In Tune with Aberystwyth

[Wrth i ymarferion Philomusica, cerddorfa’r Brifysgol, ailddechrau gyda dyfodiad y semester newydd, mae Shannon Parker yn sôn am ei phrofiadau cerddorol amrywiol yn Aberystwyth ac am ei chwrs gradd mewn Astudiaethau Celtaidd.]

Although I haven’t enough Welsh yet to write this post with confidence, since coming to Aberystwyth in September 2013 and learning Welsh for the first time, the progression of my grasp on the language has been more than encouraging. I enjoyed the ‘Cwrs Haf’ (summer course) which greatly improved my language skills. As a student of Celtic Studies, I’ve also thoroughly enjoyed learning Irish and Old Irish, but my favourite module this year has probably been the ‘Introduction to Welsh Literature’. As a keen reader, I’ve really enjoyed exploring Welsh literature and learning about Wales’s history at the same time.

Aside from the course, one of the main reasons I chose Aberystwyth was the place itself and the natural beauty that surrounds it. I enjoy walking and spend a lot of my time in the local nature reserve. The sea is also obviously a plus and I was glad of the swimming weather over the summer! Taking advantage of the sea, something my native Shropshire lacks, I joined the sea rowing club – a fantastic new experience.

Another of Aberystwyth university’s pulling factors for me was the very active music centre. Being passionate about music, I wanted a university where I could be involved in ensembles of a good standard, and Aberystwyth has definitely provided this. I sing in the university choir and I also play the bassoon in Philomusica, Aberystwyth’s Symphony orchestra, which is great fun and always a challenge. Most recently in Philomusica, we performed Neil Brand’s musical accompaniment to Alfred Hitchcock’s silent film, Blackmail, alongside the projection. It was brilliant to play in such an ambitious project which one would not usually get the opportunity to experience. We put a lot of work and time into it and, happily, the audience’s response was fantastic!

When I arrived in Aberystwyth last year I auditioned for the music bursary and was successful. The scholarship has been a great help funding my musical interests and thanks to it I was finally able to take my instrument to be serviced and fixed, and also pay for things like reeds and sheet music. During the next academic year I plan to use the money to have instrumental lessons and perhaps take some higher performance exams. The music scholarship has definitely enhanced my musical life at Aberystwyth and I would advise any orchestral player to audition for it!

Another thing I really enjoy about Aberystwyth is that, although small, it is never lacking in arts events. I put myself forward to be the Arts Centre’s student music ambassador and it’s been great to be involved in the venture.  Over the summer, I heard the National Orchestra of Wales perform for the second time, a brilliant opportunity that you would usually only expect in a busy city. Aberystwyth is also a great place to hear traditional music, whether in the pub or the theatre, and because of this I’ve started playing the Irish flute in the hope that one day soon I’ll be able to join in the traditional music scene.

Shannon Parker

Shannon Parker

Shannon Parker, Astudiaethau Celtaidd/Celtic Studies, Rhan I.

Swper ffarwel yr Athro Patrick Sims-Williams

Daeth staff a ffrindiau’r Adran, ynghyd â’u partneriaid, at ei gilydd nos Wener 10 Hydref i ddiolch yn ddiffuant i’r Athro Patrick-Sims am ei 20 mlynedd ar staff yr Adran. Yn sgil anerchiad gan Robrin Chapman a’r llwnc destun ‘Patrick, yr Adran a’r dyfodol’, ac atgofion am Patrick fel athro gan Simon Rodway, darllenodd Huw Meirion Edwards yr englyn hwn o deyrnged a gyfansoddodd i nodi’r achlysur:

Nid un wyt ti i daenu — gŵn o ddysg

Yn ddi-wên o’th ddeutu;

Dy anian ydyw rhannu

Ymroddiad oes – da foes fu.

Dywedodd yr Athro Gruffydd Aled Williams air byrfyfyr wedi hynny. Cyfeiriodd at unplygrwydd Patrick, a soniodd am ddigwyddiad pan oedd draw yn Tsieina wrth y Mur Mawr. Holodd brodor o ble’r oedd yn dod, a phan atebodd mai Aberystwyth yng Nghymru, gofynnwyd iddo a oedd yn adnbod Patrick Sims-Williams!

Cyflwynwyd cardiau a rhodd i Patrick gan Rhian Haf Owen: rhestr o’i brif weithiau cyhoeddedig wedi’i llythrennu’n gain gan Mihangel Morgan. Wrth ddiolch am y rhodd a’r anerchiadau, soniodd Patrick am ddod i Aberystwyth o Gaer-grawnt yn 1994, am ei bryder wrth ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg am y tro cyntaf, ac am y cyfeillgarwch a ddangoswyd iddo yn ei gartref newydd.

Daeth y noson i ben dros lasaid neu ddau, a phawb yn cael cyfle i sgwrsio â phawb arall bron. Noson i’w chofio!

Dr Robin Chapman, Yr Athro Patrick Sims-Williams a Dr Mihangel morgan

Dr Robin Chapman, Yr Athro Patrick Sims-Williams a Dr Mihangel Morgan

Cymraeg Proffesiynol yn Agor Drysau

Cynhaliwyd digwyddiad arloesol a chyffrous gan yr adran ddydd Sadwrn y 4ydd o Hydref, sef Cynhadledd Cymraeg Proffesiynol. Roedd y gynhadledd yn gyfle gwych i arddangos doniau ein myfyrwyr presennol, cynnwys amrywiol y cwrs Cymraeg Proffesiynol, a gwerth sgiliau galwedigaethol wrth fentro i’r byd gwaith ar ôl graddio.

Gwahoddwyd myfyrwyr chweched dosbarth i’r gynhadledd a daeth disgyblion o bob rhan o Gymru i ymgymryd â gweithgareddau’r diwrnod. Agorwyd y gynhadledd yn swyddogol gan Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-ganghellor dros y Gymraeg a Diwylliant Cymru, a nododd lwyddiannau’r adran yn sgil ein canlyniadau cyflogadwyedd. Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 100% o’r myfyrwyr a raddiodd o’r Adran yn 2013 mewn gwaith neu’n astudio 6 mis ar ôl graddio, ac fe ymddengys y bydd y cwrs Cymraeg Proffesiynol yn ychwanegu at y llwyddiant arbennig hwn yn y dyfodol.

Cafwyd cyflwyniadau i fodiwlau’r cwrs BA gan staff yr adran, a amlinellodd yr amrywiaeth eang o bosibiliadau a gynigir. Bydd myfyrwyr Cymraeg Proffesiynol yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau marchnata, golygu, cyfieithu, cyfieithu ar y pryd, ymchwilio, a siarad cyhoeddus. Cânt hefyd ddatblygu prosiectau unigol a chynhyrchu gwaith y gellir ei gyhoeddi, megis llyfryn ar hanes eu hardal leol, app, taith lenyddol neu gyfieithiadau proffesiynol. Mae’r holl brofiadau a’r cynyrchiadau hyn wrth gwrs yn cyfoethogi unrhyw CV.

Clywyd hefyd gan fyfyrwyr presennol yr adran a oedd yn trafod eu profiadau ar y cwrs ac ar leoliadau profiad gwaith. Siaradodd Rhodri Siôn a Mared Jones am dasgau’r flwyddyn gyntaf, megis trefnu Noson Llên a Chân a golygu rhifyn o’r Ddraig, sef cylchgrawn llenyddol blynyddol yr Adran Gymraeg. Disgrifiodd Cerys Davey ei phrofiad arbennig gyda Golwg ac S4C, a dangosodd gynnyrch ei gwaith ar ffurf dwy erthygl a gyhoeddwyd gan y cylchgrawn. Y Cyngor Llyfrau a chwmni cyhoeddi Atebol oedd pwnc cyflwyniad Hanna Merrigan a gafodd y cyfle i gyfieithu llyfrau plant i’r Gymraeg. Yn olaf, siaradodd Rhys Hughes am ei obaith i weithio fel cyfieithydd yn dilyn ei brofiadau gyda Chyngor Sir Gwynedd a Llywodraeth Cymru. Roedd y cyflwyniadau yn ysbrydoliaeth a oedd yn adlewyrchu gwerth ac amrywiaeth y cwrs Cymraeg Proffesiynol.

Daeth cyflwyniadau’r prynhawn gan bobl broffesiynol sydd wedi datblygu gyrfaoedd gwahanol iawn ym myd y Gymraeg. Siaradodd Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr Golwg, am y byd newyddiadurol ac am sut y mae’r Gymraeg wedi ei gludo y tu hwnt i Gymru i weithio mewn llefydd fel Hawaii, Bangladesh a De America. Soniodd Delyth Jewell, Pennaeth Ymchwil Plaid Cymru yn San Steffan, am gyffro’r Senedd yn Llundain, ac ymdrechion llwyddiannus plaid leiafrifol i wneud gwahaniaeth hollbwysig yn y byd gwleidyddol. Y mae cerddi ei hoff feirdd, Waldo Williams a T. H. Parry-Williams hyd yn oed wedi treiddio i’w hareithiau yn Llundain. Daeth y diwrnod i glo gyda chyflwyniad gan Branwen Huws, cyn-fyfyrwraig o’r adran sy’n gweithio erbyn hyn fel Pennaeth Marchnata i’r Lolfa. Pwysleisiodd Branwen bwysigrwydd profiad gwaith yn ei gyrfa, gyrfa sy’n caniatáu iddi weithio gydag enwogion y byd llenyddol megis Angharad Tomos a Dr Mihangel Morgan.

Trefnwyd y gynhadledd gan Dr Rhianedd Jewell sy’n gweithio fel Darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Cymraeg Proffesiynol. Dywed Rhianed am y digwyddiad:

“Dangosodd holl gyflwyniadau’r gynhadledd bod y Gymraeg yn agor dewis eang o ddrysau yn y byd gwaith, ac y gall y cwrs gradd Cymraeg Proffesiynol eich galluogi chi hefyd i wireddu breuddwydion o bob math.”

Cynhaledd Cymraeg Proffesiynol