Gwireddu breuddwyd drwy ddysgu’r Gymraeg

Wrth imi baratoi ar gyfer fy lefel A penderfynais i astudio Cymraeg ymhellach yn y brifysgol. Ar ôl gwylio’r gyfres deledu ‘Pen Talar’ dysgais am hanes ein hiaith a thyfodd fy niddordeb yn yr iaith. Yr oeddwn yn benderfynol o fod yn rhugl yn y Gymraeg ac yr oeddwn yn gwybod y byddai gradd yn y Gymraeg o fudd i mi, i gyrraedd fy nod. Ymddiddorwn ym mhob agwedd o’r iaith: canwn yn y Gymraeg a phob blwyddyn awn i’r Eisteddfod Genedlaethol.

Ar ôl ymweld â Phrifysgol Aberystwyth, penderfynais yn syth fod arnaf i eisiau astudio yma. Yr oedd yr holl ddarlithwyr yn gyfeillgar, teimlais yn gyfforddus wrth siarad â nhw yn y Gymraeg.

Yn fy mlwyddyn gyntaf astudiais y modiwl ‘Trafod y Byd’. Yr oedd y modiwl yn hynod o bwysig imi ddatblygu fy hyder. Trafodem faterion cyfoes yn y Gymraeg a dysgid ein dosbarth bach ambell waith mewn grwpiau bychain. Teimlwn yn hyderus yn siarad yr iaith a chefais gyfle i sgwrsio’n naturiol.

Dysgais Ieithoedd Celtaidd trwy’r Gymraeg; fe helpodd hyn fy ngeirfa a’m dealltwriaeth o dermau gramadegol. Ambell waith nid oeddwn yn gwybod y termau yn y Gymraeg, felly yr oedd yn rhaid imi ofyn. Buaswn i’n annog pobl i ddysgu ieithoedd newydd yn eu hail iaith oherwydd mae’n helpu datblygiad yr iaith honno; mae’n eich gorfodi i feddwl yn eich ail iaith.

Cefais fy mhenodi fel Llywydd y Gymdeithas Gymraeg Ail Iaith yn fy ail flwyddyn yn y Brifysgol. Trefnais i’r gymdeithas ymweld â chartref gofal o’r enw Hafan y Waun yn Aberystwyth. Nid oes gan y cleifion lawer o gyfle i sgwrsio yn y Gymraeg. Yr oedd yn hynod o dda gweld y bobl sydd wedi dysgu Cymraeg yn mwynhau cwmni’r cleifion. Ceisiais sicrhau fod gan y gymdeithas awyrgylch ymlaciol, awyrgylch lle’r oedd yn bosib i’r myfyriwr deimlo’n gyfforddus ac yn hyderus i siarad Cymraeg ar ei lefel ei hun.

Fe wneuthum ymweld ag Ysgol Gyfun Caerllion cyn dechrau fy mlwyddyn olaf er mwyn annog disgyblion yng nghyfnod allweddol pedwar i astudio Cymraeg ymhellach yn y brifysgol. Rhoddais hyder iddynt gan sicrhau y gallent fod yn rhugl yn yr iaith trwy ddyfalbarhad a thrwy weithio’n galed. Atgyfnerthodd y profiad fy mreuddwyd i helpu dysgwyr Cymraeg o gefndir di-gymraeg i ddod yn rhugl yn yr iaith.

Ym mis Medi byddaf yn gwneud cwrs TAR Uwchradd, a hoffwn roi’r profiadau yr wyf wedi’u cael i ddisgyblion ysgol. Gobeithiaf y byddant yn ymddiddori yn yr iaith yn yr un ffordd ag yr ydw i wedi gwneud.

Rydw i’n ddiolchgar iawn i’r Adran Gymraeg. Yr wyf i wedi datblygu fy iaith ac rydw i’n teimlo’n fel fy mod i’n rhugl yn y Gymraeg nawr. Mae’r Adran wedi fy helpu ac rydw i’n hynod o falch fy mod i wedi astudio yma. Mae pawb yn gyfeillgar ac yn barod i helpu drwy’r amser.

Bethan Davies

Bethan Davies 1

Y Ddraig yn dal i hedfan

Ar ddydd Iau 28ain Mai, lansiwyd cylchgrawn llenyddol Adran y Gymraeg, Y Ddraig, ym Mar Theatr y Werin, Canolfan y Celfyddydau. Cyhoeddir y cylchgrawn fel rhan o waith y cynllun gradd arloesol, Cymraeg Proffesiynol. Myfyrwyr y flwyddyn gyntaf a fu’n gyfrifol am gomisiynu a golygu’r holl eitemau, ac am drefnu’r lansiad i ddathlu ffrwyth eu gwaith.

Cydlynir modiwl y flwyddyn gyntaf gan Dr Bleddyn Huws a Dr Rhianedd Jewell, Darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Cymraeg Proffesiynol. Dywedodd Dr Jewell:

“Mae’r profiad hwn yn rhoi blas i’r myfyrwyr ar gyhoeddi, golygu ac ysgrifennu’n broffesiynol. Fel rhan o’r cwrs mae’r myfyrwyr yn datblygu sgiliau hynod o werthfawr ar gyfer y byd gwaith ar ôl graddio, a gallant fod yn falch iawn o’r cylchgrawn hwn sydd o safon uchel iawn.”

Mae’r rhifyn eleni yn cynnwys amrywiaeth ddiddorol o gerddi, darnau o lên meicro a chyfres o gyfweliadau ag unigolion megis yr awdures llyfrau pobi, Elliw Gwawr, a’r actor Gareth Jewell.

Dyma bedwaredd flwyddyn y cylchgrawn yn ei ffurf bresennol gan mai cwrs gweddol newydd o hyd yw Cymraeg Proffesiynol, ond mae hanes Y Ddraig lawer yn hŷn.

Lansiwyd y gyfrol yn swyddogol eleni gan yr Athro Marged Haycock, a ddatgelodd yn ei hanerchiad fod y cylchgrawn bron mor hen ag Adran y Gymraeg. Nododd fod nifer fawr o lenorion Cymru wedi cyfrannu at Y Ddraig yn y gorffennol, gan gynnwys y bardd Gerwyn Wiliams, y nofelydd Mared Lewis a’r awdures Lleucu Roberts. Darllenodd englyn o rifyn 1985 yn y lansiad sydd yn disgrifio gwerth y cylchgrawn hyd heddiw:

Y Ddraig

Mawr yw pryder y werin – am yr haint

       Ym mhridd y Gorllewin,

Ond parhau wna’r hen ŷd prin,

– Y Ddraig ry nawdd i’r egin.

Gellir archebu copi o gylchgrawn Y Ddraig am £3 drwy gysylltu ag Adran y Gymraeg drwy e-bostio cymraeg@aber.ac.uk

 

Lansiad y Ddraid 2015 bach

Marged Edwards, Lois Roberts-Jones, Gwenno Ywain, Yr Athro Marged Haycock, Gwen Williams, Heledd Hawkins a Carwyn Eckley