Cenhedlaeth newydd yn cofio cyn-fyfyriwr: Gwilym Williams B.A. (1890–1916)

Union gan mlynedd i heddiw, 22 Mai 1916, claddwyd Gwilym Williams, mab fferm Nant-yr-afr Fawr, Tre-lech a’r Betws sir Gaerfyrddin ym mynwent Merville, Ffrainc. Mae aelodau o’i deulu yn nodi’r canmlwyddiant trwy ymweld â’i fedd yn Ffrainc y penwythnos hwn.

Roedd Gwilym yn un o raddedigion Adran y Gymraeg, Aberystwyth ac yn fardd ifanc addawol. Enillodd nifer o gadeiriau eisteddfodol, gan gynnwys Cadair Eisteddfod y Brifysgol ym 1912: ‘Gwanwyn Bywyd’ oedd teitl ei bryddest fuddugol a T. Gwynn Jones fu’n beirniadu’r gystadleuaeth.

Gwilym Williams

Gwilym Williams

Graddiodd Gwilym gydag anrhydedd yn 1913 a mynd i ddysgu am dymor yn Ysgol Ganolradd y Drenewydd ac yna Ysgol Ramadeg Brenhines Mary, Walsall ger Birmingham. Yng Ngorffennaf 1915 ymunodd â’r fyddin a chael ei wneud yn is-Gapten ar 17 Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Hwyliodd y bataliwn i Ffrainc ym mis Rhagfyr, ac ym mis Mai 1916 roedd Gwilym ar flaen y gad yn Fauquissart. Cafodd ei glwyfo yn ei wddf gan fwled ddydd Sadwrn 20 Mai a bu farw drannoeth yn yr ysbyty ym Merville. Claddwyd Gwilym ym Mynwent Merville 22 Mai 1916; roedd yn chwech ar hugain oed.

Un o’r rhai a fu’n galaru am Gwilym oedd ei ffrind, Jane Helen Rowlands o Borthaethwy a fu’n fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol Bangor ac a gysegrodd ei bywyd i waith cenhadol. Daeth yn ysgolhaig Bengali adnabyddus hefyd.

Mae llythyrau sydd ym meddiant y teulu yn tystio i’r berthynas glos rhwng y ddau wedi iddynt gyfarfod fel aelodau o staff Ysgol Ganolraddol Y Drenewydd. Yn wir, cred Hefin Wyn M.A. fod a wnelo penderfyniad Helen Rowlands i fynd yn genhades â phenderfyniad annisgwyl Gwilym i wirfoddoli i ryfela.

Yng ngeiriau Hefin Wyn:
“Arferai ‘Helen o Fôn’, fel y’i hadwaenid, anfon llythyrau o Assam at y teulu bob mis Mai am flynyddoedd wedi marwolaeth Gwilym yn sôn am ei serchiadau tuag ato. ‘Dyma’r bachgen mwyaf pur ei galon a adnabum erioed’ meddai mewn un llythyr. Rhaid dod i’r casgliad mai calon ddrylliedig oedd wedi anfon Wncwl Gwilym i faes y gad. Roedd ei englyn ffarwel i’w gariad yn brawf o’r ing a deimlai:

Draw i randir yr India – mae Helen
Am hwylio o Walia;
O’n golwg ni. O gwylia
Hi dros y dŵr, Iesu da.”

Cofio Gwilym Williams
Roedd Gwilym Williams yn hen ewythr i Hefin Wyn a chynhaliwyd digwyddiad arbennig i gofio Gwilym 18 Mai 2016 yn Yr Hen Goleg lle bu’n fyfyriwr. Braf oedd cael croesawu Hefin Wyn ac aelodau eraill o deulu Gwilym i’r digwyddiad.

Arweiniwyd y digwyddiad gan Hefin Wyn a thraddododd ddarlith arbennig a oedd yn ffrwyth ymchwil a hanes llafar y teulu: ‘O Nant-yr-afr i Merville: cofio Gwilym Williams B.A. 1890–1916’. Collwyd cymaint o ddynion a bechgyn ifanc yn ystod y Rhyfel Mawr ac mae dysgu am hanes unigolion fel Gwilym Williams yn fodd i amgyffred y golled i deuluoedd, i gymunedau ac i’r genedl.

Trefnwyd arddangosfa fach o fywyd a gwaith Gwilym Williams i gyd-fynd â’r digwyddiad, gan gynnwys Cadair Eisteddfod y Brifysgol 1912, llun o Gwilym yn ei lifrai milwrol, ynghyd â llythyrau amrywiol o’i eiddo. Roedd yr arddangosfa’n cynnwys y ddau lythyr olaf a ysgrifennodd o’r ffosydd 18 Mai 1916, teyrnged iddo gan D. J. Williams ynghyd â dogfennau a lluniau o’i gyfnod fel myfyriwr yn Aberystwyth.

I gloi’r digwyddiad, bu staff a myfyrwyr presennol yr Adran yn darllen detholiad o gerddi Gwilym o’r gyfrol goffa Dan yr Helyg (1917), ynghyd â cherddi newydd a ysbrydolwyd gan stori rymus y cyn-fyfyriwr. Gellir darllen cerddi Gwilym ar-lein gan fod y gyfrol bellach ar gael yn ddigidol ar wefan Cymru1914 Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Dan yr Helyg (1917) ar wefan Cymru1914.

Gwilym Wms darlleniadau
(O’r dde i’r chwith: Hefin Wyn, Eurig Salisbury, Endaf Griffiths, Iestyn Tyne, Marged Tudur a Miriam Elin Jones)

Diolch o galon i Amgueddfa Ceredigion am fenthyca’r casys arddangos hardd a ddefnyddiwyd yn yr arddangosfa.