Stomp Ryng-golegol Aberystwyth 2016

Iestyn Tyne a’i stôl, a roddwyd gan Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth.

Iestyn Tyne a’i stôl, a roddwyd gan Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth.

Cynhaliwyd y Ddawns Ryng-golegol yn Aberystwyth yn ystod penwythnos olaf Tachwedd. Bu’r hwyl yr un fath â phob blwyddyn arall, ond eleni, i ddechrau digwyddiadau’r penwythnos, cynhaliwyd STOMP yn nhafarn y Cŵps ar y nos Wener. Digwyddiad newydd oedd hwn, sef cystadleuaeth rhwng beirdd ifanc cymdeithasau Cymraeg y prifysgolion, dan lywyddiaeth Endaf Griffiths.

Gan fod bws Gym Gym Caerdydd yn sownd ar yr M4, fe frwydrodd Iestyn Tyne a Carwyn Eckley ar ran UMCA a Caryl Bryn ar ran UMCB. Roedd y dasg i ni’r gynulleidfa yn un syml – eistedd nôl a dewis ein bardd buddugol.

Trafodwyd themâu megis cancr yn y rownd gyntaf. Trawyd nodyn difrifol yng ngherdd Caryl, a honno’n gerdd safonol tu hwnt ar fesurau amrywiol. Cyfansoddodd Iestyn Tyne awdl i’w lety un Aberystwyth, gyda phennill i bob un o’r bechgyn sy’n byw yno.

Roedd yn ddigwyddiad hynod o gyffrous ac yn ddechrau anhygoel i benwythnos anhygoel. Fe roddodd y digwyddiad hwn wedd newydd ar ddigwyddiadau’r penwythnos, a mawr obeithiaf y bydd y STOMP yn parhau i fod yn rhan o benwythnos y Ddawns Ryng-golegol y flwyddyn nesaf.

(Ceris Thomas, Cymraeg, Rhan II)

 

Nos Wener 25 Tachwedd oedd dechrau penwythnos Dawns Ryng-golegol 2016 Aberystwyth. Mae aelodau’r cymdeithasau Cymraeg o brifysgolion Cymru, ac ambell un o Loegr, yn dod yn llu i Aberystwyth ar gyfer y digwyddiad blynyddol hwn – digwyddiad enfawr ym myd y myfyrwyr Cymraeg.

 

Yn y rownd derfynol gyffrous, mi gurodd Iestyn gerdd Carwyn gyda’i gerdd am y Rhyng-gol… Fodd bynnag, ar ddiwrnod arall, mi fuasai cerdd Carwyn am anghofio bwydo pysgodyn ei ffrind wedi ennill yn hawdd, ond mi oedd hi’n anffodus i Carwyn mai Iestyn oedd ei wrthwynebwr y tro hwn. Enillodd Iestyn y stôl fawreddog, a chalonnau pawb.

(Ieuan Wade, Cymraeg, Rhan II)

Roedd y Cŵps dan ei sang nos Wener 25 Tachwedd, ar gyfer digwyddiad newydd sbon ar benwythnos y ddawns flynyddol. Roedd y dafarn yn llawn bwrlwm wrth i fyfyrwyr o brifysgolion ledled Cymru paratoi i gefnogi eu cyd-fyfyrwyr.

Yn agor y gystadleuaeth i’r tîm cartref, o flaen cynulleidfa gefnogol iawn, roedd Carwyn Eckley. Nesaf roedd Caryl Bryn o Brifysgol Bangor a rhaid oedd edmygu ei hyder wrth iddi sefyll o flaen ei chyd-fyfyrwyr. Enillydd Stomp gyntaf y Ddawns Ryng-gol oedd Iestyn Tyne o Benllŷn. Roedd yn benwythnos llwyddiannus iawn i’r bardd o Benllŷn, gan iddo gipio’r gadair yn Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc yn Abertawe y noson ganlynol.

Roedd hi’n noson i’w chofio i bawb a fu’n rhan o’r digwyddiad newydd hwn, ac mae’n siŵr y bydd modd cynnal y digwyddiad yn flynyddol o hyn ymlaen fel rhan o benwythnos y Ddawns Ryng-gol a gynhelir yn Aberystwyth bob mis Tachwedd.

(Owen Howell, Cymraeg a Daearyddiaeth)

Y Stompfeistr oedd Endaf Griffiths, ac ef oedd yn cadw trefn ar y noson. Myfyriwr sy’n astudio am radd MPhil yn Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth yw Endaf. Fe lwyddodd i wneud sioe dda o’r cystadlu, gan sicrhau fod popeth yn llifo’n esmwyth. Y beirdd a ddewiswyd i fod yn rhan o’r Stomp oedd Carwyn Eckley a Iestyn Tyne o Brifysgol Aberystwyth, Caryl Bryn o Brifysgol Bangor a Caio Harri Parri Hughes o Brifysgol Caerdydd. Yn anffodus, roedd bws Prifysgol Caerdydd yn hwyr yn cyrraedd ac felly fe fethon nhw gystadlu yn y Stomp.

Y rownd gyntaf oedd ysgrifennu cwpled yn cynnwys y llinell ‘Yn y Cŵps rwy’n mynd o’m co’’, naill ai fel llinell gyntaf neu ail linell. Dyma enghreifftiau o’r hyn a gyflwynwyd:

Iestyn Tyne, Aberystwyth:

O’r bar bu’n rhaid fy nghario,                                                                                             Yn y Cŵps rwy’n mynd o’m co’.

Caryl Bryn, Bangor:

Caf fonc cyn mynd rhy honco,                                                                                        Yn y Cŵps rwy’n mynd o’m co’.

Carwyn Eckley, Aberystwyth:

Yn y Cŵps rwy’n mynd o’m co’,                                                                                          I witied am stomp eto.

Ar gyfer y rownd derfynol roedd angen i’r beirdd ddarllen cerdd, ac fe ymgeisiodd y tri chystadleuydd yn frwd. Y cyntaf i adrodd ei gerdd oedd Carwyn Eckley, cerdd a oedd yn sôn am y ffaith ei fod wedi anghofio bwydo pysgodyn, ac fe ysgrifennwyd y cyfan ganddo ar ffurf cywydd. Gwaith arbennig, o ystyried mai dim ond blwyddyn sydd ers iddo ddechrau cynganeddu. Yr ail i gamu i’r llwyfan oedd Caryl Bryn. Cerdd dipyn yn fwy dwys oedd ganddi hi, un a ysbrydolwyd gan berthynas iddi a fu’n brwydro yn erbyn cancr. Yr olaf i gystadlu oedd Iestyn Tyne. Cerdd ddigri oedd yr hyn a gyflwynwyd ganddo. Teitl ei gerdd oedd ‘Baled yr Alun Afradlon’, ac roedd hi’n adrodd hanes ei ffrind yn mynd i’r brifysgol.

Enillydd y Stomp Ryng-gol gyntaf erioed, felly, oedd Iestyn Tyne, myfyriwr addawol o ardal Penrhyn Llŷn. Mae ei enw bellach yn adnabyddus i eisteddfodwyr Cymru gan mai ef a enillodd y Goron yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Yn ogystal â hyn, fe enillodd Iestyn gadair Eisteddfod CFfI Cymru a gynhaliwyd yn Abertawe y noson ganlynol. Tipyn o gamp – bu’n benwythnos llwyddiannus iawn iddo yn wir.

(Siriol Teifi)

Dros y penwythnos, fe fu’r Ddawns Ryng-Gol yn bywiogi tref Aberystwyth ac, yn ôl yr arfer, cafodd myfyrwyr o brifysgolion ar draws Cymru groeso cynnes i ymuno â ni yn y dawnsio, y canu a’r yfed tan oriau mân y bore. Ond eleni, am y tro cyntaf, cynhaliwyd digwyddiad newydd fel rhan o’r dathliadau: Stomp yn y Cŵps.

Er bod hen elyniaeth gyfeillgar rhwng myfyrwyr Aberystwyth a Bangor, pan ddaeth hi’n amser i’r Stomp ddechrau, fe ymunodd pawb â’i gilydd i chwerthin a joio’r cerddi clyfar a digri drwy gydol y noson. O gerddi am ffrindiau a datgelu cyfrinachau i linellau bach lliwgar a chlyfar, roedd digonedd o amrywiaeth, ac felly roedd hynny ynddo’i hun yn ei gwneud hi’n noson ddifyr.

Rhaid llongyfarch pawb a gymerodd ran yn y noson. Roedd pob un gerdd yn wych ac yn llawn haeddu pob un chwerthiniad a chymeradwyaeth. Ond rhaid dymuno llongyfarchiadau mawr i’r enillydd, a gipiodd wobr y stôl fach bren, sef Iestyn Tyne, myfyriwr yn Adran y Gymraeg Aberystwyth.

Gobeithio, gan fod y noson wedi bod yn gymaint o lwyddiant, y bydd Stomp y Cŵps yn dychwelyd y flwyddyn nesaf i’n diddori ni unwaith yn rhagor, ac i gynnig mwy o amrywiaeth i un o benwythnosau mwyaf hwyliog y flwyddyn academaidd.

(Elan Lois Roberts, Cymraeg Proffesiynol)

Plant Mewn Angen 2016

Yr wythnos hon, gydag wythnos Plant Mewn Angen ar y gorwel, gwelwyd myfyrwyr brwdfrydig Prifysgol Aberystwyth yn cymryd yr awenau er mwyn codi arian ar gyfer yr elusen. Bu un clwb yn arbennig, sef Clwb Rotaract Aberystwyth, wrthi’n brysur ar nos Wener 18 Tachwedd yn peintio wynebau a thynnu lluniau gyda Pudsey ei hun er mwyn codi arian tuag at yr elusen. Pa ddigwyddiad gwell i’w gynnal ar benwythnos y Ddawns Ryng-gol, gyda myfyrwyr o bob cornel o’w wlad yn ymweld â’r brifysgol?

‘Roeddwn wedi gobeithio codi swm rhesymol o arian tuag at ymgyrch Plant Mewn Angen drwy ofyn i fyfyrwyr wneud cyfraniad tra roedden nhw ar eu noson mas yn gyfnewid am gael eu hwynebau wedi eu peintio,’ meddai Owain Jones, Llywydd Clwb Rotaract Aberystwyth. Aeth ymlaen i ddweud, ‘Roeddwn hefyd yn awyddus i godi ymwybyddiaeth a cheisio denu myfyrwyr i ymuno â’n clwb, a sefydlwyd yn y brifysgol y llynedd. Tynnwyd lluniau o’r holl fyfyrwyr a gafodd eu hwynebau wedi’u peintio, a byddant yn cael eu gosod ar ein tudalen Facebook er mwyn dangos pa fath o weithgareddau mae’r clwb yn eu cynnal.’

Michelle PLant mewn angenDywedodd Gruff Huws, y myfyriwr brwdfrydig a wisgodd fel Pudsey am y noson, ‘Roedd hi’n noson lwyddiannus mewn sawl ffordd – roedd hi’n gyfle gwych i’r myfyrwyr gyfrannu at godi arian ar gyfer Plant Mewn Angen. Ond hefyd, cawsom lawer o ymateb a chwestiynau ynglŷn â beth yn union yw’r clwb a pha fath o weithgareddau yr ydym yn eu cynnal drwy’r flwyddyn. Er imi rewi’n gorn yn y wisg, roedd pob eiliad yn werth chweil ac ar gyfer achos da!’

Dyma lun o rai o aelodau’r clwb. Mae aelodau Clwb Rotaract Aberystwyth yn gwirfoddoli’n wythnosol er mwyn helpu’r gymuned. Sefydliad rhyngwladol ydyw ar gyfer pobl ifanc rhwng deunaw a deg ar hugain oed yn bennaf. Mae’r clwb wedi trefnu llawer o weithgareddau i godi arian dros y flwyddyn ddiwethaf – cwisiau tafarn, cystadlaethau pŵl, stiwardio ar gyfer noson tân gwyllt, goleuo’r dref, ffeiriau Nadolig a llawer mwy!

RoteractCodwyd llawer o arian gan y clwb ar gyfer elusennau amrywiol, gan gynnwys Mary’s Meals, ymgyrch End Polio Now, Mind ac, yn awr, Plant Mewn Angen.

Heb os, bu’r noson yn llwyddiant ysgubol, gyda’r clwb yn codi £71.75 ar gyfer Plant Mewn Angen.

Michelle Rafferty, Cymraeg a Hanes, Rhan II

Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc, 2016

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol CFfI Cymru 2016 yn Neuadd Brangwyn, Abertawe 19 Tachwedd. Sir Gaerfyrddin oedd yn llywyddu’r eisteddfod eleni ac, yn ôl Lowri Thomas, cadeirydd y pwyllgor gwaith, ‘Roedd hi’n steddfod lwyddiannus dros ben, gyda channoedd o aelodau o bob ffederasiwn yn camu ar y llwyfan i gystadlu mewn amryw o gystadlaethau. Braf oedd clywed ymateb ffafriol y beirniaid i safon y cystadlu, a braf oedd gweld y neuadd yn llawn drwy gydol y dydd.’

Daeth yr aelodau i Abertawe o bob cwr o’r wlad i gymryd rhan mewn amrywiaeth o gystadlaethau, gan gynnwys Canu Emyn, Dawnsio Gwerin a Pharti Unsain. Ffederasiwn Sir Benfro a ddaeth i’r brig ar ddiwedd diwrnod hir o gystadlu brwd rhwng y siroedd, gyda Sir Gaerfyrddin yn cipio’r ail wobr.

Iestyn Tyne o glwb Godre’r Eifl, Eryri, a ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth y gadair eleni, gyda’i gerdd ar y testun ‘Gwawr’. Enillydd coron gyntaf Eisteddfod CFfI Cymru am ei stori fer ar y testun ‘Cefn Gwlad’ oedd Naomi Seren Nicholas o glwb Llys y Frân, Sir Benfro. Mae’r ddau ohonynt yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, Naomi am radd mewn Cymraeg a Drama, a Iestyn am radd yn y Gymraeg. Llongyfarchiadau gwresog i’r ddau ohonynt!

Naomi Nicholas ac Iestyn Tyne

Naomi Nicholas ac Iestyn Tyne

Lluniwyd y gadair hardd gan Bedwyn Rees a lluniwyd y goron gan Dylan Bowen, y ddau yn gyn-aelodau o glwb Capel Iwan. Noddwyd y gadair gan Hefin Jones, a’r goron gan Undeb Amaethwyr Cymru, Cangen Caerfyrddin.

Un o uchafbwyntiau’r diwrnod oedd cystadleuaeth y côr. Sir Feirionydd a gipiodd y wobr gyntaf mewn cystadleuaeth o safon uchel iawn. Comisiynwyd y gân ‘Yma i Aros’ gan CFfI Sir Gâr i’w pherfformio mewn cyngerdd yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014, fel rhan o ddathliadau’r clwb yn 70 oed. 

Jessica Robinson o Ffederasiwn Sir Benfro a enillodd Gwpan Ardudwy am yr unigolyn gorau yn yr adran gerddoriaeth, a Siôn Jenkins, hefyd o Sir Benfro, a dderbyniodd y wobr am yr unigolyn gorau yn yr adran lefaru. Rhoddwyd Cwpan Her Joy Cornock i Dyfan Jones o Sir Feirionydd, wedi i’r beirniaid ei enwi fel yr unigolyn mwyaf addawol yn holl gystadlaethau’r Eisteddfod.

Yn cipio Tlws Undeb Amaethwyr Cymru am ennill yr adran Gwaith Cartref, roedd Sir Ceredigion. Ac eleni, Sir Benfro wnaeth berfformio orau yn holl gystadlaethau’r llwyfan, gan ennill Tarian Elonwy Philips.

Cafodd rhaglen arbennig ei ddarlledu ar S4C yn cynnwys yr holl uchafbwyntiau, ac mae’r cyfan i’w weld ar S4C Clic neu ar dudalen Facebook Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc 2016.

Eirios Thomas, trefnydd CFfI Sir Gâr, oedd Llywydd yr Eisteddfod eleni, ac yn ystod ei haraith soniodd pa mor allweddol yw mudiad y Ffermwyr Ifanc o ran cynnal cymunedau yng nghefn gwlad Cymru. I gloi ei haraith, pwysleisiodd unwaith eto mor bwysig oedd y mudiad o ran creu Gwell Ffermwyr, Gwell Gwladwyr a Gwell Dinasyddion. Dymuna CFfI Sir Gâr bob lwc i Bethan Wyn Williams a Phwyllgor Eisteddfod Sir Eryri gyda’r trefniadau ar gyfer Eisteddfod CFfI 2017.

Sulwen Richards, myfyrwraig Cymraeg Proffeisynol Rhan II

Cyfrol sy’n torri tir newydd

ISBN 978-1-78461-298-6

Newydd ymddangos y mae’r gyfrol gyntaf erioed i ganolbwyntio ar y gwahanol fathau o gywyddau a genid gan Feirdd yr Uchelwyr, sef y beirdd proffesiynol ac amatur a ganai yng Nghymru rhwng tua 1330 a 1600. Golygwyd y gyfrol Genres y Cywydd gan Dr Bleddyn Owen Huws o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth, a Dr A. Cynfael Lake o Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe.

Detholiad thematig o bedair ysgrif ar ddeg a ymddangosodd yn y cylchgrawn Dwned yn ystod yr un flynedd ar hugain ddiwethaf ar geir yn y gyfrol, a chafodd awduron yr ysgrifau gyfle i ddiweddaru eu cyfraniadau a’u hadolygu’n arbennig ar gyfer y cyhoeddiad hwn. Ceir yma ymdriniaethau beirniadol â gwahanol genres y cywydd gan ysgolheigion sy’n arbenigo ar amrywiol agweddau ar farddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, ac adlewyrchir ganddynt y feirniadaeth fwyaf blaengar yn y maes. Ymhlith y mathau o gywyddau a drafodir y mae’r cywyddau gofyn a diolch, y ffugfarwnadau, y cywyddau i farfau, i benwisgoedd merched, i drefi, i gardiau, yn ogystal â’r cywyddau ymryson.

Cynhelir derbyniad gwin i lansio’r gyfrol am 1.00 o’r gloch brynhawn Iau, 4 Awst, ym mhabell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni, ac mae croeso cynnes i bawb.

Cyhoeddwyd y gyfrol gan y golygyddion gyda chefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac fe’i hargraffwyd gan wasg y Lolfa, Tal-y-bont.

Gellir archebu copi o’r gyfrol am £15 yn cynnwys cludiad drwy gysylltu ag Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth, Ceredigion, cymraeg@aber.ac.uk

Am wybodaeth bellach cysyllter âDr Bleddyn O. Huws / Dr A. Cynfael Lake.

Lansiad e-Lyfr am Hen Gymraeg

Ddydd Gwyl Dewi eleni, bydd e-lyfr newydd, a arianwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn cael ei lansio: Llawlyfr Hen Gymraeg gan Alexander Falileyev. Bydd y lansiad yn Neuadd Pantycelyn am 12.30, ac mae croeso i bawb yno. Bydd yna luniaeth ysgafn.

Dyma’r disgrifiad cynhwysfawr cyntaf un o Hen Gymraeg (iaith y 9fed ganrif hyd ddechrau’r ddeuddegfed) i ymddangos yn yr iaith Gymraeg. Mae’n addasiad (gan yr awdur ei hunan) o ramadeg Hen Gymraeg Alexander Falileyev a gyhoeddwyd yn Rwsieg yn 2002, ac yn Ffrangeg yn 2008. Yn ogystal â throsi’r gwaith i’r Gymraeg, mae Dr Falileyev wedi’i addasu ar gyfer cynulleidfa Gymraeg, ac wedi ymgorffori ffrwyth yr ymchwil diweddaraf ar y testunau hyn (peth ohono eto i’w gyhoeddi). Mae hyn yn golygu y bydd o ddiddordeb i ysgolheigion profiadol yn ogystal â myfyrwyr a lleygwyr. Mae’n cynnwys disgrifiadau manwl o’r testunau hysbys, gyda llyfryddiaeth lawn, penodau ar ffonoleg, gramadeg a chystrawen yr iaith, a detholiad o destunau golygedig gyda nodiadau cynhwysfawr a geirfa. Mae’r llyfr hwn yn rhoi cyfle, am y tro cyntaf, i’r Cymry ddod i adnabod rhai o’r enghreifftiau cynharaf hysbys o destunau yn eu hiaith.

Mae Dr Falileyev, yn enedigol o St Petersburg, Rwsia, yn arbenigydd ar yr ieithoedd Celtaidd. Mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar enwau lleoedd a phersonol Celtaidd o Ewrop yn yr hen gyfnod, ac ar iaith a llenyddiaeth Cymru’r Oesoedd Canol. Roedd yn gweithio yn yr Adran Gymraeg yma yn Aberystwyth ar wahanol brosiectau ymchwil ar ieithoedd Celtaidd y cyfandir rhwng 2003 a 2013, ac mae’n dal i fyw yn yr ardal, yng Ngoginan.

Llawlyfr Hen Gymraeg 1

Y Ddraig yn dal i hedfan

Ar ddydd Iau 28ain Mai, lansiwyd cylchgrawn llenyddol Adran y Gymraeg, Y Ddraig, ym Mar Theatr y Werin, Canolfan y Celfyddydau. Cyhoeddir y cylchgrawn fel rhan o waith y cynllun gradd arloesol, Cymraeg Proffesiynol. Myfyrwyr y flwyddyn gyntaf a fu’n gyfrifol am gomisiynu a golygu’r holl eitemau, ac am drefnu’r lansiad i ddathlu ffrwyth eu gwaith.

Cydlynir modiwl y flwyddyn gyntaf gan Dr Bleddyn Huws a Dr Rhianedd Jewell, Darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Cymraeg Proffesiynol. Dywedodd Dr Jewell:

“Mae’r profiad hwn yn rhoi blas i’r myfyrwyr ar gyhoeddi, golygu ac ysgrifennu’n broffesiynol. Fel rhan o’r cwrs mae’r myfyrwyr yn datblygu sgiliau hynod o werthfawr ar gyfer y byd gwaith ar ôl graddio, a gallant fod yn falch iawn o’r cylchgrawn hwn sydd o safon uchel iawn.”

Mae’r rhifyn eleni yn cynnwys amrywiaeth ddiddorol o gerddi, darnau o lên meicro a chyfres o gyfweliadau ag unigolion megis yr awdures llyfrau pobi, Elliw Gwawr, a’r actor Gareth Jewell.

Dyma bedwaredd flwyddyn y cylchgrawn yn ei ffurf bresennol gan mai cwrs gweddol newydd o hyd yw Cymraeg Proffesiynol, ond mae hanes Y Ddraig lawer yn hŷn.

Lansiwyd y gyfrol yn swyddogol eleni gan yr Athro Marged Haycock, a ddatgelodd yn ei hanerchiad fod y cylchgrawn bron mor hen ag Adran y Gymraeg. Nododd fod nifer fawr o lenorion Cymru wedi cyfrannu at Y Ddraig yn y gorffennol, gan gynnwys y bardd Gerwyn Wiliams, y nofelydd Mared Lewis a’r awdures Lleucu Roberts. Darllenodd englyn o rifyn 1985 yn y lansiad sydd yn disgrifio gwerth y cylchgrawn hyd heddiw:

Y Ddraig

Mawr yw pryder y werin – am yr haint

       Ym mhridd y Gorllewin,

Ond parhau wna’r hen ŷd prin,

– Y Ddraig ry nawdd i’r egin.

Gellir archebu copi o gylchgrawn Y Ddraig am £3 drwy gysylltu ag Adran y Gymraeg drwy e-bostio cymraeg@aber.ac.uk

 

Lansiad y Ddraid 2015 bach

Marged Edwards, Lois Roberts-Jones, Gwenno Ywain, Yr Athro Marged Haycock, Gwen Williams, Heledd Hawkins a Carwyn Eckley

Gwahoddiad i Lansiad Y Ddraig

Dewch i ddathlu Lansiad Y Ddraig, cylchgrawn llenyddol Adran y Gymraeg!

2.30 Dydd Iau 28 Mai, Bar Theatr y Werin, Canolfan y Celfyddydau.

Golygwyd y cylchgrawn gan fyfyrwyr Cymraeg Proffesiynol y flwyddyn gyntaf, a cheir cyfraniadau gan fyfyrwyr a staff yr Adran: straeon byrion, cerddi, cyfweliadau a mwy!

Dyma gyfle i ddod at ein gilydd unwaith eto cyn i bawb ddiflannu dros wyliau’r haf. Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ac mae croeso cynnes i bawb!

Poster Y Ddraig 2015

Cadair Eisteddfodol 1912 Eisteddfodic Chair

Daeth ymwelydd arbennig iawn i’r Adran 4 Mehefin, sef Hefin Wyn. Mae Hefin Wyn yn gynfyfyriwr i ni ac roedd yn teithio i Aber am reswm penodol iawn.

Rydym fel Adran yn ffodus iawn bod Hefin Wyn a’i deulu wedi penderfynu cyflwyno cadair eisteddfodol a phortread o’i hen ewythr, Gwilym Williams, i’n gofal.

Roedd Gwilym yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth ac yn gynfyfyriwr yn yr Adran. Profodd ei fod yn fardd medrus trwy ennill nifer o gadeiriau eisteddfodol, gan gynnwys Cadair Eisteddfod y Brifysgol, 1912 a feirniadwyd gan T. Gwynn Jones, darlithydd yn yr Adran ar y pryd.

Wedi i Gwilym raddio yn 1913 bu’n gweithio fel athro yn Ysgol Ganolraddol Y Drenewydd, lle cyfarfu â Jane Helen Rowlands, athrawes Ffrangeg. Mae’n debyg i’r ddau gwympo mewn cariad, ond penderfynodd Helen gysegru ei bywyd i waith cenhadol dramor. Dyma englyn a ysgrifennwyd gan Gwilym i ddymuno’n dda iddi:

Draw i randir yrIndia – mae Helen
Am hwylio o Walia;
O’n golwg ni, O gwylia
Hi dros y dŵr, Iesu da.

(Dan yr Helyg, 1917, t. 103)

Yn 1915, er nad oedd gorfodaeth arno, penderfynodd Gwilym ymuno â’r fyddin, a chafodd ei wneud yn Is-gapten gyda’r Ffiwsilwyr Cymreig. Yn ystod ei gyfnod yn hyfforddi yn Rhuddlan anfonai lythyrau at ei deulu ac at Helen hefyd. Anfonwyd ef i faes y gad fis Ebrill 1916 ac ar fore Sadwrn 20 Mai derbyniodd ei rieni luniau ohono yn ei lifrai milwrol. Heb yn wybod i’w deulu, cafodd Gwilym ei glwyfo yn ystod oriau mân y bore hwnnw a bu farw yn gynnar fore Sul 21 Mai. Claddwyd ef drannoeth, Ddydd Llun 22 Mai, a’r pnawn hwnnw derbyniodd ei deulu frysneges yn cadarnhau bod Gwilym wedi marw. Dyma a ddywedodd y Capten wrth dalu teyrnged i ddewrder y bardd ifanc:
Gwnâi filwr da, cofiaf iddo ddwedyd wrthyf un min nos, ill dau yn dyheu am gael byw i weld y rhyfel ’ma drosodd. ‘And yet,’ meddai, ‘there’s a certain romance in dying Young, and dying for your country’.

Cyhoeddwyd cyfrol goffa i Gwilym gan ei deulu yn 1917, sef Dan yr Helyg. Mae’r gyfrol yn cynnwys ei gerddi, rhai darnau o ryddiaith, yn ogystal â rhai englynion gan ei frawd John. Mae’r bryddest ‘Gwanwyn Bywyd’ hefyd i’w chael rhwng cloriau’r gyfrol, sef y gerdd a enillodd iddo Gadair Eisteddfod Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, 2 Mawrth 1912. Cerdd yw hon sy’n ein tywys drwy fywyd plentyn o’r crud, gan wneud defnydd effeithiol o’r misoedd a’r tymhorau i gyfleu treigl amser. Dyma flas ohoni:

Tegach fil na blodau’r byd
Ydyw llewych wyneb plentyn,
A phereiddiach miri’r crud
Na thelori’r un aderyn.

Mae’i galon dyner mor santaidd wyn
A’r alaw wylaidd ym min y llyn.

Cyn laned ydyw ei feddwl ef
A’r ôd pan ddelo i lawr o’r nef.

Fyd, na fydd euog o wneuthur cam
Ag eilun calon ei dad a’i fam.

Ni fydd lonydd Gwener wen
Onis dwg i wŷdd ei feinwen,
Ac i ddwy gymylog nen
Wedi cawod daw yr heulwen;
Fraich ymraich hyd lwybrau’r allt
Gwyra’r ddau yng ngwynfa cariad,
Cusan, gwen a deigryn hallt
Ydyw iaith hyotla’u teimlad.

Gyda gwellt neu blu’n ei phig
Mae Mehefin wedi dyfod,
Medd mwyalchen yn y wig,
Medd y wennol dan y bargod;
Moliant haf a gan pob un
Pan fo lawn y pebyll bychain,
Moli’r haf mae mab a mun
Ar eu haelwyd fach ei hunain.

Hoffai Adran y Gymraeg a Phrifysgol Aberystwyth ddiolch i deulu Gwilym Williams am gyflwyno’r gadair, y portread a llythyrau Gwilym Williams i’w gofal. Gobaith diffuant yr Adran yw y bydd y rhoddion hyn yn parhau’r cof am Gwilym Williams a’i farddoniaeth ymhlith ei myfyrwyr. Bydd Llyfrgell Hugh Owen yn trefnu arddangosfa arbennig i goffáu canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Mawr, a bydd gan Gwilym Williams le anrhydeddus yn yr arddangosfa honno.

Gwenan Davies, Myfyrwraig Raddedig Dan Hyfforddiant Adran y Gymraeg a Chanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg, BA Cymraeg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu (2013)

Bydd Y Ddraig yn hedfan yn Eisteddfod yr Urdd

Ar stondin Prifysgol Aberystwyth ar ddiwrnod olaf Eisteddfod yr Urdd yn y Bala bydd myfyrwyr sy’n astudio Cymraeg Proffesiynol yn lansio rhifyn 2014 o gylchgrawn Y Ddraig, sef cylchgrawn llenyddol blynyddol yr Adran Gymraeg. Byddant yn gwneud hynny yng nghwmni’r wraig wadd, Mared Ifan, Llywydd UMCA.

Caiff nifer o feirdd a llenorion yr Adran weld eu gwaith mewn print, a cheir llawer o eitemau gwahanol yn amrywio o englynion a chywyddau a straeon byrion i gyfweliadau a darnau o lên meicro. Y myfyrwyr eu hunain a oedd yn gyfrifol am gomisiynu a golygu’r holl gyfraniadau.

Ymhlith uchafbwyntiau’r rhifyn hwn y mae’r cyfweliadau â’r llenor Manon Steffan Ros a’r gwleidydd Jonathan Edwards AS, yn ogystal â’r ddau gywydd gan y cynganeddwr ifanc addawol Endaf Griffiths, y naill i’r mewnlifiad o Saeson i’w fro enedigol a’r llall i’r gobaith a gynigia dysgwyr yr iaith i ddyfodol y Gymraeg. Ceir yma hefyd ddarnau doniol o lên meicro ac englyn i’r ‘Traethawd Munud Olaf’!

Meddai Dr Rhianedd Jewell, cydlynydd y cwrs:

‘Llwyddodd y myfyrwyr i gasglu deunydd amrywiol hynod safonol at ei gilydd, a gallant fod yn falch iawn o gynnwys y rhifyn. Cawsant hyfforddiant yn y dosbarth ynghylch comisiynu a golygu gwaith ysgrifenedig ar gyfer ei gyhoeddi, ac mae’n braf eu gweld yn rhoi’r hyn a ddysgwyd ar waith mewn modd mor ymarferol â hyn.”

Cynhelir y lansiad am 1.00 o’r gloch ar stondin y Brifysgol ar faes Eisteddfod yr Urdd ar ddydd Sadwrn 31 Mai. Croeso i bawb.

Gellir archebu copi am £5.00 (yn cynnwys cludiad) drwy gysylltu â cymraeg@aber.ac.uk
Y Ddraig 2014 bach