgarwch rhwng myfyrwyr a darlithwyr sy’n gwneud i unrhyw fyfyriwr deimlo’n gartrefol o’r cychwyn cyntaf.

O’r diwedd daeth yn amser i ffarwelio â bywyd myfyriwr a dechrau swydd newydd fel Myfyrwraig Raddedig Dan Hyfforddiant. Cynllun blwyddyn yw hwn i leoli myfyrwyr sy’n graddio o Brifysgol Aberystwyth mewn swyddi llawn amser er mwyn eu paratoi ar gyfer y byd go iawn. Mae fy swydd i wedi’i lleoli rhwng Adran y Gymraeg a Chanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg. Rwyf wedi elwa cymaint o’r swydd, ac wedi adeiladu ar fy sgiliau, yn ogystal â meithrin sgiliau newydd sbon.

Rwyf wedi cael y cyfle i greu’r blog hwn, a chydweithio â staff a myfyrwyr yr Adran er mwyn sicrhau cyfraniadau cyson i’r blog. Ymhellach, rwyf wedi bod yn trefnu digwyddiadau megis Diwrnod Shwmae Su’mae a’r wythnos o Ddathliadau Gŵyl Dewi. Tasg ddiddorol a osodwyd i mi oedd creu basdata o ddigwyddiadau y gellid trydar amdanynt. Rhai o’r digwyddiadau sy’n sefyll yn y cof yw canmlwyddiant cychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf, canmlwyddiant geni Dylan Thomas, a’r un mwyaf cofiadwy yw darganfod bod International Toilet Day yn cwympo ar ddiwrnod fy mhen-blwydd! (19 Tachwedd i unrhyw un sydd eisiau gwybod!) Rwyf hefyd wedi bod yn cynorthwyo’r gwaith o lansio’r Cynllun Iaith Ddiwygiedig drwy greu a chyfarwyddo fideo sy’n dangos y Gymraeg ar waith ar draws y Brifysgol. Roedd creu’r fideo hwn yn brofiad gwych ac yn gyfle i mi ailymweld â sgiliau a ddysgais wrth astudio Astudiaethau Ffilm a Theledu ar lefel BA.

Erbyn hyn, rwy’n hynod o falch i ddweud fy mod wedi bod yn ffodus i dderbyn swydd newydd fel Swyddog Cymorth y Gymraeg, Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Byddaf yn cychwyn ar bennod nesaf fy ngyrfa ar 7 Gorffennaf, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at y sialens newydd.

Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch yn fawr i holl staff Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg ac Adran y Gymraeg am y cymorth a’r cyfeillgarwch yn ystod y flwyddyn ddiwethaf – rwyf wedi elwa cymaint o’ch profiad a’ch arweiniad.

Lansiad-y-CIG---gwefan

Gwenan Davies, Myfyrwraig Raddedig Dan Hyfforddiant Adran y Gymraeg a Chanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg, BA Cymraeg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu (2013)

Blog UMCA 40

UMCA 40

Os ydych yn mwynhau cerddoriaeth, hanes, Cymreictod neu bartïon pen-blwydd, Aberystwyth yw’r lle delfrydol i chi yn ystod pythefnos cyntaf mis Mehefin. I ddathlu pen-blwydd UMCA’n Ddeugain, mae’r pwyllgor wedi bod wrthi’n brysur yn trefnu digwyddiadau di-ri i’ch diddanu chi.
Ar 5 Mehefin, bydd Sŵn 40 yn gyfle i bawb fwynhau dawnsio ac yfed i gyfeiliant caneuon Cymraeg gorau y 40 mlynedd diwethaf. Mae’r noson yn gaddo fod yn un llawn hwyl tan oriau man y bore – i’r rheini sy’n goroesi!

Bydd 6 Mehefin 2014 yn aros yng nghof y genedl am byth! Dyma ddiwrnod Gŵyl UMCA 40! Bydd y rheini ohonom sy’n mynychu yn cofio’r diwrnod fel un o’r rhai gorau erioed! Bydd yr Ŵyl yn cynnwys gig yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth a bydd y canlynol yn ein diddanu – anadlwch mewn…

GERAINT LØVGREEN A’R ENW DA, Y BANDANA, VANTA, DELWYN SIÔN, CEFFYLAU LLIWGAR, BLAIDD, YR EIRA, CATRIN HERBERT, BREICHIAU HIR, GWYRYF, RADIO RHYDD, TYMBAL, Y BANDITOS, A MWY…

FFiw!

Yn bersonol rwy’n edrych ymlaen at weld Vanta yn ailffurfio a chlywed rhai o oreuon Hergest gan Delwyn Siôn, heb sôn am ymfalchïo yn y ffaith bod y bandiau yma i gyd yn gyn-aelodau UMCA! Un peth sydd bron â bod yn well na hyn i gyd yw’r ffaith fy mod yn gallu prynu tocyn am gyn lleied â £10! BARGEN!

Ers rhai wythnosau bellach, mae aelodau Pwyllgor UMCA 40 wedi bod yn paratoi Arddangosfa arbennig a gyhelir 14 Mehefin 2014 ym Mhantycelyn. Rydym wedi bod yn twrio trwy hen ffeiliau UMCA yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn gwylio hen raglenni am fyfyrwyr Aber yn yr Archif Sgrin a Sain yno. Bydd yr arddangosfa yn cynnwys archif o’r 40 mlynedd diwethaf, stondinau gan gymdeithasau sy’n cydweithio a noddi UMCA a’i dathliadau Pen-blwydd, yn ogystal â siaradwyr gwadd a darlleniadau gan feirdd. Nid wyf am ddatgelu mwy ar hyn o bryd, dewch draw i weld!

Mae’r profiad o fod ar y pwyllgor trefnu yn un bythgofiadwy i mi ac rwyf mor ddiolchgar am gael y cyfle i gyfrannu. Mae’r holl ddigwyddiadau sy’n rhan o’r dathliadau deugain yn wych a gobeithiaf eich gweld chi yno!

Bethan Walkling Rhan ll Cymraeg, Drama ac Astudiaethau Theatr. Swyddog Hysbysebu Pwyllgor UMCA 40.